Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei chweched adroddiad blynyddol ar weithredu Safonau'r Gymraeg ers i'r Safonau ddod i rym ym mis Mawrth 2016. Mae'r Safonau wedi gwreiddio yng ngwaith Llywodraeth Cymru dros y chwe blynedd diwethaf, ac rydym yn parhau i ymdrechu i sicrhau y gall dinasyddion Cymru ymgysylltu'n hyderus â'u llywodraeth naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Mae'r Safonau yn un rhan o jig-so polisi cynllunio ieithyddol, a fydd yn cynorthwyo'r Llywodraeth i gyrraedd ei nodau o filiwn o siaradwyr erbyn 2050 a chynnydd yn y defnydd o'r Gymraeg.

Ym mis Ebrill 2020 cyhoeddwyd strategaeth gennym yn nodi ein nod o fod yn sefydliad dwyieithog erbyn 2050, ‘Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd’. Ein nod yw i holl staff Llywodraeth Cymru ddeall y Gymraeg o leiaf erbyn hynny, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol fel ein hieithoedd gwaith o ddydd i ddydd. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r strategaeth, er gwaethaf yr amodau heriol a grëwyd gan y pandemig.

Gwyddom fod y cysylltiad rhwng yr iaith a'r gweithle yn arwyddocaol, gydag arolygon yn dangos bod pobl mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o ddefnyddio'r iaith o ddydd i ddydd. Gall pwysleisio'r cysylltiad rhwng sgiliau iaith a sgiliau galwedigaethol ddylanwadu ar benderfyniadau pobl i ddysgu Cymraeg a phenderfyniadau rhieni i ddewis addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Unwaith eto, rydym wedi canolbwyntio dros y flwyddyn ddiwethaf ar yr ymateb i bandemig y coronafeirws ac yn ystod y cyfnod hwn mae'r angen i ymateb i’r argyfwng iechyd cyhoeddus wedi golygu bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n wahanol iawn. Mae'r angen i wneud penderfyniadau i ddiogelu pobl Cymru yn gyflym a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd wedi bod yn flaenllaw yn ein meddyliau. Mae cyfathrebu yn Gymraeg wedi chwarae rhan bwysig yn y broses hon oherwydd yn ystod cyfnod pryderus ac ansicr mae wedi bod yn bwysicach nag erioed i gyfathrebu â'r cyhoedd yn eu dewis iaith.

Cydymffurfio â Safonau Cyflenwi Gwasanaethau

1.1 Cyffredinol

Mae'r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau yn ymwneud â chyfathrebu a rhyngweithio Llywodraeth Cymru â'r cyhoedd. Ein hamcanion yw sicrhau y gall pobl Cymru ymgysylltu â'u Llywodraeth yn eu dewis iaith bob amser, a'n bod yn darparu gwasanaethau dwyieithog o ansawdd uchel bob tro.

Rydym yn parhau i weithredu drwy rwydwaith o Gydlynwyr gwasanaethau dwyieithog, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sefydliad.

Mae'r cydlynwyr yn sicrhau bod eu cydweithwyr yn ymwybodol o faterion sy'n codi mewn dau brif faes:

  • Materion cydymffurfio Safonau'r Gymraeg, dan arweiniad Tîm Safonau'r Gymraeg
  • Polisi Cymraeg 2050 a phrif ffrydio materion iaith i holl waith polisi a gwaith deddfwriaethol y Llywodraeth, dan arweiniad Is-adran y Gymraeg.

Mae'r cydlynwyr yn cefnogi adrannau Llywodraeth Cymru drwy roi cyngor ac arweiniad i gydweithwyr, sydd, yn eu tro, yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â'r Safonau a bod polisi Cymraeg 2050 yn cael ei adlewyrchu ym mhob maes o waith Llywodraeth Cymru.

Mae'r rhwydwaith yn darparu fforwm ar gyfer trafodaeth ar arfer da a mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau sy'n codi. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd bod y Safonau'n cael eu hystyried a bod cydymffurfiaeth yn digwydd ar draws y sefydliad.

