Adroddiad Cynnydd ar yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae: Chwefror 2025
Adolygiad o'r cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a nodir yn ein hymateb I Grŵp Llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Yn 2014, nododd Llywodraeth Cymru y weledigaeth ar gyfer chwarae i blant yng Nghymru drwy gyhoeddi'r canllawiau statudol ''Cymru - gwlad lle mae cyfle i chwarae'' i awdurdodau lleol ar asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn eu hardaloedd.
Ers deddfu dros chwarae i blant fel rhan o'r Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, rhwng 2019 a 2022 cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad manwl a chydweithredol o'i gwaith ar bolisi chwarae ac ystyriodd y cynnydd a wnaed i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â chwarae. Roedd dau nod i'r adolygiad:
- asesu gwaith Llywodraeth Cymru a oedd yn ymwneud â pholisïau chwarae
- helpu Llywodraeth Cymru i lunio'r ffordd y mae'n datblygu ac yn hyrwyddo'r agenda chwarae.
Gwnaeth Adroddiad Grŵp Llywio'r Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae argymhellion allweddol, gan awgrymu cerrig milltir i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru wrth fynd ati i adeiladu ar y cynnydd a wnaed o ran dod yn wlad lle mae cyfleoedd i chwarae, sy'n rhoi cyfleoedd digonol i blant a phobl ifanc chwarae.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ac amlinellodd y camau i'w cymryd yn y dyfodol er mwyn cyflawni'r canlyniadau a ddisgwylir gan y Grŵp Llywio. Yn ein hymateb rydym yn nodi 67 o amserlenni tymor byr, canolig a hirdymor ar gyfer pob cam gweithredu.
Mae'r Adroddiad Cynnydd hwn yn dangos yr hyn a gyflawnwyd hyd yma ac yn amlinellu'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn y dyfodol i gyflawni'r canlyniadau a ddisgwylir.
Gwnaed cynnydd da yn gyffredinol ar bob argymhelliad, fodd bynnag, mae gwaith pellach i'w wneud i helpu Cymru i ddod yn wlad sy'n creu cyfleoedd i chwarae. Ni allwn wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Dim ond trwy weithio ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru ac ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol, ac awdurdodau lleol a'u partneriaid, y gellir cyflawni ein huchelgeisiau.
Nid oes unrhyw gamau gweithredu wedi'u cwblhau | Camau gweithredu ar y gweill ac yn cadw at eu hamserlenni | |
---|---|---|
Camau tymor byr | 34 | |
Camau tymor canolig | 8 | 7 |
Camau hirdymor | 6 | 12 |
Mae'r holl gamau gweithredu tymor byr wedi'u cwblhau. Wrth symud ymlaen byddwn yn adrodd ar gynnydd y camau gweithredu canolig a hirdymor sy'n weddill.
Hynt y gwaith
Argymhelliad allweddol 1: Mabwysiadu agwedd strategol tuag at ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru.
Ers ymateb cyntaf y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2023, ar 11 Medi 2024, penodwyd Dawn Bowden yn Weinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ac mae ei phortffolio'n cynnwys cyfrifoldeb am blant a phobl ifanc.
Er mwyn cefnogi goruchwylio'r gwaith traws-bolisi rhwng cyfleoedd chwarae a meysydd polisi eraill, sefydlwyd Adolygiad Gweinidogol mewnol o'r Bwrdd Gweithredu Cyfleoedd Chwarae. Mae'r Bwrdd Gweithredu Adolygiad Cyfleoedd Chwarae yn cwrdd 6 bob mis ac yn dwyn ynghyd yr holl feysydd polisi yn Llywodraeth Cymru sy'n cael effaith ar gyfleoedd chwarae ac mae'n cynnwys aelodau arweiniol polisi sy'n gweithio gyda'i gilydd i adolygu a datblygu ein camau gweithredu.
Un o'r camau hyn yw sefydlu grŵp Hyrwyddwyr Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru. Mae'r grŵp yn cefnogi gwaith traws-bolisi i wella cyfleoedd chwarae i blant a phobl ifanc. Ymunodd Chwarae Cymru a Chlybiau Plant Cymru Kids' Clubs â sesiwn gyntaf yr hyrwyddwyr cyfleoedd chwarae i godi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad gwerthfawr a wna chwarae, a'r gweithlu gwaith chwarae i wella canlyniadau i blant.
