Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rwy’n falch o gyhoeddi ein trydydd adroddiad blynyddol yn nhymor y Senedd hon, gan dynnu sylw at y cynnydd a wnaed gennym tuag at gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu a’r camau yr ydym yn eu cymryd i wireddu ein hamcanion llesiant.

Mae heriau’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn ddi-baid. Eleni, fe wnaethom barhau i wynebu chwyddiant uchel, costau byw cynyddol ac ansicrwydd byd-eang gyda gwrthdaro ofnadwy yn Wcráin a’r Dwyrain Canol.

Mewn termau real, mae ein setliad cyllidebol yn werth £800 miliwn yn llai na’r disgwyl adeg adolygiad gwariant diwethaf y DU yn 2021. O ganlyniad, bu’n rhaid gwneud dewisiadau anodd. Er hynny, drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae’n bwysig cydnabod ymroddiad a gwaith caled ein holl bartneriaid ledled Cymru y mae eu hymrwymiad a’u gwytnwch wedi bod yn ddiwyro.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn dangos y cynnydd cadarn a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf, o dan arweiniad fy rhagflaenydd Mark Drakeford. Er gwaethaf y cefndir ariannol anodd, mae’r adroddiad yn dangos ein bod wedi parhau i gyflawni ein blaenoriaethau. Boed drwy gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, arwain y byd mewn cyfraddau ailgylchu, neu gefnogi dros 30,000 o bobl ifanc yn rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, rydym yn cyflawni ar gyfer pobl ble bynnag y maent yn byw a beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Mark am ei gyfraniad aruthrol ac i ailddatgan fy ymrwymiad i adeiladu ar y cyfraniad hwnnw.

Hoffwn ddiolch hefyd i Aelodau Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian AS a Cefin Campbell AS, am eu cydweithrediad ar y Cytundeb Cydweithio.

Eleni, rydym wedi cynhyrchu Adroddiad Blynyddol mwy cryno a phenodol, ac yn y dyfodol byddwn yn cyhoeddi llai o strategaethau, cynlluniau ac adroddiadau blynyddol. Yn hytrach, byddwn yn rhannu ein cynlluniau a’n cynnydd drwy ddulliau sy’n defnyddio llai o adnoddau fel y gallwn ganolbwyntio’n barhaus ar gyflawni’n ymarferol.

Image

Vaughan Gething AS
Prif Weinidog Cymru

Cyflwyniad

Dyma drydydd adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon. Mae’n nodi’r cynnydd a wnaed gennym tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Strwythur yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad wedi’i drefnu o amgylch 10 amcan llesiant, gan dynnu sylw at gyflawniadau allweddol a chamau gweithredu a gymerwyd tuag at gyflawni’r amcanion hyn. Yn ogystal, ceir diweddariad manwl (yr atodiad) ar bob ymrwymiad a nodir o dan yr amcanion yn y Rhaglen Lywodraethu – y camau tuag at wireddu ein hamcanion llesiant.

Drwy gydol 23/24, buom yn gweithio gyda Phlaid Cymru ar nifer o’r ymrwymiadau sy’n cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant ac a oedd yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio; amlygir y rhain yn y diweddariad manwl ategol (yr atodiad).

Dyma’r deg amcan llesiant:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Mae gwerthfawrogi a blaenoriaethu ein GIG yn hanfodol i sicrhau bod Cymru’n genedl iach a llewyrchus. Mae ein GIG arwrol yn gweithio’n ddiflino i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac ym mis Hydref 2023, i gydnabod y pwysau parhaus ar y gwasanaeth ac effaith chwyddiant, gwnaethom ddarparu £425m ychwanegol i gefnogi’r GIG.

Rydym yn parhau i wneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros; mae arosiadau dros 104 wythnos wedi bod yn lleihau bob mis ers dwy flynedd. Ym mis Mawrth 2024, roedd y rhain 71% yn is na’u huchafbwynt wedi’r pandemig ac roedd perfformiad o ran canser ar ei lefel uchaf ers 2 flynedd.

Mae gweithlu’r GIG yn hanfodol i leihau amseroedd aros ac ym mis Mawrth 2024 daethom i gytundeb â Llywodraeth Kerala i 250 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol atgyfnerthu GIG Cymru. Yn nes at adref, cwblhawyd y cyfweliadau ar gyfer y criw cyntaf o fyfyrwyr a fydd yn dechrau astudio yn ein hysgol feddygol newydd yn y Gogledd ym mis Medi.

Cynhaliwyd ein hymgyrch ‘Helpwch Ni i’ch Helpu Chi’ rhwng mis Tachwedd a mis Chwefror gan gyrraedd 96% o oedolion yng Nghymru. Hyrwyddodd yr ymgyrch hon wasanaethau gan optometryddion, fferyllwyr, unedau mân anafiadau yn ogystal â GIG 111 Cymru, i helpu pobl i gael at y gofal cywir, y tro cyntaf a’u dargyfeirio o ymweliadau diangen ag adrannau achosion brys.

