Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair y Gweinidog

Mae’n bleser gennyf gyflwyno Adroddiadau Blynyddol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb ar gyfer 2019 i 2020 a 2020 i 2021, sy’n rhoi sylw i’r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2020 i 2019 a 31 Mawrth 2021. Rydym wedi penderfynu llunio’r adroddiad hwn yn dilyn digwyddiadau eithriadol 2020, er mwyn rhoi trosolwg o’r ffordd roedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i effeithiau COVID-19 ar gydraddoldeb, o ddechrau’r pandemig yn gynnar yn 2020 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.

Mae’r adroddiad cyfun hwn yn pontio pedwerydd cyfnod adrodd, a chyfnod adrodd olaf, ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb ar gyfer 2016 i 2020, a blwyddyn gyntaf ein Cynllun newydd ar gyfer 2020 i 2024.

Yn ystod y cyfnod hwn o ddwy flynedd, roedd Llywodraeth Cymru wedi parhau â’i gwaith i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yn wyneb pwysau cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus, cyni parhaus a’r gwaith paratoi wrth i Gymru a’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Rydym wedi parhau i hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol ac i herio gwahaniaethu. Roedd Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru wedi ariannu saith prif faes gwaith, pob un o dan arweiniad sefydliadau cydraddoldeb yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn cael ei darparu ledled Cymru, ac mae’n cyrraedd cymunedau, yn cynrychioli ac yn grymuso pobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig, ac yn ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb.

Rwy’n ddiolchgar i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru am ei gyngor a’i gefnogaeth drwy gydol y cyfnod hwn. Mae fersiwn ddiweddaraf y Comisiwn o’r adroddiad “A yw Cymru’n decach?”, a oedd yn edrych ar bob agwedd ar fywyd yng Nghymru, wedi bod yn ffynhonnell o dystiolaeth werthfawr a hanfodol i’n helpu ni i sicrhau bod ein proses o wneud penderfyniadau yn gadarn, a bod ein polisïau a’n gwasanaethau’n ystyried anghenion pobl a’u bod yn hygyrch i bawb.

Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar unigolion a chymunedau ledled Cymru, gyda goblygiadau sylweddol i gydraddoldeb. Felly rwyf wedi neilltuo pennod i’r pandemig yn yr adroddiad hwn, a gobeithio y byddwch chi’n gweld ein bod ni wedi rhoi ystyriaeth ofalus i anghenion pobl â nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â’r bobl hynny sydd ar y cyrion mewn unrhyw ffordd, wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau i fynd i’r afael â’r feirws dinistriol ac angheuol hwn. Mae’r pandemig wedi amlygu anghydraddoldebau dwfn sy’n cael effaith anghymesur ar lawer o bobl a chymunedau. Mae cynlluniau adfer yn seiliedig ar yr ymrwymiad i ailgodi’n gryfach gyda chanlyniadau tecach a chyfiawn i bobl Cymru.

Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn dal yn flaenoriaeth glir i Lywodraeth Cymru. Mae’r ymgyrch i gael mwy o gydraddoldeb yn rhan o wead y Llywodraeth hon, ac mae’n parhau i ddylanwadu ar ein holl waith. Rwy’n falch y byddwn ni’n cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar 31 Mawrth 2021.

Un o ymrwymiadau pwysig 2019 i 2020 oedd y gwaith i gwblhau Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 Llywodraeth Cymru, drwy drafodaethau â’n rhanddeiliaid. Mae’r gwaith yn datblygu’n dda ar draws Llywodraeth Cymru a chyda’n partneriaid i ddechrau cyflawni’r camau gweithredu a’r canlyniadau y cytunwyd arnynt, ac mae rhywfaint o hynny’n cael ei adlewyrchu yn yr adroddiad hwn. Mae ein hymrwymiad i gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru yn gwbl ganolog i’n holl waith.

Jane Hutt
Y Dirprwy Weinidog a’r Phrif Chwip

Pennod 1: Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn, sy’n rhoi sylw i’r ddwy flynedd rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2021, yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i gyflawni ei hamcanion cydraddoldeb yn ystod y cyfnod pwysig hwn.

Pan weithiwn i gefnogi ein gilydd fel cenedl, rydym yn gryfach o lawer ac mewn gwell lle i gyflawni ein nodau cyffredin. Mae hyn yn bwysicach nag erioed, gan ein bod wedi wynebu cyfres o heriau eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf.

Gyda’n Gilydd. Yn Gryfach mae’r egwyddor hon yn llywio ein ffordd o feddwl wrth i ni weithio i rymuso a chryfhau’r cysylltiadau rhwng unigolion, cymunedau a chymunedau buddiant.

Mae’n rhaid i’n polisïau a’n penderfyniadau gael eu llywio gan y bobl hynny y maent yn effeithio’n fwyaf uniongyrchol arnynt. Mae cydweithio ag arbenigwyr, grwpiau cydraddoldeb, unigolion a chymunedau sydd â phrofiad personol yn sicrhau ein bod ni’n cael cymorth a chyngor er mwyn ein helpu i ddeall anghenion, problemau, rhwystrau a phrofiadau pob person a chymuned yng Nghymru gan gynnwys, yn benodol, pobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae’n un o ofynion sylfaenol dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru.

Drwy gydol y cyfnod o ddwy flynedd sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn, bu Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu’n rheolaidd mewn llawer o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda grwpiau sy’n gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb, er mwyn deall eu blaenoriaethau a’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu bob dydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o fforymau sydd wedi’u sefydlu ers tro, er mwyn inni gydweithio’n rheolaidd ag eiriolwyr a grwpiau cynrychioliadol i drafod materion cydraddoldeb. Mae’r fforymau hyn yn cynnwys:

  • Y Bwrdd Cydraddoldeb Strategol
  • Y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
  • Y Fforwm Cymunedau Ffydd
  • Fforwm Hil Cymru
  • Tasglu Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Cymru
  • Grwp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb
  • Grwp Llywio Cryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae’r holl fforymau hyn yn cael eu cadeirio gan Weinidogion neu un o uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru. Mae rhai ohonyn nhw’n unigryw yn y DU o ran y ffordd maen nhw’n rhoi cyfle i randdeiliaid cydraddoldeb ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn rheolaidd â’r lefelau uchaf mewn llywodraeth ynghylch y materion sy’n eu poeni. Maen nhw wedi bod yn arbennig o bwysig wrth gefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19, sy’n cael ei ddisgrifio’n fanylach ym mhennod 6.

Mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at rywfaint o’n gwaith yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2021 i greu Cymru sy’n fwy cyfartal.

Mae’n egluro sut rydym wedi defnyddio ein cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb i gynnwys cydraddoldeb yn ein gwaith o ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau. Rydym yn croesawu’r her o ystyried yn ofalus sut mae ein gwaith yn effeithio ar grwpiau gwahanol o bobl, ac yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion amrywiol pob dinesydd sy’n byw yng Nghymru. Yn ogystal â lleihau’r risg y bydd ein penderfyniadau’n arwain at effeithiau negyddol, mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn ein hysgogi i ystyried sut gallwn ni gyfrannu’n gadarnhaol at y gwaith o hybu cydraddoldeb i bawb.

Cyhoeddwyd adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol,

A yw Cymru’n Decach? 2018 ym mis Hydref 2018, ac roedd yn darparu tystiolaeth newydd sylweddol i lywio ac ategu gwaith pob lluniwr polisi ac asiantaeth gyflawni sy’n ceisio creu Cymru fwy cyfartal. Roedd yr adroddiad yn adnodd gwerthfawr er mwyn helpu i sicrhau bod ein prosesau gwneud penderfyniadau yn rhai cadarn, a bod ein polisïau a’n gwasanaethau yn ystyried anghenion pobl a’u bod yn hygyrch i bawb.

Roedd A yw Cymru’n Decach? 2018 yn casglu tystiolaeth o chwe agwedd ar fywyd: addysg, iechyd, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch, gwaith a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Mae’r rhagolygon ar gyfer pobl anabl, rhai pobl o grwpiau ethnig lleiafrifol, a phlant o gefndiroedd tlotach wedi gwaethygu mewn llawer o agweddau ar fywyd. Mae perygl i’r anghydraddoldeb hwn ymwreiddio am genedlaethau i ddod, gan greu cymdeithas lle bydd y grwpiau hyn yn cael eu gadael ar ôl yn y daith tuag at wlad deg a chyfartal.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella data ac ystadegau cydraddoldeb er mwyn iddyn nhw fod yn sail i’r broses o ddatblygu polisïau yn y dyfodol.

Pennod 2: Cyflawni ein Dyletswyddau Cydraddoldeb

Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac mae’n egluro’r hyn rydym wedi’i wneud i ymgorffori gofynion adrodd statudol deddfwriaeth cydraddoldeb yn ein polisïau a’n harferion, yn enwedig Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal. Mae’r ddyletswydd hefyd yn sicrhau ein bod ni’n rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i roi sylw dyledus, wrth iddo wneud ei waith, i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu achosion o wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw enw’r ddyletswydd hon, ac mae hefyd yn cael ei galw’n ‘ddyletswydd gyffredinol’. Er mwyn i gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru berfformio’n well a dangos eu bod yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, deddfodd Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru. Mae’r dyletswyddau hyn, a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y cyfeirir atynt hefyd fel Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru), yn berthnasol i sefydliadau penodol yn y sector cyhoeddus yng Nghymru fel y maen nhw wedi’u rhestru yn y rheoliadau, sy’n cael eu galw’n ‘awdurdodau rhestredig’.

Mae Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru yn gosod cyfrifoldebau ar y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ynghylch ymgysylltu, asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gwahaniaethau o ran cyflog, caffael, gwybodaeth am gydraddoldeb a chyflogaeth, trefniadau adrodd ac adolygu. Cyhoeddir yr adroddiad hwn yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2011 er mwyn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r ddyletswydd gyffredinol.

Yn 2019, cynhaliodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ymarfer monitro a oedd yn edrych ar sut roedd y 73 o gyrff cyhoeddus a restrir yn perfformio yn erbyn y dyletswyddau. Cyhoeddodd y Comisiwn ei ganfyddiadau yn 2020, ac ers hynny mae wedi cwrdd ag uwch-gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru ac o nifer o’r awdurdodau rhestredig eraill i drafod materion sectoraidd a sut gellir gwella cydymffurfedd â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Y Rhaglen Lywodraethu

Symud Cymru Ymlaen a’n Hamcanion Llesiant

Mae Symud Cymru Ymlaen 2016 i 2021 yn amlinellu rhaglen Llywodraeth Cymru i wella economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru, gan sicrhau Cymru sy’n ffynnu ac yn ddiogel, yn iach ac yn egnïol, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig ac yn gysylltiedig.

Ar ben hynny, rydym wedi cyhoeddi amcanion llesiant sy’n egluro sut byddwn ni’n defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i helpu i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, ac i gyfrannu cymaint â phosibl at y saith nod llesiant cyffredin cenedlaethol.

Mae Symud Cymru Ymlaen a’n hamcanion llesiant yn ategu ac yn cefnogi ein hamcanion cydraddoldeb. Maen nhw’n cryfhau’r broses o weithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Dyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru mewn ffordd gynaliadwy.

Y Darlun Ehangach

Mae llawer o gyfreithiau eraill Cymru a’r DU, yn ogystal â chonfensiynau a chytuniadau rhyngwladol, yn ategu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys deddfau sy’n ymwneud ag agweddau penodol ar fywyd a gwaith, fel cyflogaeth, addysg, iechyd neu gyfiawnder, yn ogystal â’r rheini sy’n ymwneud â grwpiau penodol o bobl fel ffoaduriaid, pobl anabl neu blant. Mae’n bwysig cofio nad y Ddeddf Cydraddoldeb a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw’r unig ddarnau perthnasol o ddeddfwriaeth.

Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn nodi’r rhyddid a’r hawliau sylfaenol sydd gan bawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau a nodir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR) yng nghyfraith ddomestig Prydain.

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn deillio o Gyngor Ewrop (nid yr Undeb Ewropeaidd) ac mae’n seiliedig ar y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol, sef y cytundeb rhyngwladol cyntaf ar egwyddorion sylfaenol hawliau dynol, a dderbynnir gan bron pob gwladwriaeth yn y byd. Mae’r DU yn dal yn un o lofnodwyr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Datganiad Cyffredinol.

Rhaid i weithredoedd Llywodraeth Cymru fod yn gydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol, fel y nodir yn Adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan gynnwys saith Confensiwn y Cenhedloedd Unedig a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan Wladwriaeth Barti y DU.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill i sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli’n llawn yn yr adroddiadau a gyflwynir er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau Ewropeaidd ac ar gyfer y Cenhedloedd Unedig. Ar 26 Chwefror 2019 roedd Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, sy’n un o lofnodwyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu pob math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW), wedi cymryd rhan mewn archwiliad ar ei chydymffurfedd â’r Confensiwn.

Ar 11 Mawrth 2019, cyhoeddodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar CEDAW ei Gasgliadau Terfynol. Mae’r Casgliadau Terfynol yn cynnwys rhestr o argymhellion i’w gweithredu gan Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon dros y pedair blynedd nesaf.

Bydd yn rhaid i Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon gyflwyno adroddiad ym mis Mawrth 2023 yn amlinellu ei chynnydd o ran gweithredu’r argymhellion hyn, yn ogystal â chamau gweithredu eraill sy’n ymwneud â hybu hawliau menywod a merched ers archwiliad 2019.

Pennod 3: Amcanion Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru

Mae’r bennod hon yn rhoi trosolwg o Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad yn pontio cyfnodau dau Gynllun Cydraddoldeb Strategol, ar gyfer 2016 i 2020 a 2020 i 2024, pob un â’i set ei hun o amcanion. Fodd bynnag, roedd llawer o orgyffwrdd rhwng y setiau hyn o amcanion, ac roedd llawer o weithgarwch wedi parhau neu esblygu o un cyfnod i’r llall.

Mae amcanion strategol y ddau gynllun wedi’u nodi’n llawn yn Atodiad 2. Mae’r bennod hon yn cynnwys rhai enghreifftiau o’r gweithgarwch a wnaed i gyflawni’r amcanion hyn, gan ganolbwyntio ar y ddwy flynedd sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn (2019 i 2020 a 2020 i 2021). Mae rhagor o enghreifftiau sy’n berthnasol i’r ddwy set o amcanion i’w gweld yn Atodiad 3, ac mae’r gweithgarwch a gafodd gefnogaeth gan ein rhaglen allweddol i Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn cael ei ddisgrifio ym Mhennod 5.

Dylid nodi nad yw’r enghreifftiau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn a’r atodiadau yn rhestr gyflawn o bopeth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud, neu y bydd yn ei wneud, i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb.

Roedd COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar bron yr holl waith a oedd yn cael ei wneud i gyflawni’r amcanion hyn, gan ohirio rhywfaint o waith ond hefyd yn arwain et weithgarwch newydd i leihau effaith y pandemig ar grwpiau dan anfantais, ac i hyrwyddo cydraddoldeb yn ystod y cyfnod hwn nas gwelwyd ei debyg o’r blaen.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19 mewn perthynas â chydraddoldeb yn cael ei egluro’n fanylach ym Mhennod 6.

Trosolwg o Gynlluniau Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru

Mae ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi:

  • Y sail gyfreithiol y mae’r cynlluniau hynny wedi’u seilio arnynt
  • Y brif dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a oedd wedi dylanwadu ar ddatblygiad y cynlluniau hynny gan ddibynnu llawer ar ymchwil ac adroddiadau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol A yw Cymru’n decach?
  • Cyfres o gamau gweithredu yr oeddem wedi ceisio eu cyflawni, i gefnogi nodau ac amcanion pob cynllun.

Mae pob cynllun yn cwmpasu cyfnod o bedair blynedd. Mae’r adroddiad hwn yn ymwneud â blwyddyn olaf y cynllun ar gyfer 2016 i 2020, a blwyddyn gyntaf y cynllun ar gyfer 2020 i 2024. Cafodd y Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd ar gyfer 2020 i 2024 ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2020. Mae llawer o ddilyniant rhwng y ddau gynllun hyn ac mae eu nodau’n debyg i raddau helaeth, ond mae newidiadau pwysig hefyd yn ogystal â gweithgarwch newydd o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r prif newidiadau’n cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol (Nod Hirdymor 2) a rhoi pwyslais o’r newydd ar gydraddoldeb rhywiol (Nod Hirdymor 4), sy’n cael ei adlewyrchu yn ein Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau.

Mae tair prif elfen wrth galon cynllun 2020 i 2024: Nodau, Amcanion a Chamau Gweithredu.

  • Nodau Hirdymor. Mae’r nodau hyn yn ymwneud â chryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, yr ydym yn disgwyl y byddan nhw’n dal yn berthnasol y tu hwnt i’r cyfnod sy’n cael sylw yn y cynllun hwn.
  • Ar gyfer pob un o’r nodau hirdymor hyn, rydym wedi pennu un Amcan Cydraddoldeb ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2020 i 2024. Mae’r amcanion hyn yn perthyn yn agosach na’r nodau hirdymor i rôl a phwerau Llywodraeth Cymru. Maen nhw’n ofyniad statudol ac yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni Dyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Wrth wraidd pob un o’r Amcanion hyn mae nifer o Gamau Gweithredu mesuradwy, sy’n dangos sut bydd Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hamcanion.

Enghreifftiau o Gamau Gweithredu Allweddol i Gefnogi ein Hamcanion Cydraddoldeb

Mae’r amcanion strategol wedi’u nodi’n llawn yn Atodiad 2, gydag enghreifftiau ychwanegol yn Atodiad 3. Edrychwch hefyd ar Bennod 5 i gael gwybodaeth am y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant.

Datblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 1)

Yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol newydd, roeddem wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Mae effaith anghymesur COVID-19, a thwf y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys ers i George Floyd gael ei ladd yn yr Unol Daleithiau, wedi rhoi hwb ychwanegol i’r gwaith hwn. Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol wedi cael ei siapio gan brofiad personol pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ethnig, ac mae wedi cynnwys ystod mor eang â phosibl o leisiau a safbwyntiau.

