Neidio i'r prif gynnwy

Mae hefyd yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r hyn sy’n cael ei baratoi ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn trafod adroddiad cynnydd cyntaf y Cynllun Cyflogadwyedd. Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiannau pwysig y Cynllun ers ei lansio ym mis Mawrth eleni. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r hyn sy’n cael ei baratoi ar gyfer y dyfodol.

Daw cyhoeddiad yr adroddiad yn sgil ymweliad y Gweinidog ag Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr i lansio ‘Project Search’. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o helpu unigolion i oresgyn yr hyn sy’n eu hatal rhag dod o hyd i gyflogaeth, yn union fel y mae’r Cynllun Cyflogadwyedd yn ei awgrymu.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Coleg Pen-y-bont a chwmni ‘Elite Supported Employment Agency’ sy’n cynnal y prosiect, a’r nod yw helpu pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau i ddod o hyd i waith drwy roi interniaethau a chefnogaeth iddynt. Y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i gael cyflogaeth hirdymor – naill ai gyda’r sefydliad lle buon nhw’n intern, neu ar y farchnad swyddi agored.

Bu’r Gweinidog yn cwrdd ag Olivia a Bradley, dau o’r deg intern sy’n cymryd rhan yn y prosiect, wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith mewn gwahanol adrannau yn yr ysbyty, ynghyd â’r mentoriaid a fydd yn eu cynorthwyo.

Ar ôl yr ymweliad dywedodd y Gweinidog:

“Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn cydnabod bod gwahanol bobl yn wynebu gwahanol rwystrau o ran dod o hyd i waith.  I bobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau, mae cynlluniau fel ‘Project Search’ yn hanfodol – mae’n rhoi iddynt gyfle i ddangos beth gallant ei wneud, gydag ychydig o gefnogaeth i ddechrau, efallai.

“Braf iawn oedd cwrdd â Bradley ac Olivia wrth iddynt ddechrau ar eu cyflogaeth a chael clywed eu gobeithion ar gyfer eu gyrfaoedd. Rwy’n falch iawn fod ein Cynllun Cyflogadwyedd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i Bradley, Olivia ac eraill i’w helpu i oresgyn rhwystrau o ran cyflogaeth.”

Dywedodd:

“Rwy’n falch o ddweud bod yr adroddiad cynnydd cyntaf ar gyflawniad ein Cynllun Cyflogadwyedd wedi’i gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiannau’r cynllun dros y chwe mis diwethaf ac yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd, ynghyd â’r hyn sydd i ddod.

“Dim ond chwe mis o gynllun deng mlynedd sydd wedi mynd heibio, ond rydym wedi gwneud dechrau addawol – rydym yn gweithio i gael dealltwriaeth well o’r rhwystrau sy’n bodoli a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau newid gwirioneddol ac ysgogi ymagwedd newydd, un arloesol a phellgyrhaeddol, tuag at wella cyflogadwyedd ledled Cymru.”