Neidio i'r prif gynnwy

Mae adborth gan ysgolion arloesi sy’n cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd i Gymru yn dangos bod cynnydd da yn cael ei wneud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn dangos bod yr ysgolion yn teimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth, yn ogystal â theimlo’n fwy hyderus yn eu gwaith o ddatblygu’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad gwahanol – y meysydd pwnc a fydd yn nodweddu’r cwricwlwm newydd sydd i gael ei gyflwyno o 2022.

Mae cyfweliadau a gafodd eu cynnal â’r ysgolion arloesi wedi datgelu eu bod yn teimlo’n hyderus o ran y ddealltwriaeth sydd ganddynt o nodau ac amcanion eu grwpiau Meysydd Dysgu a Phrofiad, ac yn teimlo’n hapus ynghylch sut roeddent yn cael eu rhedeg. Hefyd, roeddent yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i wneud cynnydd annibynnol ac i gydweithio ag ysgolion eraill.

Wrth ymateb i’r adroddiad heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams:

"Mae ein Hysgolion Arloesi wrth wraidd y broses o gynllunio’r cwricwlwm newydd. Dyma pam mae mor bwysig i ni wrando ar eu sylwadau a gweithredu ar sail hynny.

"Bydd heriau bob amser wrth gyflwyno cwricwlwm newydd ond mae’n galonogol i ni wybod bod ysgolion yn teimlo’n hyderus a’u bod yn cael cefnogaeth briodol wrth iddyn nhw symud ymlaen â’r gwaith hanfodol hwn. Mae’n amlwg bod momentwm clir i’r gwaith hwn, sy’n dangos bod ein dull o weithio yn ateb y diben.

"Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd, gwrando ar adborth ynghylch ble a sut y gallwn ni wella, a sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn ateb y gofyn pan fyddwn ni’n dechrau ei gyflwyno yn 2022."