Mae’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol:

  • Yn seiliedig ar gydnabod yr angen am newid sylfaenol, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wrando ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac i gymryd camau i sicrhau’r newid hwnnw mewn ffyrdd sy’n weladwy i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Wedi cael ei ddatblygu drwy gydgynhyrchu â phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac yn cynnwys ystod mor eang â phosibl o leisiau a safbwyntiau.
  • Yn seiliedig ar dystiolaeth a gafwyd gan bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol am eu profiadau personol, ar ddata sy’n dangos elfennau o wahaniaethau ar sail hil, ac ar y corff enfawr o dystiolaeth ar ffurf adroddiadau blaenorol, ymchwiliadau cyhoeddus ac argymhellion eraill ar gyfer newid.
  • Yn gynhwysol/eang, gan roi sylw i faterion sy’n effeithio ar bob grwˆ p, fel hiliaeth strwythurol a systemig, a rhoi sylw i fuddiannau cymunedau penodol a chroestoriadedd drwy ystyried y materion sy’n berthnasol i grwpiau penodol gan gynnwys menywod, pobl anabl, pobl ifanc, pobl hyˆn, pobl LGBTQ+, a grwpiau crefyddol ac anghrefyddol.
  • Yn ymwneud â sicrhau newid parhaus er mwyn gwneud gwahaniaeth yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir.

Bydd y cynllun, a fydd yn eiddo i Lywodraeth Cymru i gyd, yn cael ei lansio ar gyfer ymgynghoriad ym mis Mawrth 2021, ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i fynd i’r afael â hiliaeth strwythurol a systemig. 

Pride Cymru 2019 (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 1)

Darparodd Llywodraeth Cymru gyllid o £21,121.72 i gefnogi digwyddiad blynyddol Pride Cymru yng Nghaerdydd ar 23-25 Awst 2019. Mae Pride Cymru yn elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr ac sy’n gweithio i ddiddymu gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd neu allu.

Mae Pride Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar y gymuned LGBT+ er mwyn gweithio i greu cymdeithas lle nad oes troseddau casineb, gwahaniaethu na rhagfarn.

Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 2)

Mae annog datblygu Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol wedi bod yn un o’r 19 o gamau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu presennol Llywodraeth Cymru o ran Gwybodaeth a Chyngor.

Mae chwe Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol wedi cael ei sefydlu erbyn hyn, sy’n cynnwys y rhanbarthau canlynol; Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Cwm Taf Morgannwg, Caerdydd a’r Fro a rhanbarth Gwent.

Nodau cyffredinol y Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol yw sicrhau bod darparwyr cyngor, cynllunwyr a chyllidwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gynnig gwasanaethau mwy cydgysylltiedig i bobl y mae angen cyngor arnynt, ac i sicrhau bod yr adnoddau a fuddsoddir yn cael eu defnyddio  i greu’r effaith fwyaf.

Mae aelodau’r rhwydweithiau rhanbarthol wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu rhanbarthol. Mae’r blaenoriaethau hynny’n cynnwys materion fel mapio darparwyr cyngor, sefydlu gwell gweithdrefnau atgyfeirio, rhannu hyfforddiant, gan gynnwys hyfforddiant i gefnogi llesiant darparwyr gwasanaethau, a deall yn well beth sy’n bwysig i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau cynghori.

Cynhaliwyd digwyddiadau rhanbarthol ym mis Gorffennaf 2019 i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a dyna lle recriwtiwyd aelodau’r grwpiau llywio. Cynhaliwyd grwpiau llywio’r Rhwydweithiau Cynghori Rhanbarthol ym mis Hydref 2019, gyda chyfarfodydd cychwynnol â’r holl aelodau’n cael eu cynnal ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2019, ac yna bob chwarter yn rheolaidd.

Prentisiaethau (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16-20, Amcan 3)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i sicrhau bod Prentisiaethau ar gael i bawb, drwy ganolbwyntio ar y meysydd gweithgarwch canlynol:

  • Cynyddu cyfranogiad grwpiau gwarchodedig mewn prentisiaethau
  • Ysgogi newid yn niwylliant y rhaglen er mwyn cofleidio amrywiaeth
  • Gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau bod prentisiaethau sy’n gysylltiedig â rhaglenni Seilwaith TGCh yn cynorthwyo ac yn rhoi sylw i bobl sydd â nodweddion gwarchodedig.

Rydym wedi parhau i fwrw ymlaen â chamau gweithredu Prentisiaethau Cynhwysol: Cynllun Gweithredu ar Anabledd a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r camau gweithredu ymarferol yn y cynllun hwnnw wedi gweld cynnydd o un flwyddyn i’r llall yn nifer y prentisiaid anabl, gan gyrraedd 6.9% yn 2019.

Mae camau gweithredu ymarferol y cynllun, a ddatblygwyd o dan nifer o themâu, wedi parhau. Dyma’r themâu hynny: Marchnata a chodi ymwybyddiaeth; Modelau Rôl; Cymhellion/Ysgogiad; Meini Prawf Hyblyg ar gyfer Ymuno a Gadael; Data a datgelu; Trosglwyddo i Brentisiaethau; Cymorth i Unigolion; Cymorth i Gyflogwyr; a Chymorth i Ddarparwyr.

Rydym yn parhau i ariannu Hyrwyddwr Cydraddoldeb Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) sy’n cynnal cyfarfodydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth rhanbarthol ar gyfer ein darparwyr prentisiaethau, gyda siaradwyr gwadd o fudiadau trydydd sector fel Chwarae Teg, y Tîm Cymorth i Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig, Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol Cymru a llawer o fudiadau eraill.

Roeddem hefyd wedi datblygu newidiadau i feini prawf cymhwysedd, gan gyflwyno hyblygrwydd i bobl ag anableddau dysgu sy’n cyflawni Cymwysterau Sgiliau Hanfodol.

VAWDASV (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 4)

Cafodd y canllawiau gwrth-fwlio statudol newydd, ‘Hawliau, Parch, Cydraddoldeb’, eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2019. Roedd y canllawiau wedi cael eu diweddaru er mwyn ystyried yn llawn yr holl ddeddfwriaethau a pholisïau perthnasol, a chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol arnynt cyn eu cwblhau’n derfynol a’u cyhoeddi.

Rydym yn parhau i gefnogi Wythnos Gwrth-fwlio, gan gynnwys ariannu’r gwaith o ddatblygu adnoddau dwyieithog ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd yng Nghymru i gefnogi a chynnal gweithgareddau yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio 2020. Roeddem wedi gweithio gyda’r Gynghrair Gwrth-fwlio i ddatblygu a chyflwyno ymgyrch wythnos gwrth-fwlio ar y cyd ar draws gwledydd (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ‘United against Bullying’ a ‘change starts with us’ ar gyfer wythnos gwrth-fwlio 2020.

Y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 5, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20-24, Amcan, 7)

Cafodd y strategaeth hon ei datblygu yn 2019, a’i lansio gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar 27 Chwefror 2020. Mae’r Strategaeth yn garreg filltir bwysig i wella amrywiaeth ein harweinwyr cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n amlinellu’r achos moesol, deddfwriaethol a busnes cryf dros amrywiaeth a chynhwysiant, ac mae’n bwriadu adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes yn cael ei wneud gan Fyrddau. Yn fras mae pum nod:

  • casglu gwell data (yn enwedig data amrywiaeth), a chael yr wybodaeth briodol o’r data hynny
  • sicrhau cyflenwad cyson, cadarn o benodiadau cyhoeddus sy’n seiliedig ar gynhwysiant
  • sicrhau bod gennym brosesau agored, tryloyw ac o fathau newydd o bosibl i asesu penodiadau cyhoeddus
  • sicrhau bod aelodau Byrddau yn wybodus iawn am gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac yn gwbl ymwybodol o hynny, yn enwedig mewn perthynas â’u rôl eu hunain a rôl eu sefydliad
  • cryfhau’r arweinyddiaeth mewn perthynas â chynhwysiant ac amrywiaeth.

Mae’r Strategaeth yn canolbwyntio ar Fyrddau a reoleiddir yn unig, ond y gobaith a’r bwriad ydy y bydd yn annog cyrff nad ydynt yn cael eu rheoleiddio ac eraill i fabwysiadu arferion da.

I ddechrau, bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar helpu pobl anabl a phobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i gael penodiadau cyhoeddus. Fodd bynnag, bydd y gwaith yn berthnasol i bob grwˆ p gwarchodedig.

Cydlyniant Cymunedol mewn Ardaloedd Gwledig (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 6, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 6)

Drwy ‘Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 i 2020’, rydym wedi hybu a chefnogi gwell amodau ar gyfer gweithwyr mudol a sicrwydd swydd drwy gynyddu sgiliau. Rydym hefyd wedi gweithio i wella llythrennedd TGCh a mynediad at drafnidiaeth ymysg grwpiau difreintiedig sy’n byw ac yn gweithio yng nghefn gwlad Cymru, gan gynnwys grwpiau ethnig lleiafrifol.

Mae’r Rhaglen Datblygu Gwledig hefyd yn cynnwys Mesur ar gyfer Gwasanaethau Sylfaenol a Rhoi Bywyd Newydd i Bentrefi. Cafodd hyn ei ddarparu’n bennaf drwy’r Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig. O dan y Gronfa honno, cynigiodd Llywodraeth Cymru grantiau ar gyfer ymyriadau cymwys a oedd wedi’u dylunio i atal a lliniaru effaith tlodi mewn cymunedau gwledig, gan wella amodau a all arwain at swyddi a thwf yn y dyfodol. Gall hyn gynnwys camau gweithredu ar gyfer trafnidiaeth a chynhwysiant digidol, sydd wedi’u dylunio i ehangu mynediad at gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth.

Ers dechrau cynllun y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig ar ddiwedd 2015, cafwyd saith cylch Datgan Diddordeb i gyd. Roedd amrywiaeth o opsiynau thematig ar gael i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â mynediad at wasanaethau, allgáu digidol, tlodi tanwydd a thlodi mewn gwaith.

Mae’r prosiectau a gymeradwywyd ar waith ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw weithgarwch pellach ar y gweill o dan y rhaglen hon.

Ailysgrifennu’r Dyfodol a’r Grant Amddifadedd Disgyblion (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 1, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 1)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i wella cyrhaeddiad academaidd dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig drwy weithredu strategaethau a nodwyd yn adroddiad Ailysgrifennu’r Dyfodol a’i fersiwn ddiwygiedig, (polisi cyffredinol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella canlyniadau disgyblion o gefndiroedd difreintiedig) a Grant Amddifadedd Disgyblion estynedig.

Rydym yn dal wedi ymrwymo i’r Grant Amddifadedd Disgyblion ar gyfer yr hyn sy’n weddill o dymor y Senedd hon. Bydd yr ymrwymiad hirdymor hwn yn galluogi ysgolion i wneud penderfyniadau cynaliadwy a hirdymor ynghylch buddsoddi, a fydd yn helpu i nodi rhwystrau rhag dysgu ac i fynd i’r afael â nhw’n gynnar.

Flwyddyn ar ôl blwyddyn, rydym wedi ymestyn y Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae bellach yn cefnogi hyd yn oed mwy o’n dysgwyr mwyaf agored i niwed. Yn ogystal â’r elfen prydau ysgol am ddim; mae’r Grant Amddifadedd Disgyblion bellach yn cynnwys plant sy’n derbyn gofal, plant yn y blynyddoedd cynnar, a phlant sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion a darpariaeth Addysg heblaw yn yr Ysgol.

Roeddem wedi comisiynu Plant yng Nghymru i lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion a oedd yn sôn am elfennau allweddol o gost y diwrnod ysgol, gan gynnwys deall yr hyn sy’n arwain at bobl yn byw mewn tlodi ac effaith hynny, bwyd a newyn, a gwisg ysgol. Mae’r canllawiau ar gael ar Hwb (porth gwybodaeth hygyrch i blant ysgol a rhieni).

Tai Fforddiadwy (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 1, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 1)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Llywodraeth hon, gyda’r gyfran fwyaf o’r rhain yn dai cymdeithasol. Rydym wedi darparu cyllid grant ar gyfer tai fforddiadwy drwy’r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol.

Mae’n rhaid i bob cynllun tai cymdeithasol gyrraedd Safonau’r Gofynion Ansawdd Datblygu, gan gynnwys Cartrefi Gydol Oes, er mwyn derbyn cyllid grant.

Mae’r cynlluniau sy’n darparu 20,000 o dai fforddiadwy yn rhoi cyfleoedd i bawb fyw mewn cartref o safon, ac yn darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen i sicrhau bod pobl yn gallu cynnal eu tenantiaethau a ffynnu. Drwy ddarparu cartrefi o safon gyda thenantiaethau wedi’u sicrhau, gallwn gael effaith gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg y bobl sy’n byw ynddynt.

Rydym yn ffyddiog y byddwn ni’n rhagori ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y llywodraeth hon. Cafodd ystadegau dros dro cenedlaethol manwl ar gyfer 2019 i 2020 eu cyhoeddi ar 3 Chwefror 2021, ac maen nhw’n dangos bod 2,940 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi cael eu darparu ledled Cymru.

Er bod oedi gyda’r data, mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn ffyddiog y byddwn ni wedi rhagori ar y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn mis Mawrth 2021. Bydd ystadegau swyddogol ar gyfer 2020 i 2021, a fydd yn cael eu hadrodd yn ystod hydref 2021, yn dangos bod y targed wedi cael ei gyrraedd. Bydd unrhyw darged ar ôl 2021 yn cael ei bennu gan y llywodraeth nesaf.

Siarter Iaith Arwyddion Prydain (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 20-24, Amcan 1)

Un o’r ymrwymiadau yn ein Fframwaith ‘Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol’ yw datblygu Siarter Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer Cymru.

Yn ddiweddar, rydym wedi ariannu Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain i gynnal archwiliad o’n polisïau a’n darpariaeth Iaith Arwyddion Prydain yn Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith hwn ym mis Chwefror 2021, a bydd yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2021. Bydd yr archwiliad yn asesu polisïau a gwasanaethau Llywodraeth Cymru; yn darparu cyfres o argymhellion i lywio cynllun gweithredu; ac yn amlinellu set o gynigion ar gyfer ymgysylltu’n barhaus â’r gymuned Fyddar.

Fel rhan o’r broses archwilio, bydd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn trefnu digwyddiad ymgysylltu gyda’r gymuned Fyddar yng Nghymru, i sicrhau bod pobl Fyddar yn cael cyfle i fynegi eu barn ac i rannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod cynifer â phosibl o bobl Fyddar yn cael eu cynnwys yn y camau cynllunio/gweithredu, fel rhan o’n gwerthoedd cydgynhyrchu.

Bydd yr archwiliad yng nghyswllt Iaith Arwyddion Prydain yn darparu sail gref i ystyried sut gellid gwella gwasanaethau cymorth ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, a sut gellid gwella sgiliau Iaith Arwyddion Prydain.

Ar ôl i’r broses archwilio ddod i ben, mae Llywodraeth Cymru yn rhag-weld y bydd yn ymrwymo i Siarter Iaith Arwyddion Prydain Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain. Fel sefydliad, bydd hyn yn ein galluogi ni i arwain drwy esiampl ac i hyrwyddo arferion da o ran cyfathrebu hygyrch ymysg sefydliadau a busnesau eraill ledled Cymru.

Cymru o blaid pobl hyˆn (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 1, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 3)

Mae Cymru O Blaid Pobl Hyˆn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio, yn nodi’r camau y byddwn ni’n eu cymryd i baratoi ar gyfer y dyfodol. I adlewyrchu natur amlddimensiwn heneiddio, rydym wedi gweithio ar draws adrannau’r Llywodraeth i fynd i’r afael â’r ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar y ffordd rydym yn heneiddio o’n systemau iechyd a thrafnidiaeth i’r ffordd rydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill.

Nod y strategaeth yw newid y ffordd rydym ni’n meddwl am heneiddio. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau pob person hyˆn yng Nghymru, ein nod yw ymwrthod â gwahaniaethu ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hyn.

Cafodd lansiad yr ymgynghoriad cyhoeddus (Mawrth 2020) ei ohirio oherwydd y pandemig. Fodd bynnag, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Rhagfyr 2020, a bydd yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd fersiwn derfynol o’r strategaeth a chynllun gweithredu ategol yn cael eu cyhoeddi yn ystod hydref 2021.

Cydraddoldeb Rhywiol (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 4)

Cyhoeddwyd y cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru ar 10 Mawrth 2020. Dyma gam cyntaf y cynllun gweithredu ar gyfer yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol, ac mae’n nodi ein blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Nod y cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru yw sicrhau bod yr holl feysydd polisi sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru yn ystyried anghenion croestoriadedd dinasyddion Cymru wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ac arferion.

Bydd newid y pwyslais o gyfle cyfartal i ganlyniadau cyfartal yn allweddol i gyflawni’r weledigaeth a’n nodau ar gyfer Cymru sy’n gyfartal o ran rhywedd. 

Mae’r rhan fwyaf o’r gwaith uniongyrchol ar y cynllun wedi cael ei ohirio oherwydd yr angen i ymateb i bandemig COVID-19.

Rydym wedi parhau â’n cynllun peilot cyllidebu ar sail rhyw, ac wedi sicrhau bod ein hasesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb wedi bod yn rhan o’r broses o ymateb i COVID-19 ac o wneud penderfyniadau am yr adferiad.

Byddwn ni’n adolygu’r cynllun yn gynnar yn 2021, a fydd yn amser da i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn gweithgarwch sy’n deillio o effeithiau anghymesur y pandemig.

Llywodraeth Cymru yn arwain drwy esiampl (Cynllun Cydraddoldeb Strategol 16 i 20, Amcan 8, a Chynllun Cydraddoldeb Strategol 20 i 24, Amcan 8)

Fe wnaethom ystyried anghenion defnyddwyr ar gyfer ailgaffael gwasanaethau TGCh newydd yn 2019. Fel rhan o’r broses arferol o adolygu’r ddarpariaeth TG ar draws ystad Llywodraeth Cymru, bu swyddogion Gwasanaethau TGCh Technoleg a Data Digidol (DDaT) yn cydweithio â Grwpiau â Nodweddion Gwarchodedig a oedd â diddordeb yn Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod darpariaeth TG briodol yn cael ei chaffael, ei darparu a’i chyflwyno. Mae nifer o unigolion wedi cael technoleg gynorthwyol i’w helpu gyda’u bywyd gwaith. Ar ben hynny, mae gliniaduron hybrid Lenovo newydd wedi cael eu cyflwyno’n ddiweddar ar draws yr Ystad, gan alluogi swyddogion i weithio mewn nifer o ffyrdd hyblyg, gan gynnwys gweithio gartref (yn ffurfiol ac yn anffurfiol). Mae offer gweithfan priodol wedi cael ei ddarparu’n gyflym yn ystod COVID-19 yn ôl yr angen.

