Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cod Ymarfer Statudol drafft ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a'r ddogfen ganllaw ategol rhwng 21 Medi 2020 a 14 Rhagfyr 2020. Derbyniwyd 103 o ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad. Derbyniwyd 149 o ymatebion eraill fel rhan o ymarferiad ymgynghori a gynhaliwyd gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.

Oherwydd pandemig y coronafeirws a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu ar-lein. Roedd y ddau ddigwyddiad a gynhaliwyd ym mis Tachwedd wedi denu bron i 100 o bobl awtistig, teuluoedd a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion o blaid y Cod Ymarfer Statudol drafft a'r canllawiau ategol. Nodwyd bod angen rhagor o fanylion a phwyslais cryfach ar y materion allweddol canlynol:

  • amserlenni, llwybrau a’r cymorth sydd ar gael
  • eglurder ynglŷn ag un pwynt mynediad
  • darparu addasiadau rhesymol;
  • y gallu i wneud diagnosis o gyflyrau sy'n cydfodoli
  • pwysigrwydd cynnal asesiadau trwy gyfrwng iaith gyntaf yr unigolyn
  • gwasanaethau ataliol;
  • cadw cofnodion o ddiagnosis ledled gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
  • nodi dulliau gwahanol o gefnogi unigolion
  • hunan-eiriolaeth
  • cymorth iechyd meddwl/cydweithio
  • canllawiau ar sut mae gweithleoedd yn gallu bod yn fwy ymwybodol o awtistiaeth
  • canllawiau ar yr hyn sydd angen ei gynnwys yn hyfforddiant ymwybyddiaeth gyffredinol ac yn hyfforddiant staff
  • sut y bydd gwaith monitro'n cael ei wneud i sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei weithredu
  • mwy o fanylion am rolau unigolion a rolau tîm a nodir yn y Cod
  • casglu data
  • rhagor o wybodaeth am gwynion ffurfiol
  • yr effaith ar gyflyrau niwroddatblygiadol eraill

Cyflwyniad

Er bod y strategaeth awtistiaeth wedi cyflawni llawer ers ei chyhoeddi yn 2008, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen dybryd o hyd i gynyddu graddfa a chyflymder y broses o wella gwasanaethau awtistiaeth. Rydym wedi gwrando ar bobl awtistig a'u teuluoedd a gofalwyr sydd wedi dweud wrthym fod cael gafael ar gymorth a gwasanaethau pwysig yn gallu bod yn anodd o hyd, er gwaethaf y diwygiadau. Amlygwyd y profiadau hyn yn ystod y ddadl ar Fil Awtistiaeth (Cymru) 2018 a oedd yn gyfle i Senedd nodi anghenion pobl awtistig, a dangos nad yw'r anghenion hyn yn cael eu diwallu eto mewn rhai ardaloedd.

Mewn ymateb i'r pryderon hyn a'r gefnogaeth sylweddol ar gyfer nodau'r bil, fe wnaethom ymrwymo i gyhoeddi Cod Ymarfer statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth. Bydd y Cod yn sylfaen i'r dyletswyddau presennol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006. Rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019 ymgynghorwyd ar ein cynigion ar gyfer y Cod ac mae copi o adroddiad yr ymgynghoriad ar gael yn y ddogfen cynigion yr Ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer.

Yn ystod 2019/20, aethom ati i ddatblygu canlyniadau'r ymgynghoriad drwy sefydlu grwpiau technegol a gyfarfu ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd i gynghori ar bob maes o'r Cod. Roedd aelodau'r grwpiau technegol yn cynnwys pobl awtistig a'u rhieni a gofalwyr, arweinwyr awtistiaeth awdurdodau lleol, cynrychiolwyr Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig a niwroddatblygiadol a sefydliadau'r trydydd sector. Ym mhob cyfarfod, aeth y rhai a oedd yn bresennol drwy'r bennod berthnasol a chawsant gyfle i roi sylwadau manwl ar fersiwn ddrafft a rannwyd â hwy cyn y cyfarfod. Roedd yr adborth ym mhob un o'r cyfarfodydd yn gadarnhaol ac yn adeiladol.

Hefyd, cynhaliwyd rhaglen ymgysylltu ehangach gyda phobl awtistig, eu rhieni a'u gofalwyr a gyda gweithwyr proffesiynol ledled Cymru. Fe wnaeth y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar Weithredu gyfarfod ddwywaith yn ystod y flwyddyn hefyd, ac roedd y cyfarfodydd hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu'r Cod.

Erbyn mis Mawrth 2020, ar ôl gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, roedd y Cod Ymarfer drafft a'r ddogfen ganllaw gysylltiedig yn barod i'w cyhoeddi, ond gohiriwyd hyn oherwydd effaith y pandemig Covid-19. Ailddechreuwyd y trefniadau yn ystod haf 2020, a chyhoeddwyd yr ymgynghoriad ar 21 Medi 2020. Dyddiad cau'r ymgynghoriad oedd 14 Rhagfyr, ac fe drefnwyd dau ddigwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar-lein ym mis Tachwedd 2020.

