Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Rwy'n falch o gyhoeddi ail adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon.

Mae'n amlinellu'r cynnydd a wnaed gennym tuag at gyflawni ein blaenoriaethau a nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, a'r camau rydym yn parhau i'w cymryd er mwyn gwireddu ein hamcanion llesiant.

Rydym yn llwyddo i gyflawni o hyd, a hynny yn ystod cyfnod eithriadol o anodd. Cawsom flwyddyn heriol arall y llynedd, gydag argyfwng yn sgil costau byw a chostau ynni cynyddol, y rhyfel creulon yn Wcráin a mwy o dystiolaeth o'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn adfer o effaith y pandemig bellach a ninnau, diolch i’r drefn, wedi symud y tu hwnt i'r ymateb brys.

Rydym wedi gweithio'n galed gyda'n partneriaid i wireddu ein haddewidion, ac wedi llwyddo i gyflawni cryn dipyn. Ar yr un pryd, rydym hefyd wedi darparu cymorth wedi'i dargedu i helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw, a thrwy gynllun uwch-noddwr sy'n cynnig cymorth cofleidiol i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin.

Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod cydnerthedd a gwaith caled pawb yn Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Rwyf hefyd am dalu teyrnged i bawb yng Nghymru sydd wedi agor ei gartref i bobl o Wcráin, gan roi lloches ddiogel iddynt. Mae hyn yn dangos yn glir ein bod yn Genedl Noddfa go iawn.

Mae'r egwyddorion a'r ffyrdd o weithio sy'n rhan annatod o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi llywio ein gwaith, hyd yn oed pan oedd angen inni wneud penderfyniadau anodd oherwydd y pwysau mawr iawn ar ein cyllidebau, ganlyniad i gamreolaeth Llywodraeth y DU o gyllid cyhoeddus, ac yn sgil effeithiau'r mini-gyllideb drychinebus a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022.

Mae pob un o'n cyllidebau’n canolbwyntio o’r newydd ar gyflawni ein blaenoriaethau a gwella bywydau pobl Cymru, ble bynnag y maent yn byw ac ni waeth beth yw eu hamgylchiadau.

Mae ein Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru hefyd yn ei ail flwyddyn, ac yn parhau i gyflawni ei raglen uchelgeisiol. Rwy'n edrych ymlaen at gyhoeddi ail adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio ym mis Rhagfyr, a fydd yn tynnu sylw at y cynnydd y mae'r bartneriaeth hon yn parhau i'w wneud.

Cyflwyniad

Dyma ail adroddiad blynyddol tymor y Senedd hon, sy'n nodi'r cynnydd a wnaed gennym tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae nifer o'r ymrwymiadau, sy'n cyfrannu at gyflawni ein hamcanion llesiant, yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru hefyd. Caiff ail adroddiad blynyddol y Cytundeb Cydweithio ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2023.

Strwythur yr adroddiad hwn

Mae'r adroddiad wedi’i drefnu o amgylch ein deg amcan llesiant. Mae prif destun yr adroddiad yn nodi'r cyflawniadau allweddol a'r camau a gymerwyd tuag at gyflawni'r amcanion. Mae'r atodiad yn dangos y cynnydd a wnaed tuag at wireddu pob un o’r ymrwymiadau Cabinet a nodir o dan yr amcanion hyn yn y Rhaglen Lywodraethu.

Dyma’r deg amcan llesiant:

  • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
  • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
  • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
  • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
  • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
  • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
  • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
  • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
  • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
  • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.

1. Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel

Rydym yn falch o'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sef y gwasanaeth iechyd hollgynhwysol cyntaf o'r fath yn y byd, sydd eleni'n dathlu 75 mlynedd ers cael ei sefydlu.

Diolch i ymroddiad a gwaith caled parhaus y staff, a fu'n gyfrifol am ofalu am bob un ohonom yn ystod y pandemig, rydym wedi gallu symud ymlaen o'r ymateb COVID brys a dechrau darparu rhagor o ofal iechyd a gwasanaethau'r GIG.

Rydym wedi ymrwymo i roi cyllid ychwanegol gwerth dros £1bn dros dymor y Senedd hon er mwyn helpu'r GIG i adfer a thorri amseroedd aros.

Mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn iawn ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, yn arbennig yr effaith ar nifer y bobl sy'n aros am driniaeth wedi'i chynllunio. Mae'r GIG yn gwneud cynnydd da tuag at leihau'r ôl-groniad a ddatblygodd yn ystod y pandemig a lleihau amseroedd aros hir. Roedd y data diweddaraf (mis Ebrill 2023) ar amseroedd aros yn dangos bod 96% o lwybrau ar restrau aros am driniaeth o dan ddwy flynedd, o'u cymharu â 90% ym mis Ebrill 2022. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad o 43% yn nifer y bobl sy'n aros dros flwyddyn am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ac mae achosion o aros dwy flynedd wedi gostwng 54%, ond nid ydynt wedi diflannu'n gyfan gwbl eto.

Rydym wedi diwygio contractau â deintyddion, fferyllfeydd cymunedol a meddygon teulu. Mae bron i 174,000 o gleifion newydd wedi llwyddo i sicrhau gofal deintyddol y GIG yn ystod y flwyddyn hon, ac mae mwy nag 1.3m o gyrsiau triniaeth wedi cael eu rhoi. Mae tua 600,000 o ymgyngoriadau â chleifion wedi cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol, gan gynyddu capasiti mewn meddygfeydd.

Mae'r contract newydd â meddygon teulu yn cynnig y newid pwysicach ers 20 mlynedd. Mae'n cynnwys codiad cyflog o 4.5% i feddygon teulu a staff cymorth, ac yn lleihau'r baich gweinyddol ar feddygon teulu, gan sicrhau bod modd iddynt dreulio mwy o amser gyda chleifion. Mae ffocws hefyd ar safonau mynediad mandadol, i'w gwneud yn haws i bobl gael apwyntiad. Rydym yn falch o'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sef y gwasanaeth iechyd hollgynhwysol cyntaf o'r fath yn y byd, sydd eleni'n dathlu 75 mlynedd ers cael ei sefydlu.

Diolch i ymroddiad a gwaith caled parhaus y staff, a fu'n gyfrifol am ofalu am bob un ohonom yn ystod y pandemig, rydym wedi gallu symud ymlaen o'r ymateb COVID brys a dechrau darparu rhagor o ofal iechyd a gwasanaethau'r GIG.

Rydym wedi ymrwymo i roi cyllid ychwanegol gwerth dros £1bn dros dymor y Senedd hon er mwyn helpu'r GIG i adfer a thorri amseroedd aros.

Mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn iawn ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, yn arbennig yr effaith ar nifer y bobl sy'n aros am driniaeth wedi'i chynllunio. Mae'r GIG yn gwneud cynnydd da tuag at leihau'r ôl-groniad a ddatblygodd yn ystod y pandemig a lleihau amseroedd aros hir. Roedd y data diweddaraf (mis Ebrill 2023) ar amseroedd aros yn dangos bod 96% o lwybrau ar restrau aros am driniaeth o dan ddwy flynedd, o'u cymharu â 90% ym mis Ebrill 2022. Rydym hefyd wedi gweld gostyngiad o 43% yn nifer y bobl sy'n aros dros flwyddyn am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ac mae achosion o aros dwy flynedd wedi gostwng 54%, ond nid ydynt wedi diflannu'n gyfan gwbl eto.

Rydym wedi diwygio contractau â deintyddion, fferyllfeydd cymunedol a meddygon teulu. Mae bron i 174,000 o gleifion newydd wedi llwyddo i sicrhau gofal deintyddol y GIG yn ystod y flwyddyn hon, ac mae mwy nag 1.3m o gyrsiau triniaeth wedi cael eu rhoi. Mae tua 600,000 o ymgyngoriadau â chleifion wedi cael eu darparu mewn fferyllfeydd cymunedol, gan gynyddu capasiti mewn meddygfeydd.

Mae'r contract newydd â meddygon teulu yn cynnig y newid pwysicach ers 20 mlynedd. Mae'n cynnwys codiad cyflog o 4.5% i feddygon teulu a staff cymorth, ac yn lleihau'r baich gweinyddol ar feddygon teulu, gan sicrhau bod modd iddynt dreulio mwy o amser gyda chleifion. Mae ffocws hefyd ar safonau mynediad mandadol, i'w gwneud yn haws i bobl gael apwyntiad.

Rydym wedi buddsoddi £5m er mwyn cynyddu nifer y Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd yn y gymuned, megis ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol, er mwyn helpu i ddatblygu gweithlu medrus ehangach yn y gymuned. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad oes angen i bobl â chyflyrau cymhleth gael eu derbyn i'r ysbyty er mwyn cael gofal, ac yn lleihau'r angen am ofal cymdeithasol hirdymor.

Rydym hefyd yn trawsnewid yn ddigidol y ffordd y mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio. Mae ap GIG Cymru wrthi'n cael ei dreialu â'r cyhoedd. Mae modd i bron i 100,000 o bobl gael gafael ar grynodeb o'u cofnodion iechyd, archebu presgripsiynau amlroddadwy a threfnu, gweld a chanslo rhai apwyntiadau penodol drwy'r ap newydd.

Rydym wedi gostwng yr oedran sgrinio ar gyfer profion am ganser y coluddyn i 55 oed, sy'n golygu y bydd modd i 172,000 yn rhagor o bobl ledled Cymru fanteisio ar y profion hyn, sy'n gallu achub bywydau. Bydd triniaethau a diagnosis ar gyfer canser a chlefydau prin posibl yn elwa ar ein cynllun ar gyfer Canolfan Genomeg i Gymru, a fydd yn dilyniannu hyd at 3,000 o genomau cyfan y flwyddyn i wella diagnosis ar gyfer canser a chlefydau prin. Byddwn hefyd yn cynnig 5,000 o broffiliau profi genomig helaeth yn flynyddol i gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser, gan wella canlyniadau.

Yn ystod 2022-23, dyrannwyd £50m yn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys mwy o gapasiti mewn gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS), iechyd meddwl amenedigol a gwasanaethau anhwylderau bwyta. Er mwyn helpu i sicrhau bod cymorth ar gael yn haws, rydym wedi creu’r gwasanaeth newydd 111 pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl, a fydd yn helpu i wella mynediad at gyngor a chymorth iechyd meddwl brys.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu HIV i Gymru, a fydd yn ein helpu i wireddu ein hymrwymiad i sicrhau nad oes dim trosglwyddiadau erbyn 2030, ac i leihau'r stigma y mae pobl sy'n byw ag HIV yn ei wynebu.

2. Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed

Mae diogelu a chefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wrth wraidd ein gwaith. Mae hyn wedi bod yn arbennig o bwysig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn am fod llawer iawn o bobl wedi bod yn profi caledi ariannol.

Mae llawer ohonom yn dibynnu ar ofal cymdeithasol i ofalu am ein hunain, ein teuluoedd neu ein ffrindiau. Ein nod yw creu system ofal i Gymru sy’n integredig, yn ataliol ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Cyhoeddwyd adroddiad terfynol Grŵp Arbenigol annibynnol y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol ym mis Medi, gan roi argymhellion ynghylch sut i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Ym mis Mai 2023, lansiwyd ymgynghoriad gennym ar Ailgydbwyso Gofal a Chymorth.

Rydym yn falch o fod wedi darparu'r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal, sy'n gam pwysig yn ein gwaith parhaus i recriwtio a chadw'r gweithlu gwerthfawr hwn. Rydym yn parhau i annog pobl i fanteisio ar brentisiaethau yn y proffesiwn iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym wedi cynnig cyllid ychwanegol er mwyn cael rhagor o bobl sy'n siarad Cymraeg yn y rolau pwysig hyn.

Rydym hefyd wedi parhau i ddarparu tai wedi'u teilwra i bobl ag anghenion gofal cymdeithasol drwy'r Gronfa Tai â Gofal. Yn ystod 2022-23, buddsoddwyd mewn 64 o gynlluniau, gan gynnwys 14 o gynlluniau byw â chymorth i oedolion ag anabledd dysgu, 12 o gynlluniau i bobl hŷn a chwe chynllun llety â chymorth i oedolion a theuluoedd ag anghenion iechyd meddwl ac anghenion gofal eraill. Rhoddwyd cymorth i 19 yn rhagor o gynlluniau preswyl i blant a phum cynllun llety mewn argyfwng, llety seibiant neu lety dros dro i blant a phobl ifanc.

Rydym wedi ymrwymo i ystyried diwygio gwasanaethau gofal i blant a phobl ifanc yn llwyr. Cynhaliwyd yr uwchgynhadledd gyntaf ar ddiwygio'r system ofal gennym ym mis Rhagfyr, a oedd yn rhoi pobl ifanc â phrofiad o ofal wrth wraidd y broses bwysig hon. O ganlyniad i hyn, llofnododd y Prif Weinidog a'r llysgenhadon ifanc ddatganiad ar y cyd gan amlinellu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau wedi’u gweddnewid i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal. Er mwyn helpu i gyflawni'r datganiad, cyhoeddwyd ein Siarter Rhianta Corfforaethol ym mis Mehefin 2023.

