Adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg 2022 i 2023
Y seithfed adroddiad ar sut yr ydym yn sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dyma'r seithfed adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar weithredu a chydymffurfio gyda Safonau'r Gymraeg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae'r safonau'n nodi sut mae'n rhaid i ni ystyried y Gymraeg a darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg i bobl Cymru mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Egwyddorion sylfaenol y Mesur yw na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg wrth gynnal busnes cyhoeddus, a bod yn rhaid sicrhau cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg wrth ymgysylltu â ni. Wrth weithredu’r egwyddorion hyn, mae angen i ni hefyd fod yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnig dewis iaith i ddinasyddion yn rhagweithiol.
Gosodwyd hysbysiad cydymffurfio gan Gomisiynydd y Gymraeg ar Weinidogion Cymru, ac mae’n rhestru'r safonau sy'n berthnasol i'w gweithgareddau. Gellir eu gweld yma: Hysbysiad cydymffurfio Comisiynydd y Gymraeg.
Ar y cyfan, credwn fod y safonau wedi cael eu hymgorffori yn ein harferion gwaith ar draws Llywodraeth Cymru, wrth i ni ymdrechu i sicrhau y gall dinasyddion Cymru bob amser ymgysylltu â'u llywodraeth yn hyderus yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r safonau'n rhan bwysig o'r sylfaen ar gyfer cyflawni gweledigaeth y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ynghyd â chynnydd sylweddol yn ei defnydd o ddydd i ddydd. Mae'r gofynion wedi arwain at welliant yn y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg a mwy o ystyriaeth o'r Gymraeg wrth i ni ddatblygu polisïau a deddfwriaeth. Mae'r safonau hefyd wedi arwain at roi mwy o bwyslais ar ddatblygu sgiliau ieithyddol ein gweithlu i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yn well. Mae hyn, yn ei dro, wedi arwain at well cynllunio'r gweithlu, a gwell cyfleoedd i'n gweithlu gydnabod, caffael a datblygu eu sgiliau Cymraeg.
Ein ffocws eleni oedd parhau i weithredu amcanion ‘Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’, ein strategaeth defnydd mewnol o’r Gymraeg, a lansiwyd ym mis Ebrill 2020. Canolbwyntiwyd yn benodol ar y bedair thema sy'n sail i'r strategaeth: arweinyddiaeth, hyfforddiant, recriwtio a thechnoleg. Un o'r llwyddiannau mwyaf yn ystod y cyfnod hwn fu gwella rhaglen dysgu'r Gymraeg y sefydliad. Mae'r rhaglen wedi'i had-drefnu a'i hehangu gan arwain at gynnig mwy amrywiol a hygyrch sydd wedi denu mwy o ddysgwyr i'r rhaglen. Ers lansio'r strategaeth yn 2020 rydym wedi cynyddu ein ffocws ar ddatblygu galluoedd Cymraeg ein staff yn sylweddol, gan weld canlyniadau cadarnhaol ar draws ystod o ddangosyddion. Mae mwy o wybodaeth am weithredu'r strategaeth yn cael ei darparu yn yr adroddiad.
1. Cydymffurfio â safonau cyflenwi gwasanaethau
1.1 Cyffredinol
Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn nodi sut rydym yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth i bobl Cymru yn Gymraeg. Ein nod bob amser yw sicrhau y gall pobl ymgysylltu â'u llywodraeth yn eu dewis iaith. Rydym eisiau darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel ar bob achlysur.
Er mwyn gwneud hyn rydym yn parhau i weithredu rhwydwaith o gydlynwyr gwasanaeth dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.
Mae'r cydlynwyr yn sicrhau bod eu cydweithwyr yn ymwybodol o faterion sy'n codi mewn dau brif faes:
- Materion cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg, a
- Materion polisi sy’n ymwneud â strategaeth Cymraeg 2050 a phrif ffrydio iaith, dan arweiniad Is-adran Cymraeg 2050.
Mae'r cydlynwyr yn cefnogi Grwpiau Llywodraeth Cymru drwy ddarparu cyngor ac arweiniad i gydweithwyr, sydd yn hwyluso ein cydymffurfiaeth â'r safonau. Mae hyn hefyd yn sicrhau bod polisi Cymraeg 2050 yn cael ei adlewyrchu yng ngwaith Llywodraeth Cymru.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth ar arfer dda ac yn ein galluogi i ddod yn ymwybodol o rwystrau sy'n codi a’n galluogi ni i fynd i’r afael â nhw. Mae hyn yn helpu i roi sicrwydd bod y safonau'n cael eu hystyried a'u gweithredu ar draws y sefydliad.
1.2 Cwynion
Yn ystod y seithfed flwyddyn o weithredu'r safonau, derbyniwyd yr un nifer o gwynion am wasanaethau Cymraeg Llywodraeth Cymru â’r flwyddyn flaenorol, sef 30. Mae 13 o'r cwynion hyn yn uniongyrchol gysylltiedig â Gweinidogion Cymru yn cymryd rheolaeth dros redeg Rhwydwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o ddydd i ddydd ym mis Chwefror 2021.
Daeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn ddarostyngedig i Safonau'r Gymraeg Gweinidogion Cymru ym mis Chwefror 2021 pan ddaeth Gweinidogion Cymru yn weithredwyr dewis olaf y fasnachfraint reilffordd. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gweithio i wella'r gwasanaethau dwyieithog a ddarperir i gwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ers dod yn gyfrifol am y gwasanaethau. Mae'r gweithgareddau diweddar yn cynnwys:
- Creu rôl Pennaeth Strategaeth y Gymraeg yn y Gyfarwyddiaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, sy'n atebol yn uniongyrchol i'r Cyfarwyddwr. Y Pennaeth sy'n gyfrifol am oruchwylio cydymffurfiaeth Grŵp TrC, Rheilffordd TrC a'i is-gwmnïau â Safonau'r Gymraeg, a'u polisïau ymgysylltu i sicrhau bod TrC yn amgylchedd sy'n hybu'r Gymraeg.
- Sicrhau bod gan bob un o’r fflyd newydd systemau sy'n arddangos ac yn darparu gwybodaeth (cyhoeddiadau ac arwyddion electroneg) yn ddwyieithog ac o bell. Cafodd trenau newydd cyntaf Stadler Flirt Fleet eu cyflwyno ar 18 Ionawr 2023 ar linell Cwm Rhymni.
- Rhoi rhaglen newid fawr ar waith i sicrhau bod systemau gwybodaeth i deithwyr ar fflydoedd hŷn sy'n gweithredu'r system TrainFX yn cael eu diweddaru er mwyn darparu gwybodaeth ddwyieithog. Mae'r rhaglen hon yn parhau ond disgwylir iddi gael ei chwblhau erbyn newid amserlen mis Mai 2024.
- Cynnal archwiliad o orsafoedd ar llinell y Cambrian i sicrhau bod yr holl arwyddion (hyd yn oed y rhai sydd yn eu lle cyn cyflwyno Safonau'r Gymraeg yn 2016) yn cydymffurfio â Phecyn Cymorth Gorsafoedd TrC sy'n nodi union ofynion Safonau'r Gymraeg mewn perthynas ag arwyddion.
- Rhoi rhaglen ddigidol arloesol ar waith i gyflwyno swyddogaeth gyfieithu ar gyfer gwybodaeth ffrwd byw a ddangosir ar wefan TrC ond a ddarperir yn Saesneg yn unig gan National Rail Enquiries. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mehefin 2023.
- Recriwtio 6 aelod o staff, sydd yn siarad Cymraeg, i chwarae rhan ganolog yn yr ystafell reoli integredig.
- Gosod baner sblash newydd ar brif wefan TrC sy'n cyfeirio siaradwyr Cymraeg i'w thudalennau Cymraeg. Mae'r faner yn darllen, 'Shw'mae. Siarad Cymraeg? Ewch i'r safle Cymraeg'.
- Cynnal uwchraddiad sylweddol i sgriniau gwybodaeth cwsmeriaid yng ngorsafoedd Caerdydd Canolog a Wrecsam Cyffredinol, gan arddangos cynnwys cwbl ddwyieithog.
O'r 30 cwyn a ddaeth i law gan swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae 17 ymchwiliad wedi’u terfynu, gyda 13 yn parhau.
Derbyniwyd 4 cwyn yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd a chawsant eu datrys ar unwaith o dan Gam 1 Polisi Cwynion Llywodraeth Cymru.
2. Cydymffurfio â'r safonau llunio polisi
2.1 Cyffredinol
'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ymrwymiad yn strategaeth Cymraeg 2050 yn dangos bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.
Mae'r safonau llunio polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:
- ystyried effeithiau neu impact ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
- ystyried sut i gynyddu effeithiau positif, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- gofyn am farn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a cheisio barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.
Mae gan Lywodraeth Cymru fframwaith asesu effaith integredig ar waith. Pwrpas y fframwaith yw rhoi cyngor i staff ar ystyried ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r fframwaith yn tywys staff drwy'r broses o ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg a'r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae'r asesiad effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau a deddfwriaeth.
Y nod yw datblygu polisïau o'r ansawdd uchaf posibl sydd yn eu tro yn gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru. Mae'r fframwaith yn cyd-fynd yn agos ag amcanion Cymraeg 2050 ac yn ceisio sicrhau bod ei hamcanion yn cael eu prif ffrydio o fewn penderfyniadau polisi Gweinidogol. Er mwyn helpu staff i ddefnyddio'r fframwaith newydd, darperir canllaw cynhwysfawr hefyd i staff ynghyd â llawlyfr data ar y Gymraeg yng Nghymru.