Pennod 4: Tystiolaeth a Llywodraethu

Cyflwyniad

Mae’r bennod hon yn egluro sut mae Llywodraeth Cymru yn casglu ac yn defnyddio tystiolaeth i lywio a chefnogi ei gwaith i hyrwyddo a diogelu cydraddoldeb. Mae hyn yn cynnwys amlinellu sut cafodd Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb ei datblygu, a’r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiad o effaith cyllideb Llywodraeth Cymru.

Mae’r bennod hefyd yn cynnwys adran ar ein polisi caffael.

Y Sylfaen Dystiolaeth ar gyfer Cydraddoldeb

Er mwyn i’r nodau yn y ddyletswydd gyffredinol gael eu hystyried yn briodol, mae angen i ni gael digon o dystiolaeth o’r effaith y mae ein polisïau a’n harferion yn ei chael, neu’n debygol o’i chael, ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig.

Rhwng 2019 a 2021, roeddem wedi cyhoeddi amrywiaeth eang o allbynnau ystadegol a oedd yn ein helpu ni i ddeall effaith ein polisïau, a lle mae angen i ni wneud mwy. Roedden nhw hefyd wedi galluogi ein rhanddeiliaid i weld lle mae angen gwneud rhagor o gynnydd a’n dal ni’n atebol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hystadegau. Mae rhai o’r allbynnau ystadegol hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Llesiant Cymru: Adroddiadau 2019 a 2020
  • Diweddariad i sleidiau ategol adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol
  • Ystadegau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019
  • Dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig yn ôl amddifadedd ardal: 2017 i 2019
  • Coronafeirws a chyflogaeth: dadansoddiad o nodweddion gwarchodedig
  • Coronafeirws (COVID-19) a’r boblogaeth Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Nghymru
  • Coronafeirws (COVID-19) a’r effaith ar bobl anabl yng Nghymru

Defnyddiwyd yr wybodaeth hon, yn ogystal ag arweiniad pellach gan ein timau ystadegau, i lywio ein Hasesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb; ein cyngor i weinidogion ynghylch polisïau newydd arfaethedig neu newidiadau i bolisïau; a chyfraniadau i sesiynau ymchwiliadau Pwyllgorau. Rydym yn mynd ati’n gyson i wella’r trefniadau ar gyfer nodi a chasglu gwybodaeth am gydraddoldeb, lle bynnag y bo hynny’n ymarferol ac yn gosteffeithiol.

Er mwyn gwella ein gwybodaeth am gydraddoldeb, fe aethom ati i wneud y canlynol.

Adroddiad Llesiant Cymru

Fel rhan o’n hymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad y 7 nod llesiant, roeddem wedi cyhoeddi fersiwn newydd o’n hadroddiad Llesiant Cymru. Mae’n cynnwys pennod ynghylch ‘Cymru sy’n Fwy

Cyfartal’, sy’n rhoi crynodeb o’r ystadegau cydraddoldeb diweddaraf sy’n berthnasol i Gymru.

Y data wedi’u dadgyfuno sydd ar gael

Roeddem wedi parhau i gyhoeddi’r holl ddadansoddiadau ystadegol yn ôl nodwedd warchodedig lle’r oedd maint y samplau’n caniatáu, ac i ystyried opsiynau i gynyddu faint o ddata wedi’u dadgyfuno sydd ar gael yng Nghymru.

Hygyrchedd y dystiolaeth ynghylch cydraddoldeb

Roeddem wedi parhau i adolygu’r ffyrdd  gellid gwella ein hystadegau cydraddoldeb. Yn benodol, ystyried lle gellid gwneud ystadegau’n fwy hygyrch ac addas ar gyfer cynulleidfa eang. Er enghraifft, ym mis Medi 2019, lansiwyd tudalen we newydd ynghylch Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ar wefan StatsCymru, sef llwyfan data agored Llywodraeth Cymru.

Mae’r dudalen yn darparu dolenni at ddata ynghylch cydraddoldeb ar gyfer cyrff cyhoeddus yng Nghymru, mewn fformat data agored ac mewn un lleoliad.

Cyhoeddiadau am grefydd ac anabledd

Ar y cyd â Chanolfan Cydraddoldebau a Chynhwysiant y Swyddfa Ystadegau Gwladol, dadansoddwyr o amrywiaeth o adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth, a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, roeddem wedi ystyried y ffynonellau data sydd ar gael er mwyn gweld i ba raddau y gellid eu defnyddio i ddisgrifio profiadau pobl anabl a phobl o wahanol grwpiau crefyddol yng Nghymru a Lloegr. Dyma oedd cam cyntaf rhaglen waith hirach lle byddwn ni’n gweithio gydag eraill i ystyried opsiynau i wella’r data sydd ar gael am bobl anabl ac am grefydd.

Ymchwil i gryfhau a hybu Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Yn dilyn y galwadau lu am weithredu er mwyn cryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, cytunodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i sefydlu Grwˆ p Llywio ac i gomisiynu consortiwm ymchwil a oedd yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc i ystyried opsiynau er mwyn cyflawni hyn. Nod yr ymchwil oedd archwilio dulliau o gryfhau a hybu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gwneud argymhellion ar gyfer diwygio deddfwriaethau, polisïau, canllawiau neu ddiwygiadau eraill er mwyn cyflawni’r amcan hwn. Cafodd yr adroddiad ymchwil terfynol, gan gynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, ei gyflwyno ym mis Mawrth 2021.

Effaith ymadawiad Cymru â’r UE ar gymunedau agored i niwed

Fel rhan o raglen waith a oedd yn paratoi Cymru ar gyfer gadael yr UE, roeddem wedi casglu a dadansoddi pob math o dystiolaeth ynghylch effaith ymadawiad Cymru â’r UE ar gymunedau yng Nghymru. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu’n awr fel rhan o raglen ehangach i asesu effaith amrywiaeth o ffactorau ar leoedd difreintiedig ac ar grwpiau agored i niwed, gan gynnwys COVID-19, gadael yr UE, newid yn yr hinsawdd a chyni dirwasgiad.

Datblygu Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb

Mae Cronfa Effeithiau COVID-19 ar Gydraddoldeb wedi cael ei chreu i helpu cydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru i gyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i gynnal Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wrth ddatblygu polisi. Rydym wedi casglu, cofnodi a dadansoddi’r holl wybodaeth a dderbyniwyd dros y misoedd diwethaf ynghylch effaith COVID-19 ar bobl â nodweddion gwarchodedig yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys adroddiadau a briffiau, yn ogystal â blogiau ar-lein, gyda llawer ohonyn nhw wedi cael eu darparu gan bartneriaid rydym ni’n cydweithio â nhw. Mae’r gronfa’n ddogfen fyw, ac ychwanegir ati’n rheolaidd.

Mae’n adnodd amhrisiadwy i lywio asesiadau effeithiol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, o’r effaith ar gydraddoldeb ac i ddysgu mwy am effeithiau hirdymor, ehangach posibl COVID-19 ar gydraddoldeb, er mwyn sbarduno’r gwaith o ddatblygu polisïau newydd ar ôl COVID-19 ar draws Llywodraeth Cymru.

Uned(au) Tystiolaeth am Gydraddoldeb

Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at yr angen am ddata a thystiolaeth gadarn ynghylch grwpiau lleiafrifol fel cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl sydd â nam yng Nghymru.

Roedd yr is-grwˆ p economaidd-gymdeithasol pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru yn ystod COVID-19) wedi argymell gweithredu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil i helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hyn ynghylch data tystiolaeth.

Mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i weld beth yw’r opsiynau ar gyfer Uned Tystiolaeth am Hil, Uned Tystiolaeth am Anabledd a neu Uned Tystiolaeth am Gydraddoldeb yng Nghymru. Mae’r ymchwil cwmpasu’n cynnwys cyfres o gyfweliadau ag unedau canolfannau cydraddoldeb Adrannau Llywodraeth y DU; gweithdai a/neu gyfweliadau â rhanddeiliaid ehangach, a chyfweliadau â staff Llywodraeth Cymru o’r proffesiwn polisi a’r proffesiwn dadansoddi.

Mae’r ymchwil yn ystyried beth sy’n bwysig i randdeiliaid mewn uned(au) tystiolaeth, pa ffactorau fydd yn helpu’r uned(au) i fod yn llwyddiannus, a beth sy’n bosibl wrth ystyried y rhwystrau ymarferol. Nod yr uned(au) fydd mynd i’r afael ag amrywiaeth o welliannau yn y gwaith o gasglu, dadansoddi a defnyddio tystiolaeth am gydraddoldeb i lywio’r broses o ddatblygu a gweithredu polisïau. Y gobaith yw y bydd yr uned a sefydlir yn cydweithio â’r cymunedau y mae wedi cael ei sefydlu i’w cefnogi, gan brif ffrydio ystyriaethau ynghylch tystiolaeth am gydraddoldeb drwy gylchoedd polisi Llywodraeth Cymru.

Asesiad o Effaith y Gyllideb ar Gydraddoldeb

Mae Asesiadau Effaith Integredig Strategol y Gyllideb Ddrafft yn parhau i ystyried penderfyniadau gwariant o nifer o safbwyntiau er mwyn deall eu heffaith ar wahanol grwpiau o bobl. Mae hyn yn cynnwys ystyried Cydraddoldeb. Rydym yn cydnabod bod pobl a lleoedd yn amlddimensiynol, ac mae’r dull gweithredu integredig yn ceisio cofnodi effeithiau lluosog a chronnus sy’n adlewyrchu profiad go iawn pobl a realiti ein heconomi, ein diwylliant a’n hamgylchedd.

Hefyd, rydym yn dal wedi ymrwymo i adolygu’r ffordd rydym yn asesu effeithiau. Ar 21 Rhagfyr 2020, roeddem wedi cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o Gynllun Gwella’r Gyllideb1 fel rhan o becyn Cyllideb Ddrafft 2021-22, gan adeiladu ar y Cynllun cyntaf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2019. 

Mae’r Cynllun yn amlinellu ein gweledigaeth, gan gynnwys yr uchelgeisiau tymor byr a thymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn gwella ein prosesau blynyddol ar gyfer y gyllideb a threthi. Mae hyn yn cynnwys gwelliannau arfaethedig i’r ffordd o asesu effaith penderfyniadau a wneir ynghylch y Gyllideb.

Fel rhan o’r gwaith parhaus hwn, ac fel sy’n cael ei adlewyrchu ar Dudalennau 4 a 5 y Cynllun diweddaraf, yn ystod cyfnodau 2019 i 2020 a 2020 i 2021 roeddem wedi dechrau a bwrw ymlaen ag amrywiaeth o welliannau i ystyriaethau Cydraddoldeb, gan gynnwys:

  • Cychwyn dull gweithredu ‘cyllidebu ar sail rhyw’ fel rhan o gynllun peilot Cyfrifon Dysgu Personol dros ddwy flynedd a lansiwyd ym mis Medi 2019, i ymateb i Adolygiad Llywodraeth Cymru o Gydraddoldeb Rhywiol. Roeddem wedi cyflwyno crynodeb o ganlyniadau cynnar y cynllun peilot mewn astudiaeth achos fel rhan o naratif Cyllideb Ddrafft 2021 i 2022 ac wedi dyrannu £5.4m ychwanegol i gefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno’r ddarpariaeth Cyfrifon Dysgu Personol ledled Cymru o fis Medi 2020 ymlaen.
  • Bwrw ymlaen â’r gwaith, ar ôl ymgysylltu â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ystyried effaith ddosbarthiadol gwariant ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru, er mwyn deall sut mae penderfyniadau ynghylch gwario arian cyhoeddus yn effeithio ar aelwydydd mewn gwahanol rannau o’r dosbarthiad incwm. Roeddem wedi cyhoeddi ein dadansoddiad cychwynnol3 ym mis Rhagfyr 2020, fel rhan o becyn Cyllideb Ddrafft 2021 i 2022.
  • Gwella ein dull gweithredu ar gyfer cyllidebau atodol drwy flaenoriaethu ein hymateb ariannol i COVID-19 yn ystod 2020-21, a diogelu’r mwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas rhag yr effeithiau ehangach, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig. Mae’r manylion wedi’u nodi yn y cyllidebau atodol a gyhoeddwyd yn ystod 2020-2021.
  • Parhau i ddatblygu Asesiadau Effaith Integredig Strategol y Gyllideb Ddrafft. Yng Nghyllideb Ddrafft 2021 i 2022, roeddem wedi cynnwys manylion am effeithiau penderfyniadau penodol am wariant fel rhan o’r prif naratif ar ddyraniadau’r gyllideb ym mhenodau pedwar a chwech er mwyn bod yn fwy tryloyw. Roedd hyn yn cael ei ategu gan grynodeb o’r dystiolaeth gyd-destunol a oedd yn sail i’r penderfyniadau strategol hyn ynghylch gwariant, gan gynnwys tystiolaeth am effeithiau anghymesur y pandemig yn ôl gwahanol nodweddion gwarchodedig. Roeddem hefyd wedi cyflwyno astudiaethau achos manylach ar effeithiau penderfyniadau penodol ynghylch gwariant er mwyn dangos yn fanylach sut mae’r gwaith asesu’n cael ei wneud.

Caffael

Mae cyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn gwario tua £6.7 biliwn bob blwyddyn ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan gyflenwyr. Mae’n bwysig bod pob punt yn cael ei gwario’n ddoeth, gan sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru.

Cyflawni’r Ddyletswydd Caffael yn Nyletswyddau Cydraddoldeb Penodol Cymru

Fel rhan o ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru, rhaid i ni:

  • fynd ati i ystyried a fyddai’n briodol i feini prawf ar gyfer dyfarnu contract gynnwys ystyriaethau i helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (edrychwch ar Atodiad 1)
  • mynd ati i ystyried a fyddai’n briodol pennu amodau ynghylch perfformiad contract er mwyn helpu i gyflawni tri nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.

Ein Polisi Caffael

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) yn gosod y weledigaeth strategol ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n helpu i ddiffinio ein cynnydd yn erbyn y nodau llesiant rydym yn ceisio eu cyflawni ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth galon yr holl benderfyniadau caffael i’n helpu ni i greu’r ‘Gymru a Garem’. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i sicrhau ein bod ni’n atal problemau ac yn meddwl am y tymor hir, gan fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd i sicrhau llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Rydym wedi cydweithio â rhanddeiliaid yn ddiweddar i ddatblygu fersiwn ddiwygiedig o Ddatganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS 2021), a fydd yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2021.

Yr allwedd i gyflawni’r Datganiad Polisi Caffael hwn fydd cydweithio parhaus. Byddwn ni’n adolygu ac yn adnewyddu Datganiad Polisi Caffael Cymru yn rheolaidd gyda phartneriaid i sicrhau ei fod yn dal yn adlewyrchiad cywir o’n huchelgais ar y cyd ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru, ac i sicrhau bod canlyniadau’n fwy tryloyw.

Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn cynnwys deg egwyddor allweddol y dylai holl sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru lynu wrthynt wrth gyflawni eu gweithgarwch caffael. Bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu a fydd yn llywio’r broses o gyflawni egwyddorion y Datganiad, a bydd yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan. Bydd sefydliadau sy’n prynu, naill ai’n unigol neu ar y cyd, yn datblygu ac yn cyhoeddi eu cynlluniau gweithredu eu hunain, a fydd yn egluro sut byddan nhw’n cefnogi’r  gwaith o gyflawni blaenoriaethau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Bydd canllawiau statudol y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael arfaethedig yn ystyried y datganiad hwn a’r cynlluniau gweithredu cysylltiedig, ac yn gosod dyletswydd ar awdurdodau contractio i sicrhau canlyniadau sy’n gyfrifol o safbwynt cymdeithasol drwy brosesau caffael sy’n rhoi lle canolog i waith teg a gwerth cymdeithasol, yn hytrach na chanolbwyntio ar sicrhau arbedion ariannol yn unig.

Mae’r datganiad polisi’n cynnwys nifer o ffactorau allweddol sy’n dylanwadu ar y broses o ystyried cydraddoldeb, gan gynnwys:

  • sicrhau bod polisïau allweddol, fel gwerth cymdeithasol, yn cael eu cynnwys mewn contractau
  • symleiddio’r broses gaffael a lleihau rhwystrau i gyflenwyr
  • sicrhau bod cydraddoldeb yn cael sylw priodol yn y cam dewis cyflenwr
  • hysbysebu cyfleoedd am gontractau drwy wefan Gwerthwchi Gymru
  • cynnal Asesiad Risg Cynaliadwyedd wrth gynllunio proses gaffael, i sicrhau bod contractau cyhoeddus yn ystyried eu dyletswyddau cydraddoldeb wrth i gontractau gael eu cyflawni.

Mae Cymru yn cydweithio i fynd i’r afael â’r risgiau o gaethwasiaeth, ac i hyrwyddo cyflogaeth foesegol yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus. Adeg yr adroddiad hwn, mae dros 304 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Mae’r llofnodwyr yn cynnwys 55 o gyrff yn y sector cyhoeddus, 229 o sefydliadau yn y sector preifat, ac 20 o fudiadau yn y trydydd sector sy’n dod o amrywiaeth eang o farchnadoedd gwahanol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach gyda chynlluniau i osod dyletswyddau statudol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau gwerth cymdeithasol drwy gaffael.

Prif ffrydio ac ymwreiddio cydraddoldeb ym maes caffael Canlyniadau

Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn gwario tua £700m ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau sy’n cael eu caffael yn allanol. Bu tîm Masnachol Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector busnes i ymwreiddio Dyletswyddau Cydraddoldeb Cymru yn ein contractau, drwy wneud y canlynol:

  • Rhoi’r Asesiad Risg Cynaliadwyedd ar waith ar gyfer holl gontractau Llywodraeth Cymru sydd dros £25,000, gan sicrhau bod dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hystyried a bod camau’n cael eu cymryd mewn contractau pan fydd hynny’n briodol, a bod Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yn cael ei gynnal.
  • Defnyddio cymalau Budd i’r Gymuned mewn contractau priodol i sicrhau cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth i bobl ddifreintiedig, a thargedu cefnogaeth addysgol gan ein cyflenwyr ar draws cymunedau yng Nghymru.
  • Ymrwymo i’r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, a mabwysiadu’r arferion gorau yn ein prosesau caffael.
  • Adolygu ein dogfennau safonol i sicrhau bod manylebau a dogfennau contract yn bodloni’r arferion gorau.

Pennod 5: Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant

Mae’r Rhaglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn darparu dull strategol a chydlynol o roi cyngor a chymorth i ddinasyddion a mudiadau cymunedol ledled Cymru ar draws amrywiaeth o faterion cydraddoldeb a chynhwysiant allweddol.