1.2 Cwynion

Cawsom 30 o gwynion yn ymwneud â’r Safonau Cyflenwi Gwasanaethau drwy law swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd. O'r 30 o gwynion a dderbyniwyd gan y swyddfa, mae 9 ymchwiliad wedi'u terfynu, gyda 21 yn parhau.

Roedd 11 o'r cwynion yn ymwneud yn uniongyrchol â'r ymateb i bandemig y coronafeirws ac roedd 8 yn uniongyrchol gysylltiedig â Gweinidogion Cymru yn dod yn gyfrifol am redeg Rhwydwaith Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru o ddydd i ddydd, fel Gweithredwyr Pan Fetho Popeth Arall (‘Operators of Last Resort’) ym mis Chwefror 2021.

Derbyniwyd 2 gwyn yn uniongyrchol gan aelodau o'r cyhoedd. 

1.3 Defnydd o’n gwasanaethau Cymraeg

Gwefannau

  Cyfanswm ar y Tudalennau Saesneg Cyfanswm ar y Tudalennau Cymraeg
Edrych ar dudalennau 26,008,346 396,572
Dogfennau wedi’u lawrlwytho 999,779 20,792

Gohebiaeth weinidogol a swyddogol

Derbyniodd swyddfeydd preifat y Gweinidogion 7,560 o eitemau o ohebiaeth yn ystod y cyfnod adrodd, a derbyniwyd 403 (5.33%) ohonynt yn Gymraeg. Mae hyn yn cymharu â 970 o ddarnau o ohebiaeth a dderbyniwyd yn Gymraeg (2.36%) yn 2020-2021.

Cyfanswm y galwadau ffôn Cymraeg a dderbyniwyd gan y Ddesg Gymorth Cyd-wasanaethau (gan alwyr mewnol ac allanol)

  Desg Gymorth Mewnol (galwadau a dderbyniwyd gan staff Llywodraeth Cymru) Desg Gymorth Allanol (galwadau a dderbyniwyd o'r tu allan i Lywodraeth Cymru) Cyfansymiau wedi'u Cyfuno
Galwadau i’r llinell Gymraeg 44 214 258
Galwadau i’r llinell Saesneg 571 5513 6084
Cyfanswm cyfunol 615 5727 6342

*Noder: Dim ond ffigurau ar gyfer Ebrill 2021 – Mehefin 2021 y gallwn eu darparu ar hyn o bryd. Gosodwyd system teleffoni newydd ym mis Gorffennaf 2021 ac mae’r modiwl adrodd y system hon yn cael ei ffurfweddu ar hyn o bryd – o ganlyniad nid ydym wedi gallu rhedeg ein hystadegau ers ei osod.

2. Cydymffurfio â'r Safonau Llunio Polisi

2.1 Cyffredinol

'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae Cymraeg 2050, dan faner Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn datgan bod y Gymraeg yn flaenoriaeth strategol i Lywodraeth Cymru. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld y Gymraeg yn ffynnu, gyda chynnydd yn nifer y bobl sy'n siarad ac yn defnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Mae'r Safonau Llunio Polisi yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru:

  • ystyried effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg (cadarnhaol a negyddol)
  • ystyried sut i gynyddu effeithiau cadarnhaol, lliniaru neu leihau effeithiau andwyol a manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
  • ceisio barn ar yr effeithiau ar y Gymraeg wrth ymgysylltu neu ymgynghori a ymofyn barn siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr yr iaith.

Cyflwynwyd fframwaith asesu effaith integredig newydd yn 2018 i ystyried effeithiau penderfyniadau polisi ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar yr egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Diben y fframwaith yw rhoi cyngor i staff i roi ystyriaeth briodol i ystod o bynciau, gan gynnwys y Gymraeg, wrth wneud penderfyniadau polisi. Mae'r asesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn un o'r asesiadau statudol, gorfodol y mae'n rhaid i swyddogion eu cwblhau wrth ddatblygu, adolygu neu ddiwygio polisïau.