Mae templedi ymgynghori safonol Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn derbyn sylwadau ymatebwyr ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Yn yr un modd, mae templedi caffael safonol yn sicrhau bod y safonau'n ystyriaeth bwysig wrth gontractio gwasanaethau trydydd parti. Datblygwyd canllawiau i staff ar gydymffurfio â gofynion yn ystod ymarferion ymgynghori, gwasanaethau contractio, dyrannu cyllid grant a chomisiynu ymchwil.
2.2 Cwynion
Derbyniwyd dau gwyn ynghylch gweithredu’r Safonau Llunio Polisi yn 2022-23 gan swyddfa’r Comisiynydd. Mae un cwyn wedi’i derfynu heb ymchwiliad, ac mae un ymchwiliad yn parhau.
3. Cydymffurfio â'r safonau gweithredol
3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg – Safon 98
Ym mis Ebrill 2020, cyhoeddwyd strategaeth fewnol Llywodraeth Cymru ar gyfer defnyddio'r Gymraeg 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd'. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yw dod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050, sy'n golygu y bydd y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol ac yn gyfnewidiol fel ieithoedd gwaith y Llywodraeth. Er mwyn cyflawni hyn, ein bwriad yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg, o leiaf, erbyn 2050.
Penderfynwyd ar y strategaeth drwy ystyried y cyfeiriad gwleidyddol a'r fframwaith cyfreithiol sydd eisoes ar waith. Rydym yn ymwybodol bod defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn rhoi mwy o bwrpas a pherthnasedd i'r iaith, ac mae hyn yn arbennig o wir i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n ystyried anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg. Trwy fabwysiadu polisi sy'n amlygu gwerth y Gymraeg yn y gweithle, y bwriad yw y bydd mwy o blant a phobl ifanc (yn benodol) yn gwerthfawrogi bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil ddefnyddiol, nawr ac yn y dyfodol.
Mae copi o'r strategaeth ar gael yma: Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd.
Gweithredu'r Strategaeth a'r amcan cychwynnol 2020 i 2025
Rydym yn ymwybodol bod yn rhaid i'r camau a gymerir i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg fod yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, bydd dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid graddol. Gyda hyn mewn golwg, mae'r strategaeth yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:
Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd
Bydd y newid yn digwydd yn raddol, dros amser, ond ein bwriad yw arwain drwy esiampl yn y ffordd yr ydym yn hyrwyddo defnydd o'r iaith yn y gweithle.
Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol
Mae’n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella’u sgiliau Cymraeg yn barhaus.
Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol
Mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw’r strategaeth hon yn groes i’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny’n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru.
Mynd ati’n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg
Pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.
Yn ogystal â gosod nod tymor hir ar gyfer 2050, rydym hefyd yn gosod amcan tymor byrrach ar gyfer y cyfnod hyd at 2025: yn ystod y pum mlynedd gyntaf, ein hamcan yw gweld Llywodraeth Cymru yn dod yn sefydliad sydd yn dangos esiampl yn ei defnydd mewnol o'r iaith pan gaiff ei asesu yn erbyn sefydliadau tebyg yn sector cyhoeddus Cymru. Bydd yr amcan tymor byrrach yn cael ei adolygu yn 2025, a bydd amcan newydd a chamau cysylltiedig yn cael eu gosod ar gyfer y cyfnod dilynol o bum mlynedd - proses a fydd yn parhau nes cyrraedd nod 2050.
Mae deg cam gweithredu wedi'u nodi yn y strategaeth, a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcan o ddod yn sefydliad sy’n dangos esiampl dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r camau hyn yn seiliedig ar y themâu canlynol: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio a thechnoleg.
Cynnydd ar weithredu'r Strategaeth yn ystod yr ail flwyddyn
Arweinyddiaeth
- Darparwyd negeseuon ac arweiniad i’r Uwch Wasanaeth Sifil i'w hannog i ystyried eu harweinyddiaeth eu hunain o safbwynt y Gymraeg, ynghyd â seminar arweinyddiaeth gyda'r Prif Gwnstabl Jeremy Vaughan o Heddlu De Cymru ym mis Mehefin 2022.
- Mae dwy ddogfen ganllaw wedi'u llunio a'u rhannu gydag Uwch Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru - ar ddefnyddio'r Gymraeg wrth gadeirio cyfarfodydd, ac ar ddefnydd achlysurol o'r Gymraeg yn y gwaith o ddydd i ddydd.
- Mae ein menter ‘Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog’ yn dod ag uwch arweinwyr o bob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru a'r trydydd sector ynghyd, i drafod sut y gall eu harweinyddiaeth ymgorffori ysbryd Cymraeg 2050. Cwblhaodd gweinidogion y Cabinet sesiwn bwrpasol ar arwain mewn gwlad ddwyieithog, gan arwain at drafodaethau rheolaidd ar y Gymraeg fel mater polisi sy'n eiddo i bob gweinidog. Ar ôl i’r ddwy garfan gyntaf gwblhau’r cwrs, mae'r drydedd garfan yn dechrau ym mis Mehefin 2023. Mae hyn hefyd yn rhan ganolog o ddatblygiad sefydliadol yn y GIG fel rhan o'r strategaeth newydd ‘Mwy na geiriau...’.