Mae’r rhaglen yn cefnogi Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2016 i 2020 a’r nodweddion gwarchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010; mae’n cynnwys grant i sefydliadau cynrychioladol a Phrosiectau Cynhwysiant ar gyfer tri maes gwaith penodol. Rydym wedi cyhoeddi dogfen sy’n crynhoi’r rhaglen. Mae’r ddogfen yn cynnwys manylion y gwasanaethau hynny a ddarparwyd o dan y rhaglen yn ogystal â manylion cyswllt perthnasol.

Buom yn cydweithio â’n partneriaid, gan gynnwys saith asiantaeth arweiniol ar gyfer y rhaglen, i ddarparu cymorth ar hyd a lled Cymru mewn perthynas â rhywedd (Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru); anabledd (Anabledd Cymru); Sipsiwn, Roma a Theithwyr (TGP Cymru); ffoaduriaid a cheiswyr lloches (Cyngor Ffoaduriaid Cymru); cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd (Stonewall Cymru); hil (Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig) a throseddau casineb (Cymorth i Ddioddefwyr Cymru).

Crynodeb o’r cyllid a ymrwymwyd yn 2019 i 2020

Sefydliad Dyraniad
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST £120,000
Stonewall Cymru £150,000
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru £120,000
Anabledd Cymru £243,062
Cymorth i Ddioddefwyr Cymru (prosiect cynhwysiant) £247,265
TGP Cymru (prosiect cynhwysiant) £183,962
Cyngor Ffoaduriaid Cymru (prosiect cynhwysiant) £426,000
Cyfanswm (prosiect cynhwysiant) £1,490,289

Crynodeb o’r cyllid a ymrwymwyd yn 2020 i 2021

Sefydliad Dyraniad
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) £120,000
Stonewall Cymru £175,000
Stonewall – Cynllun Gweithredu LGBT+ £10,902
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru £145,000
Anabledd Cymru £350,000
Anabledd Cymru – Cronfa Ymateb i COVID £200,000
Anabledd Cymru – Model Cymdeithasol – Cymorth Ysgolion, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes £15,000
Cymorth i Ddioddefwyr Cymru (prosiect cynhwysiant) £279,600
Cymorth i Ddioddefwyr - Arian Ychwanegol o Gronfa Bontio’r UE (prosiect cynhwysiant) £180,000
Cymorth i Ddioddefwyr – Cymorth Ychwanegol (prosiect cynhwysiant) £5,040
TGP Cymru (prosiect cynhwysiant) £205,000
Cyngor Ffoaduriaid Cymru (prosiect cynhwysiant) £456,000
Cyfanswm £2,141,542

Fe wnaethom gymryd camau i wella’r data monitro perfformiad a gasglwyd gan y sefydliadau hynny a oedd yn cael eu hariannu gan Raglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom gwrdd â phob sefydliad yn unigol, i’w helpu i ddatblygu mesurau perfformiad sy’n canolbwyntio mwy ar ganlyniadau. Er enghraifft, roedd hyn yn cynnwys sefydliadau yn cael gwybodaeth am ganran yr unigolion sydd, ar ôl cael cyngor a chymorth, yn gwybod mwy am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael iddynt, ac yn teimlo bod eu lleisiau’n fwy tebygol o gael eu clywed. Amlinellir effaith sawl ffrwd o’r rhaglen hon isod.

Hil

Sefydlwyd y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig yn wreiddiol i lenwi bwlch yn y ddarpariaeth ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy ddarparu gwasanaeth cefnogi cyfannol wedi’i dargedu, sy’n sensitif i ddiwylliant, i ddiwallu eu hanghenion. Mae wedi mynd ymlaen i ehangu ei weithgareddau i ddiwallu anghenion pobl ifanc, teuluoedd ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n byw yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy ddarparu ystod eang o wasanaethau gan gynnwys addysg, cyflogaeth, iechyd, cefnogi teuluoedd a diogelwch cymunedol.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sefydliad hwn wedi galluogi’r tîm i gymryd camau i gefnogi’r amcanion canlynol:

  • Ymgysylltu â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac ymgynghori â nhw, ar faterion sy’n effeithio arnynt
  • Cynrychioli cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar grwpiau rhanddeiliaid perthnasol Llywodraeth Cymru
  • Arddangos, uno a chynyddu lleisiau dros gydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig wedi cefnogi pedwar rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ethnig yn Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam. Roedd cynrychiolaeth amrywiol o unigolion yn gweithio gyda Chydlynwyr Rhanbarthol ym mhob rhanbarth i gynnal digwyddiadau ymgysylltu rheolaidd ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ar ben hynny, mae’r tîm wedi parhau i ddarparu cyngor a chymorth i fudiadau ar lawr gwlad drwy gyfeirio at chwaer brosiect y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig sef y prosiect Sgiliau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Chynghorau Gwirfoddol Sirol Abertawe, Caerdydd a Wrecsam). Mae’r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol drafft.

Rhywedd

Elusen Gofrestredig yw Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (y Rhwydwaith), sy’n gweithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru. Mae unigolion a sefydliadau yn aelodau o’r rhwydwaith, ac mae cyllid wedi cael ei ddarparu i gefnogi gwaith cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar nodau eang sy’n ymwneud ag ymgysylltu, addysg, grymuso a chynrychiolaeth. Dyma yw’r amcanion:

  1. Deall anghenion a phrofiadau menywod a merched yng Nghymru yn well er mwyn helpu i lunio polisïau cenedlaethol
  2. Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ehangach o hawliau menywod a’r materion sy’n effeithio arnynt a’u grymuso i wneud dewisiadau gwybodus
  3. Cynrychioli menywod a merched ar grwpiau rhanddeiliaid perthnasol ac allweddol Llywodraeth Cymru (gan gynnwys casglu a dosbarthu tystiolaeth ymchwil)
  4. Helpu i ddarparu cronfa fwy amrywiol o benderfynwyr mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus drwy adnabod y pethau hynny sy’n rhwystro menywod rhag ymgysylltu a chymryd rhan, a mynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.

Mae’r Rhwydwaith yn cysylltu â’i rwydwaith o aelodau er mwyn cyfleu anghenion a phrofiadau uniongyrchol menywod a merched yng Nghymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Mae’n defnyddio’r wybodaeth a’r dystiolaeth a gesglir i helpu i lywio ei ymateb i ymgynghoriadau a’i ymgysylltiad â llunwyr polisi, yng Nghymru a’r DU.

Mae’r Rhwydwaith yn cynnal rhaglen fentora i helpu i sicrhau bod mwy o fenywod a mwy o fenywod amrywiol yn rhan o fywyd cyhoeddus. Mae’r cynllun yn helpu’r rhai sy’n cymryd rhan i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, adnoddau a gwybodaeth i’w paratoi ar gyfer rôl mewn bywyd cyhoeddus drwy gyfrwng rhaglen o ddiwrnodau hyfforddi, sesiynau gweithdy, mentora a chefnogaeth gan gymheiriaid. Roedd llwyddiannau’r rheini a gafodd eu mentora yn 2019-20 yn cynnwys cael eu hethol yn gynghorwyr lleol, dod yn aelodau o Fwrdd a chwblhau proses ddethol yn llwyddiannus ar gyfer plaid wleidyddol.

Mae’r Rhwydwaith yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ledled Cymru bob blwyddyn, i ddathlu llwyddiannau a mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar fenywod a merched. Er mwyn ehangu’r ddarpariaeth a sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y diwrnod arbennig hwn, mae’r Rhwydwaith wedi datblygu pecyn cymorth

Yn 2020 i 2021, mae dros 600 o bobl wedi mynychu rhith-ddigwyddiadau Caffi Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, a sefydlwyd yn sgil COVID-19 ym mis Mawrth 2020. Mae Caffi’r Rhwydwaith yn gyfle i ddod â lleisiau menywod at ei gilydd i edrych yn fanwl ar faterion a rhannu atebion ar nifer o themâu sy’n ymwneud ag anghydraddoldebau sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil y pandemig. Dangosodd arolwg adborth fod y rhai a oedd wedi mynychu digwyddiadau Caffi’r Rhwydwaith yn teimlo eu bod wedi’u grymuso’n well i fynegi eu barn am faterion, yn gallu dylanwadu’n well, ac wedi cael mwy o wybodaeth am hawliau menywod.

Mae’r Rhwydwaith yn ehangu cyrhaeddiad ei gynghrair ledled Cymru ac ar draws grwpiau oedran. Am y tro cyntaf erioed, mae’r Rhwydwaith wedi gweithio gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 2021.

Cynhyrchodd y Rhwydwaith becyn cymorth llawn gweithgareddau ac adnoddau i gefnogi athrawon a gweithwyr ieuenctid i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, i herio stereoteipiau rhywedd, ac i dynnu sylw at ragfarn ar sail rhyw a rhywiaeth gyda’u dosbarthiadau a’u grwpiau.

Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Mae TGP Cymru yn Elusen Gofrestredig sy’n darparu cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Mae Teithio Ymlaen yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau eiriolaeth unigol a chymunedol, ac mae’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar faterion fel llety, safleoedd, cynllunio, hawliau a chael gafael ar wasanaethau. Mae gan y prosiect dri nod cyffredinol, gyda chamau gweithredu yn sail i bob amcan.

  1. Cyngor ac Eiriolaeth
  2. Hawliau a Chyfranogiad
  3. Mynd i’r afael â Gwahaniaethu.

Mae Llinell Gyngor Radffôn ar waith yn ystod yr wythnos Ffôn 0808 802 0025. Mae’r rhif wedi cael ei ledaenu drwy daflenni, cardiau hysbysebu, ar lafar gwlad drwy sesiynau ymgysylltu ac allgymorth rheolaidd, digwyddiadau a thrwy rwydweithiau, gan gynnwys cyfeiriaduron partneriaid a chyfryngau cymdeithasol. Mae Tîm Ymgysylltu Teithio Ymlaen yn darparu gwasanaeth allgymorth sy’n ymweld yn rheolaidd â safleoedd a lleoliadau cymunedol; atgyfeiriadau wyneb yn wyneb ac ar lafar yw’r ffordd fwyaf poblogaidd o gysylltu o hyd ymysg cymunedau.

Mae’r prosiect Teithio Ymlaen yn parhau i weithio i sicrhau bod cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn ymwybodol o ymgyngoriadau a chyfleoedd eirioli ac yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt, i leisio eu barn, ac i ymgysylltu â llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau ar faterion sy’n effeithio ar y cymunedau hyn ar lefel Cymru neu’r DU os yw hynny’n briodol. Maen nhw wedi cyfrannu’n helaeth at y gwaith o ddatblygu ein Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Mae eu fforymau ieuenctid yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc gwrdd â phobl sy’n gwneud penderfyniadau, ochr yn ochr â grwpiau cymunedol a phrosiectau ymchwil cymheiriaid (ar ddatblygu safleoedd, addysg, gwella gwasanaethau iechyd er enghraifft). Mae’r cymunedau hefyd yn cael cynrychiolaeth gadarnhaol drwy Senedd Ieuenctid Cymru a gweithgareddau diwylliannol. Mae Teithio Ymlaen yn gweithio gyda sefydliadau, gan gynnwys y Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol unigryw, ac mae wedi datblygu côr ‘Sêr y Sipsiwn’ cyntaf Cymru, sy’n cynnwys pobl o bob oed o’r gymuned Roma.

Mae Teithio Ymlaen wedi cael y dasg o wneud i’r gymuned deimlo’n fwy hyderus i herio a rhoi gwybod am ddigwyddiadau hiliol, digwyddiadau casineb, troseddau casineb ac iaith casineb. Mae hefyd yn gweithio gyda phartneriaid fel Cymorth i Ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth o’r dulliau o roi gwybod am droseddau casineb a’r gefnogaeth sydd ar gael drwy’r gwasanaeth cynghori, i ddatblygu poster penodol, ac i greu cysylltiadau cryfach â swyddogion troseddau casineb yr heddlu drwy ymgysylltu a hyfforddiant.

Troseddau Casineb

Elusen annibynnol yw Cymorth i Ddioddefwyr, sydd wedi ymrwymo i gefnogi pobl y mae troseddau a digwyddiadau trawmatig yn effeithio arnyn nhw yng Nghymru a Lloegr. Mae’n darparu gwasanaethau arbenigol i helpu pobl i ymdopi a gwella, ac i roi cyfle iddyn nhw gydweithio â’r rheini sy’n llunio ac yn cyflawni polisïau, yn unigol ac ar y cyd, ar lefel leol a chenedlaethol.

Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Canolfan Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth Cymru Gyfan. Mae gan y prosiect dri nod cyffredinol, gyda chamau gweithredu yn sail i bob amcan.

  1. Rhoi cymorth i ddioddefwyr
  2. Ymgysylltu’n well
  3. Hyrwyddo arweinyddiaeth

Mae’r gwasanaeth yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i ddioddefwyr troseddau a digwyddiadau casineb yng Nghymru, ac mae’n gallu cynnig cymorth i ddioddefwyr er enghraifft helpu gyda gwybodaeth am yr achos, larymau a dyfeisiau diogelwch personol ac yn y cartref, cymorth emosiynol parhaus a brys gan weithwyr achos arbenigol, eiriolaeth a diweddariadau gan yr Heddlu, eiriolaeth ym maes tai a llythyrau cefnogi, cydweithio ag ysgolion, colegau a phrifysgolion, yn ogystal â modiwlau cymorth ar-lein drwy My Support Space a chyfeirio at asiantaethau arbenigol.

Mae’r tîm Hyfforddiant ac Ymgysylltu yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb, sicrhau y rhoddir gwybod am fwy o droseddau casineb, a gwneud y gwasanaeth yn fwy amlwg. Mae’r tîm yn darparu sesiynau hyffoddi am ddim ac yn gweithio’n agos gyda phartneriaid yn yr ardal i ymgysylltu â chymunedau.

Yn 2019 i 2020 roedd y gwasanaeth wedi cynnal 111 o sesiynau ar-lein, gan hyfforddi 1175 o bobl o bob cwr o Gymru, a’r rheini’n amrywio o aelodau o’r sector cyhoeddus, cwmnïau preifat, mudiadau’r trydydd sector ac aelodau o’r gymuned.

Yn 2020 i 2021 roedd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi prosesu 2,195 o atgyfeiriadau Troseddau Casineb, ac wedi rhoi cymorth i 562 o ddioddefwyr troseddau casineb.

Roedd wedi llwyddo i gynnal gwasanaeth cyson drwy gydol camau cynnar y pandemig, ac wedi dechrau darparu cymorth ar-lein drwy Skype a thros y ffôn.

Fe wnaethant hefyd gyhoeddi adroddiad ar y gwasanaethau cyfredol sydd ar gael i Blant a Phobl Ifanc y mae Troseddau Casineb yn effeithio arnynt yng Nghymru.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2019, bu Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn gweithio gyda Crimestoppers Cymru i lansio ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb a rhoi gwybod amdanyn nhw Crimestoppers.

Yn 2019 i 2020, roedd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi lansio Siarter Troseddau Casineb Cymorth i Ddioddefwyr. Mae’r Siarter yn rhoi sylw blaenllaw i hawliau dioddefwyr a chymunedau pan fydd troseddau a digwyddiadau casineb yn digwydd. Mae’n egluro’n fanwl hawliau dioddefwyr, ac ymrwymiadau sefydliadau sy’n rhan o’r gwaith o fynd i’r afael â throseddau casineb, yn darparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr, ac yn codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb ymysg asiantaethau a’r cymunedau mae’n gweithio gyda nhw.

Hyd yma, mae dros 30 o gyrff wedi ymrwymo i’r Siarter, gan gynnwys Awdurdodau Lleol ledled Cymru, Heddluoedd Cymru, Prifysgolion a cholegau ledled Cymru, mudiadau trydydd sector, Llywodraeth Cymru a llawer mwy.

Yn 2019 i 2020 a 2020i 2021 roedd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru wedi newid i ddarparu hyfforddiant ar-lein, ac wedi datblygu sesiynau y gellid eu cyflwyno mewn ffordd effeithiol a rhyngweithiol. Lansiodd gyfres o adnoddau newydd yn ystod haf 2020 i helpu i barhau i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb drwy gydol COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys Pecyn Cymorth Troseddau Casineb, Taflenni Ffeithiau ar gyfer pob nodwedd warchodedig, cyfres o fideos yn egluro sut i roi gwybod am droseddau, beth i’w ddisgwyl gan Cymorth i Ddioddefwyr, cyflwyniad i’r tîm a phosteri Troseddau Casineb Ar-lein.

Anabledd

Anabledd Cymru yw’r corff sy’n cynrychioli pobl anabl a’u sefydliadau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl anabl yn cael eu clywed.

Mae Anabledd Cymru wedi defnyddio cyllid y Rhaglen Cydraddoldeb a Chynhwysiant i gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru sy’n gysylltiedig â’n Fframwaith a’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Gweithredu ar Anabledd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2019.

Cafodd Anabledd Cymru hefyd £72,000 o gyllid o Gronfa Bontio’r Undeb Ewropeaidd i ddarparu rhaglen gymorth i gynyddu capasiti yn sgil gadael yr UE ar gyfer Sefydliadau Pobl Anabl a’u rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae Anabledd Cymru hefyd wedi ennill y contract i gyflwyno Cronfa Mynediad i Swydd Etholedig, sy’n brosiect peilot a fydd yn cynnig cymorth i ymgeiswyr anabl yn etholiadau’r Senedd ac mewn etholiadau Llywodraeth Leol.

Bu Anabledd Cymru hefyd yn rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol (gweler isod), gyda’r Prif Weithredwr yn cadeirio’r Grwp Llywio a oedd yn goruchwylio datblygiad y fframwaith newydd.

Gweithredu ar Anabledd: hawl i fyw’n annibynnol

Mae’r Fframwaith wedi cael ei ddatblygu ar y cyd drwy ymgysylltu â phobl anabl a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.

Mae Cynllun Gweithredu yn gysylltiedig â’r Fframwaith, ac mae’r cynllun hwnnw’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau â blaenoriaeth sydd ar waith ar draws Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhai o’r prif rwystrau a nodwyd gan bobl anabl, gan gynnwys trafnidiaeth, cyflogaeth, tai a mynediad i adeiladau a lleoedd.

Dywedodd pobl anabl wrthym fod gweithredu ar lefel leol yn hanfodol, felly mae’r Fframwaith wedi’i ddylunio i annog Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cyflogwyr a sefydliadau ar bob lefel i gymryd sylw o hynny ac i weithredu.

Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r egwyddorion, y cyd-destun cyfreithiol a’r ymrwymiadau sy’n sail i’n holl waith gyda phobl anabl ac ar eu cyfer. Mae’n egluro sut rydym yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae’r holl Fframwaith yn seiliedig ar y ‘Model Cymdeithasol o Anabledd’, sy’n cydnabod bod angen gweddnewid cymdeithas, a chael gwared ar rwystrau er mwyn i bobl anabl allu cyfrannu’n llawn.