Y nod yw datblygu polisïau o'r ansawdd uchaf posibl, sydd, yn eu tro, yn gwneud gwahaniaeth i ddinasyddion Cymru. Mae'r fframwaith yn cyd-fynd yn agos ag amcanion strategaeth Cymraeg 2050, ac yn ceisio sicrhau bod ei hamcanion yn cael eu prif ffrydio o fewn penderfyniadau polisïau Gweinidogol. Er mwyn helpu staff i ddefnyddio'r fframwaith newydd, darperir canllaw cynhwysfawr hefyd i staff ynghyd â llawlyfr data ar y Gymraeg yng Nghymru.

Mae templedi ymgynghori safonol Llywodraeth Cymru yn sicrhau ein bod yn derbyn sylwadau ymatebwyr ar effeithiau ein penderfyniadau polisi ar y Gymraeg. Yn yr un modd, mae templedi caffael safonol yn sicrhau bod y safonau'n ystyriaeth bwysig wrth gontractio gwasanaethau trydydd parti. Mae canllawiau wedi'u datblygu ar gyfer staff ar gydymffurfio â gofynion yn ystod ymarferion ymgynghori, ymarferion caffael, dyrannu cyllid grant a chomisiynu ymchwil.

2.2 Cwynion

Ni dderbyniodd Gweinidogion Cymru unrhyw gwynion yn ymwneud â'r safonau llunio polisi yn ystod y cyfnod adrodd.

3. Cydymffurfio â'r Safonau Gweithredol

3.1 Datblygu polisi ar ddefnydd mewnol o'r Gymraeg

Yn Ebrill 2020, cyhoeddwyd strategaeth fewnol Llywodraeth Cymru 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd', ar gyfer defnyddio'r Gymraeg o fewn y sefydliad. Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y strategaeth yw dod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog erbyn 2050, sy'n golygu y bydd y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu defnyddio'n naturiol ac yn gyfnewidiol fel ieithoedd gwaith y Llywodraeth. Er mwyn cyflawni hyn, ein bwriad yw y bydd holl staff Llywodraeth Cymru yn gallu deall y Gymraeg, o leiaf, erbyn 2050.

Pennwyd y strategaeth drwy ystyried y cyfeiriad gwleidyddol a'r fframwaith cyfreithiol sydd eisoes ar waith. Rydym yn ymwybodol bod defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle yn rhoi mwy o bwrpas a pherthnasedd i'r iaith, ac mae hyn yn arbennig o wir am y rhai sy'n dysgu Cymraeg neu sy'n ystyried anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg. Trwy fabwysiadu polisi sy'n amlygu gwerth y Gymraeg yn y gweithle, y bwriad yw y bydd mwy o blant a phobl ifanc (yn arbennig) yn gwerthfawrogi bod y gallu i siarad Cymraeg yn sgil defnyddiol, nawr ac yn y dyfodol.

Gellir gweld copi o'r strategaeth yma: Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd

Gwyddom hefyd y gallai gosod amcan a gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru ddylanwadu ar rannau eraill o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Lansiwyd y strategaeth hon yn ystod wythnosau cynnar y pandemig, ym mis Ebrill 2020. Gan ei bod wedi bod yn gyfnod pryderus ac ansicr iawn, ni fu'n briodol tynnu gormod o sylw at y strategaeth yn gyhoeddus. Mewn amser, fodd bynnag, rydym am rannu'r strategaeth yn ehangach er mwyn dangos arweiniad, a'r bwriad yw ysbrydoli sefydliadau eraill i bennu eu cyfeiriad strategol o hyrwyddo'r defnydd o'r iaith.

Rydym wrthi’n datblygu astudiaeth achos ar y strategaeth ar gyfer gwefan arferion effeithiol Comisiynydd y Gymraeg ar hyn o bryd.