Mae'r adroddiad hwn yn adlewyrchu dadansoddiad o'r holl adborth a gafwyd, gan nodi nifer o themâu a gododd yn gyson. Mae adran camau nesaf yr adroddiad yn esbonio'r camau y byddwn yn eu cymryd mewn ymateb i'r ymgynghoriad a'r adborth arall sydd wedi dod i law. Byddwn yn parhau i wrando a gweithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid er mwyn cyd-gynhyrchu'r Cod terfynol a'r ddogfen ganllaw er mwyn cwblhau'r ddwy ddogfen erbyn mis Mawrth eleni.

Trosolwg cryno o'r Cod a'r ddogfen ganllaw

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Cod Ymarfer Statudol drafft ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a'r ddogfen ganllaw ategol. Mae dogfennau'r ymgynghoriad ar gael yma: Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth

Bydd y Cod yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd i addasu eu gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion pobl awtistig a'u rhieni a'u gofalwyr. Bydd gan y Cod y pŵer i osod y dyletswyddau hyn ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol oherwydd ei fod yn cael ei gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006. Bydd yn gosod dyletswyddau penodol o dan bob un o'r adrannau fel y nodir isod.

  1. Trefniadau ar gyfer asesu a diagnosis awtistiaeth.
  2. Trefniadau ar gyfer cael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal  cymdeithasol. 
  3. Trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant ar awtistiaeth.
  4. Trefniadau ar gyfer cynllunio a monitro gwasanaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Mae'r Cod hwn ar gyfer:

  • pobl awtistig, gan gynnwys y rhai â chyflyrau sy'n cydfodoli
  • darparwyr gofal cymdeithasol a chymorth iechyd ar gyfer pobl awtistig a'u teuluoedd a/neu eu gofalwyr
  • ymarferwyr gofal cymdeithasol ac iechyd sy'n gweithio gyda phobl awtistig a'u teuluoedd a/neu eu gofalwyr
  • comisiynwyr a phobl sydd â rôl strategol yn asesu a chynllunio gwasanaethau lleol ar gyfer pobl awtistig a'u teuluoedd a/neu eu gofalwyr
  • ymarferwyr mewn gwasanaethau cysylltiedig eraill sy'n darparu cymorth ar gyfer pobl awtistig a'u teuluoedd a/neu eu gofalwyr, er enghraifft cyflogaeth, addysg a chyfiawnder troseddol
  • darparwyr gwasanaethau ac ymarferwyr sy'n darparu gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig sydd â chyflyrau sy'n cydfodoli.

Gan ddilyn ein hymgynghoriad gyda grwpiau ymrwymiad a grwpiau technegol bydd y Cod yn cyfeirio at y diffiniad hwn o awtistiaeth: “Defnyddir y term cyflwr sbectrwm awtistig i ddisgrifio grŵp o symptomau niwroddatblygiadol cymhleth, sy’n amrywio o ran eu difrifoldeb. Y nodweddion yw heriau o ran rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, a phatrymau cyfyngedig neu ailadroddus o ymddygiad, meddyliau a theimladau synhwyraidd”.

Bydd y Cod hwn yn defnyddio'r term 'pobl awtistig' yn hytrach na 'phobl ag awtistiaeth' er mwyn adlewyrchu dewisiadau iaith y bobl awtistig sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r Cod hwn.

Hefyd, bydd y Cod yn defnyddio'r term 'ymarferwyr' yn hytrach na chyfeirio at broffesiynau unigol. Mae hyn yn adlewyrchu dewisiadau iaith pob unigolyn a gyfrannodd at ddatblygu'r Cod hwn.

Nid yw'r Cod hwn yn ymdrin â chyflyrau niwroddatblygiadol eraill ond mae'n cydnabod y bydd gan rai unigolion awtistiaeth sy’n cydfodoli ag anhwylderau eraill a allai effeithio ar eu hanghenion gofal a chymorth.

Trosolwg o ymatebion

Gofynnodd y ddogfen ymgynghori 16 o gwestiynau am y Cod a'r canllaw ategol, y diffiniad o awtistiaeth sydd wedi'i ddefnyddio yn y Cod ac a ddylid ehangu'r Cod i gynnwys cyflyrau niwroddatblygiadol eraill. Yna gofynnodd 5 cwestiwn am effeithiau'r Cod ar nodweddion gwarchodedig a'r Iaith Gymraeg, cyn gofyn i ymatebwyr godi unrhyw faterion cysylltiedig eraill. Derbyniwyd 103 o ymatebion cyflawn drwy ffurflenni ar-lein a llythyrau e-bost. Rydym yn ddiolchgar i'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol am gynnal ymarferiad ymgynghori hefyd er mwyn annog ymatebion. Derbyniwyd cyfanswm o 149 o ymatebion i'r ymgynghoriad, a fydd yn llywio'r gwaith o gwblhau'r Cod drafft a'r ddogfen ganllaw ategol. Mae Ffigur 1 isod yn darparu dadansoddiad o'r ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn ôl math o ymatebydd. I gael rhagor o wybodaeth am yr ymatebwyr gweler Atodiad 1.