Mae pobl sy'n gadael gofal yn wynebu rhai o'r rhwystrau mwyaf, yn ariannol ac yn gymdeithasol, wrth iddynt dyfu’n oedolion. Dyna pam y gwnaethom lansio Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal ym mis Gorffennaf 2022. Erbyn mis Ionawr, roedd 92% o'r grŵp targed wedi manteisio ar y cynllun peilot. Bydd y cynllun peilot hwn yn profi'r effaith y mae incwm sylfaenol yn ei chael. Mae hefyd yn adeiladu ar gymorth arall rydym wedi’i ddarparu i bobl sy'n gadael gofal, gan gynnwys eu heithrio rhag talu'r dreth gyngor.

Rydym o'r farn na ddylai fod modd gwneud elw o wasanaethau plant. Felly rydym wedi darparu £68m dros dair blynedd i ddatblygu darpariaeth amgen addas sy'n gynaliadwy, yn atebol yn lleol ac yn agos at y cartref. Rydym wedi cynnal ymgynghoriad ar y newidiadau deddfwriaethol sydd eu hangen er mwyn helpu i wireddu'r uchelgais hwn, ac rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol a fydd yn rheoli'r broses bontio hon.

Ym mis Medi 2022, ehangwyd ein Cynnig Gofal Plant er mwyn cynnwys rhieni mewn addysg a hyfforddiant sydd â phlant tair a phedair oed. Drwy hyn, amcangyfrifwyd bod rhyw 3,000 o deuluoedd yn gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu. Ers lansio'r newid hwn, mae 438 o deuluoedd wedi manteisio ar ofal plant wedi'i ariannu.

Rydym wedi ehangu mynediad at bob un o'r pedair elfen o'r rhaglen Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gan roi budd i dros 3,100 o blant, ac rydym wedi darparu £46m i helpu i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg.

Rydym hefyd wedi darparu £70m i wneud gwelliannau ac i ymgymryd â gwaith cynnal a chadw hanfodol mewn lleoliadau gofal plant, a £3.8m i helpu mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.

Mewn partneriaeth â'r GIG a phartneriaid trydydd sector rydym wedi sefydlu llwybr profedigaeth newydd er mwyn rhoi cymorth uniongyrchol i deuluoedd sy'n ceisio ymdopi â cholli plentyn.

3. Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Rydym wedi parhau i fuddsoddi yn ein blaenoriaethau, sef uwchsgilio'r gweithlu yng Nghymru, creu swyddi o ansawdd uchel yn nes at y cartref a datblygu diwydiannau'r dyfodol. Mae pob un o'r rhain yn gynyddol bwysig mewn economi fyd-eang sy'n ansicr ac yn anwadal. Dyma hanfodion economi sy'n decach, yn fwy cynhyrchiol ac yn ddiogel yn yr hirdymor.

Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn glir: rydym am sicrhau economi fwy ffyniannus, sy'n golygu bod angen canolbwyntio ar gydnerthedd. Dyma'r rheswm ein bod yn ehangu'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng nghyffiniau Casnewydd. Rydym yn parhau i hybu'r sector hwn yn rhyngwladol, gan gynnwys mewn digwyddiadau byd-eang a chyfarfodydd â buddsoddwyr, megis ymweliad diweddar Gweinidog yr Economi â Silicon Valley yn California.
   
Ym mis Mai 2022, gwnaethom gytuno â Llywodraeth y DU i sefydlu Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru ac, ym mis Mawrth 2023, cytunwyd ar y cyd y byddai cynigion gan y Porthladd Rhydd Celtaidd ar gyfer Aberdaugleddau a Phort Talbot, a Phorthladd Rhydd Ynys Môn/Anglesey Freeport yn y Gogledd yn symud ymlaen i’r cam nesaf. Byddai’r ddau borthladd arfaethedig yn rhoi pwyslais cryf ar ynni adnewyddadwy a thechnoleg carbon isel, a byddent yn ymrwymo i hybu gwaith teg a rhoi blaenoriaeth i gynaliadwyedd amgylcheddol.

Bydd diwydiannau'r dyfodol yn dibynnu ar sylfaen gadarn o waith teg gyda busnesau, undebau llafur a chyflogeion yn gweithio gyda'i gilydd er budd pawb. Dyma egwyddor sylfaenol ein model partneriaeth gymdeithasol. Gwnaed ein Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn gyfraith ym mis Mai 2023, gan roi sail statudol i bartneriaethau cymdeithasol a chan baratoi'r ffordd ar gyfer Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol parhaol i Gymru, a fydd yn dod â'r llywodraeth, cyflogwyr a chynrychiolwyr y gweithlu at ei gilydd.

Rydym wedi cyflawni ar sail argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ac wedi cyhoeddi'r cynnydd a wnaed gennym. Mae hyn yn cynnwys camau i hybu'r Cyflog Byw Gwirioneddol, i sicrhau bod rhagor o weithwyr yn gallu manteisio ar undebau llafar ac i wella'r profiad o weithio mewn sectorau penodol, er enghraifft drwy'r Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol a'r Fforwm Manwerthu. Rydym yn falch iawn bod mwy na 500 o sefydliadau yng Nghymru yn sefydliadau Cyflog Byw Gwirioneddol achrededig.

Mae'r pandemig ac ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd wedi dangos yn glir pa mor bwysig yw diogelu Economi Sylfaenol Cymru. Rydym wedi parhau i gynnal y Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol er mwyn helpu busnesau bach a chanolig Cymru i wneud busnes â'r sector cyhoeddus am ail flwyddyn.

Rydym yn credu mewn datblygu gweithlu medrus a brwdfrydig y dyfodol. Mae ein menter flaengar Gwarant i Bobl Ifanc yn helpu pobl ifanc o dan 25 oed i sicrhau dyfodol gwell. Ers ei lansio ym mis Tachwedd 2021, rydym wedi helpu mwy nag 20,000 bobl ifanc, ac mae 11,000 ohonynt wedi dechrau ar raglenni cyflogadwyedd. Rydym hefyd wedi parhau i weithio gyda cholegau addysg bellach drwy sefydlu Biwroau Cyflogaeth a Menter o'r Radd Flaenaf er mwyn helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith.

Ym mis Medi, cyhoeddwyd ein Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid cryfach er mwyn gweithredu ar y cyd â'r Warant i Bobl Ifanc ac ychwanegu ati. Nod y fframwaith yw nodi'r bobl hynny sydd angen cymorth er mwyn llwyddo. Rydym wedi parhau i hyrwyddo pwysigrwydd prentisiaethau ac wedi darparu mwy na 28,000 o brentisiaethau pob oed ers mis Mai 2021, gan ymrwymo i roi £36m yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf.

Fel rhan o'n hymrwymiad i symud Cymru tuag t ddyfodol carbon isel newydd, cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net ym mis Chwefror 2023, gan nodi'r rôl y bydd sgiliau yn ei chwarae fel rhan o broses pontio teg. Er mwyn helpu i gyflawni hyn, bydd ein rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol yn canolbwyntio'n benodol ar sgiliau'r sector gwyrdd.