Rydym yn parhau i weithio'n strategol gydag ystod eang o gydweithwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw bolisïau newydd, neu rai sy'n dod i'r amlwg, yn ystyried digonolrwydd cyfleoedd chwarae lle bo'n berthnasol.
Dyma rai enghreifftiau o'r gwaith hwn:
Gweithio ar draws y meysydd polisi Diogelu a Chyfleoedd Chwarae yn Llywodraeth Cymru i gynnwys rhanddeiliaid, gan gynnwys darparwyr chwarae ar gyfer darpariaeth gofrestredig ac anghofrestredig, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi systemau diogelu cadarn i gadw plant yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys gwaith i adnewyddu'r Cod Ymarfer Diogelu Gwirfoddol ac i sicrhau ymgysylltiad gweithredol â'r sectorau gofal plant, chwarae a gwaith chwarae yn ystod unrhyw ymgynghoriadau neu ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r Cod.
O fewn Llywodraeth Cymru, mae ein nodau ar gyfer Cymru wrth-hiliol a'r gwaith y mae angen i ni ei wneud i gyflawni hynny, wedi'u nodi yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Diweddarwyd y Cynllun ym mis Hydref 2024 a diwygiwyd yr un cam ar ddeg ynglŷn â gofal plant a chwarae i fod yn gryfach ac yn fwy mesuradwy. Mae'r Cynllun yn ei gwneud yn glir bod llawer o waith i'w wneud, ond rydym yn barod am yr her! Yn gynharach eleni cynhyrchodd DARPL a Cwlwm y pecyn cymorth Creu Diwylliant Gwrth-hiliol mewn Lleoliadau. Mae'r pecyn cymorth hwnnw wedi'i gynnwys yn y Pecyn Cymorth diwygiedig ar gyfer Asesu Digonolrwydd Chwarae i awdurdodau lleol. Mae hwn yn ddatblygiad allweddol a chyffrous gan mai bwriad y pecyn cymorth yw cynnig cyngor ymarferol i leoliadau ar sut i ymwreiddio dull gwrth-hiliol.
Rydym wedi bod yn ymgysylltu â gwaith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gefnogi datblygu Cynllun Gweithredu Hawliau Pobl Anabl, a fydd yn cynnwys camau gweithredu a deilliannau ar gyfer creu newid cadarnhaol hirdymor i bobl anabl, gan roi'r Model Cymdeithasol o Anabledd wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer Cymru. Mae arnom eisiau i bob plentyn a pherson ifanc allu manteisio ar gyfleoedd chwarae a pheidio â chael eu hamddifadu o'u hawl i chwarae a dysgu yn eu hardal leol.
Argymhelliad allweddol 2: Sicrhau bod offerynnau polisi Llywodraeth Cymru’n cynnwys mesurau i gefnogi gallu plant i wneud y gorau o gyfleoedd i chwarae.
Gwnaed cynnydd da ar gamau gweithredu i sicrhau bod hawl plant i chwarae yn cael ei chydnabod fel thema drawsbynciol mewn meysydd polisi, ac i awdurdodau lleol gael eu cefnogi i asesu a sicrhau digon o gyfleoedd i chwarae.
Trwy gydweithio â Chwarae Cymru ac arweinwyr Chwarae Awdurdodau Lleol, rydym wedi adolygu ac adnewyddu'r gyfres o ddogfennau Asesu Digonolrwydd Chwarae ac wedi cyhoeddi ffurflen asesu digonolrwydd Chwarae wedi'i diweddaru, ynghyd â thempledi eraill cysylltiedig a phecyn cymorth Asesu Digonolrwydd Chwarae wedi’i adnewyddu. Mae’r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol hefyd wedi cael eu hadnewyddu ac fe’u cyhoeddir ym mis Mawrth 2025. Bydd hyn yn cefnogi'r gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i wella cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru.