 Ymatebion (Ffigur 1)

Ymatebydd

Sefydliadau yn cynnwys y trydydd sector, awdurdodau lleol, cyrff statudol, byrddau iechyd lleol a gwasanaeth awtistiaeth integredig.

36
Ymatebydd

Pobl awtistig, rhieni, teuluoedd, gofalwyr ac unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau.

67
Ymatebydd

Ymatebion Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth gan bobl awtistig, teuluoedd a gofalwyr

149
Ymatebydd Cyfanswm 252
Math o Ymateb Ffurflen ymgynghori ar-lein 47
Math o Ymateb Ymateb uniongyrchol i flwch negeseuon e-bost yr ymgynghoriad 56
Math o Ymateb Ymatebion Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth 149
Math o Ymateb Cyfanswm 252

Yn gyffredinol, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd y Cod, ychydig o ymatebwyr a nododd eu bod yn 'anghytuno' â'r dyletswyddau sy'n cael eu gosod ar ddarparwyr gwasanaethau. Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn 'cytuno', gan roi tic yn y blwch 'cytuno' neu 'tueddu i gytuno'. Fodd bynnag, cafwyd llawer o sylwadau ar sut y gellid gwella ac egluro'r Cod ymhellach. Mae'r awgrymiadau a'r pryderon hyn wedi'u hegluro isod. Maent wedi eu trefnu yn ôl pob adran o'r Cod a'i chwestiynau cysylltiedig. Mae ffigurau'r canrannau yn seiliedig ar yr ymatebion ar-lein a dderbyniwyd, ac maent wedi'u talgrynnu i fyny neu i lawr i'r ganran agosaf.

Anghenion dysgu ychwanegol

Gofynnodd llawer o'r ymatebion a gafwyd am fwy o eglurder ynglŷn ag aliniad rhwng y Cod a'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd. Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi dysgwyr o 0 i 25 oed sydd ag ADY. Mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion dysgu yn cael cymorth perthnasol wedi'i gynllunio a'i ddiogelu'n briodol.

Bydd y broses o gyflwyno'r system ADY newydd yn dechrau fesul cam ym mis Medi 2021, a bydd y rolau statudol sydd wedi'u creu o dan y Ddeddf yn dechrau ym mis Ionawr 2021.

Y bwriad yw sicrhau bod y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yn alinio â'r diwygiadau ADY er mwyn sicrhau bod anghenion cymorth, fel gwasanaethau gofal cymdeithasol, sy'n ychwanegol at anghenion dysgu sy'n cael eu cyflenwi drwy ADY, ar gael i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a'u gofalwyr pan fydd angen. 

Diffiniad o awtistiaeth

  • A ydych yn cytuno â’r diffiniad o awtistiaeth sy’n cael ei ddefnyddio yn y Cod a'r canllawiau hyn?
  • A yw'r diffiniad arfaethedig yn gywir ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac yn dderbyniol i bobl awtistig?
Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
47% 26% 9% 15% 0

Roedd 75% o'r ymatebwyr naill ai'n cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r diffiniadau a fabwysiadwyd gan y cod y cytunwyd arnynt drwy ymgynghori â grwpiau ymgysylltu a grwpiau technegol wrth ddrafftio'r Cod. Defnyddiwyd y diffiniad canlynol o awtistiaeth yn y ddogfen ymgynghori gan ddisodli'r term "anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASD)" a ddefnyddiwyd yn flaenorol: "Defnyddir y term cyflwr sbectrwm awtistig i ddisgrifio grŵp o symptomau niwroddatblygiadol cymhleth, sy’n amrywio o ran eu difrifoldeb. Y nodweddion yw heriau o ran rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, a phatrymau cyfyngedig neu ailadroddus o ymddygiad, meddyliau a theimladau synhwyraidd".

Hefyd, roedd fersiwn ymgynghori'r Cod yn defnyddio'r term 'pobl awtistig' yn hytrach na 'phobl ag awtistiaeth’; mae hyn yn adlewyrchu dewisiadau iaith pobl awtistig sydd wedi cyfrannu at ddatblygu'r Cod hwn

Dywedodd un sefydliad: "Mae'n dda gennym weld eich bod wedi mabwysiadu'r term cyflwr sbectrwm awtistig yn hytrach nag anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae ein haelodau wedi bod yn gofyn am y newid hwn ers cryn amser. Hefyd, roedd yn dda gennym weld y diffiniad o 'bobl awtistig' yn cael ei gynnwys gan fod rhai o'n haelodau yn ffafrio'r diffiniad hwn. Mae hyn yn dathlu doniau ac yn cydnabod heriau pobl ar y Sbectrwm hwn.”

