Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r dolenni'n rhoi manylion megis cwmpas, a chryfder a chyfyngiadau'r data, yn ogystal â'r prosesau a ddefnyddiwyd i lunio a chyhoeddi'r setiau data y tu ôl i'r ystadegau a ddyfynnir yn yr adroddiad cynnydd.

Er bod y rhan fwyaf o'r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru'n deillio o ddangosyddion cenedlaethol, daw peth o'r data cyd-destunol o Ystadegau Swyddogol eraill neu ystadegau a datganiadau ffeithiol eraill sy'n ymwneud â pholisïau neu raglenni penodol, lle rydym wedi ystyried eu bod yn berthnasol i'r naratif cyffredinol.

Defnyddir y data nas casglwyd drwy ffynonellau Ystadegau Swyddogol yn adroddiad Llesiant Cymru er mwyn rhoi cyd-destun, ond ni allwn bob amser roi sicrwydd am ansawdd y data. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel y wybodaeth am ansawdd sydd ar gael yn wahanol ym mhob achos. Lle mae gan y ffynonellau data gwreiddiol adroddiadau ansawdd manwl, rydym wedi rhoi dolenni i'r adroddiadau hynny. Lle nad yw adroddiadau ansawdd yn bodoli ar gyfer ffynhonnell, mae gwybodaeth ychwanegol, os yw ar gael, wedi cael ei chynnwys yn y ddogfen hon.

Mae 'Adroddiad ansawdd ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol', y gellir ei weld ar dudalennau gwe Llesiant Cymru, yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd y data a ddefnyddiwyd ar gyfer y dangosyddion. Felly, nid yw'r ffynonellau data hynny wedi cael eu cynnwys yn y ddogfen hon.

Ffordd o fyw oedolion: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Daw'r data ar ymddygiadau ffyrdd iach o fyw oedolion o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Ffordd o fyw oedolion (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2018 i Mawrth 2019

Adroddiadau dŵr ymdrochi Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Ceir gwybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg ar dudalen ansawdd dŵr ymdrochi Cyfoeth Naturiol Cymru. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Bioamrywiaeth: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Genedigaethau (Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG))

Tablau cryno ar gyfer genedigaethau, Cymru a Lloegr 2018 yr gyfer gwefan SYG

Gweler y dudalen Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran genedigaethau (SYG) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Goroesi Canser yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gweler y ddogfen Sicrhau Ansawdd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Ailddefnyddio bagiau plastig: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Daw'r data ar ddefnyddio bagiau plastig o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Tueddiadau marwoldeb newidiol (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Oni nodir yn wahanol, mae'r ffynonellau'n defnyddio ffigurau o ddata disgwyliad oes cyflwr iechyd y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyhoeddir y rhain fel Ystadegau Gwladol. Gweler y dudalen Disgwyliad oes cyflwr iechyd, Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg y DU (SYG) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg.

Marwolaethau o achosion dethol, cyfrifiadau a chyfraddau safoni oedran, yn ôl rhyw, Cymru, 2001 i 2016, SYG. Gweler yr adran Ansawdd a methodoleg yn y nodiadau i gael rhagor o wybodaeth.

Disgwyliad oes cyflwr iechyd, DU: 2015 i 2017, SYG

Disgwyliad oes cyflwr iechyd yn ôl degraddau amddifadedd cenedlaethol, Cymru a Lloegr: 2015 i 2017, SYG

Offeryn adrodd Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Cymru, Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyflwynir y data ar ddisgwyliad oes ar adeg geni yn ôl cwintel amddifadedd a gwledigrwydd drwy ddefnyddio data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2014 (Llywodraeth Cymru), Marwoldeb Iechyd y Cyhoedd (SYG), Amcangyfrifon canol blwyddyn (SYG) a Dosbarthiad Gwledig-Trefol SYG). Ceir gwybodaeth am ansawdd yn y canllaw technegol ar gyfer yr offeryn adrodd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Tueddiadau Marwolaethau Diweddar yn Lloegr, Public Health England. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau comisiwn Pennaeth yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Public Health England er mwyn adolygu'r data swyddogol i ddeall tueddiadau mewn disgwyliad oes a marwoldeb yn Lloegr. Ceir gwybodaeth am ansawdd yn y datganiadau unigol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