Mewn ymateb i'r garreg filltir a awgrymir i gefnogi defnyddio'r adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae i dynnu sylw at faterion sy'n gyson yn heriol i awdurdodau lleol, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i fynd i gyfarfodydd Rhwydwaith Cenedlaethol Digonolrwydd Chwarae, a hwylusir gan Chwarae Cymru, a byddant yn rhoi gwybod i'r PRIB am unrhyw heriau a amlygir.
Argymhelliad allweddol 3: Sicrhau bod unrhyw gynlluniau ar gyfer adfer wedi’r pandemig a’r argyfwng costau byw yn ystyried hawl plant i chwarae.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae a'i bwysigrwydd ar gyfer iechyd a lles plant. Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi nifer o adnoddau i gefnogi'r sector i dynnu sylw at fanteision chwarae gan gynnwys papur briffio Ffocws ar chwarae - sut mae chwarae'n cefnogi iechyd meddwl plant.
Mae dadansoddiad Chwarae Cymru o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae 2022 "Cyflwr Chwarae" a'r adroddiad "Yr hyn sydd gan blant i'w ddweud am chwarae yng Nghymru: 2022" a ddrafftiwyd gan Dr David Dallimore wedi cael eu dosbarthu i randdeiliaid i rannu canfyddiadau ar Ddigonolrwydd Chwarae ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried canfyddiadau o waith arolygu awdurdodau lleol fel rhan o'u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae 2025.
Fel rhan o'i weithgarwch a gytunwyd â Llywodraeth Cymru ac a ariennir ganddi, comisiynodd Chwarae Cymru adolygiad Chwarae a Lles gan gydnabod bod y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae ar awdurdodau lleol wedi dechrau dros ddeng mlynedd yn ôl ac yng ngoleuni'r ffaith bod yr Adolygiad Gweinidogol o Chwarae ar y gweill. Wedi'i gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae'n adolygiad o ymchwil ddiweddar i chwarae plant, polisi ac ymarfer cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar Gymru. Cafodd hwn ei gyhoeddi a'i lansio yng nghynhadledd Chwarae Cymru a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ar 21 Tachwedd 2024
Mae Bwrdd Gweithredu Adolygiad o Gyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru yn ystyried unrhyw bolisïau neu raglenni newydd a phresennol a'u heffaith ar chwarae plant a gwaith chwarae plant.
Argymhelliad allweddol 4: Sicrhau bod cyllid ac adnoddau digonol ar gyfer gweithredu’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae statudol yn ei chyfanrwydd.
Cyflawnwyd cynnydd o ran cyrraedd y canlyniad a ddymunwyd sef y bydd awdurdodau lleol yn cael eu cefnogi'n well i weithredu'r Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae trwy ddyrannu cyllid ac adnoddau yn fwy strategol.
Dyfarnwyd cyllid o £220,000 (£10,000 fesul awdurdod lleol) ym mis Gorffennaf 2024 i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae, sydd i'w cyflwyno ym mis Mehefin 2025.
Yn 2024-25, parhaodd Llywodraeth Cymru i roi cyllid craidd i Chwarae Cymru, yr elusen genedlaethol ar gyfer chwarae, a chonsortiwm gofal plant Cwlwm sy'n cynnwys pum sefydliad sy'n darparu gwasanaeth integredig dwyieithog i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i blant a theuluoedd ledled Cymru.
Nod y Prosiect Gwyliau Gwaith Chwarae (menter i atal llwgu yn ystod y gwyliau) yw helpu plant a phobl ifanc i fanteisio ar fwy o gyfleoedd chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol a darparu bwyd / byrbrydau iach. Dyfernir cyllid grant ar gyfer y prosiect hwn i awdurdodau lleol drwy raglen ariannu hyblyg y Grant Plant a Chymunedau i roi mynediad i blant at ddarpariaeth gwaith chwarae â staff yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae gwobr flynyddol o £1 miliwn y flwyddyn wedi'i dyfarnu ers 2021.
O fewn ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26, mae gennym ddyraniad dangosol o £220,000 (£10,000 fesul awdurdod lleol) i gefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu gweithgareddau o fewn eu Cynlluniau Gweithredu Asesu Digonolrwydd Chwarae.