Yr ymateb arfaethedig yw i'r diffiniadau o gyflwr sbectrwm awtistig a "phobl awtistig" barhau i gael eu defnyddio yn y fersiynau terfynol o'r Cod Statudol a'r ddogfen ganllaw ategol.

A ddylai'r Cod fod yn ehangach nag awtistiaeth

A ydych chi’n cytuno y dylai’r Cod ganolbwyntio ar wasanaethau awtistiaeth neu a ellid ei ehangu ar gyfer cyflyrau niwroddatblygiadol eraill?

Awtistiaeth yn unig

Pob cyflwr niwroddatblygiadol

Dim Barn
48% 41%

11%

Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i ymatebwyr wneud sylwadau ynglŷn ag a ddylai'r Cod ganolbwyntio ar wasanaethau awtistiaeth yn unig neu a ellid ei ehangu i gwmpasu cyflyrau niwroddatblygiadol eraill. Roedd yr adborth o'r ymatebion ar-lein a'r ymatebion uniongyrchol yn tueddu i fod o blaid awtistiaeth yn unig. Roedd yr ymatebion o blaid yn tueddu i ddod gan bobl awtistig, rhieni a gofalwyr. Mae'r canlynol yn enghraifft o adborth gan un sefydliad sydd o blaid y Cod yn cwmpasu awtistiaeth yn unig: “Mae anhwylderau niwroddatblygiadol yn grŵp mawr sy'n cynnwys llwybrau ac anghenion gwahanol. Byddai cwmpasu pob un o fewn un bennod yn gymhleth ac ni fyddai'n ddefnyddiol iawn o ystyried yr ystod eang iawn o anghenion y byddai'n rhaid ymdrin â nhw wedyn. Byddai cynnwys yr holl gyflyrau niwroddatblygiadol yn gwneud y ddogfen yn rhy hir yn ein barn ni.”

Roedd 41% o'r ymatebwyr yn gofyn i'r Cod gwmpasu'r holl gyflyrau niwroddatblygiadol a gweithredu mewn ffordd gyfannol o safbwynt niwroamrywiaeth o fewn y boblogaeth. Gydol y ddadl ar Fil Awtistiaeth (Cymru) a'r gwaith dilynol i ddatblygu'r Cod, roedd rhieni a gofalwyr yn awyddus iawn i weld ffocws ar awtistiaeth, felly bydd y Cod yn parhau i ganolbwyntio ar awtistiaeth yn unig. Fodd bynnag, mae gwaith yn y gwasanaethau niwroddatblygiadol ehangach yn parhau, a bydd y Cod a'r broses o'i gyflwyno yn llywio datblygiad polisi yn y dyfodol, a fydd yn nodi tystiolaeth ac arferion da sy'n dod i'r amlwg.

Ymatebion i drefniadau ar gyfer asesu a diagnosis o awtistiaeth

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
28% 38% 17% 17% 0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
33% 37% 20% 10%

0

Roedd mwyafrif yr ymatebion naill ai'n cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r ddogfen ymgynghori (66%), ond nodir nad oedd tua thraean (32%) yn gefnogol. Fe ddaeth pum thema allweddol i'r amlwg yn dilyn adborth yr ymgynghoriad mewn ymateb i'r cwestiynau ar asesu a diagnosis awtistiaeth. Rydym wedi'u hystyried yn y cod terfynol.

Amserlenni, llwybrau a chymorth

Nododd ymatebwyr i'r ymgynghoriad fod angen cynnwys rhagor o wybodaeth yn y Cod am y tri maes canlynol: amserlenni, llwybrau a chymorth. Ar gyfer amserlenni, gofynnodd ymatebwyr am fwy o wybodaeth am amseroedd aros ar gyfer asesiadau. Hefyd, nododd ymatebwyr y dylai llwybrau gynnwys unigolion â chyflyrau sy'n bodoli eisoes neu yn cydfodoli. Yn olaf, gofynnodd ymatebwyr am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, yn enwedig mewn lleoliad addysgol wrth fynd drwy'r broses asesu.

Un pwynt mynediad

Gofynnodd ymatebwyr am eglurder ynglŷn ag Un Pwynt Mynediad ac a yw'n cynnwys atgyfeiriadau ar gyfer plant ac oedolion. Mewn ymateb, bydd swyddogion yn cynnwys eglurhad yn y Cod. Hefyd, bydd swyddogion yn cynnig enghreifftiau o ymarfer da yn y ddogfen ganllaw.

Addasiadau Rhesymol

Gofynnodd ymatebwyr am fwy o wybodaeth am addasiadau rhesymol gan gynnwys rhai enghreifftiau ar gyfer defnyddio gwasanaethau fel gwasanaethau iechyd - amseroedd apwyntiadau hirach ac amgylcheddau tawel.

Cyflyrau sy'n cydfodoli

Dywedodd ymatebwyr fod angen i lwybrau asesu gynnwys asesiadau posibl ar gyfer cyflyrau eraill fel ADHD a dyspracsia, gan gynnwys ar gyfer pobl â chyflyrau eraill sy'n bodoli eisoes.

