Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae'n bleser gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Trydydd Sector, sy'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Dechreuodd eleni ar nodyn cadarnhaol iawn gyda'r gwaethaf o'r pandemig y tu ôl i ni a gwirfoddolwyr yn helpu cydweithwyr yn y GIG i gyflwyno'r rhaglen frechu. Nid oes modd canmol gormod ar yr ymdrech barhaus hon gan sefydliadau gwirfoddol, staff a gwirfoddolwyr ac mae'n glod i ddiwylliant a phobl Cymru. Rwy'n hynod falch o'n sector gwirfoddol annibynnol sydd bob amser yno, waeth beth yw'r her, yn cefnogi'r rhai sydd fwyaf angen help.

Mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru, partneriaeth rhwng yr 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), wedi bod yn allweddol wrth ddarparu cefnogaeth i'r sector. Maent wedi gweithio nid yn unig ochr yn ochr â'm swyddogion fy hun, ond hefyd â chydweithwyr mewn Llywodraeth Leol a Byrddau Iechyd. Wrth i'r flwyddyn ddod i ben, roeddem unwaith eto am gael gweld pwysigrwydd y partneriaethau amhrisiadwy hyn.

Wrth i'r pandemig gilio, fe wnaethom droi ein sylw at gyflawni'r argymhellion yn adroddiad Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (‘y Bartneriaeth’) ar y gwaith adfer yn dilyn Covid-19. Roedd yr argymhellion hyn yn canolbwyntio ar dair ffrwd waith (Perthynas, Cefnogaeth a Gwirfoddoli) ynghyd â phum thema drawsbynciol (cydraddoldeb a chyfiawnder i bawb, adferiad gwyrdd a chyfiawn, sector gwirfoddol mwy cadarn, cydweithio cynhwysol a chynnwys dinasyddion a gweithredu a arweinir gan y gymuned).

Hoffwn ganolbwyntio'n fyr ar ddwy o'r ffrydiau gwaith hyn, Cefnogaeth a Gwirfoddoli.

O ran gweithgaredd Cefnogaeth, rwy'n falch o’r cynnydd a wnaed gan bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth y Bartneriaeth a'r berthynas sy'n datblygu â Chanolfan Ragoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru yn benodol felly ynghylch cyd-gynhyrchu canllawiau ariannu aml-flwyddyn ar gyfer swyddogion.

O ran Gwirfoddoli, rydym wedi sefydlu Grŵp Arweinyddiaeth Gwirfoddol Traws-sector i adolygu polisi gwirfoddoli Llywodraeth Cymru. Amlygodd y pandemig newidiadau mewn gwirfoddoli, i ffwrdd o'r ffurfiol i'r anffurfiol. Bydd y gwaith hwn yn ceisio deall y cymhellion amrywiol a chymhleth sydd gan wirfoddolwyr. Bydd hyn yn arwain at fireinio a gwella'r map gwirfoddoli yng Nghymru a dangos pwysigrwydd dull strategol wrth fynd ati i roi cymorth yn y dyfodol.

Yn mis Chwefror 2022, dechreuodd yr ymosodiad anghyfreithlon, raddfa lawn o’r Wcráin gan Rwsia. Rydym wedi gweithio yn galed, gyda cyfraniadau hanfodol a helaeth o ein partneriaid ar draws y Trydydd Sector, i ddangos ein hymrwymiad i ddod yn Genedl Noddfa trwy cefnogi’r rhai sydd wedi dod i Gymru o Wcráin. Drwy nawdd Cartrefi i Wcráin a chymorth cofleidiol, gan gynnwys ein llwybr uwch-noddwr arloesol a chyfraniad amhrisiadwy llawer o gymunedau ac aelwydydd, mae’r Trydydd Sector wedi dangos eu rhan allweddol yn ein agwedd Tîm Cymru.

Trwy weithredoedd caredig gallwn ni i gyd wneud gwahaniaeth, a hoffwn ddiolch i bawb ohonoch am wneud hynny.

Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Sylwadau’r Sector a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Mae edrych yn ôl ar y 12 mis o wanwyn 2021 i wanwyn 2022 yn ein galluogi i ystyried y cyfraniad hanfodol a wnaed gan y trydydd sector i gefnogi pobl a chymunedau ledled Cymru yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd i bobl a chymunedau gan y sector mor wahanol ac amrywiol â'r bobl a'r cymunedau eu hunain. Nid yw’r un ateb yn gweddu i bawb a dyna ran o ragoriaeth partneriaeth y trydydd sector gyda Llywodraeth Cymru, mae'n parchu profiad lleol, gan deilwra gwasanaethau i anghenion unigol pob cymuned yn ogystal â chefnogi gweithgarwch rhanbarthol a chenedlaethol.

Roedd ail flwyddyn y pandemig yn hynod heriol i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru, ond roedd ymateb ein sector yn anghredadwy. Yn syml, ni fyddai Cymru wedi dod drwy’r cyfnod hwn heb ymdrechion anhygoel gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol ledled y wlad.

Parhaodd Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r seilwaith unigryw yng Nghymru, partneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru rhwng yr 19 Cyngor Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Trwy Cefnogi Trydydd Sector Cymru, hyrwyddodd Llywodraeth Cymru, ac yn benodol Uned arbenigol y Trydydd Sector, drefniant cysylltu cydlynol rhwng portffolios Gweinidogol a’r gwahanol ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Roedd pedwar prif faes yn darparu fframwaith defnyddiol:

  • Cefnogwyd y gwaith o hyrwyddo gwirfoddoli, ac yn enwedig gweithredu cymdeithasol ar gyfer ieuenctid, trwy gynnig gyngor, rhedeg ymgyrchoedd a rhoi grantiau bach a weinyddwyd gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Yn anffodus, yn ystod y cyfnod hwn wrth i gymdeithas ddechrau dod dros y pandemig ac wrth i drefniadau ffyrlo ddod i ben, fe wnaethom sylwi bod recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn mynd yn fwy anodd.
  • Roedd angen gwyliadwriaeth gyson o ran llywodraethiant a diogelu, gyda diweddariadau rheolaidd pwysig arnynt yn cael eu rhoi i’r sector gan reoleiddwyr perthnasol. Roedd y rhain yn cynnwys y Comisiwn Elusennau, y Rheoleiddiwr Codi Arian a'r Comisiynydd Gwybodaeth.
  • Roedd cynaliadwyedd y sector yn her enfawr wrth i'r galw am y gwasanaethau gynyddu, tra bod adnoddau o ran cyllid ac amser gwirfoddolwyr yn lleihau.  Datblygodd cysylltiadau ag ymddiriedolaethau a sefydliadau, ond ni allent bontio'r bwlch mewn cyllid sy'n gysylltiedig â therfynu grantiau'r UE sydd wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o incwm ers blynyddoedd lawer.

Peter Davies CBE, Cadeirydd, CGGC tan 2022
Dr Neil Wooding CBE, Cadeirydd CGGC 2022 to presennol
Ruth Marks OBE, Prif Swyddog Gweithredol, CGGC

Pwrpas a chefndir Cynllun y Trydydd Sector

Beth yw’r Trydydd Sector?

Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu bron pob agwedd ar fywyd. Mae’n cynnwys sefydliadau cymunedol, grwpiau hunangymorth, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, sefydliadau wedi’u seilio ar ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau cydfuddiannol, i enwi dim ond rhai.

Mae gan y trydydd sector amrywiaeth o ffurfiau sefydliadol, gan gynnwys elusennau cofrestredig a rhai heb eu cofrestru, Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant (a all fod yn Elusennau Cofrestredig hefyd), Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus a chymdeithasau anghorfforedig. Mae gan bob sefydliad ei nodau, ei ddiwylliant arbennig a’i werthoedd ei hun, ynghyd â’i ffordd ei hun o wneud pethau, ond maent i gyd yn rhannu rhai nodweddion pwysig, a ddangosir isod.

Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu bron pob agwedd ar fywyd. Mae rhai nodweddion pwysig yn gyffredin rhyngddynt sef:

  • cyrff annibynnol ydyn nhw nad ydyn nhw’n perthyn i lywodraeth ac a sefydlwyd yn wirfoddol gan ddinasyddion sy’n dewis eu trefnu
  • ymrwymiad i ail-fuddsoddi’r hyn sydd dros ben i hyrwyddo eu hamcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol
  • mae gwerthoedd yn bwysig iddyn nhw a chânt eu harwain gan awydd i hyrwyddo amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol yn hytrach na’r awydd i wneud elw

Rydym yn parhau’n grediniol y dylid ystyried y cyrff sydd â’r nodweddion hyn fel rhai sy’n perthyn i “sector” unigryw.