Byddwn yn parhau i adolygu opsiynau ariannu ac ystyried cyfleoedd i gefnogi mynediad plant at gyfleoedd chwarae.
Argymhelliad allweddol 5: Cefnogi trosglwyddiad rhaglen wybodaeth i’r cyhoedd am yr hawl i chwarae.
Rydym am i Gymru fod yn wlad sy'n galluogi plant a phobl ifanc i arfer eu hawliau, gan gynnwys yr hawl i chwarae, sicrhau llesiant da a chyflawni eu potensial, ni waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau (gan gynnwys eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol). Gall chwarae hefyd yn fod yn fodd i leihau anghydraddoldebau rhwng plant sy'n byw mewn teuluoedd a all fforddio darpariaeth hamdden gostus a'r rhai na allant ei fforddio, a thrwy hynny leihau tlodi profiadau i bob plentyn.
Mae Teulu Cymru wedi cefnogi Chwarae Cymru i hyrwyddo ymgyrch Plentyndod Chwareus yng Nghymru a hyrwyddodd Ddiwrnod Chwarae Rhyngwladol cyntaf y Cenhedloedd Unedig a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2024, a Diwrnod Chwarae'r DU ar 7 Awst 2024.
Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi erthyglau mewn amrywiaeth o gyhoeddiadau allanol, megis:
- Cylchgrawn Plant yng Nghymru
- Smalltalk, cylchgrawn ar gyfer aelodau Blynyddoedd Cynnar Cymru
- Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Yn ogystal, mae Chwarae Cymru wedi cyfrannu at gylchlythyrau allanol rhanddeiliaid, bwletinau llywodraethwyr ysgolion ac wedi cyhoeddi deunyddiau dysgu wedi'u seilio ar chwarae ar gyfer ysgolion ar Dysg.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda Chwarae Cymru ac arweinwyr chwarae awdurdodau lleol i nodi Arweinwyr Chwarae Rhanbarthol. Mae'r arweinwyr hyn wedi'u cysylltu â'u Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol lleol i ddarparu cynrychiolaeth ac eiriolaeth ar chwarae ar is-grwpiau plant a phobl ifanc a gweithgorau NYTH/NEST. Mae Llywodraeth Cymru a Chwarae Cymru wedi cefnogi'r cynrychiolwyr yn y rôl hon drwy gyfarfodydd hyfforddi a myfyrio.
Argymhelliad allweddol 6: Defnyddio’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae’n ehangach i gwmpasu ystod eang o gyrff eraill.
Bydd Llywodraeth Cymru yn comisiynu cymorth ymchwil i adolygu Asesiadau Digonolrwydd Chwarae 2025, a fydd yn cael eu cyflwyno ym mis Mehefin, er mwyn ystyried cynnydd yn erbyn dyletswyddau statudol a nodi themâu allweddol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sector a rhanddeiliaid allweddol i godi ymwybyddiaeth o'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ac i ystyried y cerrig milltir a awgrymir ar gyfer cyflawni canlyniadau disgwyliedig y Grŵp Llywio:
Rydym wedi cyfrannu at y gyfres o weminarau a gynhaliwyd gan Chwarae Cymru sy'n ystyried y Ddyletswydd Digonolrwydd Chwarae yng Nghymru a sut y caiff ei gweithredu. Mae'r gweminarau wedi cael eu darlledu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ac yn dathlu polisi a deddfwriaeth chwarae Cymru.
Argymhelliad allweddol 7: Sicrhau bod yr hawl i chwarae wedi ei hymgorffori yn ddigonol mewn offerynnau a phenderfyniadau polisi strategol.
Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio ei pholisïau ynghylch plant yn seiliedig ar hawliau yn golygu bod modd i'r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae fynegi'n benodol werth annatod chwarae fel hawl, ochr yn ochr â gwerth mwy cyfrannol ei rôl mewn agendâu polisi eraill megis mynd i'r afael â thlodi plant, iechyd a llesiant, dysgu a datblygiad, a chydlyniant cymunedol.
Mae swyddogion polisi Llywodraeth Cymru yn adolygu pob Erthyglau CCUHP (gan gynnwys Erthygl 31 – yr hawl i chwarae) ac yn ystyried sut mae eu cynigion neu ddatblygiadau polisi yn gwella neu'n herio pob Erthygl. Ystyrir CCUHP yn ei gyfanrwydd.