Anghydraddoldebau cymdeithasol-economaidd o ran marwolaethau y gellir eu hosgoi, Cymru a Lloegr: 2001 i 2017 (SYG). Gwladol Gweler adrannau 'Geirfa', 'Mesur y data hyn' a 'Cryfderau a Chyfyngiadau' yr adroddiad i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Arolwg Omnibws y Plant (Cyngor Celfyddydau Cymru)

Gweler adran 'Methodoleg' Arolwg Omnibws y Plant (Cyngor Celfyddydau Cymru) 2017 i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Sylwer nad yw'r arolwg ar gael ar-lein ar hyn o bryd, ond mae ar gael o Gyngor Celfyddydau Cymru ar gais.

Pryder am newid yn yr hinsawdd: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Daw'r data ar agweddau tuag at newid yn yr hinsawdd o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Troseddu yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Oni nodir yn wahanol, mae'r ffynonellau'n defnyddio ffigurau o ddata Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (CSEW) y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a drafodir ym mhennod 2 o'r adran Canllaw i Ddefnyddwyr ar Ystadegau Troseddu (SYG). Yn y ffynonellau hyn, mae'r ZIP y gellir ei lawrlwytho yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau Tabl Agored CSEW gyda rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.

Nid yw ystadegau sy'n seiliedig ar droseddau a gofnodir gan yr heddlu yn bodloni diffiniad Ystadegau Gwladol. Ceir adroddiad asesu llawn ar Ystadegau ar Droseddu yng Nghymru a Lloegr ar wefan Awdurdod Ystadegau'r DU.

Mae'r SYG wedi llunio fframwaith ansawdd data er mwyn helpu i roi gwybod i ddefnyddwyr am ansawdd yr ystadegau troseddu ar gyfer mathau gwahanol o droseddau. Gellir cael gafael ar hyn ym Mhennod 5 y Canllaw i Ddefnyddwyr (SYG).

Gweler y QMI Troseddu yng Nghymru a Lloegr (SYG) i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Canfyddiadau: Tablau data eraill, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)

Achosion o Droseddau Personol, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)

Nifer yr Achosion o Droseddau Personol, Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)

Data am droseddau a gofnodir ar lefel ardaloedd heddluoedd (SYG)Troseddu yng Nghymru a Lloegr: tablau data ardaloedd heddluoedd (SYG). Defnyddir y data hyn fel rhan o'r dudalen Troseddu yn Lloegr a Chymru: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2019 (SYG). Mae'r Canllaw i Ddefnyddwyr ar Ystadegau Troseddu (SYG) yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gyd-destun yr ystadegau hyn.

Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gweler adran Ansawdd a methodoleg y Marwolaethau pobl ddigartref yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifon awdurdodau lleol: 2013 i 2017 (SYG) adroddiad i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau arbrofol.

Marwolaethau yn gysylltiedig â chyffuriau (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno cyffuriau yng Nghymru a Lloegr, cofrestriadau 2018 (SYG). Gweler y Marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyn cyffuriau yng Nghymru a Lloegr QMI (SYG) i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r data yma’n cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Gwladol.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth (Llywodraeth Cymru)

Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth: 2015 i 2017

Daw'r data o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn samplu tua 18,000 o aelwydydd yng Nghymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, gall y samplau ar gyfer pobl â 'nodweddion gwarchodedig' (fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010) fod yn gymharol fach. Felly, er mwyn gwella'r sylfaen dystiolaeth ar bobl â 'nodweddion gwarchodedig', lluniwyd dadansoddiad manylach o set data sy'n cyfuno 3 blynedd o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Gan y daw'r data o arolwg, amcangyfrifon sy'n seiliedig ar samplau yw'r canlyniadau, felly maent yn destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. ceir y gwerth gwirioneddol ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod sy'n amrywio ynghylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu'r amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylion yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol yn destun mwy o amrywioldeb na data rhanbarthol.

Amcangyfrif Baich Marwolaethau o Ganlyniad i Lygredd Aer yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gweler adran Dulliau y papur Amcangyfrif Baich Marwolaethau Llygredd Aer yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru) i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd.