Er mwyn i economi gref ac amrywiol lwyddo, mae angen cydweithredu a masnachu ar lefel ryngwladol. Roeddem yn falch iawn o weld bod gwerth allforion nwyddau Cymru yn uwch na'u lefelau cyn y pandemig eleni, gan gyrraedd £20.5bn yn ystod 2022. Er mwyn sicrhau bod y duedd hon yn parhau, rydym wedi buddsoddi £4m mewn rhaglen gynhwysfawr o gymorth allforion i fusnesau Cymru.

4. Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n pontio mewn modd teg i economi fodern, wedi'i datgarboneiddio.

Mae anwadalrwydd parhaus y farchnad ynni fyd-eang, a oedd yn gyfrifol am y prisiau ynni uchel iawn a welwyd yn ystod 2022-23, yn dangos pa mor bwysig yw blaenoriaethu model ynni domestig sy'n gydnerth ac yn effeithlon. Rydym yn buddsoddi yn y seilwaith ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni gwynt ar y môr ac ar y tir ac ynni solar.

Rydym yn ymchwilio i gyfleoedd newydd ar gyfer ehangu ac amrywio ein ffordd o weithio, gan gynnwys edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio pyllau glo nas defnyddir, a manteisio ar brosesau gwresogi daearegol naturiol i greu ynni glân. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth i'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru ynghylch yr achos dros ddatganoli pwerau yn y maes hwn, yn benodol datganoli pwerau i reoli Ystad y Goron er mwyn cefnogi ein blaenoriaethau ynni morol.

Ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd ein cynlluniau i greu datblygwr ynni adnewyddadwy sy'n eiddo i'r cyhoedd, a fydd yn sicrhau bod unrhyw elw yn cael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau. Ym mis Tachwedd, cyhoeddwyd ein hadroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru: 2021, sef un o gerrig milltir allweddol ein huchelgeisiau ar gyfer 2030. Rydym yn falch bod Cymru bellach yn cynhyrchu'r hyn sy'n gyfystyr â 55% o'i defnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd lansiad yr Her Morlyn Llanw ar gyfer cynigion ymchwil i gefnogi Cymru i fod yn ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw newydd.

Rydym wedi darparu mynediad at wasanaeth band eang gigadid i bron i 37,000 o safleoedd ledled Cymru fel rhan o'n prosiect band eang ffeibr llawn, ac rydym wrthi'n datblygu cynigion uchelgeisiol a fydd yn golygu bod pob cartref newydd sy'n cael ei adeiladu yng Nghymru yn cynnwys cysylltiad 1GBPS.

Daw 15% o'n hallyriadau carbon yng Nghymru o drafnidiaeth. Ni allwn barhau ar y trywydd hwn a disgwyl cyrraedd sero net. Rydym yn trawsnewid ein ffordd o feddwl am drafnidiaeth. Mae ein Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth a gyhoeddwyd ym mis Chwefror yn canolbwyntio ar annog ffyrdd o deithio sy'n iachach, yn fwy cynaliadwy ac yn fwy hygyrch i bawb.

Er mwyn cefnogi hyn, mae'r Gronfa Teithio Llesol wedi cyflawni seilwaith gwerth £46m gan gynnwys gwelliannau i'r A55 yng Ngwynedd a cham 2 o Beicffordd 1 Caerdydd, sy’n llwyddo i gyfuno gwelliannau i gyfleusterau cerdded, beicio a bioamrywiaeth yng nghanol y ddinas.

Cwblhaodd panel annibynnol yr Adolygiad Ffyrdd ei waith yn adolygu ein llif prosiectau adeiladu ffyrdd. Mae ein hymateb i argymhellion y panel wedi arwain at ddull gweithredu newydd o adeiladu ffyrdd sy'n cael ei gydnabod yn fyd-eang, gan bennu dibenion clir a thelerau adeiladu a fydd yn helpu i sicrhau newid mewn dulliau teithio a datgarboneiddio. Nid yw hyn yn golygu rhoi terfyn ar adeiladu ffyrdd, ond mae'n gosod meini prawf uwch y mae angen eu bodloni, gan ystyried ein cyfrifoldebau economaidd ac o ran yr hinsawdd.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn allweddol i'n huchelgeisiau. Rydym yn datblygu ein cynlluniau i gymryd rheolaeth gyhoeddus dros y system fysiau drwy rwydwaith o dan fasnachfraint, a fydd yn rhoi cyfle inni roi pobl cyn elw a dechrau'r broses o ddatgarboneiddio'r fflyd fysiau genedlaethol.

Er mwyn cynyddu capasiti yn y rhwydwaith rheilffyrdd rydym yn buddsoddi £800m mewn cerbydau trên i weithredu ledled Cymru. Lansiwyd y trên cyntaf yn fflyd newydd sbon Trafnidiaeth Cymru, sy’n cael ei hadeiladu yng Nghymru gan y cwmni gweithgynhyrchu blaenllaw CAF, yn swyddogol ar linell Dyffryn Conwy ar ddiwedd 2022.

Mae ffermwyr yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gynhyrchu ein bwyd a mynd i'r afael ag effeithiau'r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym ar y blaen i’r amserlen o ran dosbarthu'r Cynllun Taliadau Sylfaenol, a chyhoeddwyd y byddwn yn dechrau gweithredu Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, a fydd yn cynnig taliadau economi wledig mwy amrywiol i annog pobl i wneud mwy i ddiogelu a gwella ein hamgylchedd. Bydd y Cynllun newydd hefyd yn darparu sefydlogrwydd i ffermwyr fel y gallant barhau i gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Rydym wedi gweithio gyda chymunedau ffermio a rhanddeiliaid i lunio'r cynllun newydd ar y cyd.

Cyflwynwyd ein Bil Amaethyddiaeth (Cymru) arwyddocaol yn y Senedd ym mis Medi 2022, a chwblhau Cyfnod 3 yn llwyddiannus ym mis Mai 2023. Mae'r Bil hwn yn rhoi arferion rheoli tir cynaliadwy a diogelu natur wrth wraidd economi cefn gwlad Cymru.

5. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Mae lleihau plastig yn hollbwysig i'n hymdrechion i leihau ein hôl troed carbon a chyrraedd sero net. Ym mis Mehefin 2023 gwnaed ein Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn gyfraith. Bydd y Ddeddf nodedig hon yn gwahardd neu'n cyfyngu ar werthu rhai o'r eitemau plastig untro sy'n cael eu taflu fel sbwriel yn amlach yng Nghymru, gan roi pwerau i wneud penderfyniadau yn nwylo awdurdodau lleol.

Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran lleihau gwastraff a chreu economi gylchol. Mae Cymru yn gwneud yn well na gweddill y DU o hyd o ran ailgylchu gwastraff cartref ac mae’n un o'r gwledydd gorau yn y byd gyda chyfradd ailgylchu trefol o 65.2%, gan arbed tua 400,000 o dunelli o CO2 rhag cael ei ryddhau i'r atmosffer.