Argymhelliad allweddol 8: Sicrhau bod egwyddor chwarae fel mater o gyfiawnder gofodol yn cael ei chydnabod a’i deall trwy Bolisi Cynllunio Cymru.
Byddwn yn parhau i weithio ar draws meysydd polisi a chyda rhanddeiliaid allweddol i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu hirdymor i gefnogi cydnabod chwarae o fewn trefniadau cynllunio.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i ymdrin â'r gofynion hyn drwy newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru.
Argymhelliad allweddol 9: Sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau plant yn hysbysu’r ffyrdd y mae cymdogaethau’n cael eu cynllunio a’u rheoli.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio ar draws meysydd polisi a chyda rhanddeiliaid allweddol i gefnogi cyfleoedd plant i chwarae yn eu cymdogaethau.
Er mwyn i blant gael cyfleoedd chwarae digonol, mae angen iddynt gael amser i chwarae, lle i chwarae a chydnabyddiaeth gan oedolion bob gan bob plentyn yr hawl hon. Mae'r gydnabyddiaeth hon yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael amser a lle i chwarae.
Cyhoeddwyd pecyn cymorth diwygiedig yr Asesiad Digonolrwydd Chwarae ar gyfer awdurdodau lleol ym mis Rhagfyr 2024. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i awdurdodau lleol ynghylch datblygu rhaglenni ymgynghori sy'n addas i blant ar lefel y gymdogaeth er mwyn helpu plant i gymryd rhan weithredol yn y broses ddigonolrwydd chwarae.
Yn y canllawiau i awdurdodau lleol ar Strydoedd Ysgol, y disgwylir eu cyhoeddi ar 27 Mawrth 2025, cynhwysir manylion ar sut y gall strydoedd chwarae ategu strydoedd ysgolion, fel y dangosir yn un o'r astudiaethau achos dan sylw.
Argymhelliad allweddol 10: Sicrhau bod trefniadau diogelu digonol mewn lleoliadau gwaith chwarae.
Mae’r Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar y Cod Ymarfer Diogelu drwy ymgysylltu’n eang ac archwilio safbwyntiau ar sicrhau bod trefniadau diogelu cymesur ac effeithiol ar waith gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau neu’n cynnig gweithgareddau i blant ac i oedolion a allai fod yn wynebu risg. Bydd aelodau'r Bwrdd Gweithredu Adolygiad Chwarae yn cymryd rhan yn y gweithgarwch hwn.
Mae Chwarae Cymru wedi rhannu'r Cod Ymarfer Diogelu gydag aelodau eu rhwydwaith yn dilyn swyddogion polisi chwarae yn mynd i gyfarfod rhwydwaith chwarae mynediad agored ac yn codi ymwybyddiaeth o'r camau sy'n cael eu cymryd mewn ymateb i Argymhellion Adroddiad yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs wedi cefnogi aelodau drwy gyhoeddi Gwiriad Iechyd Diogelu, sy'n helpu lleoliadau i sicrhau bod eu polisïau, gweithdrefnau ac arferion yn bodloni gofynion a dyletswyddau diogelu.
Mae Fframwaith Sylfeini Cymru, a ddatblygwyd ar y cyd gan y sector chwaraeon, Chwaraeon Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru a Chwarae Cymru yn awgrymu y dylai galluogwyr chwaraeon, gweithgarwch corfforol a chyfleoedd chwarae wneud y canlynol:
- Datblygu polisïau a gweithdrefnau sy'n adlewyrchu'r ddeddfwriaeth a'r canllawiau diogelu diweddaraf i blant yng Nghymru ac yn eu hadolygu bob dwy flynedd.
- Creu amgylcheddau sy'n cadw at ddisgwyliadau a gofynion diogelu hanfodol i sicrhau ymarfer diogel.
- Cefnogi hwyluswyr, rheolwyr ac aelodau bwrdd newydd i adeiladu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddiogelu i'r lefel y cytunwyd arni.
- Sicrhau bod plant yn teimlo'n ddiogel ym mannau a lleoedd gweithgareddau, dan do ac yn yr awyr agored.
