Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod bron i 300,000 o gartrefi incwm isel ac agored i niwed yng Nghymru wedi cael gostyngiad yn eu treth gyngor yn 2016-17.
Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol ac yn bwrw golwg ar y modd y mae awdurdodau yn mynd ati i gasglu ôl-ddyledion ar hyn o bryd. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r materion allweddol o safbwynt yr awdurdodau lleol eu hunain.
Mewn datganiad heddiw, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Mae gwneud y dreth gyngor yn decach yn rhan hollbwysig o’n cynlluniau i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru.
“Er mai dim ond un elfen o waith ymchwil sydd yma, a honno’n rhoi sylw i safbwynt yr awdurdodau lleol, mae’r adroddiad yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o’r arferion presennol ar draws Cymru o ran casglu’r dreth gyngor ac adennill dyledion.
“Byddaf yn ystyried canfyddiadau’r adroddiad yn llawn cyn ystyried pa newidiadau y dylid eu gwneud i sicrhau bod arferion awdurdodau lleol yn gyson, yn rhesymol ac yn gymesur bob tro.
“Rwy’n awyddus i gydweithio’n agos â llywodraeth leol i weld sut y gallwn ni ddefnyddio dulliau mwy rhagweithiol, gan ganolbwyntio ar amgylchiadau unigol pobl i helpu i’w hatal rhag mynd i ddyled, ac i’r ddyled fynd yn waeth.
“Rydym yn gwybod bod llawer o’r aelwydydd hyn yn ei chael yn anodd ymdopi ag effeithiau newidiadau Llywodraeth y DU i’r system les ac rwy’n parhau â’m hymrwymiad i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i leddfu’r canlyniadau i’r rhai yr effeithir arnynt.”