Gwnaethom hefyd gyllido Caffi Trwsio Cymru i estyn y rhwydwaith o gaffis trwsio i 81 o gymunedau ledled Cymru, a galluogi Benthyg Cymru i ehangu nifer ei ‘Llyfrgelloedd Pethau’ i 18.

Fel rhan o'n dull cydgysylltiedig o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn gam allweddol yn y gwaith o gyflwyno mesurau i wella ansawdd aer a sain ac i leihau'r effeithiau ar iechyd pobl, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bioamrywiaeth ar gyfer ecosystem iach a chynhyrchiol, a chyhoeddwyd yr Archwiliad Dwfn Bioamrywiaeth ym mis Hydref 2022. Roedd hyn yn cynnwys ein nod o wella ac ehangu ein safleoedd gwarchodedig ar dir a môr i sicrhau bod 30% o fioamrywiaeth yn cael ei gwarchod erbyn 2030, yn unol ag argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Cyflwynwyd ein huchelgeisiau ar gyfer bioamrywiaeth ar y llwyfan byd-eang yng nghyfarfod COP15 ym Montréal.

Mae cynlluniau uchelgeisiol gennym i greu Coedwig Genedlaethol er mwyn diogelu coetiroedd hynafol presennol a’u cysylltu â phrosiectau uchelgeisiol ar gyfer plannu coed newydd. Ym mis Tachwedd, mewn partneriaeth â Choed Cadw, cynigwyd coeden am ddim i bob cartref yng Nghymru drwy fenter Fy Nghoeden Ein Coedwig, gan blannu 300,000 o goed. Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus 2020, lansiwyd y Grant Coetiroedd Bach ym mis Ebrill 2023 gan ddarparu cyllid ar gyfer hyd at 100 yn rhagor o goetiroedd bach.

Rydym am roi ffermwyr yn ganolog i'n cynlluniau plannu coed, felly lansiwyd y Cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir a'r Grant Creu Coetir gennym ym mis Medi i'w cefnogi, gyda chyllid gwerth £32m.

Rydym wedi buddsoddi £15m yn ein rhaglen Rhwydweithiau Natur i warchod cynefinoedd naturiol amrywiol Cymru, o forfeydd heli ac aberoedd i goetiroedd a glaswelltiroedd. Parhaodd ein rhaglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur i ddod â chymunedau at ei gilydd i wella amgylcheddau lleol ledled Cymru, gan gynnwys 348 o fannau gwyrdd newydd, 261 o    safleoedd pryfed peillio, 132 o berllannau, 189 o safleoedd tyfu bwyd yn y gymuned a 23 o erddi therapiwtig. Mae'r tir o amgylch ein rhwydwaith ffyrdd strategol yn darparu coridorau gwyrdd pwysig. Eleni fe blannwyd mwy nag 8,000 o goed a llwyni brodorol a 12,000 o fetrau o wrychoedd ac fe hadwyd 3.5 hectar
o dir â blodau gwyllt er lles y bywyd gwyllt ac i wneud y ffyrdd hyn yn fwy deniadol.

Ym mis Awst cwblhawyd yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn ar Ddiogelwch Tomenni Glo (Cymru), sy’n gam pwysig tuag at sicrhau bod pobl sy'n byw ac yn gweithio yng nghysgod tomenni glo yn teimlo'n ddiogel. Mae hefyd yn darparu fframwaith deddfwriaethol modern ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir.

Rydym yn parhau i gynnal ein polisi o wrthwynebu cloddio tanwyddau ffosil yng Nghymru. Ni roddwyd unrhyw drwyddedau glo newydd eleni ac, o'r 14 o drwyddedau petroliwm a etifeddwyd oddi wrth Lywodraeth y DU, dim ond pump ohonynt sy'n parhau ar waith. Mae un arall o'r trwyddedau hyn wrthi'n cael ei hildio eleni.

Ym mis Ionawr, dechreuodd y Grŵp Her Sero Net waith i archwilio’r goblygiadau posibl ar gyfer cyfiawnder cymdeithasol ac effeithiau eraill yn sgil cyflymu llwybrau datgarboneiddio i 2035.

6. Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi

Ym mis Medi 2022, cyflwynwyd y Cwricwlwm i Gymru, a gafodd ei gynllunio ar y cyd ag athrawon ac addysgwyr, gan rymuso ysgolion i deilwra eu cwricwlwm eu hunain er mwyn cefnogi cynnydd a llesiant pob dysgwr unigol. Mae eisoes wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus mewn lleoliadau nas cynhelir, ysgolion cynradd a bron i hanner yr ysgolion uwchradd yng Nghymru.

Rydym wedi ymrwymo o hyd i ddiwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol. Rydym yn ymchwilio i sut mae trefn tymhorau ysgol a dosbarthiad gwyliau ysgol yn gallu helpu i fynd i'r afael ag anfantais, cefnogi llesiant a bod o fudd i ddysgwyr, staff ysgolion a rhieni.

Mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae ein rhaglen gyllido Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau wedi arwain at benodi mwy na 2,400 o staff cyfwerth ag amser llawn ychwanegol, sy'n fwy o lawer na'n targed o 1,800.

Rydym wedi cymryd camau rhagweithiol i ddenu rhagor o bobl i'r proffesiwn addysgu, gan gynnwys cyflwyno strwythur cyflog newydd a fydd yn golygu bod athrawon dan hyfforddiant sy'n gymwys yn cael cyflog mwy ar ôl eu tymor cyntaf yn hytrach nag ar ddiwedd eu cyfnod ymsefydlu.

Mae ein Cynllun Cymhelliant i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol wedi darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu poblogaeth amrywiol Cymru. Mae rhagor o gyllid hefyd wedi’i ddarparu ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd mewn rhai meysydd pwnc penodol a'r rheini sy'n astudio i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, ym mis Ebrill 2023 Cymru oedd y gyntaf ymhlith gwledydd y DU i gynyddu taliad y Lwfans Cynhaliaeth Addysg o £30 yr wythnos i £40.

Er mwyn helpu i sicrhau na aiff unrhyw blentyn yng Nghymru heb fwyd, lansiwyd prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ym mis Medi, gan ddechrau gyda disgyblion mewn dosbarthiadau derbyn a chan ehangu i gynnwys blwyddyn 1 a 2 ym mis Ebrill 2023.

Mae mwy na 5 miliwn o brydau ychwanegol wedi cael eu darparu. Gwnaethom hefyd ddarparu dros £41m rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mai 2023 i estyn darpariaeth prydau bwyd yn ystod y gwyliau i ddisgyblion a oedd fel arfer yn gymwys am brydau ysgol am ddim.