Argymhelliad allweddol 11: Adolygu rheoliadau gwarchod plant a gofal dydd a gorchmynion sy’n ymwneud â gwaith chwarae.
Mae gwaith wedi dechrau ar adolygu'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant a reoleiddir i blant o dan 12 oed, gan ganolbwyntio ar safonau chwarae mynediad agored, a'r Gorchymyn Adolygu Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd.
Mae hyn hefyd yn cynnwys gwaith ar archwilio dull cymesur o gofrestru ac arolygu lleoliadau chwarae mynediad agored. Bydd yr adolygiad o Orchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010 yn ystyried a yw'r eithriadau i warchod plant a gofal dydd yn berthnasol ac yn gymesur. Dros y 6 mis diwethaf, mae rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol wedi'i gweithredu i gefnogi datblygu opsiynau. Mae'r wybodaeth a gesglir bellach yn cael ei dadansoddi i ffurfio bwriadau polisi ac i lywio'r ymgynghoriad cyhoeddus sydd i fod i ddigwydd yn Haf 2025, yn amodol ar gytundeb gweinidogol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau 'Cofrestru fel darparwr gofal plant: eithriadau' i egluro pryd nad oes angen i ddarparwr gofal plant, chwarae neu weithgareddau i blant gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, neu pan nad ydynt yn gymwys i wneud hynny
Argymhelliad allweddol 12: Datblygu isadeiledd strategol ar gyfer datblygu’r gweithlu gwaith chwarae.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu chwarae o ansawdd uchel a fydd o fudd i blant a phobl ifanc o wahanol gefndiroedd a gydag amrywiaeth o anghenion. Mae ein dull gweithredu, sy’n gosod y plentyn a’i ddatblygiad cyfannol wrth wraidd popeth a wnawn, yn hanfodol ar gyfer cefnogi pob plentyn a pherson ifanc nawr ac yn y dyfodol.
Cafodd y Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar, a gyhoeddwyd yn 2017, ei adolygu, ei adnewyddu a’i gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2024.
Mae Chwarae Cymru wedi datblygu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer gweithwyr chwarae 'Chwarae o Safon', ac mae'n trefnu ei gyflwyno ar raddfa fach yng Ngwanwyn 2025 i 6 lleoliad. Bydd y deunyddiau hunanasesu ar gael yn rhad ac am ddim ar wefan Chwarae Cymru yn dilyn adborth a gafwyd o'r broses gyflwyno a ariennir. Mae Chwarae Cymru wedi cael cymorth gan interniaid Ysgol Busnes Caerdydd i wneud elfen sicrhau ansawdd allanol Chwarae o Safon yn gynaliadwy ond hefyd yn fforddiadwy i leoliadau.
Gwnaed cynnydd mewn ymateb i'r cais i wneud rôl Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) yn fwy ffurfiol, fel un o ymgyngoreion allweddol Cymwysterau Cymru i gefnogi ystyried ceisiadau newydd i gymeradwyo cymwysterau ar gyfer gwaith chwarae.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Gymwysterau Cymru ychwanegu gofyniad i'w proses gymeradwyo lle bydd angen llythyr o gefnogaeth ar unrhyw gymwysterau gwaith chwarae newydd gan PETC Cymru cyn y gellid ychwanegu'r cymhwyster at fframwaith y cymhwyster. Mewn partneriaeth â Chwarae Cymru, gweithredwyd hyn a rhannwyd gwybodaeth amdano ac mae bellach yn rhan gydnabyddedig o'r broses.
Bydd rôl Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) wrth gefnogi gwaith chwarae yn hirdymor ac yn ddibynnol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol a ddaw i rym yn 2025. Bydd angen gwneud cefnogaeth GCC ar gyfer gwaith chwarae yn greiddiol a'i ddatblygu dros amser ac o fewn y gyllideb sydd ar gael.
Argymhelliad allweddol 13: Sicrhau bod cyllid digonol ar gael ar gyfer datblygu’r gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae.