Dysgu
- Ers lansio'r strategaeth yn 2020 bu mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau Cymraeg staff, gyda chanlyniadau cadarnhaol ar ddiwedd y cyfnod adrodd diwethaf (Mawrth 2022) pan welwyd cynnydd o 688% yn nifer y dysgwyr ers mis Mai 2020. Erbyn Mai 2023 mae'r ganran hon wedi cynyddu ymhellach i 740%.
- Yn yr Uwch Wasanaeth Sifil mae 22% o staff yn dilyn opsiwn hyfforddi ffurfiol ar gyfer dysgu Cymraeg, arwydd bod ein gwaith i sicrhau fod arweinyddiaeth y sefydliad yn deall ei rôl wrth fodelu ymddygiad enghreifftiol mewn perthynas â'r Gymraeg, yn dwyn ffrwyth.
- Er bod gwaith sylweddol i’w wneud, rydym o'r farn bod y canlyniadau hyn yn galonogol ac yn dangos bod staff Llywodraeth Cymru yn deall y pwyslais newydd sy'n cael ei roi ar yr iaith a phwysigrwydd dysgu. Mae'n ymddangos hefyd ei fod yn mynd yn groes i duedd negyddol a welwyd mewn rhai sefydliadau sector cyhoeddus eraill sydd wedi nodi gostyngiad yn nifer y dysgwyr ers dechrau'r pandemig.
Recriwtio
- Mae geiriad newydd wedi'i gynnwys yn ein llenyddiaeth recriwtio gan bwysleisio bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel ased o fewn y sefydliad ni waeth beth yw'r rôl, a'r cymorth sydd ar gael i bawb i ddatblygu eu sgiliau yn y gweithle. Er enghraifft, yn yr ymgyrch recriwtio Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth tair blynedd ddiweddar ar gyfer darpar arweinwyr y sefydliad, rhoddwyd pwyslais ar y gefnogaeth a'r ymrwymiad i helpu ymgeiswyr llwyddiannus i ddatblygu sgiliau Cymraeg trwy sawl diwrnod o hyfforddiant pwrpasol a fyddai'n cael ei ddarparu yn ystod y cyfnod cynefino.
- Mae rhaglenni peilot i gyflwyno'r iaith i garfannau newydd o brentisiaid sy'n ymuno â'n cynllun prentisiaeth hefyd wedi cael eu lansio eleni.
Technoleg
- Mae Microsoft Teams yn offeryn hanfodol i Lywodraeth Cymru, ac yn dilyn gwaith sylweddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru gyda Microsoft, mae'n cynnig cyfle i gynnal cyfarfodydd dwyieithog, gyda swyddogaeth cyfieithu ar y pryd yn yr ap. Mae’n rhad ac am ddim i bawb sydd â thrwydded Teams o fewn ychydig gliciau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewnol i brofi'r system ar gyfer cyfarfodydd rhithwir a hybrid er mwyn ei roi ar waith ar draws y llywodraeth. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol i'n gweithle a gweithleoedd eraill ledled Cymru y dylai arwain at gynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfodydd.
- Mae Microsoft Translator wedi'i wreiddio yn y sefydliad dros sawl blwyddyn fel ffordd ddiogel y gall staff gyfieithu dogfennau swyddogol-sensitif. Bu cynnydd yn ein defnydd o Microsoft Translator yn Llywodraeth Cymru i'n helpu i ddeall a chynhyrchu testun dwyieithog. Eleni diwygiwyd y canllawiau i staff ar ei ddefnydd, gan ddarparu senarios ymarferol o sut y gall siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd ddefnyddio'r offeryn yn ddiogel ac yn hyderus. Lansiwyd canllaw newydd i siaradwyr Cymraeg sydd â sgiliau ysgrifennu Cymraeg da i roi cyngor ar olygu testun Cymraeg a gynhyrchir gan y system, eto i annog ac ehangu ei ddefnydd gan staff.
3.2 Cwynion
Ni chafodd Gweinidogion Cymru unrhyw gwynion yn ymwneud â'r safonau gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd.