Mae’r sector yn cael ei adnabod fel y Trydydd Sector a’r sector gwirfoddol a defnyddir y ddau derm yn yr adroddiad hwn.

Rhai rhifau allweddol yn gweithredu ledled Cymru:

  • 40,061 o fudiadau gwirfoddol. (Data o gronfa ddata Cefnogi Trydydd Sector Cymru)
  • Cynyddodd gwirfoddoli yn ystod pandemig COVID-19 ac mae canlyniadau 2022 to 2023 yn dangos bod y lefel uwch hon wedi'i chynnal ymhlith y rhai 16+ oed (o 26% yn 2019 to 2020, i 29% yn 2021 to 2022 a 30% yn 2022 to 2023)

Mae'r ffigurau hyn wedi'u cymryd o ganolfan ddata CGGC.

Cynllun y Trydydd Sector

Lluniwyd Cynllun y Trydydd Sector o dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Cynllun, sy’n ddatganiad o fwriad Gweinidogion Cymru i gefnogi a hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol perthnasol, wrth arfer eu dyletswyddau fel Gweinidogion Cymru.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2021 i 2022 yn dangos sut y gweithredwyd cynigion a nodwyd yng nghynllun y trydydd sector yn ystod y flwyddyn ariannol honno. Gweler Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cynllun y Trydydd Sector:

  • rhannu syniadau a gwybodaeth
  • monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau
  • diddordeb cytûn yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn cydweithio â’r Trydydd Sector
  • cynllunio ar y cyd
  • sicrhau arian ar gyfer pob maes polisi
  • themâu trawsbynciol y cynllun:
    • trechu tlodi
    • datblygu cynaliadwy
    • cydraddoldebau
    • Y Gymraeg

Amcan Cynllun y Trydydd Sector yw llunio partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector sydd â’r bwriad o’n helpu i ddatblygu a chefnogi prosesau a fydd, yn y pen draw, yn arwain at y canlynol:

  • cymunedau cryfach a mwy cadarn: dyma’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol at ffyniant ac adfywiad eu cymunedau, darparu gofal a helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd y mae’r trydydd sector yn eu creu o ran cyflogaeth a mentrau lleol
  • gwella polisi: yr wybodaeth a’r arbenigedd y mae’r trydydd sector yn eu cynnig drwy ei brofiad rheng flaen i helpu i lunio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau
  • gwasanaethau cyhoeddus gwell: y rôl arloesol a thrawsnewidiol y gall y trydydd sector ei chwarae o ran peri i wasanaethau cyhoeddus gyrraedd mwy o bobl a dod yn fwy sensitif i’w hanghenion

Mae disgwyl i holl Aelodau’r Cabinet, Dirprwy Weinidogion a swyddogion hyrwyddo buddiannau’r trydydd sector yn eu gwaith ac wrth wneud penderfyniadau. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i’r canlynol:

  • cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon gyda’r trydydd sector
  • cynnal trefniadau ar gyfer cynorthwyo cymunedau a gwirfoddolwyr
  • cynnal trefniadau ar gyfer cefnogi strwythurau sy’n caniatáu i’r trydydd sector ffynnu
  • ceisio cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad i’r Cynllun)

Mae’n ymdrin â threfniadau ar gyfer ymgynghori, gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector, a chyllido hefyd. Darllenwch am Gynllun y Trydydd Sector.

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r trefniadau hyn.

Beth ddigwyddodd yn 2021 i 2022?

Mae'r Cynllun yn nodi'r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu ar draws 5 maes:

Deialog a Chydweithredu

Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cytuno ar drefniadau ymarferol, deialog a chyfnewid gwybodaeth. Un enghraifft dda o rywle y gweithiodd hyn yn dda yn ymarferol, ac a sicrhaodd ganlyniadau cadarnhaol i randdeiliaid yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw partneriaeth Newid:

Astudiaeth achos: partneriaeth Newid

Yn ystod pandemig COVID-19, daeth yn fwyfwy amlwg nad oedd gan lawer o sefydliadau'r sector gwirfoddol yng Nghymru y sgiliau digidol angenrheidiol i symud gwasanaethau a gweithrediadau i fodel rhithwir.