Gwnaed cynnydd da i weithio tuag at gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig o ran cefnogi'r gweithlu gwaith chwarae. Mae contractau ar waith ar hyn o bryd ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae ac mae'r camau nesaf o ran darparu cymwysterau gwaith chwarae yn cael eu hadolygu.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i Chwarae Cymru ac mae ganddynt amcan penodol i'r cyllid hwn o ran datblygu'r gweithlu, sy'n eu galluogi i ddarparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus i'r gweithlu ehangach.
Mae Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs yn parhau i ddarparu hyfforddiant ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae gofynnol i'r sector i helpu i liniaru'r pwysau recriwtio a chadw ar y sector, gyda chynlluniau i ddarparu 750 o gymwysterau o dan y rhaglen Hyfforddiant a Chymorth.
Mae cyngor ar arferion recriwtio ar gael ar hyn o bryd drwy Ofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y sector gofal plant a gwaith chwarae cyfan ac fe'i hystyriwyd fel rhan o'r adolygiad a'r gwaith i adnewyddu Cynllun Gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar yng Ngorffennaf 2024.
Argymhelliad allweddol 14: Hyrwyddo pwysigrwydd chwarae a’r defnydd o diroedd ysgol fel ased cymunedol ar gyfer chwarae trwy’r polisi ysgolion bro.
Cyflawnwyd cynnydd da o ran cefnogi pwysigrwydd chwarae o fewn ysgolion. Defnyddiodd Chwarae Cymru y Diwrnod Chwarae Rhyngwladol i rannu amrywiaeth o adnoddau gydag ysgolion. Mae Chwarae Cymru yn hwyluso rhwydwaith Chwarae mewn Ysgolion sy'n cynnwys sefydliadau sy'n cefnogi chwarae mewn ysgolion. Roedd Chwarae Cymru yn Arddangoswr yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno (Mehefin 2024) a Chaerdydd (Hydref 2024) yn hyrwyddo hawliau plant i chwarae a manteision chwarae a dysgu seiliedig ar chwarae.
Bydd ystyriaeth yn cael ei roi i gynnwys datganiad lefel uchel yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar chwarae ac asesiadau o'r risgiau a'r manteision mewn canllawiau i ysgolion ar ddefnyddio eu cyfleusterau.
Mae Pennod 25 o'r Canllawiau i Lywodraethwyr Ysgolion wedi'i ddiwygio i gynnwys chwarae a'i chyhoeddi.
Mae canllawiau wedi'u cyhoeddi ar Ysgolion Bro, ymgysylltu â theuluoedd ac ymgysylltu â'r gymuned. Mae'r canllawiau'n cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd cyfoethogi fel rhan o ddull gweithredu Ysgolion Bro, gan gynnwys drwy chwarae, wrth fynd ati i gefnogi lles plant.
Argymhelliad allweddol 15: Cynyddu a gwella amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion.
Mae Estyn wedi cwblhau adroddiad thematig sy'n gysylltiedig â'r blynyddoedd cynnar ac yn dwyn y teitl 'Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol, cefnogaeth, darpariaeth a phontio ar gyfer addysg gynnar'. Cafodd hwn ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2024.
Mae'r rhaglen Cyfalaf Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar, drwy elfen grantiau bach y rhaglen ac fel rhan o gyllid cyfalaf mawr i awdurdodau lleol, wedi cael ei defnyddio i brynu offer chwarae i'w ddefnyddio dan do neu yn yr awyr agored ar gyfer lleoliadau sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae enghreifftiau'n cynnwys datblygu ardaloedd chwarae awyr agored i helpu i wella ansawdd yr offer/cyfleusterau chwarae a fydd yn annog plant i chwarae.
Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi deunyddiau chwarae a dysgu yn seiliedig ar chwarae ar gyfer ysgolion sy'n hyrwyddo manteision chwarae ar gyfer lles a dysgu plant, gan gynnwys:
- Y gweithdy Hawl i Chwarae
- Canllawiau ysgolion sy'n ystyriol o chwarae ar gyfer dull ysgol gyfan
- Rhestr ddarllen i athrawon
- Canolbwyntio ar friffio ar chwarae
Trefnodd Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ddigwyddiad 'Meddiannu Meysydd Chwarae' gyda phartneriaid chwarae awdurdodau lleol ac addysg i dynnu sylw at bwysigrwydd chwarae a'r hawl i chwarae. Roedd hyn hefyd yn cefnogi hysbysebu cyfleoedd cymhwyster Gwaith Chwarae a dathlu Diwrnod Chwarae Rhyngwladol cyntaf y Cenhedloedd Unedig. Roedd 60 o blant wedi mwynhau'r digwyddiad meddiannu yn fawr, a hwyluswyd gan Glybiau Plant Cymru Kids' Clubs, gweithwyr chwarae, dysgwyr, athrawon a swyddogion awdurdodau lleol.