Mae’r contractau diwygiedig â deintyddion, fferyllfeydd cymunedol a meddygon yn darparu gofal o safon i fwy o bobl. Eleni, darparwyd dros 1 miliwn o gyrsiau triniaeth ddeintyddol, ac mae gan dros 97% o feddygfeydd teulu nawr brosesau ar waith i osgoi’r dagfa am 8 y bore a galluogi pobl i gysylltu â’r feddygfa i drefnu apwyntiad drwy gydol y dydd. Mae’r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol ar gael mewn 99% o fferyllfeydd ac mae presgripsiynydd ar gael mewn un o bob pedair fferyllfa, gan gynnig cyngor a thriniaeth am ddim heb fod angen gweld meddyg teulu.

Gwnaethom barhau i flaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant meddyliol gan ddyrannu £25m ychwanegol yn 2023/2024 i helpu i gynyddu capasiti gwasanaethau iechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys cynyddu’r ddarpariaeth mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS), cyswllt â gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau anhwylderau bwyta i gefnogi ymyriadau cynnar a mynediad prydlon at wasanaethau. Mae ein gwasanaeth 111 pwyso 2 i gael cymorth iechyd meddwl brys bellach ar gael ledled Cymru 24 awr y dydd, bob dydd ac mae wedi cael ei ddefnyddio gan 80,000 o bobl.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ffordd o gysylltu pobl o bob oedran a chefndir â’u cymuned er mwyn rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well. Mae’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, a lansiwyd ym mis Rhagfyr, yn amlinellu’r model presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, ac yn ceisio annog camau lleol i’w wneud yn beth arferol ledled Cymru.

2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

Mae’r 1000 diwrnod cyntaf yn cael cryn ddylanwad ar ganlyniadau bywyd plentyn. Rydym am i bob plentyn gael y dechrau gorau mewn bywyd ac rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein rhaglen flaenllaw Dechrau’n Deg. Yn ôl y ffigurau diweddaraf (22/23), roedd dros 35,400 o blant yn cael cymorth i’w helpu i ffynnu a thyfu. Erbyn mis Mawrth 2024, roedd dros 6,900 o leoedd gofal plant ychwanegol Dechrau’n Deg wedi cael eu cynnig i rieni plant 2 oed ledled Cymru ac roedd dros 1,000 o blant wedi manteisio ar y rhain mewn lleoliad cyfrwng Cymraeg.

Ym mis Mai 2024, gwnaethom gyflwyno ein Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol trawsnewidiol i ddileu elw preifat o wasanaethau plant penodol. Bydd y ddeddfwriaeth yn sicrhau bod rhaid i unrhyw ddarparwr newydd sy’n cynnig gwasanaeth plant o dan gyfyngiad fod yn awdurdod lleol neu’n endid nid-er-elw. Yn ogystal, bydd y Bil yn galluogi pobl sy’n cael gofal iechyd parhaus y GIG i ofyn am daliadau uniongyrchol fel y gallant ddewis sut i sicrhau gwasanaethau sy’n briodol ar gyfer eu hanghenion nhw.

Rydym yn gweithio gyda’n llysgenhadon ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ar ein gweledigaeth uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru ac ym mis Medi gwnaethom lansio’r Siarter Rhianta Corfforaethol. Mae deugain ‘rhiant corfforaethol’ newydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y Siarter ac yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael yr un cyfleoedd a phrofiadau bywyd â phlant a phobl ifanc eraill. Ym mis Mehefin 2023, caeodd y cyfnod cofrestru ffurfiol ar gyfer y Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal ac erbyn mis Gorffennaf 2023 roedd dros 97% o’r rhai a oedd yn gymwys wedi’u cofrestru.

Buddsoddwyd £43m yn 2023/2024 o’n cronfa Tai â Gofal gan barhau i gefnogi gwasanaethau llety i blant ag anghenion cymhleth yn nes at adref. Mae’r gronfa wedi cefnogi 25 o gynlluniau preswyl i blant a 6 chynllun llety mewn argyfwng, llety seibiant neu lety dros dro i blant a phobl ifanc. Mae buddsoddiadau eraill yn cynnwys 24 o gynlluniau byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu, a 14 o gynlluniau llety â chymorth ar gyfer oedolion a theuluoedd ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth a gofal eraill.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd ein cynllun gweithredu cychwynnol tuag at Wasanaeth Gofal Cenedlaethol gan amlinellu’n fanwl y cam cyntaf yn y rhaglen 10 mlynedd o hyd. Mae’r swyddfa newydd, y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth, a sefydlwyd ym mis Ebrill 2024, yn garreg filltir bwysig ar y daith uchelgeisiol hon. Mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol i gefnogi ein nod o greu system ofal integredig ac ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac rydym yn falch ein bod wedi darparu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol am ail flwyddyn.