4. Data sgiliau Cymraeg
31 Mawrth 2023
Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
---|---|---|---|---|
0 | 2149 (35%) | 2666 (43.8%) | 2327 (38.2%) | 3043 (50%) |
1 | 1642 (27%) | 1444 (23.7%) | 1376 (22.6%) | 1203 (19.8%) |
2 | 517 (8.5%) | 316 (5.2%) | 616 (10.1%) | 339 (5.6%) |
3 | 374 (6.1%) | 215 (3.5%) | 237 (3.9%) | 349 (5.7%) |
4 | 328 (5.4%) | 297 (4.9%) | 337 (5.5%) | 337 (5.5%) |
5 | 783 (12.9%) | 840 (13.8%) | 884 (14.5%) | 493 (8.1%) |
X | 315 (5.2%) | 310 (5.1%) | 311 (5.1%) | 324 (5.3%) |
31 Mawrth 2022
Darllen | Siarad | Deall | Ysgrifennu | |
---|---|---|---|---|
0 | 2213 (38.1%) | 2726 (47%) | 2408 (41.5%) | 3089 (53.2%) |
1 | 1539 (26.5%) | 2726 (23%) | 1264 (21.8%) | 1117 (19.3%) |
2 | 485 (8.4%) | 306 (5.3%) | 598 (10.3%) | 329 (5.7%) |
3 | 363 (6.3%) | 204 (3.5%) | 232 (4%) | 331 (5.7%) |
4 | 325 (5.6%) | 294 (5.1%) | 325 (5.6%) | 334 (5.8%) |
5 | 772 (13.3%) | 833 (14.4%) | 877 (15.1%) | 487 (8.4%) |
X | 302 (5.2%) | 299 (5.2%) | 295 (5.1%) | 312 (5.4%) |
Er bod nifer y staff sy'n cofnodi sgiliau siarad Cymraeg (Lefel 3-5) wedi gostwng ychydig yn ystod y flwyddyn (o 23% i 22.2%), mae nifer y staff sy'n cofnodi dim sgiliau siarad neu sgiliau siarad cyfyngedig (lefel 0 ac 1) hefyd wedi gostwng o 70% i 67.5%.
Arolwg pobl
Mae'r Arolwg Pobl yn arolwg sydd yn cael ei gynnal ar draws y Gwasanaeth Sifil a gofynnir i staff ei gwblhau'n flynyddol drwy arolwg electroneg dienw. Mae’r arolwg yn cael ei addasu gan Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau penodol sy'n ymwneud â gweithio i'r sefydliad, gan gynnwys cwestiynau ar sgiliau’r Gymraeg a defnydd iaith yn y gweithle.
Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi wedi darparu canlyniadau ar gyfer sgiliau Cymraeg o Arolygon Pobl diweddar ar ffurf tablau. Mae’r data yn dangos cynnydd yn nifer y staff â sgiliau Cymraeg sylfaenol a gostyngiad yn nifer y staff a nododd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl. Mae hyn yn wahanol i'r darlun statig iawn a ddarperir gan ein data Adnoddau Dynol (AD).
Mae data sgiliau o fewn y system AD yn seiliedig ar y raddfa hunan-sgorio ganlynol:
0 = Dim sgiliau
1 = Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn Gymraeg
2 = Yn gallu sgwrsio mewn sgyrsiau syml sy'n gysylltiedig â gwaith
3 = Yn gallu sgwrsio mewn rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith
4 = Yn gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sgyrsiau cysylltiedig â gwaith
5 = Rhugl
* Mae’r rheini sy’n dweud eu bod yn rhugl neu'n gallu siarad cryn dipyn o Gymraeg yn cael eu categoreiddio fel rhai sydd â sgiliau uwch, tra bo'r rhai sy'n adrodd eu bod yn gallu siarad ychydig o Gymraeg neu ychydig eiriau yn cael eu categoreiddio fel rhai sydd â sgiliau sylfaenol.
Mae data sgiliau yn yr Arolwg Pobl yn seiliedig ar y cwestiwn canlynol:
Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio orau eich gallu mewn Cymraeg llafar?
- Dwi'n rhugl yn y Gymraeg
- Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg
- Dim ond ychydig bach o Gymraeg dwi'n gallu siarad
- Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn unig
- Dw i'n methu siarad Cymraeg
Mae cyfraddau cwblhau'r Arolwg Pobl yn weddol uchel gyda 69% o staff yn cwblhau'r arolwg ym mis Hydref 2022. Dangosodd y canlyniadau ar gyfer sgiliau Cymraeg yn 2022 gynnydd yn nifer y staff sydd â sgiliau Cymraeg sylfaenol ers 2018 (o 47% i 55%), a gostyngiad yn nifer y staff a nododd nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau siarad Cymraeg o gwbl, o 30% yn 2016 i 19% yn 2022. Eleni yn adroddiad blynyddol y safonau, rydym yn adrodd ar ganlyniadau'r Arolwg Pobl ochr yn ochr â'r data Adnoddau Dynol.
5. Data hyfforddi'r Gymraeg
Data hyfforddi'r Gymraeg Mai 2022 i Ebrill 2023
Cyrsiau/Nifer y dysgwyr:
- Dosbarth Wythnosol (dechrau Medi) - 214
- Dysgu 1:1 - 24
- Hunan-Astudio Ar-lein - 126
- Gloywi - 57
- Cwrs bloc dwys (peilot) - 13
- Lefel cwrteisi Cymraeg (peilot) - 170
- Y Dystysgrif Sgiliau Iaith - 9
- Cyfanswm - 613
Mae hyn yn gynnydd o 247 ers y llynedd.