Ffocws ar gyfer y camau nesaf – Chwefror 2025 i Mai 2026
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i bolisi chwarae, lle bydd y camau rydym yn eu cymryd yn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud ar draws meysydd polisi, gan awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol.
Byddwn yn canolbwyntio ar y themâu allweddol a ystyriwyd gan yr adolygiad o gyfleoedd chwarae:
- Alinio deddfwriaeth allweddol sy'n effeithio ar yr hawl i chwarae
- Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a chyllid
- Cyfiawnder gofodol
- Darpariaeth a rheoleiddio gwaith chwarae
- Y gweithlu a chymwysterau
- Chwarae ac addysg
Byddwn yn parhau i weithio ar draws meysydd polisi i sicrhau bod Digonolrwydd Chwarae'n cael ei ystyried mewn meysydd polisi perthnasol newydd a rhai sydd ar y gorwel ac yn parhau i fonitro aelodaeth o grŵp hyrwyddwyr PRIB a Chwarae i gefnogi gwaith traws-bolisi rhwng chwarae a meysydd polisi eraill.
Bydd awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Hasesiadau Digonolrwydd Chwarae a'u cynlluniau gweithredu erbyn 30 Mehefin 2025. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chwarae Cymru i gefnogi dadansoddiad o'r cyflwyniadau hyn, a gwaith arolygu cysylltiedig er mwyn mesur cynnydd a'r camau nesaf o ran sicrhau bod gan blant fynediad digonol at gyfleoedd chwarae. Bydd adolygiad i ystyried cynnydd yn erbyn dyletswyddau statudol Digonolrwydd Chwarae a nodi themâu allweddol yn cael ei gomisiynu yn Haf 2025. Bydd hyn yn helpu i lywio ymchwilio i waith posibl i ddatblygu Siarter Chwarae ac awgrym Adroddiad Adolygiad Gweinidogol Cyfleoedd i ehangu cwmpas y ddyletswydd statudol.
Bydd gwaith traws-bolisi pellach ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn cael eu datblygu mewn perthynas â threfniadau cynllunio a sicrhau bod gan blant ddigon o le a mannau i chwarae.
Mae’r Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar y Cod Ymarfer Diogelu drwy ymgysylltu’n eang ac archwilio safbwyntiau ar sicrhau bod trefniadau diogelu cymesur ac effeithiol ar waith gan y rhai sy’n darparu gwasanaethau neu’n cynnig gweithgareddau i blant ac i oedolion a allai fod yn wynebu risg.
Byddwn yn parhau i archwilio opsiynau cyllido i gefnogi mynediad plant at gyfleoedd chwarae.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i ystyried sut mae pwysigrwydd chwarae yn cael ei ymgorffori yn yr adnoddau dysgu proffesiynol ar gyfer ymarferwyr ysgol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod amseroedd chwarae ac egwyl yn rhan bwysig o'r diwrnod ysgol, pan gaiff plant eu cefnogi i gael amser i chwarae a chymdeithasu gyda'u cyfoedion ynghyd ag amser i fwyta prydau iach.
Byddwn yn cydweithio ar draws meysydd polisi i ystyried canlyniadau Deiseb ddiweddar y Senedd i gyflwyno rhwydwaith o Lyfrgelloedd Teganau ledled Cymru - Deisebau.
Rydym wedi ymrwymo i Gymru fod yn wlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae ac i gydweithio i gefnogi hawl plant i chwarae a gwella cyfleoedd plant a phobl ifanc i chwarae. Byddwn yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed ac yn parhau i archwilio gwaith a bwrw ymlaen â chamau gweithredu a nodwyd.