Isod ceir detholiad o weithgareddau a gynhaliwyd gan Anabledd Cymru a fu’n bosibl oherwydd y cyllid a ddarparwyd drwy Raglen Gyllido Cydraddoldeb a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru.

Roedd Anabledd Cymru wedi cynnal 12 digwyddiad i 371 o gyfranogwyr yn 2019 i 2020 ledled Cymru, gyda’r nod o sicrhau bod gan bobl anabl a’u sefydliadau yr wybodaeth a’r sgiliau i hyrwyddo hawliau anabledd a chydraddoldeb, ac i herio gwahaniaethu yn eu hardal leol.

Ar gyfartaledd, dywedodd dros 60% o’r cyfranogwyr fod eu gwybodaeth am hawliau pobl anabl wedi gwella yn sgil digwyddiadau Anabledd Cymru.

Yn 2020 i 2021 lansiodd Anabledd Cymru #LockdownLife  prosiect cyfryngau digidol a oedd yn cynnwys naw o bobl anabl yn defnyddio dyfeisiau tabled a ffonau clyfar i gofnodi eu meddyliau a’u bywyd bob dydd yn ystod y cyfyngiadau symud.

Roedd y rheini a oedd yn cymryd rhan yn cynrychioli’r gymuned amrywiol o bobl anabl ledled Cymru, ac yn rhannu rhai o’r heriau roedden nhw wedi’u hwynebu yn ogystal â’u hawgrymiadau ar gyfer ymdopi â’r cyfyngiadau symud.

Cafodd y fideos eu golygu’n broffesiynol a’u rhannu’n eang ar gyfryngau cymdeithasol a phrif ffrwd. Cafodd y fideos hyn eu gweld a’u gwylio filoedd o weithiau, gan helpu i roi llwyfan i leisio profiadau pobl anabl, yn enwedig pan oedd llawer yn gwarchod eu hunain ac yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu’n gyffredinol.

Roedd ‘Bring us our Rights: the Disabled People’s Manifesto’ yn darparu llwyfan arall i bobl anabl ddod ynghyd a thynnu sylw at y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu mewn cymdeithas bob dydd. Roedd dros 200 o bobl wedi cyfrannu drwy arolygon a grwpiau ffocws ar-lein.

LGBT+

Mae Stonewall Cymru wedi cael cyllid grant i weithredu fel y corff sy’n cynrychioli pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i sicrhau bod safbwyntiau pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yn cael eu clywed.

Mae’r cyllid yn cael ei ddarparu er mwyn galluogi Stonewall i wneud y canlynol:

  1. Cydweithio â Chymunedau LGBT
  2. Grymuso pobl a chynghreiriaid LGBT
  3. Cynyddu lleisiau LGBT
  4. Cryfhau gwasanaethau eiriolaeth, gwybodaeth a chynghori

Fel rhan o’r cyllid hwn, roedd Stonewall Cymru wedi creu swydd Swyddog Ymgysylltu Trawsryweddol i weithio mewn cymunedau traws ar lawr gwlad o amgylch Cymru, er mwyn clywed eu llais ac ymgyrchu ar eu rhan.

Mae Stonewall wedi bod yn gweithio i ymestyn allan i sefydliadau a grwpiau LGBT ledled Cymru i’w cefnogi yn ystod pandemig COVID-19, ac i ddeall yn well yr heriau maen nhw’n eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng. Mae Stonewall wedyn yn portreadu’r safbwyntiau a’r materion hyn wrth gydweithio â Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymateb i’r pandemig, gan sicrhau bod lleisiau LGBT yn cael eu clywed a’u cynnwys.

Ym mis Chwefror 2020 cynhaliwyd Cynhadledd Gweithle Stonewall Cymru, a oedd yn helpu sefydliadau ledled Cymru i greu gweithleoedd cynhwysol i bobl LGBT.

Roedd Stonewall hefyd wedi llwyddo i ddarparu nifer o raglenni hyfforddi ym mis Ionawr-Chwefror 2020 drwy ddefnyddio’r grant hwn, gan gynnwys dwy raglen addysg hyfforddi’r hyfforddwr sy’n rhoi’r sgiliau i athrawon fynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig a chreu amgylcheddau cynhwysol i bobl LGBT yn eu hysgol.

Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.065m i’r Rhaglen Hawliau Lloches am 3 blynedd, rhwng mis Ebrill 2017 a 21, er mwyn darparu gwasanaethau cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches. Cyflwynir y rhaglen gan gonsortiwm o asiantaethau trydydd sector, o dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y consortiwm hwn wedi galluogi Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gymryd camau i gefnogi’r amcanion canlynol: 

  • Cryfhau sgiliau a gallu ceiswyr lloches a ffoaduriaid, a chryfhau’r gefnogaeth sydd ar gael ar eu cyfer er mwyn iddyn nhw greu eu bywyd yng Nghymru, gan eu hannog i ddeall a chymryd rhan yn y gymuned ehangach
  • Helpu a galluogi’r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid i gael llais
  • Codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â mudo ymysg y cyhoedd.

Mae Gweithwyr Achosion y Rhaglen Hawliau Lloches wedi darparu 4381 o sesiynau gwaith achos i 961 o gleientiaid ar draws pedair ardal wasgaru Cymru ers mis Mawrth 2020. Dyma brif ffocws eu gwaith:

  • Atal digartrefedd ac amddifadedd
  • Cynnig cyngor a chymorth ynghylch caledi
  • Cyfeirio at wasanaethau statudol perthnasol ynghylch diogelu a llesiant
  • Cydweithio â’r Swyddfa Gartref, cynrychiolwyr cyfreithiol a rhanddeiliaid allweddol eraill
  • Rhoi cyngor a chefnogaeth i bobl sy’n byw yng Ngwersyll Penalun yn Sir Benfro.

Mae Asylum Justice wedi parhau i roi cymorth cyfreithiol i gannoedd o geiswyr lloches nad ydynt yn gallu cael gafael ar Gymorth Cyfreithiol o ffynonellau eraill. Mae hawliau apêl llawer o gleientiaid Asylum Justice wedi cael eu dihysbyddu, ac mae angen cymorth arnyn nhw i gyflwyno hawliadau newydd.

Ond mae Asylum Justice hefyd wedi bod yn eithr eithriadol o brysur gydag apeliadau, aduniadau teuluol a chodi’r cyfyngiadau ‘dim mynediad at arian cyhoeddus’.

Mae gwaith Asylum Justice yn amhrisiadwy, gan mai dyna’n aml yw’r gobaith olaf am gefnogaeth gyfreithiol i lawer o geiswyr lloches agored i niwed yng Nghymru.

Ers i’r Fforymau Eiriolaeth fynd ar-lein ym mis Mai 2020, mae dros 170 o bobl wedi’u mynychu. Mae’r pynciau a drafodwyd â chynrychiolwyr perthnasol wedi cynnwys addysg, gofal iechyd, brechlynnau, y Swyddfa Gartref, llety a phandemig COVID-19.

Mae’r Rhaglen Hawliau Lloches a Chyngor Ffoaduriaid Cymru yn dal yn aelodau 

ffigurol o Glymblaid Ffoaduriaid Cymru.

Mae’r Glymblaid yn ffordd o gyflwyno ‘Cynllun Cenedl Noddfa’ Llywodraeth Cymru ymysg holl aelodau’r Glymblaid.

Nid yw polisi mudo wedi’i ddatganoli, felly Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am atebion i rai materion pwysig. Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref ac adrannau eraill yn Llywodraeth y DU, yn ogystal â rhanddeiliaid yng Nghymru, i wella amodau yng Nghymru. 

Pennod 6: Effaith COVID-19 a’r Ymateb iddo

O ddechrau 2020 ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i bandemig COVID-19.

Mae’r feirws wedi effeithio ar fywyd pob un ohonom, mewn sawl ffordd. Ond, mae wedi cael effaith anghymesur ar rai grwpiau yn benodol, gan gynnwys pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a’r bobl dlotaf yng Nghymru. Roedd y risg o ehangu’r anghydraddoldeb yn real iawn, ac mae’n dal i fod yn real iawn.

Wrth i’r pandemig ddatblygu ac wrth i’r cyfyngiadau symud ddod i rym yng Nghymru, cynhaliwyd cyfarfodydd amlach gyda’n Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, Fforwm Hil Cymru, Tasglu Ceiswyr Lloches, a’r Fforwm Cymunedau Ffydd. Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip oedd yn gyfrifol am gadeirio’r rhan fwyaf o’r cyfarfodydd hyn, gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion eraill, gan gynnwys y Prif Swyddog a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yn mynychu rhai cyfarfodydd.

Mae’r bennod hon yn rhoi blas ar y prif gamau a gymerodd Llywodraeth Cymru, mewn perthynas â chydraddoldeb, i liniaru effaith COVID-19 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.

Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl

Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y gefnogaeth a’r arweiniad y mae sefydliadau pobl anabl cenedlaethol Cymru yn eu rhoi i Lywodraeth Cymru ac i gymunedau ledled Cymru. Roeddem mewn cysylltiad rheolaidd â nifer o’r sefydliadau hyn gyda dulliau ar waith i gasglu gwybodaeth a materion a oedd yn dod i’r amlwg.

Drwy gydol y pandemig, mae’r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl wedi rhoi cyfle i randdeiliaid gynghori Llywodraeth Cymru ar y prif faterion sy’n effeithio ar bobl anabl yng Nghymru. Gofynnodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip i aelodau’r fforwm gynhyrchu adroddiad ar effaith COVID-19 ar bobl anabl yng Nghymru, yn sgil pryderon am effaith anghymesur y pandemig ar bobl anabl.

Mae’r adroddiad drafft yn ganlyniad sawl mis o gasglu tystiolaeth, didoli, dadansoddi, ysgrifennu a thrafod. Ysgrifennwyd yr adroddiad gan yr Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd a chafodd ei gyd-gynhyrchu â’r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, a Grwp Llywio bychan. Cyflwynwyd yr adroddiad drafft i’r Fforwm i’w drafod ar 27 Ionawr 2021, cyn ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2021.

Cyfathrebu Hygyrch

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod holl ddinasyddion Cymru yn cael gwybod sut mae dilyn rheolau a chadw’n ddiogel yn ystod y pandemig hwn dyna pam rydym wedi sicrhau bod dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain yn ein cynadleddau newyddion ar COVID-19. Mae cynnyrch allweddol, fel y llythyrau gwarchod gan y Prif Swyddog Meddygol ar gael ar gais mewn print bras a braille, ochr yn ochr â fformatau hygyrch eraill.

Rydym wedi sefydlu Grwp Cyfathrebu Hygyrch i drafod a goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael gafael ar wybodaeth yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r Grwp hwn yn cynnwys amrywiaeth eang o fudiadau, sydd wedi tystio i’r anawsterau a oedd yn wynebu pobl fyddar neu drwm eu clyw, pobl ddall neu sydd â nam ar eu golwg, pobl sydd ag anawsterau dysgu neu sydd â phrofiad awtistig, wrth geisio cael gafael ar wybodaeth glir a chryno yn ystod pandemig y coronafeirws.

Mae’r Grwp hefyd yn cynnwys mudiadau sy’n cynrychioli ffoaduriaid, plant a chymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Roma.

Er bod cael dehonglydd yn fyw mewn darllediadau cyhoeddus yn fan cychwyn da, rydym yn cydnabod bod angen gwneud llawer mwy. Mae darparu rhagor o wybodaeth mewn Cymraeg a Saesneg clir, cynhyrchu cynnwys mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ac mewn fformat ‘Hawdd ei Wylio’, a gwneud defnydd gwell o fideos a chodau QR, i gyd yn awgrymiadau sy’n cael eu hystyried ac sy’n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym wedi gwneud ymdrech i wella hygyrchedd ein gwybodaeth am COVID-19. Gallwch weld hyn, er enghraifft, yn y gyfres o ddeunyddiau hygyrch sydd ar gael ar gyfer adnoddau fel ein hymgyrch Profi, Olrhain, Diogelu.

Cyflogaeth

Gwnaeth Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Sgiliau, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ymrwymiad cyflogadwyedd COVID-19, gan ysgogi’r newidiadau sylweddol angenrheidiol i chwalu’r rhwystrau sy’n wynebu’r rhai mwyaf difreintiedig sy’n chwilio am waith. Bydd hyn yn sicrhau y bydd pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed, pobl anabl, pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, menywod a’r rheini y mae pandemig COVID-19 wedi effeithio arnynt fwyaf, yn cael blaenoriaeth i gael cymorth cyflogadwyedd a sgiliau. 

Rydym yn cydnabod bod gan gyflogwyr ran hollbwysig yn hyn, a bydd ein negeseuon i gyflogwyr ynghylch pwysigrwydd recriwtio a chadw gweithwyr anabl mewn ffordd gynhwysol yn ganolog i’n gwaith wrth symud ymlaen.

Dyna pam ein bod wedi datblygu pecyn cynhwysfawr o gymorth i gyflogwyr sy’n cynnwys pecyn cymorth ar-lein, a lansiwyd ar 3 Rhagfyr 2020 i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl. Rydym hefyd wedi sefydlu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl.

Fel rhan o ymrwymiad cyflogadwyedd COVID-19, rydym wedi cynyddu nifer yr Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl rydym yn eu recriwtio o dri i chwech. Bydd hyn yn caniatáu mwy o gydweithio ag arweinwyr busnes, gweithwyr proffesiynol ym maes Adnoddau Dynol a chyrff sy’n cynrychioli cyflogwyr ledled Cymru.

Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi cyngor a chyfarwyddyd ymarferol i gyflogwyr drwy gyfeirio at gymorth ac adnoddau.

Ar ben hynny, bydd rôl yr Hyrwyddwyr yn ysbrydoledig. Y nod fydd cael gwared ar unrhyw gamsyniadau ynghylch cyflogi pobl anabl a rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar gyflogwyr yng Nghymru i chwalu rhwystrau drwy ddefnyddio’r model cymdeithasol o anabledd yn eu gweithle eu hunain.

Gwasanaethau Cynghori

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Gynghori Sengl i helpu i fodloni’r galw cynyddol am fynediad at wasanaethau cynghori. Mae hefyd yn ffordd o sicrhau ei bod yn rhoi cyllid grant i wasanaethau cynghori sydd wedi’u cynllunio’n strategol ac sy’n gost effeithiol, sy’n darparu mynediad di-dor at yr holl gyngor a chymorth arall sydd ei angen ar unigolyn er mwyn mynd i’r afael â’i broblemau lles cymdeithasol mewn ffordd gynaliadwy. 

Mae dros £10m o gyllid grant wedi bod ar gael, drwy’r Gronfa Gynghori Sengl, i ddarparu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae’r cyllid sydd ar gael wedi’i ddyrannu rhwng chwe gwasanaeth rhanbarthol a gwasanaeth cynghori cenedlaethol o bell.

Ar ddechrau’r cyfnod aros gartref, trosglwyddodd darparwyr y Gronfa Gynghori Sengl eu gwasanaethau cynghori wyneb yn wyneb i ddarparu gwasanaethau o bell, hynny yw, dros y ffôn, e-bost, sgwrsio ar y we. Roedd trosglwyddo eu gwasanaethau yn dasg anferthol i’r darparwyr, ond drwy wneud hynny, fe wnaethant lwyddo i sicrhau bod pobl yn dal i allu cael y cyngor roedd arnynt ei angen.

Mae model darparu gwasanaeth y Gronfa Gynghori Sengl yn cynnwys Partneriaid Cynghori a Mynediad. Mae Partneriaid Mynediad yn ystod eang o fudiadau cenedlaethol a lleol a oedd yn estyn allan i ddefnyddwyr eu gwasanaethau a grwpiau cymunedol lleol i sicrhau bod pobl yn deall sut maent yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau o bell i gael y cyngor sydd ei angen arnynt.

Mae gwasanaethau’r Gronfa Gynghori Sengl yn dal i gyrraedd grwpiau targed allweddol. Roedd 82% o bobl a oedd yn cael cyngor yn ystod y cyfnod aros gartref yn dweud bod ganddynt nodwedd warchodedig. Mae hyn yn debyg i’r lefel o 83% cyn yr argyfwng.

Fodd bynnag, i rai pobl, nid yw gwasanaethau o bell yn ddull addas o gael gafael ar gyngor. Er enghraifft, oherwydd mynediad at gysylltedd digidol fforddiadwy y gellir ei ddefnyddio, neu am resymau cyfathrebu neu iechyd. Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor ar Bopeth Cymru a’u partneriaid yn y Gronfa Gynghori Sengl i sicrhau bod pobl sydd wedi cael trafferth cael gafael ar wasanaethau o bell yn gallu cael y cyngor sydd ei angen arnynt yn ddiogel wrth i’r cyfyngiadau lacio.

Hil

Ym mis Mawrth 2020, gofynnodd y Prif Weinidog i waith brys gael ei wneud i ymchwilio i effaith niweidiol anghymesur COVID-19 ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ers COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth agos â chymunedau ledled Cymru, i gasglu’r dystiolaeth a’r data i ddeall y ffactorau cyfrannol a’r atebion posibl.

Sefydlwyd Grwp Cynghori Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar Effeithiau COVID-19 ar Iechyd yng Nghymru, o dan gadeiryddiaeth y Barnwr Ray Singh CBE, i oruchwylio’r ymchwiliad i’r mater hwn. Sefydlwyd dau is-grwˆ p i ganolbwyntio ar:

  • y materion sy’n ymwneud ag asesu risg y gweithlu ac unrhyw fesurau diogelu ychwanegol a allai fod yn briodol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Keshav Singhal
  • y ffactorau economaidd-gymdeithasol ehangach a allai ddylanwadu ar ganlyniadau COVID-19 gwaeth mewn grwpiau o bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a chamau unioni posibl, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Emmanuel Ogbonna
  • is-grwp Gweithredu Gofal Cymdeithasol (SCIG) i sicrhau bod anghenion y sector gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol a’r rhai sy’n gweithio ar draws y gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu cynnwys yn y datblygiadau, er mwyn gwarchod staff iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig, a bod agwedd y sector gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried wrth ddatblygu camau gweithredu yng nghyswllt COVID.