Roedd rhai sefydliadau yn y sector yn ei chael hi'n anodd helpu staff i weithio gartref. Roedd angen i eraill ddarganfod sut y gallent barhau i gefnogi cleientiaid. Yn aml roedd y rhain yn bobl fregus iawn oedd yn dibynnu ar y gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan y sector i gyflawni tasgau bob dydd neu i osgoi unigrwydd a chael eu hynysu.

Roedd hefyd yn amlwg na allai unrhyw sefydliad yn y sector cyhoeddus na'r trydydd sector gwirfoddol helpu i fynd i'r afael â'r angen brys hwn am hyfforddiant a chymorth sgiliau digidol.

Fodd bynnag, llwyddodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru (‘Cwmpas’ erbyn hyn) a Promo Cymru drwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddechrau mynd i'r afael â'r problemau roedd y sector yn eu hwynebu. Arweiniodd y cydweithio hwn at ffurfio Partneriaeth Newid.

Llwyddodd Llywodraeth Cymru i gynnig ychydig bach o gyllid i'r Bartneriaeth i ariannu ymchwil i ganfod pa gymorth yn union yr oedd ei angen ar y sector yng Nghymru. Arweiniodd y gwaith hwn at raglen beilot ar raddfa fawr a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau cymorth i sefydliadau'r sector gwirfoddol, gan gynnwys mentora un i un, pecynnau cymorth i ddatblygu darpariaeth gwasanaethau digidol a hyfforddiant i wella gwybodaeth a sgiliau staff a sefydliadau.

Mae'r peilot wedi dangos bod angen mwy o wybodaeth a sgiliau ar y sector i lywio'r byd digidol a'i fod eisiau dysgu a thyfu yn y maes hwn. Yn ystod cyfnod yr adroddiad hwn mae Partneriaeth Newid wedi cychwyn ar drywydd sy'n ceisio helpu'r sector gwirfoddol yng Nghymru i weithio'n ddoethach ac i gyrraedd ei botensial digidol.

Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector

Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn helpu Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau trydydd sector i ddatblygu polisïau a gwasanaethau gwell. Yn ystod y cyfnod adrodd roedd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, yn cadeirio Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Roedd y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau trydydd sector a oedd yn gweithio ar draws 25 o feysydd gwaith yn y trydydd sector, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (gweler atodiad a).

Yn 2021 i 2022 cynhaliwyd cyfanswm o ddau gyfarfod o’r Cyngor o dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector (ar 15 Gorffennaf ac 17 Tachwedd 2021).

Dyma rai enghreifftiau o'r pynciau a drafodwyd:

  • Bil Drafft Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
  • Adolygiad COVID 21 diwrnod
  • Y newyddion diweddaraf ar gynnydd yn erbyn ffrydiau gwaith ‘Cefnogaeth’, ‘Perthynas’ a ‘Gwirfoddoli’ adroddiadau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ar y gwaith adfer yn dilyn COVID.

Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ar wefan Llywodraeth Cymru 

Cyfarfodydd Gweinidogion

Mae gan Gymru enw da haeddiannol yn rhyngwladol fel gwlad lle mae mynediad rhwydd at lunwyr polisi a Gweinidogion yn hyrwyddo llywodraethu da. Mae’r trydydd sector yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i drafod materion sy’n berthnasol i’w portffolios.

Mae’r cyfarfodydd â Gweinidogion yn ategu cysylltiadau o ddydd i ddydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r trydydd sector drwy ganolbwyntio ar faterion polisi strategol sy’n effeithio ar fwy nag un rhan o’r trydydd sector. 

Dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector, cynhaliwyd chwe chyfarfod rhwng Gweinidogion Cymru a mudiadau'r trydydd sector yn ystod 2021 i 2022. Dyma enghreifftiau o’r pynciau a drafodwyd:

  • strategaeth Drafnidiaeth Cymru
  • gweledigaeth Menter Gymdeithasol a’i Chynllun Gweithredu
  • Dysgu yn y Gymuned
  • Papur ynghylch Menter Gymdeithasol

Hefyd, ymgysylltodd Gweinidogion Cymru â sefydliadau trydydd sector mewn nifer o ffyrdd gwahanol y tu hwnt i’r cyfarfodydd ffurfiol hyn gan gynnwys ymweld â sefydliadau, mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau, a thrwy gyfrwng gohebiaeth neu gyfarfodydd uniongyrchol gyda grwpiau neu sefydliadau unigol i glywed yn fwy penodol am faterion a oedd yn effeithio arnyn nhw.

Ymgynghoriadau

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i weithdrefnau ar gyfer ymgynghori ynghylch newidiadau polisi a datblygiadau polisi newydd sy’n effeithio ar y trydydd sector, gan gynnwys:

  • cyfleoedd i barhau i gynnal trafodaethau rhwng y Trydydd Sector, buddiannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i sicrhau dealltwriaeth a chyfraniad cynnar wrth ddatblygu polisi
  • trefniadau ymgynghori sydd fel arfer yn caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ehangach â rhwydweithiau a defnyddwyr gwasanaethau
  • cefnogi rôl cyrff ambarél a chyfryngwyr wrth hwyluso ymgyngoriadau
  • rhoi adborth i ymatebwyr ynghylch ymatebion i ymgyngoriadau a’u canlyniadau
  • cyfleoedd i’r sector barhau i gymryd rhan yn ystod camau gweithredu a gwerthuso’r polisi

Cafodd 72 o ymgyngoriadau eu cyhoeddi rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022. Mae’r manylion ar dudalennau ymgyngoriadau gwefan Llywodraeth Cymru. 

Enghraifft o ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 I 2022 ble roed y trydydd sector yn gallu cyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiad polisi oedd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol: Cymru Wrth-hiliol.

Ymgynghorodd hwn ar:

  • ein gweledigaeth, pwrpas a gwerthoedd ar gyfer Cymru wrth-hiliol
  • y gwahanol ardaloedd polisi a ddylai ddatblygu nodau, gweithredoedd a canlyniadau ddiriaethol
  • Ardaloedd o waith Llywodraeth a allai fod wedi’u methu
  • Rhwystrau i gyflawni ein nodau, gweithredoedd a ein canlyniadau
  • Ein defnydd o iaith

Derbyniodd yr ymgynghoriad 330 o ymatebion gan fwy na 1,992 o unigolion. Roedd yr ymatebwyr yn cynnwys sefydliadau a rhwydweithiau Trydydd Sector, y cyhoedd a sefydliadau cymunedol.

Cafodd crynodeb cynhwysfawr o’r ymatebion ei cyhoeddi ar y wefan canlynol Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru Crynodeb o’r ymatebion.

Enghraifft arall o ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 i 2022, lle'r oedd y trydydd sector yn gallu cyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiad polisi, oedd yr ymgynghoriad ynghylch y Cynllun Gweithredu LHDTC+.   

Ymgynghorwyd ynghylch sut y gellir:

  • mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a brofir gan gymunedau LHDTC+
  • herio gwahaniaethu
  • creu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu’n onest, yn agored ac yn rhydd, gan fod yn driw iddynnhw eu hunain.

Bu cyfanswm o 1,328 o unigolion a sefydliadau cystal â rhoi o’u hamser i gynnig eu barn ar y Cynllun Gweithredu. Gyda'i gilydd, derbyniodd yr ymgynghoriad 1,177 o ymatebion gan unigolion sydd â diddordeb yn y Cynllun Gweithredu, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd. Daeth cant a phum deg un o ymatebion technegol i law hefyd gan sefydliadau ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

Yn dilyn canlyniad y broses ymgynghori, cyhoeddwyd fersiwn derfynol y Cynllun Gweithredu LDHTC+ ym mis Chwefror 2023.

Hefyd, cyhoeddwyd crynodeb o’r rhagor na 1,300 o ymatebion ar y dudalen ymgyngoriadau.