Gellir dod o hyd i ddadansoddiad o'r tabl uchod isod.
Data gwersi wythnosol
Mae ein dosbarthiadau wythnosol yn seiliedig ar gwricwlwm Dysgu Cymraeg gyda chyrsiau ar gael ledled Cymru. Mae ceisiadau'n agor ym mis Ebrill gyda chyrsiau yn dechrau ym mis Medi ac yn rhedeg i'r mis Mai canlynol, mae hyn yn cyfrif am oddeutu pedair awr yr wythnos o ddysgu dros 30 wythnos. Mae dosbarthiadau ar gael o lefel dechreuwyr i hyfedredd.
Cyfanswm | Mynediad | Sylfaen | Canolradd | Uwch | Hyfedredd | |
Ceisiadau | 274 | 105 | 74 | 57 | 36 | 2 |
Cofrestru | 240 | 84 | 66 | 54 | 35 | 1 |
Ar hyn o bryd yn dal i ddysgu | 214 | 76 | 57 | 47 | 33 | 1 |
Tynnu'n ôl ers cofrestru | 26 | 8 | 9 | 7 | 2 | 0 |
Tynnu'n ôl cyn cofrestru | 34 | 21 | 8 | 3 | 1 | 1 |
Tiwtora 1:1
Mae gennym raglen diwtora 1:1 ar gael i'r rhai sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu Cymraeg ac mae’r sesiynau yma’n darparu dysgu wedi'i deilwra yn seiliedig ar anghenion a gofynion dysgu yr unigolyn. Mae hyfforddiant 1:1 hefyd ar gael i’r Uwch Wasanaeth Sifil na all fynychu dosbarthiadau oherwydd gofynion amser.
Uwch Wasanaeth Sifil: 18
Pob aelod o staff: 6
Hunan-Astudio ar-lein
Data diweddarwyd ddiwethaf ym Mawrth 2023.
Mae'r cwrs hwn yn dilyn yr un cwricwlwm â'r dosbarthiadau wythnosol ond mae'n caniatáu i ddysgwyr gwblhau'r dysgu yn eu hamser eu hunain ar eu cyflymder eu hunain. Mae'r cwrs ar gael i'r holl staff yn y sefydliad ac mae ceisiadau'n agor bob yn ail fis. Mae'r cwrs hunan-astudio ar-lein hwn yn addas ar gyfer y rhai ar lefel mynediad a/neu sylfaen.
Nifer y dysgwyr:
- Carfan 4 (Gorff 22) - 41
- Carfan 5 (Medi 22) - 20
- Carfan 6 (Tachwedd 22) - 14
- Carfan 7 (Chwefror 23) - 39
- Carfan 8 (Ebrill 23) - 12
- Cyfanswm - 126
Cwrs bloc
Rydym yn llunio cwrs Cymraeg dwys newydd sbon. Gan fod y cwrs hwn yn newydd, bydd yn gynllun peilot yn y lle cyntaf cyn y bydd yn cael ei ychwanegu at ein cynnig hyfforddiant parhaol. Cynhelir dosbarthiadau yn seiliedig ar bedair lefel, o ddechreuwyr i lefel uwch.
Bydd y cwrs yn dilyn yr un cwricwlwm â'n cynnig dosbarth wythnosol uchod ond bydd yn cael ei gyddwyso i 10 diwrnod llawn o hyfforddiant dros bythefnos. Bydd y cwrs wedi'i strwythuro rhwng 9:00am a 3:00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener dros bythefnos yn olynol a bydd yn gyfwerth â chwblhau hanner lefel.
Fis Hydref diwethaf roedd gennym garfan o 40 o brentisiaid ac anfonwyd y rhan fwyaf o'r prentisiaid hynny oedd ar lefel mynediad ar ein cynllun peilot cyntaf ar gyfer y cwrs bloc hwn.
Peilot cwrs bloc prentis
- Grŵp Mynediad 1 - 9
- Grŵp Mynediad 2 - 4
- Cyfanswm - 13
Mynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y peilot
Lefel / Nifer sydd â diddordeb:
- Mynediad - 19
- Sylfaen - 17
- Canolradd - 19
- Uwch - 11
- Cyfanswm - 66
(yn cynnwys ffigurau ar gyfer holl staff)
Gloywi
Fel rhan o'n cynnig hyfforddiant Cymraeg corfforaethol, mae gennym raglen o sesiynau gloywi iaith wedi'u hanelu at gydweithwyr medrus sy'n siarad Cymraeg ac sy'n awyddus i wella eu sgiliau iaith. Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor arbenigol sy'n datblygu'r rhaglen yn seiliedig ar y pynciau a ddewisir gan gyfranogwyr.