3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i economi sydd â gwaith teg wrth ei gwraidd, lle mae busnesau, undebau a gweithwyr yn gweithio gyda’i gilydd er budd pawb. Ym mis Ebrill 2024, daeth y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus i rym, gan sicrhau bod cyflogwyr a gweithwyr yn cael eu cynnwys yn y broses o wneud penderfyniadau am eu llesiant.

Cafodd ein cenhadaeth Economaidd, ei ail-lansio ym mis Tachwedd ac mae’n nodi pedair blaenoriaeth:

  • pontio teg a ffyniant gwyrdd
  • platfform i bobl ifanc, gwaith teg, sgiliau a llwyddiant
  • partneriaethau cryfach ar gyfer rhanbarthau cryfach a’r economi bob dydd
  • buddsoddi ar gyfer twf.

Rydym yn parhau i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, a’r ffocws allweddol ar gyfer twf economaidd yw addysg a sgiliau. Mae dros 30,000 o bobl ifanc wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd a sgiliau fel rhan o’n Gwarant i Bobl Ifanc, ac ers mis Mai 2021 rydym wedi darparu bron i 51,000 o brentisiaethau pob oed. Nod y rhain yw cynnig profiad ymarferol a throsglwyddadwy mewn sectorau â blaenoriaeth a helpu i leihau prinder sgiliau.

Er mwyn sicrhau ffyniant gwyrdd, rydym yn gwneud y gorau o’n hadnoddau naturiol. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddwyd tri enillydd yr Her Môr-lynnoedd Llanw a gafodd gyllid i gwblhau eu prosiectau ymchwil. Gwnaethom hefyd ddarparu bron i £1m o gyllid i gefnogi Cymru i fod yn arweinydd ym maes ynni ffrwd lanw. Yn ogystal, darparwyd £1m arall i Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau i’w alluogi i fanteisio i’r eithaf ar wynt arnofiol yn y Môr Celtaidd.

Er mwyn denu mwy o fuddsoddiad mewn seilwaith, gan gynnwys ein sector ynni adnewyddadwy, cafodd y Bil Seilwaith nodedig y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2024. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn darparu proses gynllunio ‘siop un stop’ newydd sy’n caniatáu i ganiatadau, cydsyniadau a thrwyddedau penodol gael eu dyfarnu i brosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys ynni adnewyddadwy.

Mae ein clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd llewyrchus yng nghyffiniau Casnewydd yn creu swyddi sgiliau uchel ac yn sbarduno twf allforion o Gymru. Cefnogwyd gwneuthurwr offer lled-ddargludyddion o’r Unol Daleithiau, sef KLA, i ddod â’i bencadlys a’i ganolfan Ymchwil a Datblygu newydd i Gymru. Y gobaith yw y bydd y cyfleuster newydd hwn, pan fydd ar agor, yn cyflogi tua 750 o bobl. Ym mis Medi, er mwyn amlygu Cymru fel lleoliad blaenllaw o ran datblygu lled-ddargludyddion, gwnaethom ymuno â Chynghrair Rhanbarthau Lled-ddargludyddion Ewrop.

Rydym yn cydnabod yr heriau sy’n wynebu’r sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch oherwydd chwyddiant a biliau ynni uchel. Dyrannwyd dros £140m i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig o 75% i fusnesau yn y sectorau hyn yng Nghymru. Flwyddyn ers lansio ein Cynllun Gweithredu Manwerthu, rydym yn falch o fod wedi darparu £20m yn ychwanegol i gefnogi hyd at 2,500 o fusnesau i fod yn fwy effeithlon o ran ynni. Yn ogystal, mae ein Rhaglen Trefi Smart yn cefnogi 133 o drefi i gasglu a defnyddio data i wneud penderfyniadau gwell sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

Rydym wedi ymrwymo i bontio cyfiawn tuag at economi sero net, a hynny gan groesawu’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig i’n holl fusnesau a chymunedau, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Er mwyn datgarboneiddio trafnidiaeth, mae angen i fwy ohonom ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy. Yn 23/24, cafodd mwy na £100m ei fuddsoddi i wella trafnidiaeth leol, gan gefnogi prosiectau a fydd yn darparu mwy o seilwaith gwefru cerbydau trydan, gwell trafnidiaeth gyhoeddus leol a mwy o seilwaith i gefnogi cerdded a beicio.

Mae teithio llesol yn chwarae rhan allweddol o ran lleihau teithiau ceir a gwella canlyniadau iechyd. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddwyd ein Cynllun Cyflawni Teithio Llesol newydd sy’n nodi sut y byddwn yn gwneud cerdded a beicio yn fwy deniadol ac yn fwy cynhwysol.