Gweithredu'r Strategaeth ac amcan cychwynnol 2020 i 2025

Rydym yn ymwybodol fod yn rhaid i’r camau a gymerir i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fod yn rhesymol ac yn gymesur. Felly, bydd dod yn sefydliad dwyieithog yn golygu newid yn raddol. I’r perwyl hyn, caiff y strategaeth ei seilio ar yr egwyddorion canlynol:

  • Gwneud ymrwymiad hirdymor ac arwain y ffordd: bydd y newid yn digwydd yn raddol, dros amser, ond ein bwriad yw arwain trwy esiampl yn y ffordd yr ydym yn hybu defnydd o’r iaith yn y gweithle.
  • Buddsoddi yn ein staff a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu Cymraeg a meithrin sgiliau ieithyddol: mae’n hanfodol darparu hyfforddiant effeithiol a hwylus, gan roi amser a chymhelliant i bobl wella’u sgiliau Cymraeg yn barhaus.
  • Parhau i fod yn sefydliad agored, cynhwysol ac amrywiol: mae gan bawb y potensial i fod yn siaradwr Cymraeg, ac nid yw’r strategaeth hon yn groes i’n hymrwymiad i fod yn agored, yn gynhwysol ac yn amrywiol – er y bydd sgiliau Cymraeg yn fwyfwy angenrheidiol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi, nid yw meithrin gweithle dwyieithog yn golygu (nac yn awgrymu) bod y sgiliau hynny’n ofynnol ar gyfer ymuno â Llywodraeth Cymru.
  • Mynd ati’n rheolaidd i adolygu ein ffyrdd o weithio er mwyn hwyluso mwy o ddefnydd o’r Gymraeg: pan fyddwn yn cyflwyno polisïau a mentrau mewnol newydd, byddwn yn adolygu i ba raddau maent yn cynnig cyfleoedd pellach i’r staff ddefnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith beunyddiol.

Yn ogystal â gosod nod hirdymor ar gyfer 2050, rydym hefyd yn gosod amcan tymor byrrach ar gyfer y cyfnod hyd at 2025: yn ystod y pum mlynedd cyntaf, ein hamcan yw gweld Llywodraeth Cymru yn dod yn sefydliad sydd yn dangos esiampl yn ei defnydd mewnol o'r iaith pan gaiff ei hasesu yn erbyn sefydliadau tebyg yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd yr amcan tymor byrrach yn cael ei adolygu yn 2025, a bydd amcan newydd a chamau gweithredu cysylltiedig yn cael eu pennu ar gyfer y cyfnod dilynol o bum mlynedd – proses a fydd yn parhau hyd nes y cyrhaeddir nod 2050.

Mae deg cam gweithredu wedi'u nodi yn y strategaeth, a fydd yn ein helpu i gyflawni'r amcan o ddod yn sefydliad enghreifftiol dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r camau hyn yn seiliedig ar y themâu canlynol: arweinyddiaeth, dysgu, recriwtio a thechnoleg.

Cynnydd o ran gweithredu'r Strategaeth yn ystod yr ail flwyddyn

Er gwaethaf yr amgylchiadau anodd eleni, gwnaed cynnydd o ran gweithredu'r strategaeth:

Arweinyddiaeth

Mae pob newydd-ddyfodiaid i'r Uwch Wasanaeth Sifil bellach yn derbyn sesiynau cynefino ar y Gymraeg, gyda'n harweinwyr newydd yn cael eu cyfarwyddo i arwain drwy esiampl yn eu timau wrth ddefnyddio a hyrwyddo'r iaith. Mae hyn yn cynnwys cefnogi staff i ddatblygu, mireinio a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Rydym hefyd yn canolbwyntio ar brif ffrydio'r iaith mewn polisi, deddfwriaeth a phenderfyniadau ariannu. Mae'r Ysgrifennydd Parhaol wedi rhannu rhywfaint o'i weledigaeth gyda'r Uwch Wasanaeth Sifil ar gyfer datblygu defnydd yr iaith o fewn Llywodraeth Cymru, a byddwn yn adeiladu ar y seiliau hyn dros y misoedd nesaf gyda rhaglen hyfforddi bwrpasol newydd ar gyfer ein harweinwyr newydd.