Cwrs/Nifer y staff a gwblhawyd 2022 i 2023:
- Gloywi 1 - 15
- Glowyi 2 - 17
- Gloywi 3 - 11
- Gloywi 4 - 14
- Cyfanswm - 57
Cwrs Cymraeg lefel cwrteisi
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal cynllun peilot i gyflwyno cwrs newydd i'n cynnig hyfforddiant Cymraeg – Lefel Cwrteisi Cymraeg.
Cyflwynir y cwrs fel modiwl ar-lein, fydd yn cymryd 10 awr i'w gwblhau.
Ar ddiwedd y cwrs, bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn gallu:
- Dweud helo a cyflwyno ei hunan ar wahanol adegau o'r dydd
- Gwneud cyfarchon cychwynnol fel “John ydw i, dw i'n dysgu Cymraeg” ac ati.
- Ateb y ffôn gyda chyfarchiad dwyieithog a chymryd neges
- Trefnu a hwyluso cyfarfod
Ar hyn o bryd mae 170 o unigolion sydd wedi nodi nad oes ganddynt sgiliau siarad Cymraeg (sef lefel 0) yn cymryd rhan yn y cynllun peilot hwn.
Digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi
Eleni trefnwyd digwyddiadau i ddathlu'r wythnos a darparu cyfleoedd i gydweithwyr ryngweithio yn Gymraeg, dysgu o brofiadau pobl eraill a chlywed trafodaethau diddorol yn ymwneud â'r iaith.
Digwyddiad/Nifer mynychwyr:
- Sesiwn Ymwybyddiaeth Ofalgar Cymraeg - 21
- Sesiwn Drafod gyda Des Clifford a Tim Moss (dau Gyfarwyddwr yn yr Uwch Wasanaeth Sifil) – rhannu eu taith i ddysgu Cymraeg - 68
- Sesiwn Dysgu dros ginio – Cymru: Cymuned o gymunedau - 181
- Rhwydwaith Cymraeg y Gwasanaeth Sifil - yr laith Gymraeg a'i chysylltiadau Celtaidd - 110
- Eich profiadau chi: Dysgwyr yn trafod eu taith i ddysgu Cymraeg - 17
- Sesiwn blasu’r Gymraeg gyda thiwtor o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol - 27
- Sesiwn Galw Heibio – rhannu gwybodaeth am y cynnig dysgu Cymraeg i staff Llywodraeth Cymru - 42
Y Dystysgrif Sgiliau Iaith
Eleni, buom yn treialu'r Dystysgrif Sgiliau Iaith ar gyfer siaradwyr hyderus y Llywodraeth. Datblygwyd y Dystysgrif ar gyfer myfyrwyr mewn addysg bellach ac uwch yng Nghymru gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ond fe'i adnabuwyd fel arf defnyddiol i gydnabod sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Roedd y cwrs peilot eleni yn cynnwys wythnos o diwtora, paratoi ac arholiad llafar yn Nant Gwrtheyrn ddechrau Mawrth 2023, ac arholiad ysgrifenedig ddechrau mis Mai. Mae'r Dystysgrif yn dangos y gallu i gyfathrebu'n gywir, yn hyderus ac yn broffesiynol drwy gyfrwng y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae'r asesiadau wedi'u cynllunio'n arbennig i brofi'r sgiliau iaith fydd eu hangen wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith.
Cymerodd 9 unigolyn ran yn y rhaglen beilot hon gyda phob un ohonynt yn llwyddo i ennill y dystysgrif. Llwyddodd 5 o'r ymgeiswyr gyda gradd rhagoriaeth. Bydd y peilot nawr yn cael ei werthuso'n drylwyr cyn i ni ystyried ei gynnwys yn ein cynnig dysgu Cymraeg parhaol i staff.
Dysgu a datblygu
(Cyfnod adrodd Mai 2022 i Ebrill 2023)
Sesiynau cynefino
Rhaid i holl aelodau newydd o staff Llywodraeth Cymru ymgymryd â hyfforddiant cynefino. Mae hyfforddwr y cwrs cynefino corfforaethol yn defnyddio Cymraeg achlysurol drwy gydol y cwrs bedair rhan hwn, ac mae'r Gymraeg yn thema allweddol drwyddi draw.
Fel rhan o'r broses ymsefydlu mae Tîm y Safonau, y Gwasanaeth Cyfieithu a’r tîm Dysgu a Datblygu yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith yn ystod y cwrs. Mae hon yn sesiwn awr o hyd sy'n esbonio mwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, yn fewnol fel sefydliad sy’n gweithio’n ddwyieithog ac yn allanol o ran sut rydym am weld yr iaith yn ffynnu yn ein cymunedau. Mae’r cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael i staff hefyd yn cael eu hamlygu yn ystod y sesiwn.