Er mwyn gwella’r rhwydwaith bysiau, rhaid inni ddod â threfn ddadreoleiddio’r sector bysiau i ben, ac rydym yn bwrw ymlaen â’n deddfwriaeth a fydd yn trawsnewid y sector. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddwyd Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau sy’n nodi sut y byddwn yn gweithio gyda’r diwydiant bysiau ac undebau llafur i gyflawni ein gweledigaeth o rwydwaith bysiau symlach, rhatach a mwy effeithlon.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw technoleg ddigidol o ran lleihau teithiau, cadw busnes yn gystadleuol a lledaenu cyfoeth, gwytnwch a llesiant ar hyd a lled Cymru. Rydym yn falch ein bod wedi rhagori ar dargedau i gyflwyno band eang sy’n gallu delio â gigadidau. Mae 44,000 o eiddo wedi elwa ar y band eang hwn.

Mae’r anghenion trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig yn wahanol i’r rhai mewn trefi a dinasoedd. Ym mis Mawrth 2024, cyhoeddwyd canllawiau newydd ar drafnidiaeth gynaliadwy mewn ardaloedd gwledig a darparwyd cyllid ychwanegol i greu rhwydwaith o glybiau ceir yn y cymunedau hyn.

Ein gweledigaeth yw sicrhau diwydiant ffermio llwyddiannus yng Nghymru sy’n cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, yn gofalu am ein hamgylchedd ac yn cefnogi ein cymunedau gwledig. Cyflwynodd Deddf Amaethyddiaeth (Cymru), a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ym mis Awst, yr amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy fel y fframwaith ar gyfer cymorth yn y dyfodol. Rhwng mis Rhagfyr a mis Mawrth, ymgynghorwyd ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Rydym wedi gwrando ar y pryderon a godwyd yn ystod y broses honno ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ar gyfer cynllun sy’n parhau i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch o safon mewn modd cynaliadwy.

Ym mis Hydref 2023, cyhoeddwyd Llwybr Newydd i Natur – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur ar gyfer ein Rhwydwaith Ffyrdd Strategol sy’n ymgorffori bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau ar draws ystad y Rhwydwaith ledled Cymru. Yn 2023/2024, ar hyd a lled y Rhwydwaith, cafodd 17,000 o goed a llwyni brodorol newydd a 220,000 o blanhigion a bylbiau brodorol ifanc eu plannu, cafodd 7.5 hectar o ardaloedd blodau gwyllt eu creu neu eu gwella, a chafodd 13.7 hectar o goetiroedd eu gwella a’u rhoi o dan reolaeth weithredol.

5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Cymru bellach yw’r ail wlad orau yn y byd am ailgylchu trefol. Er mwyn mynd gam ymhellach, ym mis Ebrill 2024, daethpwyd â’r Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd i rym. Mae’r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector wahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu yn y ffordd y mae cartrefi eisoes yn ei wneud ar draws y rhan fwyaf o’r wlad. Bydd hyn yn helpu i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi neu i’w losgi.

Mae ein canolfannau Atgyweirio ac Ailddefnyddio yn parhau i fod yn ased i gymunedau ledled Cymru, gan helpu yn ystod yr argyfwng costau byw a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a hyn oll wrth wella ein heffeithlonrwydd o ran adnoddau. Mae ein Cronfa Economi Gylchol wedi darparu 53 o ganolfannau ac wedi buddsoddi mewn sefydliadau cymunedol fel Caffi Trwsio Cymru, sydd wedi ehangu eu rhwydwaith o gaffis trwsio i 118 o gymunedau ledled Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 ar 30 Hydref 2023, gan wahardd neu gyfyngu ar wyth o gynhyrchion plastig untro yng Nghymru. Fel cam nesaf, rydym wedi ymrwymo i ddechrau’r gwaharddiadau ar y cynhyrchion sy’n weddill, sy’n cynnwys caeadau polystyren ar gyfer cwpanau, cynwysyddion bwyd a bagiau plastig untro erbyn mis Mawrth 2026. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau i wahardd weips gwlyb sy’n cynnwys plastig erbyn diwedd 2024.

Ym mis Ebrill 2024, helpodd trigolion ac ymwelwyr yn Aberhonddu i greu’r fenter gyntaf o’i thebyg yn y byd drwy dreialu cynllun dychwelyd ernes digidol ar draws y dref. Cafodd y cynllun ganlyniadau cadarnhaol gyda dros 18,974 o wobrau wedi’u hawlio ar eitemau ailgylchadwy cymwys a’r mwyafrif o’r cyfranogwyr yn dweud y byddent yn argymell cynllun o’r fath yn y dyfodol.