Elfen allweddol o’r gwaith oedd cefnogi’r broses o roi’r Adnodd Asesu Risg Cymru Gyfan (AWRAT) ar waith yn y maes gofal cymdeithasol. Roedd ei allbynnau’n cynnwys:

  • Roedd wedi adolygu data perthnasol am y gweithlu roedd 64,000 o weithwyr ac roedd 4.3% o’r rhain yn bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac yn cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr (llawer o fusnesau bach a chanolig); roedd wedi ystyried sut byddai’r gweithlu hwn yn ymgysylltu ag adnodd asesu risg Cymru gyfan (AWRAT);
  • Roedd wedi dadansoddi a dod i gasgliadau am effaith COVID ar weithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ethnig a gweithwyr gofal cymdeithasol, lle roedd yn wahanol i weithwyr eraill
  • Roedd wedi adeiladu sylfaen o ddealltwriaeth ymarfer yn y sector gwasanaethau cymdeithasol a gofal gan annog adborth am ymateb y sector cyn i’r Adnodd Asesu fod ar gael. (e.e. Abertawe a’r dull ymarfer da)
  • Roedd wedi rhoi adborth am weithredu ar gyfer adroddiad gwerthuso.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ymateb i adroddiad Is-grwp Economaidd-gymdeithasol yr Athro Ogbonna ym mis Medi 2020.

Fel mae’r adroddiad yn ei amlinellu, mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda i roi sylw i’r argymhellion a bydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru yn gyfrwng hollbwysig ar gyfer rhai o’r argymhellion tymor canolig a thymor hwy a wneir yn yr adroddiad.

Mae cyflymder ac effaith gwaith yr Is-grwp Economaidd-gymdeithasol ar COVID-19 wedi bod yn eithriadol. Mae’r grwp yn dal i fod ar waith i gyfrannu at y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, gan sicrhau bod anghenion a phrofiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu clywed.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Is-grwp Economaidd-gymdeithasol wedi mynegi pryderon ynghylch profiad cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn perthynas â’r system Profi, Olrhain, Diogelu, y cynllun ffyrlo a Chyfrifiad 2021.

C-MEAG

Cafodd Grwp Cynghori ar Faterion Moesol a Moesegol COVID-19 (C-MEAG) ar gyfer Cymru ei sefydlu’n gyflym ar ddechrau’r pandemig. Mae’n cydlynu sawl ffynhonnell arweiniad i sicrhau eu bod yn bodloni safonau moesegol ac yn adlewyrchu hawliau ac anghenion pob cymuned ar hyd a lled Cymru. Mae’r grwˆ p yn adrodd i’r Prif Swyddog Meddygol a’r Gweinidogion sy’n ei noddi.

Nod strwythur y C-MEAG yw sicrhau bod y risg o wahaniaethu annheg yn erbyn unrhyw ran o’r gymuned yn cael ei lleihau neu ei dileu drwy sicrhau bod swyddogion yn cael y mewnbwn iawn gan arbenigwyr perthnasol, gan gynnwys y cymunedau hynny y mae COVID-19 yn fwy tebygol o gael effaith niweidiol arnynt, a’r ymateb i’r argyfwng.

Sefydlwyd grwp Angladdau, Claddu ac Amlosgi o dan y C-MEAG, er mwyn dwyn ynghyd yr amrywiaeth eang o safbwyntiau moesegol, crefyddol a diwylliannol i gael mynediad at ofynion penodol sy’n ymwneud â defodau marwolaeth. Mae cwmpas y grwp hwn wedi esblygu ac erbyn hyn mae’n Grwp Seremonïau, sy’n annibynnol ar y C-MEAG (ond sy’n dal i roi gwybodaeth i’r grwp hwnnw ac i grwpiau eraill). Mae’r grwp hwn wedi bod yn hollbwysig o ran datblygu’r gwaith sy’n ymwneud ag ailagor mannau addoli Materion sy’n ymwneud â phriodasau ac angladdau.

Cydlyniant cymunedol

Rydym wedi buddsoddi £1.52m o gyllid ychwanegol yn y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2021 i gynyddu capasiti’r timau cydlyniant rhanbarthol ledled Cymru.

Rydym wedi ymestyn y cyllid hwn am dri mis arall hyd at fis Mehefin 2021.

Mae’r rhaglen estynedig yn cefnogi gwaith parhaus sy’n ymwneud â throseddau casineb, gan alluogi mwy o ymgysylltu â chymunedau lleol a mwy o gapasiti i gyflawni gwaith i feithrin cysylltiadau da a chefnogi’r rheini y mae rhagfarn yn effeithio arnynt.

Yn ystod pandemig COVID-19, mae ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol wedi chwarae rhan ganolog yn ein gwaith atal, gan weithio gyda phartneriaid allweddol fel yr Heddlu, i fonitro a lliniaru tensiynau cymunedol ledled Cymru.

Ffydd ac Cred

Mae crefydd a chred yn ffactorau pwysig wrth hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac mae hyn wedi bod yn arbennig o wir yn ystod y pandemig. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau ffydd i barhau i feithrin a hyrwyddo gwerthoedd a dealltwriaeth ar y cyd ar draws cymunedau ledled Cymru. 

Mae arweinwyr ffydd yn cwrdd â’r Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip drwy’r Fforwm Cymunedau Ffydd a oedd, fel ein fforymau cydraddoldeb eraill, yn cyfarfod yn amlach yn ystod 2020. Mae arweinwyr ffydd ledled Cymru wedi cymryd camau rhagweithiol i sicrhau bod pawb ar draws y cymunedau ffydd yn glynu wrth gyngor y Llywodraeth ac Iechyd y Cyhoedd. Maent wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar sut i lacio’r cyfyngiadau mewn ffordd ddiogel. Mae hyn yn brawf o gryfder y Fforwm Cymunedau Ffydd a’r Cyngor Rhyng-ffydd yng Nghymru.

Hefyd, mae grwp Llywodraeth Cymru wedi cael ei gynnull i helpu i ddatblygu canllawiau ar gladdu, defodau marwolaeth ac angladdau. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o arweinwyr ffydd, cynrychiolwyr cymunedol (gan gynnwys cynrychiolwyr o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr) a swyddogion Llywodraeth Cymru. Roedd y grwp yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, i ystyried y canllawiau, sut roeddent yn berthnasol i grwpiau ffydd ac i fynd i’r afael â materion parhaus a materion a oedd yn dod i’r amlwg.

Daeth y grwp hwn i ben yn swyddogol a sefydlwyd grwp newydd gydag aelodaeth debyg ym mis Awst 2020. Mae’r grwp hwn yn parhau i roi cyngor ar gladdu ac angladdau, ond mae bellach yn ystyried seremonïau eraill hefyd, fel priodasau.

Mae cynrychiolwyr y Fforwm Cymunedau Ffydd wedi sefydlu grwp Gorchwyl a Gorffen i’n helpu i ddatblygu canllawiau ar ailagor mannau addoli yn raddol. Mae’r grwp wedi cyfarfod yn rheolaidd ers 1 Mehefin 2020.

Rhywedd

Cyhoeddwyd adroddiadau’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol gan Chwarae Teg ym mis Medi 2019, ynghyd ag adroddiadau cyfrannol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Dr Alison Parken. Mae’r adroddiadau hyn yn nodi argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y tymor byr, canolig a hir. O ganlyniad, fe wnaethom gyhoeddi cam cyntaf ein cynllun gweithredu, ‘Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru’ ym mis Mawrth 2020.

Yn gynnar yn y pandemig, aeth Chwarae Teg a Dr Alison Parken ati i adolygu Map yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol yng nghyd-destun COVID-19, er mwyn tynnu sylw at yr effeithiau. Hefyd, gyda chefnogaeth swyddogion polisi Llywodraeth Cymru, roeddent yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am yr effeithiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgarwch ehangach, mwy uniongyrchol ar gynllun yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol wedi cael ei ohirio oherwydd yr angen i ymateb i bandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae effeithiau ar gydraddoldeb gan gynnwys y rheini ar fenywod wedi bod yn rhan o’r broses o ymateb i COVID-19 ac o wneud penderfyniadau am yr adferiad.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i’r Cynllun Cydraddoldeb Rhywiol a bydd yn adolygu’r cynllun yn gynnar eleni. Bydd hyn yn amser da i adlewyrchu unrhyw newidiadau mewn gweithgarwch sy’n deillio o effeithiau anghymesur y pandemig.

Sipsiwn, Roma a Theithwyr

Gwyddys bod Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn profi anghydraddoldebau iechyd difrifol.

Mae ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn adrodd disgwyliad oes tua deg mlynedd yn llai na’r cyfartaledd cenedlaethol, er enghraifft. Gwyddys bod nifer yr achosion o anhwylderau resbiradol a chardiofasgwlaidd a allai ddylanwadu ar risg COVID-19 yn uwch ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr.

Mae’r lleoliadau yn y rhan fwyaf o safleoedd yn ei gwneud yn anodd iawn hunanynysu ac mae’n cynyddu’r risg o drosglwyddo’r haint. Mae mynediad at wasanaethau sylfaenol gan gynnwys cyflenwadau a mynediad i’r rhyngrwyd yn wael mewn llawer o safleoedd.

Ar ddechrau argyfwng COVID-19 ym mis Mawrth, sefydlodd Llywodraeth Cymru gyfarfodydd rheolaidd â grwp rhanddeiliaid arbenigol i roi cyngor ac argymhellion i ni. Mae’r grwp hwn yn cynnwys mudiadau’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau. Mae’r grwp wedi cysylltu â swyddogion iechyd y cyhoedd, addysg, trafnidiaeth ac eraill drwy gydol y pandemig. Hefyd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cynnull nifer o gyfarfodydd gyda chydweithwyr yn Lloegr a’r Alban er mwyn rhannu arferion gorau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru i bob Awdurdod Lleol ledled Cymru, er mwyn darparu gwybodaeth am ddulliau ymarferol o gefnogi’r rheini sy’n byw ar safleoedd ac ar ochr y ffordd.

Yn ogystal â hwyluso’r grwp i ymgysylltu â swyddogion iechyd yn Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn cyfrannu at ddatblygu systemau Profi, Olrhain, Diogelu ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyd-gynhyrchu rhifyn Cymraeg cyntaf y Travellers Times.

Roedd y rhifyn hwn yn darparu negeseuon iechyd i’r gymuned ac yn cynnwys rhai o brofiadau Sipsiwn a Theithwyr a oedd yn byw yng Nghymru yn ystod y pandemig.

LGBTQ+

Hyd yn oed cyn pandemig byd-eang, roeddem yn gwybod bod cymunedau LGBT+ yn fwy tebygol o brofi anghydraddoldebau ar draws amrywiaeth o feysydd canlyniadau.

Mae’r anfantais hon yn cael ei dwysáu ymhellach hefyd pan fydd yr anghenion penodol a’r elfennau agored i niwed sy’n gysylltiedig â bod yn unigolyn LGBT+ yn cyd-fynd â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys oedran, hil, rhyw, rhywedd, crefydd ac anabledd5.

O ganlyniad i COVID-19, mae tystiolaeth ddomestig a rhyngwladol sy’n dod i’r amlwg hefyd yn awgrymu bod pobl LGBT+ wedi wynebu rhwystrau ychwanegol o ran methu â chael gafael ar wasanaethau gofal iechyd o ganlyniad i’r pandemig. Maent hefyd mewn mwy o berygl o wynebu trais, camdriniaeth, digartrefedd, llai o gyfleoedd gwaith, ynysigrwydd cymdeithasol ac unigrwydd.

Mae hyn yn golygu bod pryderon eang a chynyddol ynghylch hawliau dynol pobl LGBT+ yng Nghymru ac ar draws y byd.

Mae Stonewall Cymru wedi gweithio o bell gyda’u cleientiaid ac wedi darparu gwasanaeth mor llawn â phosibl.

Mae’n cyfrannu at waith ehangach ar yr effeithiau ar gydraddoldeb drwy gyflwyno crynodeb o dystiolaeth ac adrodd yn ôl mewn perthynas ag effeithiau.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn egwyddorion hawliau dynol wrth ymateb i’r pandemig. Dyna pam mae ein fframwaith ar gyfer adferiad wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau ffyniant, iechyd a llesiant yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, uniondeb a chyfiawnder cymdeithasol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’n hadferiad hefyd edrych i’r tymor hwy a rhoi sylw arbennig i anghenion penodol ac elfennau agored i niwed ein grwpiau mwyaf difreintiedig, gan gynnwys cymunedau LGBT+.

Mudo

Mae ein Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo a Phrosiect Hawliau Dinasyddion yr UE yn cefnogi Dinasyddion yr UE yng Nghymru a allai fod yn poeni am eu statws yn y DU neu’n wynebu rhwystrau i gyfle cyfartal.

Mae’r tarfu yn sgil COVID-19 wedi cael effaith ar ddarparu’r gwasanaeth hwn, yn enwedig gwasanaethau cynghori sydd ond yn gallu darparu nifer cyfyngedig o apwyntiadau wyneb yn wyneb ar hyn o bryd.

Mae’r gwasanaeth wedi gweithredu dros y ffôn a dros weminarau, ond nid yw’r dull hwn wedi bod mor effeithiol â’r disgwyl.

Fodd bynnag, mae cynnydd da wedi bod drwy weminarau sy’n cael eu cynnal mewn ieithoedd o wledydd Dinasyddion yr UE.

Mae ymgyrch hyrwyddo ddigidol, wedi’i thargedu, yn cael ei chynnal i annog rhagor o ymgysylltu a rhagor o geisiadau ar gyfer y cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Dechreuodd yr ymgyrch ym mis Rhagfyr 2020 a bydd yn para am 20 wythnos, mewn 31 o ieithoedd Ewropeaidd i ddechrau.

Mae gwasanaethau cynghori a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth Cymru a Settled nawr yn weithredol tan ddiwedd mis Mawrth 2021. Bydd y rhain yn helpu cleientiaid sydd wedi bod yn aros i ddogfennau gael eu diweddaru neu eu hadnewyddu gan lysgenadaethau ac is-genadaethau er mwyn cefnogi ceisiadau am Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion y DU.

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb

Mae ymdrech aruthrol wedi cael ei gwneud ar draws y Llywodraeth ac ar y cyd â rhanddeiliaid i ddeall yr effeithiau sy’n deillio o COVID-19 a’r mesurau mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eu rhoi ar waith i ymateb i hynny.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddull gweithredu ar gyfer llacio’r cyfyngiadau symud yn Arwain Cymru allan o’r pandemig coronafeirws: fframwaith ar gyfer adferiad ar 24 Ebrill a Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod ar 15 Mai.

Mae’r dogfennau hyn yn ymgorffori ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd penderfyniadau i lacio’r cyfyngiadau symud yn ceisio sicrhau ‘effaith gadarnhaol iawn ar gydraddoldeb’.

Rydym wedi cyhoeddi asesiadau o effaith y mesurau i reoli COVID-19 ar gyfer yr adolygiadau 21 diwrnod. 

Bydd rhagor o asesiadau effaith yn ymwneud â deddfwriaeth a chanllawiau’r coronafeirws yn cael eu cyhoeddi maes o law. 

Atodiad 1: Ein dyletswyddau cyfreithiol

Deddf Cydraddoldeb 2010: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (Deddf 2010) yn disodli deddfau gwrth-wahaniaethu blaenorol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban, gan eu cyfuno mewn un Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu oherwydd:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas a phartneriaeth sifil
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • chyfeiriadedd rhywiol.

Gelwir y categorïau hyn yn ‘nodweddion gwarchodedig’.

Mae Deddf 2010 hefyd wedi cyflwyno Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), sydd â thri nod cyffredinol. Rhaid i’r rhai sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd roi sylw dyledus i’r angen i wneud y canlynol:

  • dileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth ac ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf
  • hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
  • meithrin perthynas dda rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai nad ydynt yn ei rhannu.

Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy’n ddarostyngedig iddi yn ystyried hyrwyddo cydraddoldeb yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd. I Lywodraeth Cymru, mae hyn yn cynnwys siapio polisïau, gwasanaethau darparu ac mewn perthynas â’n gweithwyr.

Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 (y rheoliadau)

Yng Nghymru, mae’r cyrff cyhoeddus sydd wedi’u rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 19 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn ddarostyngedig hefyd i ddyletswyddau penodol a geir yn y Rheoliadau. Gelwir y Rheoliadau hyn hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru.

Mae ‘awdurdodau rhestredig’ yn cyfeirio at gyrff cyhoeddus a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 19. Lle rydym wedi cyfeirio at ‘sector cyhoeddus Cymru’ neu debyg, rydym yn cyfeirio at y cyrff hynny a restrir yn yr atodlen yn unig ac yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cydraddoldeb penodol Cymru.

Nod y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yw galluogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i gael ei chyflawni’n well. Maent yn gwneud hynny drwy fynnu, er enghraifft, fod amcanion cydraddoldeb yn cael eu cyhoeddi ynghyd ag asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb, gofynion ymgysylltu, adroddiadau cynnydd, casglu data a mwy. Rhaid i’r amcanion cydraddoldeb, yn eu hanfod, geisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â’r naw nodwedd warchodedig a nodir yn Neddf 2010.

Rheoliad 16: Adroddiadau blynyddol

Mae Pennod 1 yn yr adroddiad hwn yn cydymffurfio’n rhannol â rheoliad 16 o’r Rheoliadau sy’n darparu ar gyfer y dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad bob blwyddyn yn nodi sut maent yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol.

Mae Pennod 1 yn cynnwys nifer o ddatganiadau cynnydd sy’n amlinellu sut rydym yn cydymffurfio â’r dyletswyddau penodol, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag ymgysylltu, tystiolaeth ynghylch cydraddoldeb ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.

Mae Rheoliad 16 hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau rhestredig ddarparu datganiad blynyddol o effeithiolrwydd y camau rydym wedi’u cymryd i gyflawni ein Hamcanion Cydraddoldeb. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar wahân yn ymdrin â’r wybodaeth hon erbyn y dyddiad cau statudol ar gyfer ei gyflwyno, sef 31 Mawrth 2019.

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

Mae’r ddyletswydd yn adran 77 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau priodol er mwyn helpu i sicrhau bod eu swyddogaethau’n cael eu cyflawni gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r ddyletswydd hon yn pwysleisio ymhellach y pwysigrwydd y mae Gweinidogion yn ei roi ar brif ffrydio cydraddoldeb yn eu gwaith a sicrhau y rhoddir sylw dyledus i hynny wrth wneud eu penderfyniadau. Mae’r ddyletswydd o dan Ddeddf 2006 yn sicrhau ein bod yn rhoi pwys ar hyrwyddo cydraddoldeb, yn ogystal â chyflawni ein cyfrifoldebau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae Pennod 1 yr adroddiad hwn yn cynnwys enghreifftiau ac astudiaethau achos sy’n amlinellu sut rydym wedi arfer ein swyddogaethau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor o sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Atodiad 2: Amcanion Cydraddoldeb Strategol 2016 i 2024

Mae ein Hamcanion Cydraddoldeb yn cryfhau ein hymdrechion i fodloni tri gofyniad y ddyletswydd gyffredinol ac yn ein helpu i weithio tuag at Gymru sy’n fwy cyfartal.