Amcangyfrifwyd bod rhyw 300,000 o blant wedi mynychu rhaglenni a ariannwyd drwy'r rhaglen Haf o Hwyl yn 2022, gan helpu teuluoedd ledled Cymru gyda'r costau byw cynyddol yn ystod misoedd yr haf. At hynny, roedd mwy nag 8,000 o blant wedi cymryd rhan yn y rhaglen gwella gwyliau’r haf a gynhaliwyd eleni, sef Bwyd a Hwyl, ar bob diwrnod o'r cynllun yn ystod gwyliau'r haf, a oedd yn darparu prydau bwyd iach, addysg am fwyd a maetheg, gweithgarwch corfforol a sesiynau cyfoethogi.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd swm o £40m er mwyn creu ysgolion bro ym mhob rhan o Gymru. Rydym hefyd yn cynnig rhaglenni allgymorth i rieni a chymunedau, megis dosbarthiadau maetheg a sgiliau a sesiynau darllen i rieni a phlant.

Rydym am sicrhau bod yr adeiladau lle mae ein plant a’n pobl ifanc yn dysgu yn fannau sy’n groesawgar, ond nad ydynt yn effeithio ar yr amgylchedd. Ym mis Mawrth 2023, rhoddwyd £60m er mwyn gwneud ysgolion a cholegau'n fwy effeithlon o ran ynni, a darparwyd £44.7m mewn cyllid cyfalaf er mwyn adeiladu tair ysgol sero net yn sgil yr Her Ysgolion Cynaliadwy.

Ym mis Medi, cafodd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 y Cydsyniad Brenhinol gan sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn weithredol yn 2024.

Rydym yn hyrwyddo dull arloesol o fynd i'r afael â'r heriau rydym yn eu hwynebu fel gwlad. Mae ein Strategaeth Arloesi, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023, yn arfer dull a ysgogir gan genhadaeth o ymdrin â'r hinsawdd a natur, iechyd a llesiant, addysg a'r economi. Ei nod yw ysgogi buddsoddiad o’r tu mewn i'r DU a'r tu hwnt iddi. Ym mis Ebrill, gwnaethom lofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth ag asiantaeth arloesedd y DU, sef Innovate UK. Dyma’r cytundeb partneriaeth cyntaf o'r fath â llywodraeth ddatganoledig.

7. Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math

Fel rhan o'n hymrwymiad uchelgeisiol i ddileu anghydraddoldeb o bob math, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ym mis Mehefin 2022, a gafodd ei gydgynhyrchu gyda phobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Rydym wedi gwneud cynnydd cynnar yn erbyn llawer o’r camau gweithredu yn y cynllun. Er enghraifft, ym mis Hydref, lansiwyd Prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) i gefnogi'r Cwricwlwm newydd i Gymru, gan sicrhau bod dysgu o ansawdd uchel ar gael am ddim i bob gweithiwr addysg proffesiynol.

Mae angen i'n hamgueddfeydd, orielau, llyfrgelloedd, theatrau a lleoliadau chwaraeon cenedlaethol a lleol gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ac adlewyrchu eu hanes a'u cyfraniad at gymdeithas Cymru. Ym mis Tachwedd, i wella cynrychiolaeth a chyflawni'r nodau diwylliant a threftadaeth yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol darparwyd dros £4.5m i gyrff hyd braich a 22 o sefydliadau sy'n cael eu rhedeg yn annibynnol, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Tŷ Pawb yn Wrecsam a Chymdeithas Celfyddydau a Diwylliant Butetown yng Nghaerdydd.

Er mwyn parhau â'n hymrwymiad i gefnogi dioddefwyr trais domestig, gwnaethom gyhoeddi Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: cynllun gweithredu lefel uchel y glasbrint ym mis Mawrth 2023 yn nodi ein huchelgais i fynd i'r afael ag aflonyddu yn y gweithle ac ar sail rhywedd ym mhob man cyhoeddus. Cyhoeddodd ein Cynghorwyr Cenedlaethol eu cynllun blynyddol gyda'i naw amcan i fynd i'r afael â phob math o gam-drin yn erbyn menywod a merched.

Gan hyrwyddo ein nod i fod y genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop, cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru ym mis Chwefror 2023 gan ddod â set o nodau realistig ynghyd tuag at gymdeithas sy’n cynnwys ac yn dathlu pobl LHDTC+. Ym mis Ebrill 2023, bu inni gyfarfod â'r Cenhedloedd Unedig a'i Arbenigwr Annibynnol ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd. Cydnabu fod Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn "enghraifft o arfer dda o ran llunio polisïau hawliau dynol”.

Mae Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn parhau i weithio'n agos gyda Chynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn Busnes Cymru, gan ddarparu cyngor a chefnogaeth i gleientiaid. Mae bron i 120 o fusnesau bellach wedi gwneud yr ymrwymiad Hyderus o ran Anabledd.

Mae gwaith wedi parhau i sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn fwy hygyrch i bobl anabl, gan wneud gwelliannau i'n gwasanaethau bysiau drwy gyflwyno cerbydau newydd. Mae'r rhain yn cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf mewn cyhoeddiadau clyweledol hygyrch am arosfannau a gwybodaeth am yr ymadawiadau trên nesaf wrth i'r bws agosáu at yr orsaf.

Ym mis Chwefror 2023 cyhoeddwyd ein Cynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif yn hyrwyddo ein huchelgeisiau i gyflawni urddas mislif a dileu tlodi mislif yng Nghymru. Yn ystod 2022-23 cefnogodd y Grant Urddas Mislif, sydd ar gael i bob ysgol, 270 o ysgolion uwchradd ac arbennig a thros 940 o ysgolion cynradd i ddarparu cynhyrchion mislif i ddysgwyr. Yn ogystal, darparwyd cyllid i dros 790 o sefydliadau cymunedol i sicrhau bod cynhyrchion mislif ar gael ar draws cymunedau.

Mae'r argyfwng costau byw yn parhau i effeithio ar bobl ledled Cymru. Yn 2022-23, dyfarnwyd 350,000 o hawliadau am gymorth argyfwng a brys drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol gwerth cyfanswm o dros £38m. Mae buddsoddiad parhaus yn y Gronfa Gynghori Sengl dros yr un cyfnod, wedi helpu bron i 84,000 o bobl i ddelio â dros 390,000 o broblemau lles cymdeithasol gan eu cefnogi i hawlio £49m mewn incwm yr oedd ganddynt hawl iddo a diddymu dyledion gwerth cyfanswm o £10m. Yn ystod gaeaf 2022 cefnogodd Cynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru dros 340,000 o aelwydydd incwm isel drwy ddarparu taliad arian parod o £200 i'w helpu i dalu eu biliau ynni.

8. Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu

Rydym yn parhau i weithio tuag at ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac wedi datblygu, ariannu a hyrwyddo ystod o raglenni Cymraeg dros y 12 mis diwethaf.

