Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ymchwil hon yn ganllaw cyflym i roi darlun cyffredinol o’r dystiolaeth mewn meysydd gwahanol o amddifadedd economaidd-gymdeithasol.

Er mwyn helpu i roi’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ar waith, mae'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r dystiolaeth allweddol sy’n bod o sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar bobl Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar ei heffaith ar bobl â nodweddion gwarchodedig yn ogystal ag ar gymunedau lle a buddiant.

Mae'n tynnu ein sylw at yr angen i ystyried natur rhyng-gysylltiedig amddifadedd economaidd-gymdeithasol ac yn crynhoi'r prif ganlyniadau anghyfartal y mae rhai grwpiau'n eu hwynebu.

Mae'r adroddiad hwn wedi'i drefnu’n chwe thema allweddol:

  1. addysg
  2. gwaith
  3. safonau byw
  4. iechyd
  5. cyfiawnder
  6. chyfranogiad

Gall llunwyr polisi a chyrff cyhoeddus sy'n rhoi’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol ar waith ei ddefnyddio fel ffynhonnell dystiolaeth.

Nodyn adolygu

Roedd camgymeriad yn y fersiwn blaenorol o'r adroddiad hwn. Nodwyd bod dros 200,000 o bobl yn y DU yn parhau i fyw dros 10 munud o daith gerdded i ffwrdd o fannau gwyrdd. Yr ystadegyn cywir yw bod dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn parhau i fyw dros 10 munud o daith gerdded i ffwrdd o fannau gwyrdd. Mae'r gwall hwn bellach wedi'i gywiro.

Cyswllt

Steven Macey

Rhif ffôn: 0300 062 2253

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.