Mae diogelu a gwarchod natur a bioamrywiaeth Cymru yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur presennol. Parhaodd ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddod â chymunedau ynghyd i wella amgylcheddau lleol ledled Cymru. Roedd hyn yn cynnwys creu mwy na 730 o safleoedd peillwyr, mwy na 220 o safleoedd tyfu bwyd cymunedol, 500 o fannau gwyrdd, 260 o berllannau cymunedol o goed ffrwythau brodorol a 25 o erddi synhwyraidd therapiwtig a grëwyd gydag elusennau iechyd a GIG Cymru.

Lansiwyd Cynllun Statws Coedwig Genedlaethol Cymru ym mis Mehefin 2023, gan alluogi coetiroedd y tu allan i Ystad Goetir Llywodraeth Cymru i ymuno â’r Goedwig Genedlaethol. O ganlyniad, mae 28 o safleoedd coetir nad ydynt ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru wedi ymuno, gan arwain at rwydwaith Coedwig Genedlaethol o dros 100 o goetiroedd unigol amrywiol, yn amrywio o 1 hectar i dros 1,000 hectar. Mae cyfanswm maint y Goedwig Genedlaethol ar hyn o bryd yn 67,699 hectar.

6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

Ym mis Medi, cwblhawyd y broses o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mhob lleoliad nas cynhelir a phob ysgol gynradd. Mae’r Cwricwlwm hefyd wedi’i gyflwyno ym mlynyddoedd 7 ac 8 yn ein hysgolion uwchradd.

Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cyrhaeddiad mewn rhifedd a llythrennedd, ym mis Tachwedd, lansiwyd ein Cynllun Mathemateg a Rhifedd. Rydym hefyd wedi cryfhau ein Pecyn Cymorth Llafaredd a Darllen i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a gwreiddio dull ysgol gyfan o gyflawni safonau uchel.

Ers y pandemig, mae gormod o bobl ifanc yn colli amser amhrisiadwy yn yr ysgol. Yn 2023/2024, buddsoddwyd £6.5m yn ychwanegol i recriwtio mwy o swyddogion ymgysylltu â theuluoedd a darparwyd £2.5m i swyddogion lles addysg roi cymorth ychwanegol i ddysgwyr â chyfraddau absenoldeb uchel. Er mwyn cefnogi ysgolion a lleoliadau i wella ymgysylltiad dysgwyr, ym mis Hydref, cyhoeddwyd canllawiau presenoldeb newydd, sef Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi. Yn ogystal, ym mis Rhagfyr, sefydlwyd Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol i ystyried a nodi camau pellach i ysgogi gwelliannau.

Er mwyn sicrhau na aiff unrhyw blentyn heb fwyd yn yr ysgol, rydym wedi sicrhau bod £58.5m arall ar gael i gyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd. Ym mis Mawrth 2024, daeth 153,000 o ddisgyblion yn gymwys o’r newydd i gael prydau ysgol am ddim o dan y cynnig a chafodd 16.4m o brydau ysgol am ddim ychwanegol eu gweini. Rydym ar y trywydd i ddatblygu’r ymrwymiad yn llawn erbyn mis Medi 2024, yn gynt na’r disgwyl, gyda 19 o’r 22 awdurdod lleol eisoes wedi cyflwyno’r cynllun i bob grŵp oedran ysgol gynradd.

Yn haf 2023, cynhaliodd y Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf 175 o gynlluniau, gan ddarparu dros 11,150 o leoedd i blant mewn ardaloedd dan anfantais economaidd-gymdeithasol ar bob diwrnod gweithredu. Amlygodd gwerthusiad o’r rhaglen ei llwyddiant o ran cefnogi ymgysylltu ag ysgolion ac uchelgeisiau yn ystod gwyliau’r ysgol a gwelwyd effeithiau cadarnhaol ar weithgarwch corfforol, deiet a llesiant emosiynol plant.

Ym mis Medi, sefydlwyd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd y Comisiwn yn dod yn weithredol yr haf hwn ac mae ei flaenoriaethau strategol yn cynnwys darparu dysgu hyblyg, cynnal safonau rhagorol, lleihau bylchau mewn cyrhaeddiad a rhoi’r dysgwr wrth wraidd y system addysg drydyddol.

Er mwyn meithrin diwylliant arloesi bywiog yng Nghymru a hyrwyddo arloeswyr, dyfarnwyd £11.8m i gefnogi dros 130 o brosiectau gyda’r nod o wella bywydau pobl, tyfu’r economi, a mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae cynllun cydweithredol y cytunwyd arno gydag Innovate UK, wedi ysgogi £57m o fuddsoddiad gan y DU i Gymru.