Gwaith teg: Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth, Gweithio yng Nghymru (Llywodraeth Cymru)

Ceir gwybodaeth am y Fethodoleg yn adran Methodoleg yr adroddiad Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth: Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017, ac mae rhagor o wybodaeth dechnegol ar gael yn yr atodiadau. Nid yw’r data yma’n cael eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol.

Tlodi Bwyd: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau: Ebrill 2018 i Mawrth 2019

Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Tlodi Tanwydd: Arolwg Cyflwr Tai Cymru (Llywodraeth Cymru)

Gweler y wybodaeth am ansawdd yn yr datganiad amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer Cymru (prif ganlyniadau): 2018 i gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Mynegai Mannau Gwyrdd (Meysydd Chwarae Cymru)

Gweler y nodiadau technegol Mynegai Mannau Gwyrdd (Meysydd Chwarae Cymru) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Nid yw’r data yma’n cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol.

Asedau’r amgylchedd hanesyddol sydd 'mewn perygl' (Cadw)

Darperir y data ar henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig Cadw. Ni chyhoeddir y data yma fel ystadegau swyddogol.

Ar gyfer henebion cofrestredig, cesglir y data drwy’r Arolwg Henebion mewn Perygl, sy’n ran o Gynllun Monitro Henebion Cofrestredig Cadw.

Am wybodaeth bellach ar adeiladau rhestredig, gweler Rheoli Adeiladau Rhestredig sydd mewn Perygl yng Nghymru (Cadw).

Ystadegau digartrefedd (Llywodraeth Cymru)

Gweler yr adroddiad ansawdd sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Mae’r data yma’n cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Gwladol.

Ystadegau mewnfudo (Swyddfa Gartref Cyhoeddir)

Y rhain fel Ystadegau Gwladol. Gweler adrannau nodiadau'r y Tabl ystadegau mewnfudo as 16q/20q (Swyddfa Gartref Cyhoeddir) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg.

Boddhad mewn swyddi: Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru)

Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gweler adran Ansawdd a Methodoleg y datganiad Priodasau yng Nghymru a Lloegr, 2016 (SYG) a Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg o ran Priodasau yng Nghymru a Lloegr (SYG) i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Ystadegau Mamolaeth (Llywodraeth Cymru)

Gweler adran Gwybodaeth Allweddol am Ansawdd Ystadegau Mamolaeth, Cymru 2017-18 i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau arbrofol.

Mesur Anghydraddoldebau (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gweler y ddogfen Canllaw Technegol sy'n cyd-fynd â'r adroddiad Mesur Anghydraddoldebau 2016 (Iechyd Cyhoeddus Cymru) i gael rhagor o ganllawiau ynghylch sut i ddehongli'r ffigurau, eu cyfyngiadau, a'r dulliau a'r ffynonellau data a ddefnyddiwyd.

Caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol)

Ystadegau'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol, Crynodeb Diwedd Blwyddyn 2018 (Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol)

Data gweinyddol a lunnir gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol sy'n rheoli'r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol ar gyfer nodi dioddefwyr masnachu mewn pobl neu gaethwasiaeth fodern. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Nid yw'r adroddiad hwn yn dadansoddi sefyllfa caethwasiaeth fodern yn y DU. Mae'n rhoi ffigurau sy'n ymwneud â nifer y dioddefwyr posibl sy'n wedi cael eu hatgyfeirio at broses y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. Ceir problemau wrth gymharu atgyfeiriadau o flwyddyn i flwyddyn oherwydd newidiadau yn y dulliau adrodd. Mae'n bosibl nad yw cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau yn golygu bod rhagor o achosion o gaethwasiaeth fodern neu fasnachu mewn pobl.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd newidiadau i'r ffordd y caiff data eu cofnodi, ac mae'n debygol bod hynny'n rhannol gyfrifol am y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau.

Gweler gwefan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth am y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a'r ffordd y cyflwynir atgyfeiriadau at yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.

Rhaglen Monitro Ystlumod Genedlaethol (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod)

Ceir gwybodaeth am ansawdd, methodoleg a dyluniad yr arolwg ar ddechrau Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Monitro Ystlumod Genedlaethol (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod). Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Arolwg deiet a maethiad cenedlaethol (Public Health England)

I gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg, gweler adroddiadau unigol yr Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet a Maeth (Public Health England).

Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan (Llywodraeth Cymru)

Gweler adrannau Methodoleg a chwmpas a Gwybodaeth allweddol am ansawdd y datganiad Cyfrif cenedlaethol o gysgu allan i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data yma fel ystadegau swyddogol.

Asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn (Llywodraeth Cymru)

Gweler y ddogfen Nodiadau y Asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn: Medi 2017 i Awst 2018 am fwy o wybodaeth. Cyhoeddir y data yma fel ystadegau swyddogol.

Myfyrwyr addysg uwch tramor (dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch)

Ceir rhagor o wybodaeth yn adroddiad ansawdd Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Llesiant personol ac economaidd (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gweler adran Ansawdd a methodoleg y datganiad Llesiant personol ac economaidd: beth sydd bwysicaf i'n boddhad â bywyd? (SYG) i gael rhagor o wybodaeth. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Llesiant personol yn y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Llesiant personol yn y DU: gorffennaf 2017 i Fehefin 2018 (SYG)

Gweler yr adran Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran llesiant personol yn y DU (SYG) i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd y data yn yr arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Adroddiad Blynyddol ar Benodiadau Cyhoeddus (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus)

Mae'r Adroddiad Blynyddol ar Benodiadau Cyhoeddus (Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus) yn rhoi data ar berfformiad adrannau'r llywodraeth wrth recriwtio i lenwi swyddi cyhoeddus ac ystyried cynnwys y Cod Llywodraethu a'r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor 2016. Casglwyd y data drwy archwiliadau adrannol. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran Adroddiad Perfformiad yr Adroddiad Blynyddol. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Cynhyrchiant rhanbarthol ac isranbarthol yn y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gweler adran Ansawdd a methodoleg y datganiad Cynhyrchiant rhanbarthol ac isranbarthol yn y DU (SYG) i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Arbrofol.

Ystadegau rhanbarthol y farchnad lafur ym mwletinau Ystadegol y DU (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Gweler adran Ansawdd a methodoleg y datganiad Marchnad Lafur yn rhanbarthau bwletinau Ystadegol y DU (SYG) i gael rhagor o wybodaeth, yn ogystal â'r ddogfen Gwybodaeth am Ansawdd a Methodoleg yr Arolwg o'r Gweithlu (SYG). Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol (Chwaraeon Cymru)

Mae'r arolygon Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw Egnïol (Chwaraeon Cymru) bellach yn seiliedig ar ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adroddiad technegol yr Arolwg Cenedlaethol a'r adroddiad ansawdd i gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg ac ansawdd data'r arolwg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Cyflwr Adar yng Nghymru (Ymddiriedolaeth Adareg Prydain)

Lluniwyd Cyflwr Adar yng Nghymru 2018 (Ymddiriedolaeth Adareg Prydain) ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Adareg Prydain, Cymdeithas Adareg Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r RSPB. Mae'r adroddiad yn defnyddio tystiolaeth o gynlluniau monitro yng Nghymru, yr ymgymerwyd â nhw gan arbenigwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal ag arolygon strwythuredig a ffynonellau eraill. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi uchafbwyntiau dadansoddiad o fesurau penodol i Gymru o ran amrywiaeth, newid mewn amrywiaeth a newid mewn amlder cymharol gan ddefnyddio data o Bird Atlas 2007 to 2011 Ymddiriedolaeth Adareg Prydain/BirdWatch Ireland/Scottish Ornithologists’ Club. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi creu'r Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol 2016. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn neilltuo asesiad o hyder i bob darn o wybodaeth, a gofnodir mewn atodiad. Y graddau yw Uchel, Canolig ac Isel. Caiff y fethodoleg ar gyfer neilltuo asesiadau o hyder ei hesbonio mewn atodiad arall (Cyfoeth Naturiol Cymru).

Mae rhagor o wybodaeth am y data y tu ôl i'r datganiadau ym Mhennod 3 ar gael yn yr Asesu Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Atodiad Technegol Atodiad ar gyfer Pennod 3 (Cyfoeth Naturiol Cymru)..