Datblygu polisi 

O dan Gynllun y Trydydd Sector, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn ystyried, yn ddigon cynnar yn y broses, y goblygiadau i’r trydydd sector yn sgil unrhyw bolisïau newydd neu newidiadau polisi. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn â’r sector yn allweddol i lywio datblygiad polisi ac i helpu i lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru. Enghraifft o’r ymgysylltu hwn a’i fanteision ymarferol posibl i sefydliadau trydydd sector a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r gwaith o ddatblygu a gwella polisi grantiau Llywodraeth Cymru.

Astudiaeth achos: datblygu a gwella'r polisi grantiau

Yn hydref 2021, ar gais y Prif Weinidog a chyda chefnogaeth y Cabinet, gofynnwyd i'r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau edrych ar sut mae cynlluniau grant yn cael eu hailhysbysebu ar ddiwedd proses gystadleuol, ac a ellid cyflwyno trefn feincnodi i helpu i benderfynu pa sefydliadau fyddai'n parhau i dderbyn cyllid. 

Y prif nodau ar gyfer datblygu a gwella'r polisi grantiau oedd dod â'r cylch o ail-gystadlu blynyddol am grantiau i ben, mae’n faich gweinyddol ar reolwyr a derbynwyr y grantiau, a symud i gynlluniau grant sy’n para’n hwy, lle bo hynny'n ymarferol. Byddai'r gwelliannau hyn yn cynnig llawer o fanteision ac arbedion, gan gynnwys helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau sy’n wynebu sefydliadau trydydd sector wrth recriwtio a chadw staff pan ddyfernir cyllid iddynt ar sail flynyddol neu dymor byr.

Gan gydnabod effeithiolrwydd cydweithio, gweithiodd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau yn agos gydag Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (un o Is-bwyllgorau Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector), sy'n awyddus i harneisio eu cyfoeth o brofiad, arbenigedd a phersbectif i lunio a datblygu'r polisi yn llawn ac i rannu syniadau. Trwy gydweithredu fel hyn ar gam cynharaf llunio’r polisi, roeddem yn gallu 'cydblethu' yr elfennau hanfodol y cytunwyd arnynt ar y cyd, gan roi mwy o sicrwydd y byddai'r polisi terfynol yn effeithiol h.y. cynyddu'r effaith gadarnhaol a pharhaol ar lawer o unigolion a chymunedau yng Nghymru, a oedd wedi'u targedu drwy'r cyllid grant. Byddai'r polisi newydd hefyd yn anelu at ganolbwyntio rhagor ar gyflawni o ran canlyniadau yn ogystal ag allbynnau.

Trwy weithdai ar-lein rheolaidd, bu swyddogion LlC ac Is-bwyllgor Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn trafod drafftiau polisi yn fanwl, yn agored ac yn adeiladol, gan rannu barn, trafod problemau a heriau ar sail dealltwriaeth werthfawr o’r sector gwirfoddol ar sail profiad bywyd, nes i set o egwyddorion allweddol gael eu diffinio'n glir. Mae'r egwyddorion allweddol hyn a grëwyd ar y cyd bellach yn sail i ganllawiau polisi a gwelliannau ehangach. Erbyn hyn, mae gan reolwyr grantiau gyfle i gymhwyso'r polisi hwn ar draws eu cynlluniau grant, gan ysgogi symudiad sylfaenol oddi wrth gylchoedd a meddylfryd tymor byr neu flynyddol o ran grantiau, tuag at gyfnodau hirach ar gyfer cyllid grant sy'n gwneud buddion dwfn a pharhaol yn bosibl. Dylid cydnabod, fodd bynnag, na fyddai'r polisi hwn yn berthnasol ym mhob lleoliad - mae gan reolwyr grant y cyfle a’r hyblygrwydd i'w ddiwygio yn dibynnu ar eu cynllun grant penodol nhw ac amgylchiadau unigol.

Wrth weithio ochr yn ochr ag Is-bwyllgor Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, cynhaliodd y Ganolfan Ragoriaeth Grantiau gyfres o sesiynau gyda dros 200 o reolwyr grantiau a swyddogion Llywodraeth Cymru, felly casglwyd barn rhai sy'n goruchwylio nifer fawr ac amrywiol iawn o gynlluniau grant gan gynnwys pob sector, a dylanwadodd y rhain ar y gwaith o lunio'r polisi. Croesawodd Is-bwyllgor Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a rheolwyr grantiau y prosesau gwell ar gyfer ariannu grant, sy'n parhau i gael eu gweu yn rhan o’r drefn. Mae hyn wedi dangos pa mor gynhyrchiol y gall gweithio mewn partneriaeth fod ac mae pawb sy’n rhan ohono yn awyddus i ailadrodd y profiad o gyd-greu a defnyddio’r dull hwn o weithredu yn y dyfodol.