Maent yn amlinellu ein hymrwymiad i ddileu’r rhwystrau sy’n cyfyngu ar gyfleoedd ac sy’n llesteirio dyheadau. Maent yn ceisio mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor, sydd wedi’u sefydlu’n ddwfn, ac sy’n aml yn pontio’r cenedlaethau ar gyfer y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Fe wnaethom gyhoeddi ein wyth Amcan Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2016 ar ôl ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid ledled Cymru. Fe wnaethom ailedrych ar yr amcanion hyn yn 2019 ac ymgynghori ar y cynllun olynol ar gyfer y pedair blynedd nesaf, gan weithredu i brif ffrydio cydraddoldeb hyd at 2024. Mae’r amcanion ar gyfer cynlluniau 2016 i 2020 a 2020 i 2024 i’w gweld isod.

Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2016 i 2020

Amcan Cydraddoldeb 1 Llywodraeth Cymru

Rhoi anghenion, hawliau a chyfraniadau pobl sydd â nodweddion gwarchodedig wrth galon cynllunio a darparu’r holl wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl, addysg, tai, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth. Yn benodol, sicrhau cymorth a mynd i’r afael â rhwystrau i alluogi pobl anabl i fwynhau eu hawl i fyw’n annibynnol a bod â llais, dewis a rheolaeth yn eu bywydau.

Amcan Cydraddoldeb 2 Llywodraeth Cymru

Sicrhau darpariaeth ddigonol o ran gwasanaethau cyngor, gwybodaeth ac eirioli hygyrch, o ansawdd uchel i alluogi pobl â nodweddion gwarchodedig i ddeall ac arfer eu hawliau a gwneud dewisiadau gwybodus.

Amcan Cydraddoldeb 3 Llywodraeth Cymru

Adnabod a lleihau ffactorau sy’n achosi anghydraddoldebau o ran cyflogaeth, sgiliau a chyflog sy’n gysylltiedig â rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd gan gynnwys cau’r bylchau cyrhaeddiad mewn addysg a lleihau nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

Amcan Cydraddoldeb 4 Llywodraeth Cymru

Lleihau nifer yr achosion o bob math o aflonyddu a cham-drin, gan gynnwys (ond nid yn unig) trais yn erbyn menywod, trosedd casineb, bwlio, cam-drin plant, cam-drin domestig, a cham-drin pobl hyˆn.

Amcan Cydraddoldeb 5 Llywodraeth Cymru

Cyflawni cronfa fwy amrywiol o benderfynwyr mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus drwy adnabod y rhwystrau i ymgysylltiad a chyfranogiad ar gyfer pobl o gefndiroedd amrywiol, a mynd i’r afael â’r rhwystrau hynny.

Amcan Cydraddoldeb 6 Llywodraeth Cymru

Cryfhau cydlyniant cymunedol drwy feithrin perthnasoedd da, cynhwysiant, parch a dealltwriaeth o fewn a rhwng cymunedau ledled Cymru. Amcanion Cydraddoldeb 2016-2020.

Amcan Cydraddoldeb 7 Llywodraeth Cymru

Lleihau tlodi, lliniaru effeithiau tlodi a gwella amodau byw ar gyfer y grwpiau hynny sydd fwyaf mewn perygl o fyw mewn aelwydydd ar incwm isel, yn enwedig pobl anabl, rhieni sengl, rhai grwpiau ethnig lleiafrifol penodol, a theuluoedd â phlant anabl.

Amcan Cydraddoldeb 8 Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru’n anelu at fod yn esiampl yn yr agenda Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant erbyn 2020.

Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2020 i 2024

Nod Hirdymor 1: Dileu anghydraddoldeb sy’n deillio o dlodi

Amcan Cydraddoldeb 1 Llywodraeth Cymru

Erbyn 2024, byddwn yn gwella canlyniadau ar gyfer y rheini sydd fwyaf mewn perygl o fyw ar aelwydydd incwm isel, yn enwedig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, drwy liniaru effaith tlodi, gwella cyfleoedd a lleihau’r anghydraddoldebau y mae’r rheini sy’n byw mewn tlodi yn eu hwynebu. [Mesurir drwy amrywiaeth o ddata, gan gynnwys data sy’n ymwneud â HBAI (Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog)].

Nod Hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru

Amcan Cydraddoldeb 2 Llywodraeth Cymru

Erbyn 2024, byddwn yn cwblhau ymchwiliadau i ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru sicrhau fframwaith cydraddoldeb a hawliau dynol integredig sy’n hyrwyddo canlyniadau a chyfle cyfartal ac sy’n gallu helpu i ddileu gwahaniaethu ar gyfer pob grwˆ p o bobl sydd ag un neu ragor o nodweddion gwarchodedig.

[Mesurir drwy waith y Grwˆp Llywio Hyrwyddo a Chryfhau Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.]

Nod Hirdymor 3: Bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Amcan Cydraddoldeb 3 Llywodraeth Cymru

Er mwyn gweithio tuag at feithrin cyfle cyfartal a chanlyniadau i bawb yng Nghymru, byddwn yn parhau i sicrhau bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru ym mhopeth a wnawn ac yn gweithio i annog sefydliadau eraill yn y Sector Cyhoeddus i ddilyn ein hesiampl. Drwy fabwysiadu dull gweithredu sy’n seiliedig ar ddileu rhwystrau sy’n atal pobl rhag cyflawni eu potensial (gan gynnwys, er enghraifft, cyflog cyfartal, neu ddilyn esiampl y Model Cymdeithasol o Anabledd), byddwn yn creu polisïau a gwasanaethau gwell i bawb.

[Mesurir drwy wella trefniadau adrodd ar Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a newidiadau i reoliadau penodol i Gymru.]

Amcan Cydraddoldeb 4 Llywodraeth Cymru

Byddwn yn dechrau cyflawni gweledigaeth ac egwyddorion yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol.

[Mesurir drwy ddatblygu’r Adroddiad a’r Map ar gyfer ymgorffori egwyddorion ffeministaidd ar draws Llywodraeth Cymru.]

Amcanion Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru 2020 i 2024

Nod Hirdymor 5: Dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth

Amcan Cydraddoldeb 5 Llywodraeth Cymru

Erbyn 2024, byddwn yn sicrhau bod dioddefwyr sy’n dioddef cam-drin, aflonyddu, trosedd casineb neu fwlio o ganlyniad i gael un neu ragor o nodweddion gwarchodedig yn cael mynediad at gyngor a chymorth i fyw heb ofn a heb gael eu cam-drin.

[Mesurir drwy fonitro adroddiadau ar droseddau casineb, gwasanaethau a ddarperir gan Gymorth i Ddioddefwyr, cwnselwyr mewn ysgolion, monitro adroddiadau ar fwlio, ymatebion yr Arolwg Cenedlaethol ynghylch ofn troseddau a erledigaeth.]

Erbyn 2024, byddwn yn datblygu fframwaith monitro i fesur cynnydd tuag at gydlyniant cymunedol ac yn meithrin cysylltiadau da rhwng pob grŵp, gan adeiladu ar ein polisïau a’n hymyriadau presennol.

[Mesurir gan fwy o fetrigau yn y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Dangosyddion Integreiddio’r Swyddfa Gartref].

Nod Hirdymor 7: Gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amcan Cydraddoldeb 7 Llywodraeth Cymru

Erbyn 2024, byddwn yn cynyddu amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus a phenodiadau cyhoeddus, gan edrych ar feysydd lle mae angen cymryd rhagor o gamau gweithredu i sicrhau cydbwysedd gwell o amrywiaeth ymysg y rheini sy’n gwneud penderfyniadau a chanfod ac ymchwilio i ddulliau i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.

[Mesurir drwy’r % o unigolion o grwpiau gwarchodedig sy’n cael swyddi gwneud penderfyniadau mewn rolau cyhoeddus a gwleidyddol.]

Nod Hirdymor 8: Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl

Amcan Cydraddoldeb 8 Llywodraeth Cymru

Erbyn 2024, bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl, gan gynyddu amrywiaeth, chwalu rhwystrau a chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, a sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

[Mesurir drwy ddata amrywiaeth ym maes cyflogaeth a recriwtio a’r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol.]

Atodiad 3: Crynodeb o’r cynnydd tuag at Amcanion Cydraddoldeb

Yn yr Atodiad hwn, cewch ragor o wybodaeth am ddetholiad o weithgareddau sy’n helpu i gyflawni pob un o’r Nodau a’r Amcanion sydd wedi’u nodi yn ein Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2016 i 2020 a 2020 i 2024, yn ogystal â’r rheini y tynnir sylw atynt ym Mhennod 3 y prif adroddiad. Pennwyd nifer o gamau gweithredu ar gyfer pob un o’r amcanion; dim ond ciplun o’r gweithgarwch a geir yn yr enghreifftiau isod ac nid ydynt yn adlewyrchu’r ystod lawn o gamau a gymerwyd yn ystod y cyfnod hwn.

Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Strategol 2016 i 2020

Amcan 1: Cynllunio a darparu gwasanaethau

Hawliau Pobl Hŷn

Fe wnaethom lansio ein hymgyrch ar hawliau gofalwyr a phobl hŷn ar 21 Tachwedd 2019, gyda chymorth mudiadau pobl hŷn cenedlaethol, i godi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn. Cwblhawyd elfen hysbysebu ategol yr ymgyrch cyn i’r cyfyngiadau symud ddod i rym yn y DU.

Rydym wedi nodi ein Strategaeth newydd ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio sydd wedi’i gwreiddio yn yr egwyddor o gyd-gynhyrchu ac sy’n rhoi pobl hŷn yn flaenllaw yn y gwaith o lunio polisïau Llywodraeth Cymru.

Yng ngoleuni’r pandemig, rydym yn ailedrych ar ddatblygiad y strategaeth i sicrhau bod sut mae gwasanaethau wedi newid yn cael ei ystyried, a sut wasanaethau ydynt i bobl hŷn wrth symud ymlaen.

Buom hefyd yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i lunio canllawiau ymarferol ar y cyd ar sut gall Awdurdodau Lleol roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl hŷn ac fe wnaethom gomisiynu Prifysgol Abertawe i ddiweddaru’r Canllawiau ar Bryderon Cynyddol ynghylch Cau Cartrefi Gofal.

Amcan 2: Cyngor ac eiriolaeth

Mynediad at Wasanaethau Cynghori Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor am Les Cymdeithasol (IAAP) ym mis Rhagfyr 2016.

Nod y cynllun yw datblygu’n strategol y ddarpariaeth o wasanaethau gwybodaeth a chyngor ar les cymdeithasol, sy’n hygyrch ac sy’n cynnwys sicrwydd ansawdd, ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol (NAN) (Cymru), darparwyr cyngor, cyllidwyr a chomisiynwyr i annog dull amlasiantaeth o fwrw ymlaen â’r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor.

Mae’r cynllun yn ddogfen fyw ac mae’r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn adolygu cynnydd bob blwyddyn ac yn gwneud argymhellion priodol i Lywodraeth Cymru. Yn eu cyfarfodydd a gynhaliwyd ym mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020, adolygodd y Rhwydwaith y Cynllun Gweithredu gan nodi bod cynnydd da yn parhau i gael ei wneud mewn sawl maes yn y cynllun. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • rhoi’r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor ar waith
  • cyflwyno’r Gronfa Gynghori Sengl, sy’n ariannu gwasanaethau cynghori integredig, cost-effeithiol sydd wedi’u cynllunio’n strategol ledled Cymru
  • sefydlu chwe Rhwydwaith Cynghori Rhanbarthol ledled Cymru, gan sicrhau bod yr adnoddau cynghori sydd ar gael mewn rhanbarth yn cael eu defnyddio mor effeithiol â phosibl
  • datblygu mesurau canlyniadau i gofnodi’r cysylltiadau rhwng ymyriadau cynghori llwyddiannus a’r nodau llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.

Amcan 3: Cyflogaeth a sgiliau

Cyflogadwyedd

Mae effaith y Cynllun Cyflogadwyedd wedi cael ei fonitro’n fwy manwl yn ystod 2019 i 2020, yn ogystal â’r cynnydd o ran mynd i’r afael â diweithdra, anweithgarwch economaidd a lefel sgiliau’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig a’r rheini sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur.

Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu mewn perthynas â’n Cynllun Cyflogadwyedd a chynnydd o ran mynd i’r afael â diweithdra, anweithgarwch economaidd a lefel sgiliau pobl â nodweddion gwarchodedig a’r rheini sydd ymhellach i ffwrdd o’r farchnad lafur.

Mae hyn yn cynnwys datblygu set ddata i fonitro effeithiau a chynnydd drwy ystadegau’r farchnad lafur, a gweithio gyda sefydliadau arbenigol i ddeall sut mae lleihau’r rhwystrau sy’n atal pobl â nodweddion gwarchodedig rhag cael gwaith parhaus a symud ymlaen o fewn y gwaith hwnnw.

Mae arweinwyr polisi ar draws y Llywodraeth wedi adolygu’r ddarpariaeth bresennol a’r ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau ei bod yn diwallu anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yng nghyd-destun effeithiau economaidd a llafur hirdymor yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus, lefelau tlodi cynyddol, awtomeiddio, poblogaeth sy’n heneiddio a’r DU yn gadael yr UE ddiwedd 2020.

Yn y dyfodol, bydd mwy o bwyslais ar ddiwallu anghenion y rhai mwyaf difreintiedig yn y farchnad lafur a diwallu anghenion recriwtio cyflogwyr er mwyn addasu i’r hyn a ddisgwylir fydd yn farchnad lafur gystadleuol a heriol.

Mae elfennau allweddol eraill i’w cyflawni yn cynnwys:

  • Lansiwyd Cymru’n Gweithio, y gwasanaeth newydd i roi cyngor ar gyflogadwyedd yng Nghymru, ym mis Mai 2019. Y nod yw lleihau cymhlethdodau ein model cyflenwi cyflogadwyedd presennol i bobl ifanc ac oedolion. Mae’n darparu un pwynt mynediad ar gyfer pob oedran, er mwyn cael cymorth cyflogadwyedd sy’n fwy ymatebol a hyblyger mwyn diwallu anghenion pobl ddi-waith a phobl sy’n cael eu tangyflogi yn well ac er mwyn symleiddio ac ategu’r ddarpariaeth ar lefel ranbarthol a chymunedol.
  • Rydym wedi gwella’r cymorth ariannol ar gyfer addysg uwch a dysgu rhan amser drwy becyn newydd o fenthyciadau a grantiau cynhaliaeth myfyrwyr er mwyn galluogi myfyrwyr i gael mynediad at addysg uwch, beth bynnag fo’u hoedran, ble bynnag maent yn byw neu beth bynnag yw incwm y teulu.
  • Dechreuodd cynlluniau peilot y Cyfrif Dysgu Personol ym Medi 2019, i gefnogi tua 1,000 o oedolion sy’n cael eu cyflogi mewn swyddi gyda thâl isel a gwaith sgiliau isel, i newid gyrfa neu gael mynediad at waith ar lefel uwch mewn sectorau â blaenoriaeth.
  • Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan y llywodraeth i rieni sy’n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Ers mis Ebrill 2019, mae’r Cynnig wedi bod ar gael ym mhob rhan o Gymru, gan gefnogi miloedd o deuluoedd.
  • Rydym yn profi dulliau gweithredu newydd er mwyn helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl i aros mewn gwaith neu i ganfod gwaith drwy brosiect ymchwil Cymorth a Lleoliad i Unigolion. Mae cymorth cyflogaeth sy’n cael ei arwain gan iechyd yn bwrw ymlaen â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â rhwystrau rhag cael gwaith sy’n gysylltiedig ag iechyd, gan gynnwys y Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith, a’r Gwasanaeth Mentora Cymheiriaid Di-waith sy’n unigryw i’r DU.

Amcan 4: Aflonyddu a cham-drin

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Mae’r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn nodi sut byddwn yn rhoi dibenion y Ddeddf ar waith drwy gyfrwng chwe amcan allweddol. Mae Cynllun Cyflawni yn sylfaen i hyn.

Fe wnaethom gyhoeddi canllawiau statudol ar Gomisiynu gwasanaethau VAWDASV ym mis Mai 2019 i hyrwyddo comisiynu cydweithredol o ansawdd uchel sy’n darparu gwasanaethau mwy cyson ac effeithiol i atal VAWDASV ac i ddiogelu a chefnogi dioddefwyr VAWDASV ledled Cymru.

Cyhoeddwyd y Dangosyddion Cenedlaethol ym mis Mehefin 2019. Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ar weithio gyda throseddwyr. Yn ystod pandemig COVID-19, fe wnaethom sefydlu Grwˆ p Rhanddeiliaid Strategol i sicrhau ein bod yn ystyried yr holl opsiynau i helpu i gadw pobl yn ddiogel a chael mynediad at gyngor a chymorth.

Amcan 5: Amrywiaeth a phenodiadau cyhoeddus

Penodiadau’r Sector Cyhoeddus: Rhwystrau i Ymgeisio am swyddi a ariennir gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda chadeiryddion, er mwyn deall y rhwystrau sy’n atal pobl â nodweddion gwarchodedig rhag ymgeisio am benodiadau cyhoeddus.

Rydym wedi ymchwilio i’r rhwystrau sy’n atal pobl â nodweddion gwarchodedig rhag ymgeisio am benodiadau cyhoeddus.

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd yn sail i’r camau gweithredu yn y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Y cam nesaf yw rhoi’r strategaeth ar waith er mwyn ceisio dileu’r rhwystrau hynny a chael rhagor o bobl o’r grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i gymryd rhan.

Amcan 6: Cydlyniant cymunedol

Drwy gyhoeddi’r cynllun Cenedl Noddfa ym mis Ionawr 2019, rydym yn anelu at fynd i’r afael â gwahaniaethu a gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru. Rydym wedi parhau i ariannu’r Rhaglen Hawliau Lloches, sy’n cael ei darparu gan gonsortia o fudiadau trydydd sector o dan arweiniad Cyngor Ffoaduriaid Cymru. Mae ein prosiect AilGychwyn yn asesu anghenion ffoaduriaid mewn ffordd gyfannol, ac mae hynny’n cynnwys gwasanaethau a gwybodaeth am dai, iechyd a budd-daliadau. Mae hyn wedi sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio yn y DU mewn ffordd ddi-dor, unwaith y bydd eu statws fel ffoaduriaid wedi cael ei gadarnhau, a bod yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnynt yn cael eu darparu.

