Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 16 Mawrth 2012.

Cyfnod ymgynghori:
23 Rhagfyr 2011 i 16 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 119 KB

PDF
119 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymateb i'r Adolygiad o'r Parthau Perygl Nitradau yng Nghymru (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 170 KB

PDF
170 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r Gyfarwyddeb Nitradau (91/676/EEC) yn ei gwneud yn ofynnol i aelod-wladwriaethau adolygu eu ffordd o weithredu'r Gyfarwyddeb bob pedair blynedd.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Nod Cyfarwyddeb Nitradau'r Comisiwn Ewropeaidd yw lleihau'r llygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Fe ddaeth yn gyfraith yng Nghymru o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008.

Beth yw'r sefyllfa bresennol?

Mae'n rhaid i aelod-wladwriaethau adolygu eu ffordd o weithredu'r Gyfarwyddeb bob pedair blynedd. Defnyddir yr adolygiad i wneud newidiadau priodol i'r Parthau Perygl Nitradau a/neu fesurau'r Rhaglen Weithredu.

Cynhaliwyd ein hadolygiad diwethaf yn 2007. O ganlyniad cafodd 2.3% o arwynebedd Gymru ei alw yn Barth Perygl Nitradau. Hefyd cyflwynodd fesurau yn y Rhaglen Gweithredu Nitradau y mae'n rhaid i ffermydd yn y parthau hyn eu gweithredu i gydymffurfio â'r Gyfarwyddeb.

Y dystiolaeth ar gyfer newid

Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd unigolion a sefydliadau i roi eu barn ar gynigion i:

  • Ddiwygio cwmpas y Parthau Perygl Nitradau; 
  • Newid mesurau'r Rhaglen Weithredu sy'n cael eu rhoi ar waith yn y Parthau Perygl Nitradau.

Mae mapiau dangosol i'w gweld yn Atodiad 2.

Mae'r Parthau arfaethedig newydd i'w dynodi yn adlewyrchu tystiolaeth a data diweddaraf Asiantaeth yr Amgylchedd.

Rydym hefyd am gael eich barn ar symleiddio Rheoliadau Adnoddau dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.

Gall y cynigion ar gyfer Parthau Perygl Nitradau effeithio ar yr holl ffermwyr yn y parthau cyfredol a'r parthau newydd. Os yw'r newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi rhowch wybod inni am y dynodiadau arfaethedig a mesurau arfaethedig y rhaglen weithredu.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.