Dyddiad y digwyddiad/Mynychu:
- 11 Mai 2022 - 13
- 26 Mai 2022 - 13
- 16 Mehefin 2022 - 9
- 12 Gorffennaf 2022 - 19
- 02 Awst 2022 - 15
- 21 Medi 2022 - 32 (archebu)
- 13 Hydref 2022 - 29
- 09 Tachwedd 2022 - 43 (archebu)
- 13 Rhagfyr 2022 - 23
- 16 Ionawr 2023 - 7
- 10 Chwefror 2023 - 17
- Cyfanswm (12) - 220
Datblygwyd cwrs cynefino awr o hyd penodol ar gyfer aelodau newydd o'r Uwch Wasanaeth Sifil a chyfarwyddwyr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, gan ganolbwyntio ar arweinyddiaeth a'r Gymraeg sydd yn dangos esiampl dda.
Y Rhwydwaith Cymraeg
Mae cyfanswm o 464 o staff Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith Cymraeg mewnol ar ein Lab Dysgu. Mae hyn yn gynnydd o 81 o aelodau ers y llynedd.
Nod y rhwydwaith hwn yw darparu lle ar ein Lab Dysgu (y platfform Dysgu a Datblygu staff) i staff sy'n dysgu/siarad Cymraeg i ymarfer a gwella eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, y cyfryngau ac ati gydag eraill.
Anogir pob dysgwr a gweithiwr newydd i ymuno â'r rhwydwaith.
Rydym wrthi'n sefydlu Rhwydwaith newydd ar Microsoft Teams er mwyn gwneud y Rhwydwaith yn hyd yn oed mwy hygyrch i staff.
6. Data recriwtio
Nifer y swyddi newydd a gwag a hysbysebir sydd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy'n gofyn am:
- Sgiliau Cymraeg Hanfodol
- Sgiliau Cymraeg i'w dysgu yn y rôl
- Sgiliau Cymraeg dymunol
- Sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol
Dyma ddata 2022 i 2023:
Categori | Wedi hysbysebu’n fewnol | Wedi hysbysebu'n allanol |
---|---|---|
Hanfodol | 27 | 20 |
I’w dysgu yn y rôl | 9 | 0 |
Dymunol | 627 | 143 |
Ddim yn angenrheidiol (ni ddefnyddir y categori yma mwyach) | 20 | 53 |
Cyfanswm | 683 | 216 |
Penodiadau cyhoeddus – Asesiadau Sgiliau Cymraeg
Yn ogystal, mae holl benodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn destun asesiad sgiliau Cymraeg. O'r 47 asesiad a gynhaliwyd eleni, cafodd 15 eu categoreiddio fel rhai Hanfodol a 32 yn Ddymunol.
Tablau
Sgiliau siarad Cymraeg staff LlC (data AD)
Blwyddyn | 0 - Dim sgiliau | 1 neu 2 - Sgiliau sylfaenol | 3 - Sgiliau canolradd | 4 neu 5 - Sgiliau uwch |
---|---|---|---|---|
2017 | 50% | 27% | 4% | 19% |
2018 | 49% | 28% | 4% | 20% |
2019 | 49% | 28% | 4% | 20% |
2020 | 49% | 28% | 3% | 20% |
2021 | 48% | 28% | 3% | 20% |
2022 | 48% | 29% | 4% | 20% |
Sgiliau siarad Cymraeg staff LlC (data'r Arolwg Pobl)
Dyddiad | Sgiliau uwch | Sgiliau sylfaenol | Dim sgiliau Cymraeg |
---|---|---|---|
Hydref 2014 | 23% | 47% | 30% |
Chwefror 2016 | 24% | 47% | 30% |
Hydref 2017 | 25% | 47% | 28% |
Hydref 2018 | 25% | 47% | 28% |
Mawrth 2020 | 25% | 51% | 24% |
Hydref 2020 | 25% | 51% | 24% |
Hydref 2021 | 25% | 53% | 23% |
Hydref 2022 | 26% | 55% | 19% |
Sgiliau Cymraeg staff LlC (Data Arolwg Pobl - dadansoddiad llawn)
Dyddiad | Rwy'n rhugl yn y Gymraeg | Dw i'n gallu siarad tipyn o Gymraeg | Dim ond ychydig o Gymraeg dwi'n siarad | Gallaf ddweud ychydig eiriau yn Gymraeg yn unig | Dw i'n methu siarad Cymraeg |
---|---|---|---|---|---|
Hydref 2014 | 16% | 7% | 16% | 31% | 30% |
Chwefror 2016 | 17% | 7% | 15% | 32% | 30% |
Hydref 2017 | 17% | 8% | 15% | 32% | 28% |
Hydref 2018 | 17% | 8% | 15% | 32% | 28% |
Mawrth 2020 | 17% | 8% | 18% | 33% | 24% |
Hydref 2020 | 17% | 8% | 17% | 33% | 24% |
Hydref 2021 | 16% | 8% | 18% | 34% | 23% |
Hydref 2022 | 17% | 9% | 19% | 36% | 19% |