Mae'r asesiadau o hyder ar gyfer y data a ddefnyddir yn yr adroddiad Llesiant fel a ganlyn:

Cyfanswm carbon yn y pridd (canolig): Tudalen 24 Asesu Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Adroddiad Technegol. Pennod 3. Crynodeb o raddau, cyflwr a thueddiadau adnoddau naturiol ac ecosystemau yng Nghymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Cydnerthedd ecosystem (canolig): Tudalen 23 Asesu Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol. Adroddiad Technegol. Pennod 4. Ecosystemau Gwydn (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Hunanladdiadau (Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Daw data ar hunanladdiadau o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gweler yr adran Gwybodaeth a Methodoleg o ran Cyfraddau hunanladdiad yn y DU (SYG) i gael rhagor o wybodaeth. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Hunanladdiad yng Nghymru (SYG)

Hunanladdiadau yn y DU: cofrestriadau 2018 (SYG)

Ystadegau Undebau Llafur (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS)

Gweler y Nodyn Technegol yn yr atodiad i'r bwletin (BEIS) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Adran Drafnidiaeth)

Ceir gwybodaeth am yr ystadegau trafnidiaeth ar y dudalen ganllawiau y Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (Adran Drafnidiaeth). Daw'r ystadegau am ailgymudo o'r Arolwg o'r Gweithlu. Mae gwybodaeth am ansawdd ar gyfer yr Arolwg o'r Gweithlu ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn ogystal â chanllaw i ddefnyddwyr.

Adroddiadau monitro perfformiad ac ansawdd yr Arolwg o'r Llafurlu (SYG)

Arolwg o'r Llafurlu: canllawiau i ddefnyddwyr (SYG)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.

Rhestr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO (UNESCO)

Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad yn seiliedig ar nifer y safleoedd sy'n cael statws Safle Treftadaeth y Byd. Ceir adran sy'n esbonio'r Rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd sydd Mewn Perygl. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Rhestr Treftadaeth y Byd (UNESCO)

Strategaeth Fyd-eang (UNESCO)

Treftadaeth y Byd mewn Perygl (UNESCO)

Cerbydau allyriadau isel iawn (Adran Drafnidiaeth)

Gweler y ddogfen Nodiadau a Diffiniadau ar y dudalen Gwybodaeth am ystadegau cerbydau (Adran Drafnidiaeth) i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y rhain fel Ystadegau Gwladol.

Diweddariad ar frechu plant yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Data cenedlaethol ar y defnydd o imiwneiddio (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Darperir y data ar y defnydd o frechu drwy gynllun COVER cenedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Mae'r cynllun goruchwyliaeth hwn, a gynhelir gan y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, yn cyfrifo cyfraddau brechu gan ddefnyddio data o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Cynhelir y gronfa ddata genedlaethol hon gan Wasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru ac mae'n cynnwys cofnodion a dynnir o gronfeydd data swyddfa Iechyd Plant pob bwrdd iechyd ledled Cymru. Caiff y gronfa ddata genedlaethol ei diweddaru bob chwarter.

Enwadur y cyfrifiadau o ddefnydd a ddefnyddir yn adroddiad blynyddol COVER yw nifer y plant sydd wedi'u cofrestru â swyddfeydd Iechyd Plant a gyrhaeddodd ben-blwyddi mesur allweddol yn ystod y flwyddyn rhwng mis Ebrill a mis Mawrth a oedd yn byw yn ardaloedd byrddau iechyd Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Ystyrir bod plentyn wedi cael ei frechu erbyn oedran mesur os oes dyddiad brechu wedi'i ddogfennu yn ei gofnod o iechyd cyn y pen-blwydd perthnasol.

Gall ansawdd y data yn y gronfa ddata genedlaethol waethygu ar gyfer plant hŷn a all ddod i gysylltiad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn llai aml, ac y gall eu cofnod o iechyd plentyn gael ei ddiweddaru'n llai aml.

Bagloriaeth Cymru (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru)

Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen (Cyd-bwyllgor Addysg Cymru)

Darparwyd y data hyn gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru ar gais. Cysylltwch â Chyd-bwyllgor Addysg Cymru i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg.

Safon Ansawdd Tai Cymru (Llywodraeth Cymru)

Safon Ansawdd Tai Cymru: ar 31 Mawrth 2018

Gweler Adroddiad Ansawdd Safon Ansawdd Tai Cymru i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth (Llywodraeth Cymru)

Gweler adran Gwybodaeth Allweddol am Ansawdd y bwletin Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: 2001 i 2018 i gael rhagor o wybodaeth am yr ansawdd a'r fethodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Gwladol.