Dysgu

Llynedd, sefydlodd ein tîm Dysgu a Datblygu gontract dysgu Cymraeg newydd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r contract hwn yn ein galluogi i fanteisio ar ystod llawer ehangach o gyfleoedd dysgu Cymraeg ac i ddarparu opsiynau hyfforddi pwrpasol a hyblyg i’n staff. Rydym wedi datblygu a rhannu prosbectws hyfforddiant Cymraeg newydd gyda staff, sy'n nodi'r 9 opsiwn gwahanol sydd bellach ar gael i'n staff ddatblygu eu sgiliau (gwersi wythnosol ar draws pob lefel dysgu, cyrsiau hyfforddi ar-lein, hyfforddiant ar-lein hunan gyfeiriedig, cwrs Codi Hyder, cwrs Gloywi, Say Something in Welsh, cwrs ynganu Cymraeg, cyrsiau preswyl, a defnyddio'r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol). Mae nifer y dysgwyr wedi cynyddu'n sylweddol ers ailwampio'r rhaglen; ym mis Mai 2020 roedd 73 dysgwr yn dilyn rhaglen dysgu Cymraeg, erbyn mis Mai 2022 roedd 366 wedi cofrestru ar gyfer hyfforddiant dysgu Cymraeg (mae rhagor o ddata wedi’i ddarparu isod). Mae ein rhaglen fentora yn sicrhau bod pob un o’n dysgwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau mewn cyd-destun anffurfiol a chyfeillgar gyda chydweithwyr.

Recriwtio

Mae newid ar y gweill i'r ffordd y caiff swyddi eu hysbysebu yn Llywodraeth Cymru. Yn ein gwaith o weithredu ‘Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd’ ni fyddwn yn hysbysebu swydd wag neu swydd newydd heb i'r Gymraeg gael ei nodi fel sgil dymunol, hanfodol neu byddwn yn gofyn iddi gael ei dysgu yn ei swydd. Yn hytrach, wrth benodi byddwn yn pwysleisio gwerth sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer gweithio yn y Llywodraeth, waeth beth fo natur y swydd.

Technoleg

Mae gweithio o bell yn golygu gweithio mewn ffordd wahanol a sefydlu arferion newydd. Rydym yn gweithredu pecyn cymorth a ddatblygwyd gan dîm prosiect "ARFer" ym Mhrifysgol Bangor o fewn y sefydliad. Nod y rhaglen yw newid arferion iaith cydweithwyr, gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yn addo defnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle. Rydym hefyd yn gweithredu prosiect darparu technoleg iaith Gymraeg yn ddiofyn i siaradwyr Cymraeg y sefydliad fel rhan o'n Cynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg. Mae gweithio gyda Microsoft i ddatblygu a lansio swyddogaeth cyfieithu ar y pryd yn Teams wedi bod yn ffocws sylweddol i'n gwaith yn y maes hwn dros y flwyddyn ddiwethaf.

3.2 Cwynion

Ni dderbyniodd Gweinidogion Cymru unrhyw gwynion yn ymwneud â'r safonau gweithredol yn ystod y cyfnod adrodd.

4. Data sgiliau Cymraeg

Mawrth 2022

  Darllen Siarad Deall Ysgrifennu
0 2213 (38.1%) 2726 (47%) 2408 (41.5%) 3089 (53.2%)
1 1539 (26.5%) 1337 (23%) 1264 (21.8%) 1117 (19.3%)
2 485 (8.4%) 306 (5.3%) 598 (10.3%) 329 (5.7%)
3 363 (6.3%) 204 (3.5%) 232 (4%) 331 (5.7%)
4 325 (5.6%) 294 (5.1%) 325 (5.6%) 334 (5.8%)
5 772 (13.3%) 833 (14.4%) 877 (15.1%) 487 (8.4%)
X 302 (5.2%) 299 (5.2%) 295 (5.1%) 312 (5.4%)

