Heddiw, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi croesawu adroddiad annibynnol sydd wedi’i gyhoeddi yn dilyn adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r adolygiad yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae’r adroddiad ar yr Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru: adroddiad yn gwneud 33 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill.
Bydd yn helpu gyda’r camau nesaf wrth inni ystyried ehangu’r ystod o gymwysterau galwedigaethol a fydd wedi’u gwneud i Gymru, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr ac economi Cymru i’r dyfodol.
Mae cymwysterau galwedigaethol yn gymwysterau ymarferol sy’n ymwneud â swydd benodol neu sector gyrfa. Yn wahanol i gymwysterau Safon Uwch, maen nhw’n cyfuno damcaniaeth a dysgu ymarferol, ac yn aml mae profiad gwaith yn rhan o’r cwrs.
Dywedodd Jeremy Miles:
“Mae’r adroddiad hwn yn gam pwysig o ran sicrhau bod gan ddysgwyr y cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu a datblygu.
“Dw i wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru.
“Bydd gwella darpariaeth cymwysterau galwedigaethol sydd wedi’u gwneud i Gymru, a’r ystod sydd ar gael, yn hollbwysig er mwyn gofalu ein bod ni’n diwallu anghenion economi Cymru i’r dyfodol, gan gynnig cyfleoedd i’n myfyrwyr ar yr un pryd i ennill y sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw.”
Aeth cyflogwyr a myfyrwyr i ddigwyddiad yng Ngholeg Merthyr heddiw i ddathlu cymwysterau galwedigaethol a lansio’r adroddiad.
Roedd Sharron Lusher, Cadeirydd yr adolygiad yn siarad yn y digwyddiad:
“Dw i wedi gweld y gwahaniaeth y mae addysg a hyfforddiant galwedigaethol wedi’i wneud ym mywydau cymaint o bobl.
“Dw i’n gobeithio bod yr adolygiad hwn yn ysgogiad i roi lle mwy amlwg i gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, ac yn annog pawb i ystyried addysg alwedigaethol wrth wneud penderfyniadau am eu dyfodol.”
Mae’r adroddiad yn cydnabod yr hyn sydd eisoes yn dda am gymwysterau galwedigaethol, a’r ffordd y cânt eu cyflwyno, ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, ond mae’n argymell newidiadau lle bo’u hangen.
Mae’n ystyried y sefyllfa yn y DU yn ogystal ag yn rhyngwladol, ac mae’n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth gref gan gyflogwyr o ran datblygu a chyflwyno cymwysterau galwedigaethol.
Mae’n argymell cynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Dywedodd Siân Gwenllian, yr Aelod Dynodedig:
“Fe hoffwn i ddiolch i Sharron Lusher am yr adolygiad cynhwysfawr hwn, sy’n cyfrannu mewn ffordd hollbwysig i wireddu ein dyheadau ar gyfer diwygio'r system gymwysterau.
“Fel y mae'r adroddiad yn cydnabod, mae cymwysterau galwedigaethol yn un darn o jig-so ehangach. Mae hyn yn ymwneud â phobl a sicrhau eu bod yn cael pob cyfle i wireddu eu potensial pa bynnag lwybr y maent yn ei ddilyn a fydd yn ei dro yn helpu i wireddu potensial cyfunol ein gwlad.
"Bydd sicrhau bod gennym gymwysterau galwedigaethol i fynd i'r afael ag anghenion Cymru yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n dysgwyr a dyfodol ein cenedl."