7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Ein nod yw i Gymru fod yn fan lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddwyd adroddiad blynyddol cyntaf y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Roedd y cynnydd yn cynnwys penodi deg mentor cymunedol o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y sector gofal plant a pharhau i ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru er mwyn helpu pobl sydd newydd gael eu cydnabod yn ffoaduriaid (ceiswyr lloches gynt) i gael llety ‘Symud Ymlaen’. Er mwyn gweithredu’r cynllun, gwnaethom hefyd lansio ein Cynllun Grantiau Diwylliant ar gyfer Sefydliadau Llawr Gwlad sy’n grymuso pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i ddathlu a rhannu eu diwylliant, gan gyfoethogi cefndir diwylliannol cyfoethog Cymru ymhellach.

Dylai pawb deimlo’n ddiogel ym mhob agwedd ar eu bywydau, gan gynnwys ar-lein. Rydym wedi cynnal sgyrsiau â phlatfformau cyfryngau cymdeithasol i nodi ffyrdd cydweithredol o weithio i fynd i’r afael â throseddau casineb ar-lein. Gwnaethom hefyd ddarparu dros £390,000 o gyllid i Ganolfan Cymorth Casineb Cymru. Cafodd y ganolfan dros 2,200 o atgyfeiriadau gan ddioddefwyr troseddau casineb, ac roedd 85% o’r rhain yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsant.

Mae ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi’i gydnabod drwy’r byd fel enghraifft o arfer dda ym maes llunio polisïau hawliau dynol. Yn 2023/2024, ehangwyd gwasanaethau cymorth i oroeswyr arferion trosi ledled Cymru a mynegwyd pryder gyda Llywodraeth y DU am ei hoedi wrth gyflwyno deddfwriaeth i wahardd yr arfer. Rydym yn falch o gefnogi digwyddiadau Balchder a gwnaethom ariannu naw ohonynt yn 2023.

Drwy waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl, rydym wedi sicrhau bod y Model Cymdeithasol o Anabledd yn gwbl ganolog i’n gweledigaeth ar gyfer Cymru. Drwy ddeg gweithgor y Tasglu ymgysylltwyd â mwy na 350 o randdeiliaid, gan gynnwys y rhai â phrofiad bywyd a sefydliadau pobl anabl, i gydgynhyrchu camau gweithredu a fydd yn creu newid cadarnhaol hirdymor i bobl anabl.

Rydym yn parhau i roi cymorth i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Yn ystod 2023/2024, helpodd y Gronfa Gynghori Sengl dros 108,000 o bobl i ddelio â mwy na 380,000 o broblemau lles cymdeithasol, gan eu galluogi i hawlio mwy na £33m o incwm ychwanegol a dileu dyledion o 11m. Gwnaethom hefyd ddarparu bron i £32m mewn grantiau i dros 234,000 o unigolion drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Roedd dros £17.8m o hyn mewn taliadau arian parod, gan ddarparu cymorth i bobl sy’n agored i niwed yn ariannol gyda chostau byw sylfaenol fel biliau bwyd ac ynni.

Ym mis Ionawr, cyhoeddwyd ein Strategaeth Tlodi Plant a chefnogwyd lansiad yr Aml-fanc cyntaf yng Nghymru, sef Cwtch Mawr. Mae’r cynllun arloesol hwn yn helpu busnesau i leihau gwastraff drwy roi nwyddau dros ben, nad ydynt yn ddarfodus, fel papur toiled a theganau, bobl am ddim, gan gefnogi’r rhai mwyaf anghenus yn ein cymdeithas.

8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

Ein huchelgais yw cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg a chyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ym mis Chwefror, gwnaethom gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’n Papur Gwyn ar Fil y Gymraeg ac Addysg. Cafwyd cefnogaeth eang i’w uchelgeisiau trawsnewidiol o ran galluogi pob disgybl i ddod yn siaradwr Cymraeg annibynnol a hyderus.

Er mwyn sicrhau digon o athrawon i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gwnaethom gyflwyno bwrsariaeth gwerth £5,000 ym mis Ebrill 2023 i’r athrawon hynny a oedd wedi ennill Statws Athro Cymwysedig ers mis Awst, i’w hannog i ymuno â’r proffesiwn ac aros ynddo. Gwnaethom hefyd lansio cyfnod 2 ein cynllun capasiti’r gweithlu cyfrwng Cymraeg, gyda chymorth gwerth £800,000 i alluogi ysgolion i fynd i’r afael â phrinder yn y gweithlu drwy gynlluniau lleol.

Er mwyn cefnogi rhieni ac athrawon nad ydynt yn hyderus i ddarllen y Gymraeg gyda phlant, rhoddwyd cyllid i Darllen Co, sef platfform digidol ar-lein sy’n caniatáu i blant ddarllen a gwrando ar lyfrau Cymraeg ar yr un pryd. Bellach, mae ychydig yn llai na 40,000 o bobl yn elwa ar y platfform.