Mawrth 2021

  Darllen Siarad Deall Ysgrifennu
0 2188 (37.7%) 2670 (46.0%) 2384 (41.1%) 3026 (52.2%)
1 1451 (25%) 1266 (21.8%) 1174 (20.2%) 1052 (18.1%)
2 470 (8.1%) 295 (5.1%) 579 (10%) 307 (5.3%)
3 335 (5.8%) 188 (3.2%) 215 (3.7%) 322 (5.6%)
4 320 (5.5%) 289 (5%) 307 (5.3%) 326 (5.6%)
5 739 (12.7%) 799 (13.8%) 849 (14.6%) 461 (7.9%)
X 298 (5.1%) 294 (5.1%) 293 (5.1%) 307 (5.3%)

5. Data hyfforddiant dysgu Cymraeg

Data gwersi wythnosol 2021 i 2022

Dosbarthiadau Wythnosol Medi 2021 Cyfanswm Mynediad Sylfaen Canolradd Uwch Hyfedredd
Ceisiadau 211 89 59 27 31 5
Cofrestru 211 89 59 27 31 5
Dysgu o hyd ar hyn o bryd 56 22 19 9 5 0
Tynnu'n ôl ers cofrestru 154 67 40 18 26 5
Tynnu'n ôl cyn cofrestru 154 67 40 18 26 5
Ar hyn o bryd yn dal i ddysgu Cyfanswm
Prif ffrwd 50
Dosbarthiadau LlC (Prifysgol Caerdydd) 142
1:1 9
Hunan-Astudio Ar-lein 141
Codi Hyder 24
Cyfanswm 366
Hunan-astudio Ar-lein - (Diweddarwyd y data ddiwethaf 28/04/22) Nifer y Dysgwyr
Carfan 1 (Tach 21) 73
Carfan 2 (Ionawr 22) 53
Carfan 3 (Mawrth 22) 45

Cyrsiau ar-lein Cymraeg Gwaith - (Diweddarwyd y data ddiwethaf 13/05/22)

Isod ceir tabl sy'n cynnwys nifer o gofrestriadau staff Llywodraeth Cymru a chwblhau'r cyrsiau Cymraeg Gwaith Ar-lein am Ddim.

Cwrs Wedi cofrestri Wedi cwblhau 5 uned
Croeso: Rhan 1 116 10
Croeso: Rhan 2 37 3
Croeso Nôl: Rhan 1 20 4
Croeso Nôl: Rhan 2 9 3
Gwella Eich Cymraeg: Rhan 1 20 2
Gwella Eich Cymraeg: Rhan 2 10 1
Amaethyddiaeth: Rhan 1 4 0
Amaethyddiaeth: Rhan 2 2 2
Sector Manwerthu: Rhan 1 3 2
Sector Manwerthu: Rhan 2 2 2
Gwasanaethau Brys: Rhan 1 3 0
Gofal Cymdeithasol: Rhan 1 2 0
Sector Twristiaeth: Rhan 1 1 1
Sector Twristiaeth: Rhan 2 1 0
Cyfanswm 230 30

Cwrs Codi Hyder

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 10-15 o sesiynau dwy awr yn wythnosol ac mae wedi'i anelu at unigolion sydd â sgiliau siarad Cymraeg e.e. wedi'u magu yn y Gymraeg neu wedi derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, ond naill ai wedi rhoi'r gorau i'r arfer o ddefnyddio eu Cymraeg, neu heb gael y cyfle i wneud hynny. Mae’n bosibl fod y rhesymau hyn wedi arwain at ddiffyg hyder yn defnyddio’u Cymraeg, er y mae’n bosibl fod awydd ganddynt i wneud hynny am resymau teuluol, gwaith neu gymdeithasol.