Ym mis Mawrth 2023, cyhoeddwyd Papur Gwyn yn nodi cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg. Bydd hyn yn galluogi pob disgybl i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus drwy'r system addysg statudol erbyn 2050.

Ym mis Mai 2022, cyhoeddwyd ein Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg. Dyma gynllun 10 mlynedd sy’n nodi camau i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydym wedi sicrhau bod gwersi Cymraeg am ddim ar gael i bobl ifanc 16 i 25 oed a staff addysgu ac ym mis Rhagfyr buddsoddwyd £6.6m i gefnogi prosiectau trochi yn y Gymraeg.

Mae ein Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn nodi rhai o'r offer a'r camau gweithredu i gefnogi cymunedau Cymraeg sydd â dwysedd uchel o ail gartrefi. I helpu'r Gymraeg i ffynnu, cefnogwyd 21 o brosiectau cydweithredol cymunedol a darparwyd gwasanaeth cyngor a chymorth arbenigol sydd wedi helpu i sefydlu deg menter gymdeithasol newydd.

Ym mis Awst 2022, sefydlwyd Comisiwn Cymunedau Cymraeg a fydd yn edrych ar sut y mae ystod o ffactorau'n effeithio ar ein cymunedau Cymraeg. Cyhoeddodd ei adroddiad rhagarweiniol ym mis Mehefin 2023.

Cwblhawyd yr ymgynghoriad ynghylch cynigion i gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn ôl disgresiwn yng Nghymru a chyhoeddwyd y canfyddiadau ochr yn ochr â'r adroddiad ymchwil defnyddwyr ym mis Mawrth 2023. Bydd y rhain o gymorth wrth inni ddatblygu cynigion deddfwriaethol. Byddai'r ardoll yn galluogi awdurdodau lleol i godi arian drwy godi tâl bach ar bobl sy'n aros dros nos mewn llety. Byddai’r arian hwn yn cael ei ailfuddsoddi wedyn mewn ardaloedd lleol.

Rydym yn deall pa mor bwysig yw hi i bobl allu trafod eu hanghenion gofal iechyd yn yr iaith y maent yn teimlo'n fwyaf hyderus ynddi. Ym mis Awst 2022 cyhoeddwyd cynllun newydd i hybu'r defnydd o'r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, Mwy na Geiriau, sy'n gosod cyfrifoldeb ar y darparwr i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg.

Yn unol â'n hymrwymiad i wella mynediad a chyfranogiad mewn diwylliant, rydym wedi buddsoddi £5.4m arall i greu amgueddfa newydd, Amgueddfa Bêl-droed Cymru, yn Wrecsam. Rydym hefyd wedi gwneud cynnydd da o ran datblygu Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru.

Mynediad cyfartal oedd thema ganolog yr Uwchgynhadledd Chwaraeon, a gynhaliwyd gennym ar y cyd â Chwaraeon Cymru ym mis Rhagfyr. Roedd dros 200 o gynrychiolwyr o bob rhan o'r sector chwaraeon a hamdden yn bresennol i drafod yr heriau a'r cyfleoedd ar gyfer llunio system chwaraeon gynhwysol yn seiliedig ar brofiadau bywyd cymunedau sydd heb gael eu gwasanaethu'n ddigonol.

Ym mis Medi cyflwynwyd Cynllun Gweithredu Sgiliau Creadigol newydd i helpu i ddatblygu'r genhedlaeth bresennol a'r genhedlaeth nesaf o dalent ym maes teledu a ffilm, cynnwys digidol a cherddoriaeth.

Fe'i cefnogir gan y Gronfa Sgiliau Creadigol, sydd wedi cefnogi 17 o brosiectau sgiliau a hyfforddiant o ansawdd uchel yn y sector. Ym mis Mehefin 2022, sefydlwyd panel arbenigol ar Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru i edrych ar yr opsiynau ar gyfer fframwaith darlledu a chyfathrebu sy'n diwallu anghenion Cymru yn well.

9. Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Rydym yn cydnabod bod pawb yn haeddu cartref diogel a fforddiadwy ac ni fu hyn erioed yn bwysicach i lawer ohonom yn ystod yr argyfwng costau byw.

Fel rhan o'n huchelgais hirdymor i ddod â digartrefedd i ben, rydym wedi parhau i gynyddu tai cymdeithasol eleni, gyda dros 2,500 o gartrefi yn cael eu darparu yn y sector cymdeithasol. Sefydlwyd y Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol a darparwyd £76.4m i gyflwyno bron i 1,000 o gartrefi tymor hwy o ansawdd da i bobl ag anghenion tai gan gynnwys pobl sy'n ddigartref a'r rhai sy'n cael eu hadsefydlu o Syria, Affganistan ac Wcráin.

Mae eiddo gwag hirdymor yn adnodd tai sy'n cael ei wastraffu a gall ddod yn falltod ar ein cymunedau. Bydd y cynllun cartrefi gwag cenedlaethol yn golygu y bydd hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio eto dros y ddwy flynedd nesaf.

Rydym wedi ymrwymo i wella amodau rhentu ac rydym wedi cyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i ddisodli darnau amrywiol a chymhleth o ddeddfwriaeth ag un fframwaith cyfreithiol clir, gan roi mwy o sicrwydd deiliadaeth i ddeiliaid contractau yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod eiddo rhent yn ffit i bobl fyw ynddo; yn gosod dyletswyddau cryfach ar landlordiaid i sicrhau bod larymau mwg a charbon monocsid yn cael eu gosod a bod profion diogelwch trydanol rheolaidd yn cael eu cynnal.
 
Yn wyneb chwyddiant ffigurau dwbl, gwnaethom gapio codiadau rhent cymdeithasol yn 6.5% ac rydym wedi sicrhau na chaiff neb ei droi allan oherwydd caledi ariannol ar gyfer tymor setliadau rhent yn 2023-24.

Ym mis Gorffennaf, cyflwynwyd pecyn nodedig a radical o fesurau i fynd i'r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi, gan gynnwys gwneud newidiadau i reoliadau cynllunio i gyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd – sef prif gartref, cartref eilaidd a llety gwyliau tymor byr. Ochr yn ochr â newidiadau i'r polisi cynllunio cenedlaethol, bydd hyn yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a llety gwyliau mewn unrhyw gymuned yng Nghymru.

Gan ddefnyddio trethiant, rydym wedi rhoi'r pŵer dewisol i awdurdodau lleol godi treth gyngor o hyd at 300% ar gartrefi eilaidd ac eiddo gwag hirdymor ac rydym wedi newid y rheolau ar ardrethi annomestig ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Rhaid i lety gwyliau nawr fod ar gael i'w rentu am o leiaf 252 o ddiwrnodau'r flwyddyn a chael ei osod mewn gwirionedd am o leiaf 182 o ddiwrnodau mewn unrhyw gyfnod o 12 mis i'w restru ar gyfer ardrethi annomestig, neu fel arall mae'n atebol am y dreth gyngor.