Pwysigrwydd cynnal asesiadau trwy gyfrwng iaith gyntaf yr unigolyn

Dywedodd ymatebwyr fod angen i'r Cod bwysleisio pwysigrwydd cynnal asesiadau trwy gyfrwng iaith gyntaf yr unigolyn. Mae'n bosibl y bydd pobl wedi cwblhau asesiad Saesneg, ond mae angen i'r asesydd ystyried y posibilrwydd mai Cymraeg yw iaith gyntaf yr unigolyn.

Ymatebion i Drefniadau ar gyfer Cael Gafael ar Wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb

28%

44% 16% 12%

0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb

29%

47% 14% 10%

0

Unwaith eto, roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion naill ai'n cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r cod drafft (72%) er bod 28% yn anghytuno â'r cod. Fe ddaeth pum thema allweddol i'r amlwg yn dilyn adborth yr ymgynghoriad mewn ymateb i'r cwestiynau am gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym wedi ystyried yr adborth hwn wrth ailddrafftio'r Cod terfynol. Dyma'r pum thema:

The five themes are:

Gwasanaethau Ataliol

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen mwy o fanylion a phwyslais ar wasanaethau ataliol. Er enghraifft, dywedodd un unigolyn: "Dylai gwasanaethau ataliol sicrhau bod pobl awtistig yn gallu byw bywyd da, sut bynnag maen nhw’n diffinio hynny" ac "Mae angen darparu cymorth ataliol wrth y pwynt cyswllt yn hytrach nag ymyrraeth adweithiol mewn argyfwng.”

Gwasanaethau Gofal Sylfaenol

O safbwynt gwasanaethau gofal sylfaenol a gofal eilaidd, roedd ymatebwyr yn teimlo y dylai meddygon teulu ac ysbytai gynnwys diagnosis o awtistiaeth mewn ffeiliau cleifion.

Darparu Cymorth

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen i'r Cod bwysleisio pwysigrwydd cefnu ar gymorth prif ffrwd a chydnabod dulliau gwahanol o gefnogi unigolion, er enghraifft yr angen i "ddarparu cymorth gwell/penodol ar gyfer pobl awtistig ar adegau o argyfwng." Hefyd, roedd angen rhoi pwyslais ar y cymorth sy'n cael ei roi i oedolion, nid dim ond i "deuluoedd pobl awtistig" gan fod hyn yn tueddu i olygu "plant a'u teuluoedd".

Hunan-eiriolaeth

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen cynnwys mwy o wybodaeth am hunan-eiriolaeth gan gynnwys hyrwyddo llais y plentyn. Meddai un unigolyn: "Ar sail ein profiad ni, hunan-eiriolaeth yw'r gwasanaeth ataliol mwyaf effeithiol ac mae'n hanfodol i leisiau, dewisiadau a rheolaeth ar gyfer pobl ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth”.

Gwella Cymorth Iechyd Meddwl

Mewn perthynas â chymorth iechyd meddwl, cyfeiriodd ymatebwyr at yr angen am bwyslais cryfach ar wella cymorth iechyd meddwl/cydweithio, er enghraifft mwy o wasanaethau therapi cymunedol ac ystyried materion iechyd meddwl mewn perthynas â chaethiwed a rhyddid cyfyngedig.

Ymatebion i Drefniadau ar gyfer Codi Ymwybyddiaeth a Hyfforddiant ar Awtistiaeth

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
25% 46% 17% 13%

0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
29% 51% 13% 7%

0

Codi ymwybyddiaeth yn y gweithle

Roedd 71% yn cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r cod drafft, ac roedd tua 29% yn anghytuno â'r Cod, er bod 80% yn cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r canllaw. Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen mwy o arweiniad ar sut mae gweithleoedd yn gallu bod yn fwy ymwybodol o awtistiaeth. Byddai hyn yn cynnwys sefydliadau fel addysg, gwasanaethau iechyd, meddygfeydd meddygon teulu, mannau manwerthu a gwasanaethau sy'n wynebu'r cyhoedd.

Canllawiau ar hyfforddiant

Gofynnodd ymatebwyr am ragor o wybodaeth am bwy sy'n gallu darparu'r hyfforddiant.

Monitro'r broses o gyflwyno hyfforddiant

Gofynnodd ymatebwyr am eglurder ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod hyfforddiant yn cael ei gyflwyno.

Cyllid ar gyfer hyfforddiant

Roedd ymatebwyr eisiau gwybod pwy fydd yn ariannu'r hyfforddiant ychwanegol ar ymwybyddiaeth o awtistiaeth ar gyfer sefydliadau.