Cyllid a Chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Trydydd Sector

Trwy roi cyllid craidd i’r rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sef partneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith Trydydd Sector a fu, yn ystod 2020 i 2021, yn cynrychioli, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r Trydydd Sector, ynghyd â bod yn atebol iddo, a hynny ar bob lefel.

Roedd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar 4 piler allweddol; gwirfoddoli, llywodraethu da, cyllid cynaliadwy, ac ymgysylltu â phartneriaid yn y gwasanaethau cyhoeddus a dylanwadu arnynt.

Mae Adroddiad Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn darparu data ac astudiaethau achos i ddangos effaith cymorth Llywodraeth Cymru a Cefnogi Trydydd Sector Cymru mewn perthynas â’r 4 piler allweddol.

Mae Adroddiad Effaith eleni (2021 i 2022) hefyd yn dangos sut roedd isadeiledd unigryw y trydydd sector yng Nghymru yn galluogi'r sector i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion cymunedau gydol y pandemig. Gwnaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru hi’n bosibl i filoedd o sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru gael mynediad at gyllid, gwybodaeth, cyfleoedd dysgu, gwirfoddolwyr a chefnogaeth ddigidol na fyddai wedi bod ar gael heb fodolaeth partneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru. 

Dyma rai o’r effeithiau lefel uchel y mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn eu cael gyda chymorth Llywodraeth Cymru:

  • cefnogwyd 6,158 o sefydliadau â gwybodaeth a chyngor uniongyrchol
  • treuliwyd 21,164 awr yn cefnogi'r sector gyda'r pedwar maes gweithgaredd yn ogystal â brocera cymorth arall sydd ei angen
  • dosbarthwyd 772 o grantiau i sefydliadau gwerth cyfanswm o £10,085,204
  • roedd 94 cwrs ar-lein wedi darparu hyfforddiant i 3,066 o gyfranogwyr
  • cafodd 1,062 o bartneriaethau, fforymau, rhwydweithiau a digwyddiadau eu hwyluso gyda 8,027 o bobl yn cymryd rhan
  • cofrestrodd 4,574 o wirfoddolwyr ar dudalen Gwirfoddoli yng Nghymru
  • cofrestrodd 325 o sefydliadau ar dudalen Gwirfoddoli yng Nghymru gyda 1393 o gyfleoedd gwirfoddoli newydd yn cael eu hysbysebu
  • rhestrwyd 747 o gyllidwyr ar borth Cyllid Cymru gyda chyfanswm o 880 o gronfeydd yn cael eu hysbysebu. Cafodd 15,190 o ddefnyddwyr eu cofrestru a chofnodwyd cyfanswm o 69,218 o chwiliadau

I gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w gwefan.

Cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn ystod 2021 i 2022
Cyllid Swm
Cyllid craidd i’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru  £4,914,695

Cefnogi Diogelu

£114,500
Cronfa Newid y Trydydd Sector £791,500
Cefnogi Gwirfoddoli £2,331,112
Cronfa Capasiti Partneriaeth £87,545
Cyfanswm £8,239,352
Dadansoddiad o’r Dyraniadau Cyllid Craidd ar gyfer Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghorau Gwirfoddol Sirol unigol
Cyngor Gwirfoddol Sirol Cyllid Craidd
Conwy £167,896
Sir Ddinbych £167,115
Sir y Fflint £172,354
Gwynedd £219,216
Ynys Môn £163,593
Wrecsam £167,845
Sir Gaerfyrddin £189,667
Ceredigion £170,054
Sir Benfro £169,854
Powys £346,463
Castell-nedd Port Talbot £165,463
Abertawe £212,177
Caerdydd £204,181
Bro Morgannwg £181,284
Pen-y-bont ar Ogwr £164,054
Merthyr Tydful £162,067
Rhondda Cynon Taf £202,841
Gwent £643,115
Torfaen £180,112
Is-gyfanswm y Cynghorau Gwirfoddol Sirol £4,049,351
  • Cyfanswm Rhanbarth y Gogledd: cyfanswm £1,058,019
  • Cyfanswm Rhanbarth y Gorllewin a Phowys: cyfanswm £876,038
  • Cyfanswm Rhanbarth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: cyfanswm £377,640
  • Cyfanswm Rhanbarth Caerdydd a'r Fro: cyfanswm £385,465
  • Cyfanswm Rhanbarth Cwm Taf a Phen-y-bont ar Ogwr: cyfanswm £528,962
  • Cyfanswm Rhanbarth Gwent: cyfanswm £823,227

