Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i wella diogelwch tomenni glo yng Nghymru, gan ddweud y byddant yn helpu i lywio deddf newydd i sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio'n agos at domenni yn teimlo'n ddiogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae adroddiad y corff annibynnol, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, yn tynnu sylw at y bylchau sylweddol yn y ddeddfwriaeth bresennol mewn perthynas â rheoli, monitro a goruchwylio tomenni segur.

Cyflwynodd 36 o argymhellion ar gyfer gwelliannau – gan gynnwys creu awdurdod goruchwylio newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters:

Diogelwch ein cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyn yw ein blaenoriaeth erioed.

Rydym wedi darparu'r cymorth ariannol i alluogi awdurdodau lleol i atgyweirio a chynnal a chadw tomenni glo.

Ac rydym wedi neilltuo £44.4 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf er mwyn i'r gwaith hanfodol hwn allu parhau.

Fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i wella diogelwch tomenni glo yn ystod tymor y Senedd hon, bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, yn cyhoeddi Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru) ddechrau mis Mai.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog y bydd hyn yn gyfle i gasglu safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynlluniau hyn, a fydd yn darparu “dull cyson o reoli, monitro a goruchwylio tomenni”.

Mae bron i 2,500 o domenni glo segur ledled Cymru – mae 327 o’r rhain yn y categori gradd uwch, ac mae mwy yn dal i gael eu nodi. Gyda chanran uchel o domenni wedi'u lleoli ar dir preifat, ymdrinnir â materion diogelu data o hyd cyn y gellir cyhoeddi rhestr lawn o’u lleoliadau.

Mewn ardaloedd lle ceir tomenni gradd uwch, mae'r wybodaeth eisoes wedi'i rhannu ag awdurdodau lleol a Fforymau Lleol Cymru Gydnerth i helpu i greu cynlluniau argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu'r Awdurdod Glo i gynnal archwiliadau ar y cyd ag awdurdodau lleol, ac mae’n gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys diwydiant gofod y DU i brofi technolegau cyntaf o’u math yn y byd i ddarparu gwybodaeth am symudiadau tir a chyfundrefnau dŵr.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgysylltu â'r sector ymchwil drwy Platfform yr Amgylchedd Cymru i gasglu’r dystiolaeth orau bosibl ynghylch sut y gallai newid hinsawdd effeithio ar sefydlogrwydd hirdymor tomenni.

O ystyried yr heriau hirdymor y mae newid hinsawdd yn eu peri i domenni glo, mae Llywodraeth Cymru wedi ailadrodd ei galwadau ar Lywodraeth y DU i ddarparu'r cymorth ariannol ar gyfer rhaglen adfer a chyweirio.

Ychwanegodd Mr Waters:

Nid yw setliad ariannu Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu'r costau anghymesur o fynd i'r afael â gwaddol glofaol y DU.

Mae'n gwbl annheg ac, yn blwmp ac yn blaen, yn anghynaliadwy i San Steffan barhau i ddadlau y dylai cymunedau Cymru ysgwyddo'r costau hyn.