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ar ddull sy’n rhoi sylw i holl elfennau adeilad o ran diogelwch adeiladau, er mwyn trwsio diffygion a diwygio safonau. Mae'r holl ddatblygwyr yr oeddem yn disgwyl iddynt lofnodi ein dogfen Datblygwyr Cymru sy'n rhwymo mewn cyfraith wedi gwneud hynny. Mae'n eu hymrwymo i adfer yr adeiladau y maent wedi'u datblygu sy'n 11 metr a throsodd o ran uchder ac y mae materion diogelwch tân wedi’u nodi ar eu cyfer.

Rydym wedi ymrwymo i ariannu a chynnal gwaith adfer ar grŵp o 28 o “adeiladau amddifad” fel y'u gelwir, sef adeiladau sydd o dan berchnogaeth breifat lle nad yw datblygwr yn hysbys neu lle mae wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Agorwyd Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid, i helpu'r bobl hynny sy'n dioddef caledi ariannol sylweddol oherwydd problemau diogelwch tân posibl neu broblemau diogelwch tân sydd wedi’u nodi yn eu hadeilad.

Yn unol â’n nod i wneud dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt, cyflwynwyd deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022 i ostwng y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur o ran cerddwyr o 30mya i 20mya. Mae hyn yn golygu mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gymryd y cam hwn, gan helpu i achub bywydau, datblygu cymunedau mwy diogel, gwella ansawdd bywyd, ac annog mwy o bobl i wneud dewisiadau teithio mwy cynaliadwy a llesol.

10. Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang

Cyhoeddodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, sy'n cael ei gydgadeirio gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, ei ganfyddiadau interim ym mis Rhagfyr 2022. Daeth i'r casgliad nad yw'r status quo bellach yn gweithio ac fe gynigiodd opsiynau ar gyfer diwygio cyfansoddiadol sylfaenol. Mae'r Comisiwn yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd a chymdeithas ddinesig; disgwylir adroddiad terfynol ar ddiwedd 2023.

Rydym yn paratoi deddfwriaeth i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Wrth wneud hynny, rydym hefyd yn adlewyrchu casgliadau Pwyllgor Busnes y Senedd yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr. Rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith mewn nifer o feysydd, gan gynnwys gofyniad i ymgeiswyr ac Aelodau o'r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru, a darpariaeth ar gyfer adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026.

Mae hyn yn digwydd ar y cyd â'n gwaith ehangach ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol. Ym mis Hydref 2022, cyhoeddwyd ymgynghoriad ar gynigion manwl ar gyfer moderneiddio proses gweinyddu etholiadau yng Nghymru. Gan weithio gydag awdurdodau lleol, rydym yn bwriadu treialu cofrestru etholwyr yn awtomatig a gwella hygyrchedd etholiadau datganoledig ar gyfer pleidleiswyr anabl.

Mae manteision system dreth gyngor fwy blaengar yn dra hysbys, a gwnaethom barhau â'n gwaith i leihau anghydraddoldebau cyfoeth ledled Cymru. Ymgynghorwyd ar set eang – a chychwynnol – o gynigion i wneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar a chyhoeddwyd yr ymatebion ym mis Rhagfyr. Rydym yn parhau i gefnogi tua 270,000 o bobl i dalu eu biliau treth gyngor drwy gynnal hawliau i ostyngiadau.

Rydym yn falch bod Cymru yn Genedl Noddfa ac mae'r cymorth y mae pobl wedi'i ddarparu wrth agor eu cartrefi i bobl sy'n ffoi rhag y rhyfel a'r trais yn Wcráin wedi creu argraff enfawr arnom. Parhaodd ein cynllun Uwch-noddwr i ddarparu cymorth cofleidiol i dros fil o bobl o Wcráin. Mae Cymru hefyd wedi darparu noddfa i bobl o sawl rhan arall o'r byd gan gynnwys y rhai sy'n gadael Hong Kong, Affganistan a Syria. Rhoddwyd £100,000 i'r Pwyllgor Argyfwng Trychinebau i gefnogi'r cymorth brys a'r ymdrech cymorth cyflym yn dilyn y llifogydd difrifol ym Mhacistan a £300,000 pellach tuag at apêl y Pwyllgor ar ôl daeargrynfeydd dinistriol yn Nhwrci a Syria ym mis Chwefror 2023.

Yn dilyn ymadawiad y DU â'r UE, lansiwyd Taith, sef rhaglen gyfnewid ryngwladol arloesol Cymru, yn 2022, gan ddarparu cyllid i alluogi staff addysg a dysgwyr i dreulio amser dramor fel rhan o'u hastudiaethau. Yn 2022, darparwyd mwy nag £11.5m i 74 o brosiectau, gan gefnogi mwy na 6,500 o staff a dysgwyr.

Roeddem yn falch iawn o weld mentrau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael eu hyrwyddo a'u dathlu yng Nghwpan y Byd Pêl-droed Dynion FIFA yn Qatar yn gynharach eleni i hyrwyddo Cymru, arddel ein gwerthoedd o gynwysoldeb ac amrywiaeth, a sicrhau gwaddol cadarnhaol a pharhaol o'n cyfranogiad yn y twrnamaint. Drwy ein Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd, rhannwyd buddsoddiad ymhlith 19 o brosiectau yng Nghymru i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o blant i gymryd rhan mewn chwaraeon a sbarduno iechyd a lles ein cenedl.

Adolygu’r Amcanion Llesiant

Mae’r Rhaglen Lywodraethu wedi'i diweddaru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn nodi ein deg amcan llesiant. Dyma'r meysydd lle rydym yn credu y gallwn wneud y cyfraniad mwyaf tuag at y saith nod llesiant.

Yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, maent yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n allweddol i alluogi pobl a chymunedau i ffynnu a bod yn llewyrchus nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diogelu ac yn adfer amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Rydym wedi adolygu ein hamcanion llesiant a bennwyd yn 2021 ac wedi casglu eu bod, hyd yn oed yn y cyd-destun heriol presennol, yn parhau i gynrychioli'r meysydd lle y gallwn wneud y cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant.

Mae ein hamcanion llesiant a'r camau cyfatebol o dan gydberchnogaeth y Cabinet. Mae pob amcan llesiant yn cyfrannu at bob un o’r nodau llesiant. Maent yn cyd-fynd yn agos â'i gilydd ac yn atgyfnerthu ei gilydd. Maent yn fodd inni gael yr effaith fwyaf posibl gyda'r pwerau sydd wedi'u datganoli inni o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd nifer sylweddol o gamau hefyd yn cyfrannu at nifer o amcanion llesiant a'u canlyniadau. Bydd yr amcanion llesiant a’r camau yn cael eu hadolygu’n barhaus.