Mae pob un o’r prosiectau a nodir uchod yn helpu cannoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches bob blwyddyn i gael gafael ar gyngor ac eiriolaeth o ansawdd da, i sicrhau eu bod yn osgoi bod yn ddiymgeledd, yn ddigartref, yn ddi-waith, yn aflwyddiannus wrth geisio am loches yn ogystal ag osgoi dioddef iechyd gwael.

Amcan 7: Tlodi ac anghydraddoldeb

Tlodi Tanwydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru drwy ddarparu mynediad at gyngor a chefnogaeth i bob aelwyd i’w helpu i leihau eu biliau ynni.

Ar gyfer aelwydydd incwm isel sy’n byw yn y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni, a’r rheini sy’n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, byddwn yn parhau i ddarparu mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref am ddim, gan gynyddu ein buddsoddiad drwy ddenu cyllid o ffynonellau eraill, fel Rhwymedigaeth Cwmni Ynni.

Yn 2019 i 2020, darparodd Llinell Gymorth Nyth, y Rhaglen Cartrefi Clyd, gyngor ar effeithlonrwydd ynni yn y cartref i 15,283 o bobl, gan roi cyngor a chyfeiriadau diduedd ac am ddim at amrywiaeth o wasanaethau cymorth.

Yn ystod y flwyddyn, cyfeiriwyd 706 o aelwydydd at wasanaeth gwirio hawl i fudd-daliadau a chanfuwyd bod 238 o aelwydydd yn gymwys i dderbyn budd-daliadau newydd neu ychwanegol, a oedd yn dod i gyfanswm o £2,202 yr aelwyd ar gyfartaledd. Mae hyn yn cyfateb i £524,076 o fudd-daliadau eleni, cynnydd o £248,076 o 18-19. Derbyniodd dros 4,500 o’r 15,823 o aelwydydd a gafodd eu helpu eleni becyn o fesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref yn rhad ac am ddim, fel system gwres canolog, boeler neu inswleiddio, er mwyn gwella eu cartrefi. Roedd 1,945 o aelwydydd eraill wedi elwa o welliannau effeithlonrwydd ynni yn y cartref drwy ein cynllun Arbed yn yr ardaloedd.

Amcan 8: Llywodraeth Cymru fel cyflogwr

Adroddiad Blynyddol Cydraddoldeb Cyflogwr 2019 i 2020

Fel cyflogwr, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal ac mae’n gwerthfawrogi unigoliaeth ac amrywiaeth. Disgwylir i holl staff Llywodraeth Cymru ddeall eu cyfrifoldebau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb Cyflogwr erbyn 31 Mawrth bob blwyddyn. 

Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb Strategol 2020 i 2024

Nod Hirdymor 1: Dileu anghydraddoldeb sy’n deillio o dlodi

Addasiadau i Dai

Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Safonau Gwasanaethau ar gyfer Addasiadau i Dai. Nod y Safonau yw pennu lefel y gwasanaeth a ddisgwylir ar gyfer darparu a gwneud addasiadau i dai y gall defnyddwyr y gwasanaeth ei ddisgwyl, ble bynnag maent yn byw a beth bynnag fo’u deiliadaeth. Cytunodd y Grŵp Llywio Addasiadau i Dai ar yr egwyddor na ddylai addasiadau bach a chanolig, at ei gilydd, fod yn destun prawf modd. Hefyd, gwnaeth rywfaint o gynnydd gyda datblygu Fframwaith Cynllunio strategol rhanbarthol i ddarparu un pwynt mynediad ar gyfer gwasanaethau addasiadau a chynllunio a chyflwyno mewn modd integredig.

Nod Hirdymor 2: Mesurau amddiffyn cydraddoldeb a hawliau dynol cryf a blaengar i bawb yng Nghymru

Cwnsela mewn ysgolion

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i adolygu’r ddarpariaeth cwnsela statudol mewn ysgolion yn ystod 2020 i 2021, gan edrych ar fodelau cyflawni newydd, gan gynnwys ar gyfer y plant iau hynny nad ydynt wedi’u cynnwys yn y cynllun cwnsela eto, er mwyn sicrhau bod anghenion llesiant pawb sydd angen cymorth emosiynol ac iechyd meddwl yn cael eu diwallu.

Fe wnaethom gontractio Prifysgol Caerdydd i adolygu a gwerthuso’r cynllun cwnsela presennol mewn ysgolion a’r angen a’r model cyflawni gorau ar gyfer y plant a’r bobl ifanc hynny sydd o dan drothwy Blwyddyn 6 ar hyn o bryd.

Disgwylir adroddiad ar yr adolygiad hwn ym mis Gorffennaf a Awst 2021. Cyn yr adolygiad terfynol, rydym hefyd wedi darparu £466,500 i awdurdodau lleol yn 2020 i 2021 i gefnogi ymyriadau sy’n briodol i oedran ar gyfer plant mewn ysgolion cynradd.

Rydym hefyd wedi sicrhau £1.252m ychwanegol yn 2020 i 2021 i gefnogi’r cynllun cwnsela presennol mewn ysgolion drwy wella capasiti a mynd i’r afael â rhestrau aros a chefnogi’r broses o symud i ddarpariaeth ar-lein o ganlyniad i bandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud dilynol.

Nod Hirdymor 3: Bydd anghenion a hawliau pobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn flaenllaw yn y broses o gynllunio a darparu pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru

Gwella hygyrchedd safleoedd Cadw Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu â phobl sydd â nodweddion gwarchodedig er mwyn gwella mynediad corfforol a deallusol i safleoedd Cadw. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau grŵp ffocws, ac ymgysylltu ag aelodau’r grŵp yn y sesiynau hyn, yn ystod cam dylunio’r prosiect er mwyn deall yn well pa welliannau mynediad y mae pobl wir eisiau eu gweld yn digwydd yn ein safleoedd.

Mae nifer o brosiectau Cadw yn ceisio gwella mynediad corfforol i’n henebion.

Er enghraifft, bydd gwelliannau ym Mhorth Mawr a Chastell Caernarfon yn cynnwys mynediad fertigol newydd i helpu pobl i fynd i ardaloedd o’r henebion nad oedd modd iddynt eu cyrraedd o’r blaen.

Mae penseiri a benodwyd ar gyfer prosiect yr Ysgubor Fawr yng Nghastell Tretwˆ r a phrosiect Castell Caerffili wedi ymgorffori dylunio mynediad gwastad a chyfleusterau cysylltiedig i wella hygyrchedd corfforol.

Bob mis Medi, bydd gwirfoddolwyr ledled Cymru yn trefnu miloedd o ddigwyddiadau i ddathlu hanes a diwylliant. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd weld lleoedd cudd a rhoi cynnig ar brofiadau newydd am ddim. Oherwydd pandemig COVID-19, roedd hi’n amlwg bod yn rhaid dilyn dull gweithredu unigryw. Roedd cyfres newydd o brofiadau helaeth ar-lein wedi galluogi aelodau o’r cyhoedd i archwilio deg o safleoedd treftadaeth Cadw yn rhithiol drwy gydol mis Medi.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Race Council Cymru i drefnu ymweliadau ar gyfer grwpiau penodol i’n safleoedd. Yn anffodus, bu’n rhaid gohirio’r rhain oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Rydym hefyd wedi bod yn gwneud gwelliannau o ran sut gall pobl â nodweddion gwarchodedig gael mynediad i safleoedd Cadw, er enghraifft:

  • creu canllawiau cerdded er mwyn gwneud safleoedd yn fwy hygyrch
  • comisiynu ffilmiau gydag Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer grŵyl Hanes Cymru i Blant (grŵyl a oedd fel arfer yn cael ei chynnal yn safleoedd Cadw ond a gafodd ei chynnal ar-lein oherwydd COVID-19)
  • creu adnoddau ar gyfer ymwelwyr safleoedd Cadw sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • agor rhai o safleoedd Cadw yn ystod y pandemig ar gyfer grwpiau teuluol bach sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anableddau, tra bo’r safleoedd ar gau i’r cyhoedd.

Nod Hirdymor 4: Bydd Cymru yn arwain y byd o ran cydraddoldeb rhywiol

Cynllun ac Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol

Fel y nodwyd mewn mannau eraill yn yr adroddiad hwn, roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol erbyn mis Ebrill 2020. Cyhoeddwyd adroddiadau’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol gan Chwarae Teg ym mis Medi 2019, ynghyd ag adroddiadau cyfrannol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru a Dr Alison Parken.

Mae’r adroddiadau hyn yn nodi argymhellion i Lywodraeth Cymru ac eraill yng Nghymru i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y tymor byr, canolig a hir. O ganlyniad, fe wnaethom gyhoeddi cam cyntaf ein cynllun gweithredu, ‘Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru’ ym mis Mawrth 2020.

Nod Hirdymor 5: Dileu cam-drin, aflonyddu, troseddau casineb a bwlio sy’n seiliedig ar hunaniaeth

Bwrdd Cyfiawnder Troseddol ar gyfer Troseddau Casineb

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnull Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb i ddod â’r holl bartneriaid allweddol sy’n gweithio i leihau a lliniaru troseddau casineb ledled Cymru at ei gilydd.

Mae’r Bwrdd yn cwrdd bob chwarter i gynghori Gweinidogion Cymru a llunwyr polisi ynghylch mynd i’r afael â throseddau casineb, ac mae’n darparu arweiniad ar draws asiantaethau cyfiawnder troseddol yng Nghymru ar fynd i’r afael â throseddau casineb. Mae’r aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o’r pedwar Heddlu yng Nghymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, Cymorth i Ddioddefwyr a’r trydydd sector. Roedd y pynciau i’w trafod yn 2020 yn cynnwys Black Lives Matter, COVID-19 a chyfraddau gadael cyn gorffen.

Mae gwaith y Bwrdd yn ystod 2020 wedi sicrhau bod yr Heddlu wedi monitro troseddau casineb ac effeithiau cydlyniant sy’n deillio o bandemig y Coronafeirws, George Floyd yn cael ei ladd a’r adlach yn erbyn Black Lives Matter, a materion amserol eraill. Mae’r Bwrdd wedi helpu i lywio’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl am Grantiau Cymunedau Lleiafrifoedd i fynd i’r afael â Throseddau Casineb a phrosiectau Troseddau Casineb mewn Ysgolion, yn ogystal â chynlluniau cychwynnol ar gyfer ymgyrchoedd cyfathrebu. Mae’r Bwrdd wedi hwyluso ymwybyddiaeth a rhannu cyfleoedd sy’n ymwneud â’r cynllun Diogelwch Amddiffynnol Mannau Addoli.

Nod Hirdymor 6: Cymru o gymunedau cydlynus sy’n gydnerth, yn deg ac yn gyfartal

Gwasanaethau Cymorth i Denantiaid Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai gwasanaethau gael eu llunio a’u darparu yn unol ag arbenigedd a gwybodaeth tenantiaid sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl yn y sector rhentu preifat.

Yn ystod haf 2019, lansiwyd proses grant cystadleuol a oedd yn cynnwys cynigion ar gyfer prosiect cynnwys tenantiaid. Y prif ofyniad gan ymgeiswyr oedd: Profiad a gwybodaeth fanwl am ddarparu cymorth a chyfranogiad tenantiaid yng Nghymru a cheisio barn tenantiaid am wasanaethau eu landlordiaid ar draws y sectorau tai cymdeithasol a phreifat.

Dyfarnwyd contract grant tair blynedd i TPAS Cymru, yn dechrau o fis Ebrill 2020 ymlaen. Mae’r coronafeirws wedi effeithio ar gapasiti a gallu TPAS Cymru i symud ymlaen â’r amcan hwn. Mae’r gweithgareddau sydd wedi cael eu cynllunio wedi cael eu cwtogi, ychydig o wasanaeth sy’n cael ei ddarparu ac mae’r rhan fwyaf o aelodau staff ar ffyrlo.

Mae TPAS Cymru wedi addasu ac wedi newid y rhan fwyaf o’i weithrediadau i wasanaethau ar-lein, gan ddarparu dulliau cyfathrebu o bell fel gweminarau, cyfarfodydd ar-lein, capasiti cyfryngau cymdeithasol i ymgysylltu â thenantiaid. Mae TPAS Cymru hefyd wedi cynnal arolwg o farn, pryderon ac anghenion ei aelodau drwy ei raglen Pwls Tenantiaid.

Nod Hirdymor 7: Gall pawb yng Nghymru gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, bywyd cyhoeddus a bywyd pob dydd

Amrywiaeth y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn bywyd cyhoeddus ac mewn penodiadau cyhoeddus Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i ddatblygu Amrywiaeth mewn Democratiaeth: Cam Dau. Y nod yw codi ymwybyddiaeth, gwerth ac apêl rôl y cynghorydd yn y gymuned drwy amryw o gamau gweithredu. Rhaglen sydd wedi’i hanelu at gynyddu ymgysylltiad mewn democratiaeth leol yw hon.

Cyhoeddwyd Cam 2 y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth ar 25 Medi. Cyflawnir camau gweithredu drwy amrywiaeth o ddarnau o waith gan gynnwys cyflwyno deddfwriaeth, cyhoeddi canllawiau diwygiedig a gwneud gwaith ymchwil.

Cafodd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 20 Ionawr 2021. Mae’n darparu fframwaith deddfwriaethol i ddiwygio a chryfhau democratiaeth, atebolrwydd, cydweithrediad a pherfformiad awdurdodau lleol. Rydym yn gweithio tuag at gyflwyno Llawlyfr Democratiaeth a fydd yn dwyn ynghyd ganllawiau ar gyfer llywodraeth leol sy’n sail i’r themâu a’r camau gweithredu sy’n ymwneud â mwy o dryloywder yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud mewn dau gam. Y cam cyntaf fydd mapio’r canllawiau cyfredol a bwriadedig i’w cynnwys yn y llawlyfr. Disgwylir y bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn mis Ebrill 2021.

Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar ddatblygu’r canllawiau, ochr yn ochr â phartneriaid, yn barod ar gyfer mis Mai 2022. Rhan hanfodol o’r datblygiad hwn yw sicrhau bod amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael eu hystyried a’u cynnwys ym mhob rhan o’r canllawiau.

Lansiwyd cynllun cyfathrebu cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar 18 Ionawr 2021.

Mae’r ymgyrch yn defnyddio sianeli digidol i annog pobl yng Nghymru (mae cynulleidfaoedd targed penodol yn cynnwys pobl ifanc, dinasyddion tramor cymwys a grwpiau sydd fel arfer wedi ymddieithrio) i gymryd rhan ac annog newid cadarnhaol drwy leisio eu barn er lles pawb.

Mae gwaith wedi dechrau ar adolygu rôl a thaliadau cydnabyddiaeth cynghorwyr. Rhaglen ymchwil dair rhan yw hon, sy’n cynnwys adolygiad llenyddiaeth o sut mae gwledydd eraill wedi cynyddu hyder eu cynghorwyr a sut mae hyn wedi effeithio ar y niferoedd sy’n sefyll mewn etholiad, arolwg o gynghorwyr yn edrych ar faterion fel gwerth, ymddygiad, llwyth gwaith a thaliadau cydnabyddiaeth ac arolwg omnibws o’r cyhoedd am eu canfyddiadau o gynghorwyr, eu gwerth a’u rôl, eu llwyth gwaith, eu hymddygiad tuag atynt a thaliadau cydnabyddiaeth.

Bydd triongli canlyniad y tri darn o waith yn sail i flaenraglenni gwaith ac yn helpu i ganfod beth sy’n rhwystro pobl amrywiol rhag sefyll mewn etholiad, gan gynnwys pobl â nodweddion gwarchodedig.

Ar 3 Mawrth cyflwynwyd rheoliadau sy’n ymestyn absenoldeb teuluol i aelodau prif gynghorau sy’n mabwysiadu, i gyd-fynd â’r trefniadau ar gyfer absenoldeb mamolaeth.

Mae hyn yn golygu y bydd rhieni biolegol a rhieni nad ydynt yn rhieni biolegol yn cael yr un cyfnod o absenoldeb, gan gynyddu absenoldeb presennol ar gyfer rhieni sy’n mabwysiadu o bythefnos i 26 wythnos.

Daw’r newid i rym o 1 Ebrill 2021 ymlaen. Mae cynllun peilot Mynediad at Gronfa Sefyll mewn Etholiad Cymru bellach ar agor. Ei nod yw cefnogi ymgeiswyr anabl i sefyll yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021 ac yn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Anabledd Cymru sy’n rheoli’r trefniadau.

Nod Hirdymor 8: Bydd y sector cyhoeddus yng Nghymru yn arwain y ffordd fel sefydliadau a chyflogwyr cynhwysol ac amrywiol sy’n dangos esiampl

Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru

Rydym wedi llunio Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd a fydd yn cael ei chyflwyno rhwng 2021 a 2026. Mae’r cynllun hwn wedi cael ei gymeradwyo gan y grŵp Llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant a chafodd ei gyflwyno yn y Pwyllgor Gwaith ar 29 Hydref 2020.

Ein hamcan cyffredinol, fel y nodir yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol presennol Llywodraeth Cymru, yw y bydd Llywodraeth Cymru yn gyflogwr sy’n dangos esiampl erbyn 2025:

  • Cynyddu amrywiaeth drwy fynd i’r afael yn benodol â thangynrychiolaeth pobl anabl a phobl o gymunedau ethnig lleiafrifol ar bob lefel o’r sefydliad a thangynrychiolaeth menywod mewn rolau uwch
  • Dileu rhwystrau
  • Chefnogi staff o bob cefndir i gyflawni eu potensial, gan sicrhau cyfle cyfartal i bawb.

Mae’r Cynllun Gweithredu yn amlinellu 16 maes allweddol lle’r ydym yn benderfynol o wneud gwahaniaeth dros y pum mlynedd nesaf.

Er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd camau i dargedu gwaith maes ar gyfer ein cynlluniau prentisiaeth, yn benodol yng nghyswllt darpar ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr o blith pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn cynyddu amrywiaeth ein gweithlu i gynrychioli ein cymunedau.

Mae’r Cynllun Gweithredu a’r Cynllun Cyflawni ategol wedi cael eu cynhyrchu ar y cyd â’n rhwydweithiau amrywiaeth staff, aelodau’r grŵp Llywio Amrywiaeth a Chynhwysiant ac Ochr yr Undebau Llafur.

Mae’r Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol wedi dylanwadu arno hefyd (gydag argymhellion wedi’u derbyn o’r adolygiad sydd wedi’i ymgorffori yn y Cynllun Cyflawni).