Cwrs Nifer o staff sy'n cwblhau
Gogledd Cymru 4
De Cymru 20

Dysgu a datblygu (Cyfnod adrodd Mai 2021 – Ebril 2022)

Sesiynau cynefino

Rhaid i bob aelod newydd o staff ymgymryd â hyfforddiant cynefino.

Fel rhan o'r broses, mae Tîm y Safonau yn darparu sesiwn ymwybyddiaeth iaith yn ystod y cwrs. Darperir sesiwn awr o hyd yn esbonio mwy am weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith, egwyddorion prif ffrydio, a’n dyletswyddau o ran cydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg.

  • Nifer y sesiynau 'Y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru' – 19 (cyfanswm o 349 aelod o staff)

Cyrsiau eraill a ddarperir drwy gyfrwng y Gymraeg (Mai 2021 - Ebrill 2022)

Teitl y cwrs Cyfanswm y sesiynau Sesiynau a gyflwynwyd drwy gyfrwng y Gymraeg
Cyrsiau TGCh 167 (1,800 o aelodau staff) 5 (45 aelod o staff)
Cyflwyniad i'ch Senedd 18 (268 aelod o staff) 5 (23) aelod o staff)

Cyrsiau Ymwybyddiaeth y Gymraeg

Teitl y cwrs Cyfanswm y sesiynau Mynychwyr
Kick off Cymraeg - Mae'r sesiwn ar-lein ddiddorol a hwyliog hon yn caniatáu i gyfranogwyr archwilio'r Gymraeg a strategaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'i defnydd mewnol – 'Cymraeg. Mae'n perthyn i ni i gyd'. 2 26
Ynganu Cymraeg - Mae'r sesiwn 1.5 awr ryngweithiol ac ymarferol hon yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddeall sut i ynganu'r Gymraeg ac ymarfer geiriau ac ymadroddion allweddol, enwau pobl ac enwau lleoedd mewn amgylchedd calonogol a chefnogol. 3 26

Rhwydwaith yr Iaith Gymraeg (Rhwydwaith Cymraeg)

Mae cyfanswm o 383 o  weithwyr Llywodraeth Cymru yn aelodau o'n rhwydwaith iaith Gymraeg mewnol ar ein Labordy Dysgu. Mae hyn yn gynnydd o 139 o aelodau ers y llynedd.

Nod y rhwydwaith hwn yw darparu lle ar ein Lab Dysgu (y llwyfan dysgu a datblygu i staff) ar gyfer staff sy'n dysgu/siarad Cymraeg i ymarfer a chynyddu eu hyder drwy gael sgyrsiau a rhannu'r newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant, cyfleoedd, y cyfryngau ac ati gydag eraill.

Anogir pob dysgwr a gweithiwr newydd i ymuno â'r rhwydwaith.

6. Data recriwtio

Nifer y swyddi newydd a swyddi gwag a hysbysebwyd a oedd wedi'u categoreiddio fel swyddi sy’n gofyn am:

  1. Sgiliau Cymraeg hanfodol
  2. Sgiliau Cymraeg i'w dysgu pan gânt eu penodi
  3. Sgiliau Cymraeg yn ddymunol
  4. Sgiliau Cymraeg ddim yn angenrheidiol

yn ystod 2021-2022 fel a ganlyn:

Categori Hysbysebu’n fewnol Hysbysebu'n allanol
Hanfodol 2 24
I’w dysgu yn y rôl 6 4
Dymunol 127 107
Ddim yn angenrheidiol 22 56
Cyfanswm 157 191

Penodiadau Cyhoeddus: Asesiadau Sgiliau Iaith Gymraeg

Yn ogystal, mae holl benodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn destun asesiad sgiliau Cymraeg. Yn ystod y cyfnod adrodd, cynhaliwyd 55 o asesiadau sgiliau penodiadau cyhoeddus. O'r 55 asesiad hynny, roedd 13 wedi'u categoreiddio'n hanfodol a 42 yn ddymunol.