Ymatebion i Drefniadau ar gyfer Cynllunio a Monitro Gwasanaethau ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid

Roedd y bennod hon o'r Cod yn cynnwys tri chwestiwn ymgynghori er mwyn mynd i'r afael â'r tair rhan yn effeithiol: cynllunio, monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Roedd y mwyafrif yn cytuno neu'n tueddu i gytuno â'r Cod, er bod y patrwm o tua 30% yn anghytuno yn parhau i fod yn amlwg, yn enwedig mewn perthynas â monitro lle mae'r ffigur yn codi i 38%. Mae hyn hefyd yn cymharu â chyfraddau uchel o gytundeb ar gyfer cynllunio (74%) ac ymgysylltu â rhanddeiliaid (80%) ar gyfer y cod a'r canllaw.

Cynllunio

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
33% 41% 14% 12%

0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
28% 51% 15% 6%

0

Monitro

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
30% 32% 24% 14%

0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
25% 48% 16% 11%

0

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

A yw'r gofynion arfaethedig yn yr adran hon o'r Cod yn iawn i ddarparwyr gwasanaethau a phobl awtistig?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
36% 44% 9% 11%

0

A yw'r canllawiau yn darparu digon o eglurder a gwybodaeth ar gyfer yr adran hon?

Cytuno Tueddu i Gytuno Tueddu i Anghytuno Anghytuno Dim Ymateb
31% 50% 12% 7%

0

Eglurder ar rolau

Cyfeiriodd ymatebwyr at yr angen am fwy o eglurder ynglŷn â swyddi fel hyrwyddwyr awtistiaeth, sy'n cael eu penodi o fewn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

Casglu data

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen mwy o wybodaeth am y data a fyddai'n cael ei gasglu, o ba sefydliadau, pwy fyddai'n coladu'r data a pha mor aml. Roedd ymatebwyr yn teimlo y dylai pob sefydliad gynnwys data awtistiaeth.

Cwynion

Roedd ymatebwyr yn teimlo bod angen cynnwys mwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn ffurfiol ac am y broses o ymdrin â chwynion; mae hyn yn cynnwys achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth â'r dyletswyddau yn y Cod Ymarfer gan fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol.

Ymarferiad Ymgynghori Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Cwblhaodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ymarferiad ymgynghori i annog pobl i ymateb, a derbyniwyd cyfanswm o 149 o ymatebion gan bobl awtistig, teuluoedd a gofalwyr. Datblygodd y Gymdeithas dempled ymateb syml i helpu cynifer o bobl â phosibl i leisio eu barn. Roedd y templed yn cynnwys crynodeb byr o'r cynigion sy'n berthnasol i'r heriau mwyaf a nodwyd gan bobl awtistig a'u teuluoedd. Roedd y templed yn cynnwys adran iddynt leisio eu barn o dan y penawdau canlynol sy'n gysylltiedig â phedair pennod y Cod: trefnu asesiad awtistiaeth; dod o hyd i ofal a chymorth; iechyd meddwl; eich hawliau; mynd allan ac arall.

Effeithiau cadarnhaol a negyddol ar nodweddion gwarchodedig

Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo y bydd y Cod yn cael effaith gadarnhaol ar anabledd ar gyfer pobl awtistig, gan y bydd yn gwella'r gwasanaethau y maent yn eu derbyn ac yn sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mynegodd ymatebwyr mewn rhifau cyfartal, bryderon y gallai'r Cod arwain at bwysau ar wasanaethau i 'hidlo' a blaenoriaethu cyflyrau sbectrwm awtistig o'r llwybr niwroddatblygiadol, gan fethu diwallu anghenion plant ag ADHD, anhwylderau prosesu synhwyraidd, anableddau dysgu a'r rhai sydd wedi profi trawma cronig.

Effeithiau a chyfleoedd ar gyfer yr iaith Gymraeg

Roedd llawer o'r sylwadau ar y thema hon yn canolbwyntio yn bennaf ar yr angen i sicrhau bod y gwasanaethau sydd wedi'u nodi yn y Cod hwn ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Sylwadau arall oedd, y dylai pob unigolyn awtistig allu cyfathrebu trwy gyfrwng ei brif ddull cyfathrebu, er enghraifft mewn asesiadau, boed hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu iaith arwyddion.

Casgliadau a Chamau Nesaf

Daeth yr ymgynghoriad i'r casgliad bod y rhan fwyaf o ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion a bod ganddynt awgrymiadau ar gyfer gwella ac ehangu. Roedd patrwm o tua 70% yn cytuno a 30% yn anghytuno â llawer o'r cwestiynau.  Mewn sawl maes, gofynnodd ymatebwyr am fwy o eglurder neu wybodaeth fanwl.

