Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Estyn yn dangos bod addysg yng Nghymru yn uno mewn cenhadaeth o hunanwella - Kirsty Williams

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nododd yr adroddiad fod yna ddigon o ragoriaeth ym mhob rhan o addysg yng Nghymru i gefnogi gwelliant a helpu i leihau anghysondeb, a bod yna ysbryd o gydweithredu â'r proffesiwn addysgu wrth ddatblygu cwricwlwm newydd.

Mae'r adroddiad hefyd yn croesawu:

  • Sefydlu Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol; 
  • Dull mwy systematig o ran sut mae disgyblion yn dysgu, ac yn cymhwyso ac ymarfer eu llythrennedd a'u rhifedd ar draws y cwricwlwm;
  • Newidiadau mawr o ran sut mae dysgu proffesiynol yn cael ei drefnu; 
  • Gwelliannau o ran presenoldeb ac ymddygiad;
  • Cryfderau o ran llesiant, gofal, cefnogaeth a chyfarwyddyd, ac amgylchedd dysgu disgyblion; 
  • Cysylltiadau cryfach rhwng addysg uwch a phellach.

Wrth groesawu'r adroddiad, dywedodd Kirsty Williams:

“Cenhadaeth ein cenedl o ran addysg yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol.

"Mae'n amlwg o ddarllen yr adroddiad hwn bod yna fomentwm yn cael ei gynnal o fewn addysg yng Nghymru; diwylliant o hunanwella sydd wedi dod yn rhan annatod o'r system ac, yn bwysicaf oll, sy'n cael ei berchnogi gan y rheini sy'n gweithio o fewn y proffesiwn.

"Mae'n galondid i mi gael gweld y Prif Arolygydd yn croesawu'r camau rydyn ni wedi'u cymryd i godi safonau a chefnogi gwelliant yn ein hysgolion - yn enwedig ein hymdrechion i weithio gyda'r proffesiwn addysgu wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd.

"Mae'r adroddiad yn nodi ein hymdrechion i leihau'r bwlch cyrhaeddiad, ond rydyn ni'n gwybod na allwn ni laesu dwylo. Dyna pam ein bod yn dyblu'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer ein dysgwyr ieuengaf, fel bod pob plentyn yn cael y cyfle i gyflawni ei botensial.

"Drwy barhau i weithio gyda'n gilydd, rwy'n hyderus y gallwn gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol a chyflwyno system addysg sy'n destun hyder a balchder cenedlaethol."