Ym mis Mawrth 2024, gwnaethom lansio’r rhaglen Llysgenhadon Diwylliannol, gan alluogi pobl ledled Cymru i wirfoddoli, hyfforddi a chymhwyso fel llysgenhadon lleol fel y gallant gefnogi unigolion sy’n newydd i gymunedau ddysgu rhagor am y Gymraeg a’n diwylliant.

Mae ein sector creadigol yn enghraifft o lwyddiant economaidd. I ysgogi twf ymhellach a meithrin doniau a sgiliau, gwnaethom ariannu ystod o fentrau yn ystod 2023/2024, gan gynnwys dros 30 o brosiectau yn y sectorau teledu, gemau ac animeiddio drwy ein Cronfa Datblygu Cymru Greadigol. Ym mis Chwefror, gwnaethom hefyd gyhoeddi dros £700,000 ar gyfer 17 o leoliadau cerddoriaeth annibynnol llawr gwlad er mwyn eu galluogi i gynnal gweithgareddau diwylliannol drwy gydol y flwyddyn.

Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd gweithgareddau diwylliannol Cymraeg ar gyfer sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio a chadw sgiliau Cymraeg. Ym mis Hydref, ar y cyd ag S4C, gwnaethom lansio Sinema Cymru i flaenoriaethu a chefnogi’r gwaith o gynhyrchu ffilmiau Cymraeg. Hyd yma, mae pedair ffilm wedi’u blaenoriaethu er mwyn eu datblygu.

Rydym yn cefnogi grym y celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd, ac ym mis Mai, cyhoeddwyd ein hymgynghoriad ar strategaeth ddiwylliant newydd sef Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant 2024-2030. Er gwaethaf y cyd-destun ariannol heriol, rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn prosiectau diwylliannol blaenllaw gan gynnwys ailddatblygu Theatr Clwyd a’r Amgueddfa Bêl-droed newydd i Gymru.

9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Ein huchelgais yw rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn ei holl ffurfiau ym mhob cwr o Gymru, gan sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr a heb ei ailadrodd. Ym mis Hydref, gwnaethom gyhoeddi Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru ar gyfer ymgynghoriad a chafwyd 380 o ymatebion. Dros y 12 mis diwethaf, mae dros 17,500 o bobl wedi cael cymorth drwy lety dros dro gyda dros £210m wedi’i roi yn ystod 23/24 i atal digartrefedd a darparu cymorth.

Ym mis Mehefin 2023, cyhoeddwyd y Papur Gwyrdd ynghylch creu llwybr tuag at Dai Digonol – gan gynnwys Rhenti Teg a Fforddiadwyedd. Cafwyd dros 380 o ymatebion a fydd yn darparu gwybodaeth ar gyfer y Papur Gwyn.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i gynyddu nifer y tai cymdeithasol. Mae’r Datganiad Ystadegol Tai Fforddiadwy diweddaraf ar gyfer 2022/2023, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn dangos bod 3,212 gartrefi ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol wedi’u sicrhau ledled Cymru, sef cynnydd o 25% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn ystod 23/24, ariannodd y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro 549 o gartrefi ychwanegol i’w rhentu yn y sector cymdeithasol, gan gynnwys caffael 498 o gartrefi.

Ym mis Hydref 2023, gwnaethom gyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru newydd, y newid mwyaf ers dros 20 mlynedd i safonau tai cartrefi cymdeithasol presennol. Yn sgil blaenoriaethu gofynion o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar hyblygrwydd, gofod a chynaliadwyedd, mae’n sicrhau bod tai cymdeithasol yn arwain y ffordd o ran lleihau allyriadau carbon a chostau ynni i denantiaid fel y gallant fyw’n dda yn eu cartrefi yn awr ac yn y dyfodol.

Mae ein cynllun Trawsnewid Trefi yn adfywio ein trefi drwy sicrhau bod adeiladau gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Yn ystod 23/24, gwnaethom roi benthyciadau gwerth dros £8m i bum awdurdod lleol, gan helpu prosiectau a oedd yn cynnwys adfer 12 safle defnydd cymysg yn ardal Caerffili, ailddatblygu Tŷ Parc yng Nghaerdydd a thrawsnewid banc gwag yng Nghaernarfon yn bedwar fflat i bobl ifanc ddigartref.

Ym mis Medi 2023, newidiodd y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya er mwyn achub bywydau a gwneud cymunedau’n fwy diogel. Mae data cynnar yn awgrymu bod nifer y damweiniau ac anafiadau wedi lleihau ers cyflwyno’r newid hwn. Ym mis Ebrill 2024, gwnaethom ddechrau rhaglen i wrando ar y wlad er mwyn ystyried a ddylai rhai ffyrdd ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya.

I fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi, eiddo gwag a rhai mathau o lety gwyliau ar gymunedau lleol, gwnaethom roi pwerau disgresiwn i awdurdodau lleol godi hyd at 300% o dreth gyngor ar eiddo o’r fath. Ers mis Ebrill 2024, mae 18 o’r 22 o awdurdodau lleol yn defnyddio’r rhain i godi premiymau.

10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Chwarter canrif ers datganoli, rydym yn cymryd camau pwysig i gryfhau democratiaeth yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ei adroddiad terfynol ym mis Ionawr 2024. Dyma gam pwysig yn nhaith gyfansoddiadol Cymru. Rydym wedi derbyn holl argymhellion y Comisiwn ac wedi dechrau ystyried ffyrdd o’u rhoi ar waith.

Er mwyn sicrhau deddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer pobl Cymru, ac ar eu rhan, cyflwynwyd Bil nodedig sef Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ym mis Medi. Cafodd y Bil hwn ei basio gan y Senedd ym mis Mai 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2024. Mae’r Bil yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Cafodd yr argymhellion hyn eu cefnogi gan fwyafrif o’r Aelodau o’r Senedd ym mis Mehefin 2022.

Ochr yn ochr â’n hymdrechion i drawsnewid y Senedd yn llais mwy cynrychioliadol i Gymru, rydym hefyd yn ariannu 16 o brosiectau drwy ein Grant Ymgysylltu â Democratiaeth. Bydd y prosiectau hyn yn helpu’r rhai sy’n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd a byddant yn amrywio o helpu pobl i gofrestru i bleidleisio, i gynnal gweithdai pwrpasol ar gyfer y gymuned fyddar i’w hannog i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Rydym yn parhau i wneud cynnydd o ran ein gwaith ar dreth gyngor decach. Ym mis Tachwedd, gwnaethom gyflwyno Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) gerbron y Senedd gan alluogi cylchoedd ailbrisio bob pum mlynedd ar gyfer y dreth gyngor o 2028 ymlaen, a hynny er mwyn cadw’r dreth gyngor yn deg ac yn ymatebol i amgylchiadau economaidd. Mae ystod o welliannau eraill i’r dreth gyngor yn parhau, gan weithio gydag awdurdodau lleol, y trydydd sector ac arbenigwyr eraill.

Rydym yn parhau i hyrwyddo Cymru ar y llwyfan rhyngwladol ac yn creu cyfleoedd sy’n newid bywydau i bobl yng Nghymru o ran dysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd. Ers 2022, mae Taith, ein rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ac addysgol wedi ariannu dros 12,000 o gyfleoedd i gymryd rhan. Mae Taith wedi canolbwyntio ar gefnogi pobl o gefndiroedd difreintiedig i elwa ar brofiadau rhyngwladol.

Mae Cymru’n parhau i fod yn genedl fasnachu falch ac mae ein hallforion yn rhan hanfodol o economi Cymru. Drwy Gynllun Gweithredu Allforio Cymru, rydym wedi parhau i gyflawni ystod o raglenni i helpu allforwyr presennol i dyfu, ehangu i farchnadoedd tramor newydd ac annog busnesau allforio newydd yng Nghymru. Yn ystod 2023/2024, gwelodd ein rhaglenni allforio gynnydd o 23% yn nifer y prosiectau allforio sy’n helpu busnesau, gan gynnwys 26 o deithiau masnach tramor a thros 300 o fusnesau yn cymryd rhan mewn clystyrau allforio, gan feithrin gallu allforio ledled Cymru.

Adolygu’r Amcanion Llesiant

Mae ein Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd yn 2021, wedi’i threfnu o amgylch 10 amcan llesiant, sef, wrth ystyried ein pwerau, y meysydd lle y gallwn wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant.

Eleni, am y tro cyntaf, fe wnaethom ymgynghori â’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ynglŷn ag adolygu’r amcanion llesiant. Mae hyn yn rhan bwysig o’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol a byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor i drafod sut y gallwn wella a datblygu’r dull gweithredu ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu’n gynharach ynglŷn ag adolygu ein hamcanion llesiant a chynnwys y Cyngor yn ein gwaith cynllunio yn y tymor canolig i’r tymor hwy drwy ein dull newydd o ymdrin ag Adolygiad Gwariant Cymru.

Fel eraill ledled Cymru, gwnaethom wynebu pwysau ariannol sylweddol yn ystod 23/24 yn sgil chwyddiant uchel tu hwnt. Mae ein cyllideb yn werth £800 miliwn yn llai na’r disgwyl adeg adolygiad gwariant diwethaf y DU yn 2021. Bu’n rhaid inni wneud penderfyniadau anodd drwy gydol y flwyddyn er mwyn byw o fewn ein Cyllideb.

Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi adolygu ein hamcanion llesiant a osodwyd yn 2021 ac wedi dod i’r casgliad na fyddant yn cael eu newid ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.