Mae'r prif argymhellion a'r camau nesaf sydd wedi deillio o'r ymgynghoriad wedi'u crynhoi isod, ac maent yn cynnwys camau gweithredu ar gyfer y Cod a'r ddogfen ganllaw ategol:

  • Defnyddio terminoleg Cyflwr Sbectrwm Awtistig a phobl awtistig yn y Cod a'r ddogfen ganllaw ategol lle y bo'n briodol.
  • Bydd y Cod yn canolbwyntio ar awtistiaeth ar hyn o bryd ond efallai y bydd datblygiadau polisi yn y dyfodol yn arwain at ddatblygiadau mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol ehangach.
  • Cyfeiriad cliriach yn y Cod at bwysigrwydd yr iaith Gymraeg mewn asesiadau. 
  • Cryfhau'r cyfeiriad a'r derminoleg yn y Cod a'r ddogfen ganllaw ategol, yn enwedig ym meysydd dewis, cyfranogiad a llais y plentyn.
  • Diweddaru'r ddogfen ganllaw ategol i gynnwys manylion am sut i gael gafael ar wybodaeth leol am amserlenni gan gynnwys gwahaniaethau rhwng amseroedd aros oedolion a phlant. Cynnwys enghreifftiau o lwybrau a phwy fydd yn gyfrifol am eu datblygu a'u hadolygu.
  • Bydd y wybodaeth am gymorth yn fanylach yn unol â chanllawiau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.
  • Eglurder yn y Cod ynglŷn ag Un Pwynt Mynediad ac a yw'n cynnwys atgyfeiriadau ar gyfer plant ac oedolion. Cynnwys enghreifftiau o ymarfer da yn y ddogfen ganllaw ategol.
  • Mwy o fanylion am addasiadau rhesymol a chynnig enghreifftiau o ymarfer da yn y ddogfen ganllaw ategol.
  • Diweddaru'r canllaw ategol i gynnwys llwybrau, systemau atgyfeirio ac arferion gorau ar gyfer cyflyrau sy'n cydfodoli.
  • Cynnwys gwybodaeth fanylach am wasanaethau ataliol.
  • Pwyslais cryfach yn y Cod ar ddarparu cymorth amgen. Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnig enghreifftiau o ymarfer da.
  • Cyfeiriad cliriach yn y Cod ynglŷn â chynnig cymorth eiriolaeth gan gynnwys hunan-eiriolaeth. Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am hunan-eiriolaeth.
  • Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am gael gafael ar gymorth iechyd meddwl / cydweithio. 
  • Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am sut mae gweithleoedd yn gallu bod yn fwy ymwybodol o awtistiaeth.
  • Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am ddadansoddiad o anghenion hyfforddiant ac enghreifftiau o gynnwys hyfforddiant.
  • Bydd y canllaw ategol yn cynnwys gwybodaeth fanylach am rôl Llywodraeth Cymru wrth oruchwylio hyfforddiant yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol fel rhan o'i gweithgareddau adrodd a monitro byrddau partneriaeth rhanbarthol. 
  • Bydd y ddogfen ganllaw ategol yn cael ei diweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am y rolau unigol yn y Cod.
  • Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am goladu data a'r strwythur adrodd.
  • Bydd y Cod yn cyfeirio at gwynion ffurfiol. Bydd y canllaw ategol yn cael ei ddiweddaru i gynnwys gwybodaeth fanylach am sut mae sefydliadau unigol yn rheoli cwynion sy'n dod i law

Y fersiwn derfynol o'r Cod drafft

Bydd fersiwn derfynol o'r Cod a'r canllaw ategol yn barod erbyn mis Mawrth 2021. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'n grŵp cynghori ar awtistiaeth i ymgynghori ag ef wrth i welliannau gael eu gwneud.

Bydd y Cod yn cael ei gyflwyno i Senedd ym mis Mawrth 2021 a bydd yn dod i rym ym mis Medi 2021. Bydd y broses o gyflwyno'r Cod yn dechrau ym mis Medi 2021 a bydd yn cael ei ategu gan gynllun gweithredu. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp cynghori ar anhwylderau yn y sbectrwm awtistig er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r strategaeth awtistiaeth a gyhoeddwyd yn 2016. Cyfarfu'r grŵp hwn rhwng mis Ionawr 2018 a mis Chwefror 2020. Mae grŵp olynol yn cael ei sefydlu i gefnogi'r gwaith o weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer awtistiaeth yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyno'r Cod Ymarfer statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth.

Geirfa

Anghenion Dysgu Ychwanegol: Yn ôl y diffiniad, mae gan ddysgwyr anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddynt anhawster dysgu neu anabledd, sy'n golygu bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol arnynt.

Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol: rhaglen newydd o ddiwygiadau i helpu plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu.

Gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth: Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn datgan bod yn rhaid i bob Awdurdod Lleol "sicrhau y darperir gwasanaeth i roi i bobl gwybodaeth a chyngor sy'n ymwneud â gofal a chymorth, a chynhorthwy i gael gafael ar ofal a chymorth”. Gallwch gael gafael ar y gwasanaeth hwn drwy gysylltu â'ch Awdurdod Lleol.

Deddf GIG (Cymru) 2006: Mae Deddf GIG (Cymru) 2006 yn cydgrynhoi ystod o ofynion rheoliadol sy'n ymwneud â hyrwyddo a darparu'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae'n nodi dyletswydd Gweinidogion Cymru i hyrwyddo'r gwasanaeth iechyd a'r pŵer cyffredinol i ddarparu gwasanaethau. Hefyd, mae'n disgrifio darparu gwasanaethau penodol, darparu gwasanaethau ac eithrio yng Nghymru, Contractau'r GIG, a darparu gwasanaethau ac eithrio gan Weinidogion Cymru.

