Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau astudiaeth waelodlin i unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'n archwilio sut mae polisïau a gwasanaethau’n mynd i’r afael â'r materion dan sylw ac mae'n cynnig argymhellion ynghylch sut y gellid gwella pethau yn y dyfodol.
Mae’n dangos, er bod rhywfaint o gynnydd ar waith, fod cryn le i wella o hyd. Cyflwynir tair astudiaeth achos ddisgrifiadol er mwyn archwilio rhai o’r materion hyn yn fwy trylwyr; enghreifftiau yw’r rhain o brosiectau sy’n cydweddu orau â nodweddion ymyriadau effeithiol fel y’u disgrifir yn y llenyddiaeth academaidd. Yn olaf, rhoddir pump argymhelliad ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Rhoddir pump argymhelliad ar gyfer gwaith yn y dyfodol
- Mae angen cael dull mwy cyson o werthuso gweithgareddau awdurdodau lleol (ac eraill) sy’n ceisio mynd i’r afael ag unigedd cymdeithasol, ynghyd â chanllawiau'n gefn i'r rhain gan Lywodraeth Cymru.
- Mae angen i gynlluniau sy’n targedu unigedd cymdeithasol fod yn glir ynghylch pa agweddau y maent yn mynd i’r afael â hwy a sut y byddant yn mynd o’i chwmpas hi.
- Wrth lunio cynlluniau newydd i fynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol, neu yn wir bolisïau neu gynlluniau sy'n berthnasol i unigedd cymdeithasol, dylid ystyried neu goleddu’r prif nodweddion sy’n cael eu cysylltu ag effeithiolrwydd.
- Mae’n bwysig cydnabod cymhlethdod problem unigedd cymdeithasol – dylai polisïau a chynlluniau sy’n ceisio mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol fod yn realistig ynghylch y mathau o ddylanwad y gallant eu cael ac i ba raddau y bydd y cyflwr yn y pen draw’n wahanol i’r waelodlin.
- Mae rôl bwysig i'r Rhaglen o ran lledaenu’r negeseuon hyn, er mwyn sicrhau bod gwell dealltwriaeth o unigedd cymdeithasol ac unigrwydd yn bwrw gwreiddiau mewn gwasanaethau cyhoeddus ac ym mholisïau'r llywodraeth genedlaethol.
Adroddiadau
'Gadewch inni ddechrau asesu yn hytrach na thybio': adroddiad am sut mae awdurdodau lleol Cymru yn mynd i'r afael ag unigedd cymdeithasol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 727 KB
Cyswllt
Jamie Smith
Rhif ffôn: 0300 025 6850
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.