Cymorth arall i’r trydydd sector

Nid cyllid Cefnogi Trydydd Sector Cymru oedd yr unig gyllid a ddarparwyd i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth, cyllid craidd a chyllid prosiect i lawer o sefydliadau eraill yn y Trydydd Sector.

Mewn llawer o achosion, roedd y cyllid hwn yn ymwneud â meysydd gwaith arbenigol a chytunwyd ar y cyllid gan y Gweinidog priodol o Lywodraeth Cymru.

Yn 2021 i 2022 dyfarnodd Llywodraeth Cymru £516 miliwn o gyllid wedi’i neilltuo i’r Trydydd Sector.

Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant caffael na thaliadau anuniongyrchol a wnaed i sefydliadau’r trydydd sector lle’r oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydliad arall, er enghraifft awdurdod lleol, a allai fod wedi ariannu sefydliadau trydydd sector wedyn.

Mae trefn Rheoli Arian Cyhoeddus yng Nghymru Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith a’r egwyddorion y mae rhaid eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru, y cyrff a noddir ganddi, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ei chomisiynwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn ac is-gyrff Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (y Cod) yn rheoli sut y dylai Llywodraeth Cymru a’i hasiantau ymdrin ag ariannu’r trydydd sector.

Mae’r Cod yn egluro’r mathau o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, yr egwyddorion y dylid seilio penderfyniadau cyllido arnynt, a’r telerau a’r trefniadau ar gyfer cynnig cyllid.

Cynllun y Trydydd Sector

Ni roddwyd gwybod am unrhyw achos o dorri’r Cod yn ystod y cyfnod adrodd hwn.

Rhagor o wybodaeth

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r Trydydd Sector

Am wybodaeth am wirfoddoli ewch i’ch Canolfan Wirfoddoli neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.

Fel arall, gallwch gysylltu ag Uned y Trydydd Sector yn thirdsectorqueries@llyw.cymru.

I gael gwybodaeth am raglenni grant eraill, cysylltwch â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 0300 1110124.

I gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w gwefan.

Atodiad a: tabl o feysydd diddordeb Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac arweinwyr rhwydweithiau

  • Cyngor ac eiriolaeth, Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol
  • Lles anifeiliaid, Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru
  • Y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, Bywydau Creadigol
  • Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru
  • Plant a Theuluoedd, Plant yng Nghymru
  • Cymuned, Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau
  • Cyfiawnder Cymunedol, Cyfiawnder Cymunedol Cymru
  • Anabledd, Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru
  • Addysg a Hyfforddiant, Addysg Oedolion Cymru
  • Cyflogaeth, Siawns Teg
  • Yr Amgylchedd, Cyswllt Amgylchedd Cymru
  • Lleiafrifoedd Ethnig, Race Council Cymru
  • Lleiafrifoedd Ethnig, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
  • Rhywedd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Iechyd, gofal cymdeithasol a lles, Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles
  • Tai, Homes for All Cymru
  • Cymorth lleol a rhanbarthol, Cynghorau Gwirfoddol Sirol
  • Rhyngwladol, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
  • Pobl Hŷn, Cynghrair Henoed Cymru
  • Crefydd, Cyngor Rhyng-ffydd Cymru
  • Rhywioldeb, Stonewall Cymru
  • Menter gymdeithasol, Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol
  • Chwaraeon a hamdden, Cymdeithas Chwaraeon Cymru
  • Gwirfoddoli, Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru
  • Y Gymraeg, Mentrau Iaith Cymru
  • Ieuenctid, Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru
  • Prif Weithredwr CGGC, Cynrychiolydd CGGC