Llwybrau: Mae llwybrau yn cael eu darparu ar draws y gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn mapio ein teithiau iechyd, gofal a chymorth, lle mae’r camau gwahanol y gall unigolyn eu cymryd yn cael eu diffinio a’u dilyn.

Asesiadau o'r Boblogaeth: Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnal asesiad ar y cyd o’r anghenion am ofal a chymorth, ac anghenion cymorth gofalwyr yn ardaloedd yr awdurdod lleol. Fe'u goruchwylir gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol sy'n llywio'r gwaith rhanbarthol strategol o ddarparu gwasanaethau cymdeithasol mewn cydweithrediad agos ag iechyd.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol: Ym mis Ebrill 2016 fel rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sefydlwyd saith partneriaeth ranbarthol statudol ledled Cymru. Diben y Byrddau yw llywio darpariaeth ranbarthol strategol a phartneriaeth gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd. Mae Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd yn eu mynychu, ochr yn ochr ag aelodau allweddol o'r gymuned a defnyddwyr gwasanaethau.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae'r Ddeddf yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella llesiant pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion allweddol y Ddeddf yw: Llais a rheolaeth, Atal ac ymyrraeth gynnar, Llesiant a Chyd-gynhyrchu.

Anabledd dysgu: Diffiniad Canllawiau NICE: Gallu deallusol is (wedi'i ddiffinio fel IQ o lai na 70 fel arfer) sy'n arwain at broblemau dysgu, datblygu sgiliau newydd, cyfathrebu a gweithgareddau bob dydd. Mae difrifoldeb anabledd dysgu yn cael ei ddiffinio gan y sgorau IQ canlynol: mân anabledd dysgu=50–69, cymedrol=35–49 a difrifol=20–34. Mae'n bosibl mai dim ond mewn rhai meysydd y bydd angen cymorth ar unigolyn ag anabledd dysgu sy'n fân anabledd dysgu neu'n anabledd dysgu cymedrol. Fodd bynnag, mae'n bosibl na fydd gan unigolyn ag anabledd dysgu cymedrol neu ddifrifol unrhyw allu lleferydd neu allu cyfathrebu cyfyngedig, gallu llawer llai i ddysgu sgiliau newydd a bod angen cymorth arno ar gyfer gweithgareddau bob dydd fel gwisgo a bwyta. Mae anableddau dysgu yn wahanol i 'anawsterau dysgu', fel dyslecsia, nad ydynt yn effeithio ar ddeallusrwydd. Mae anabledd dysgu yn cael ei ddisgrifio fel 'anabledd deallusol' weithiau.

Atodiad 1: Rhestr o’r ymatebwyr

Derbyniwyd cyfanswm o 103 o ymatebion cyflawn drwy ffurflenni ar-lein a llythyrau e-bost. Derbyniwyd cyfanswm o 67 o ymatebion gan bobl awtistig, rhieni, teuluoedd a gofalwyr ac unigolion sy'n gweithio mewn sefydliadau. Mae'r 36 o ymatebwyr eraill wedi'u rhestru isod:

  1. Pobl yn Gyntaf Cymru
  2. Pobl yn Gyntaf Sir Benfro
  3. Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant
  4. Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cenedlaethol
  5. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  6. Cymdeithas yr Iaith
  7. Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  8. Comisiynydd Plant Cymru
  9. Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  10. Estyn
  11. Cyngor Bwrdeistref Sirol Ceredigion
  12. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent
  13. Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent
  14. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  15. Grŵp Llywio Castell-nedd Port Talbot
  16. Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol
  17. Autistic UK
  18. Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd
  19. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru
  20. Cymdeithas y Seicolegwyr Addysg
  21. Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc
  22. Canolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru
  23. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  24. Anabledd Dysgu Cymru
  25. Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru
  26. Colegau Cymru
  27. Cymorth Addysg a Seicoleg Awdurdod Lleol Dinbych
  28. Cymorth Iechyd Meddwl Gorllewin Morgannwg
  29. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a'r Fro
  30. Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  31. Lleisiau Rhieni yng Nghymru
  32. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae'r Gorllewin
  33. Mudiad Meithrin
  34. Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf
  35. Prifysgol Caerdydd, yn cynrychioli Canolfan Gwyddoniaeth Datblygiad Dynol Prifysgol Caerdydd, yr Ysgol Seicoleg (1), y Sefydliad Meddygaeth Seicolegol a Niwroleg, yr Ysgol Feddygaeth (2), Canolfan Geneteg Seiciatrig a Genomeg y Cyngor Ymchwil Feddygol, yr Ysgol Feddygaeth (3), a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (4).
  36. Comisiynydd y Gymraeg