Neidio i'r prif gynnwy

Prif amcanion yr adolygiad oedd deall effaith Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a penderfynu a oes angen adolygu strwythur a diben FfCChC.

Canfyddiadau allweddol

  • Yn gyffredinol, mae gan randdeiliaid lefelau da o ymwybyddiaeth o FfCChC a’i nodau.
  • Mae FfCChC wedi’i sefydlu’n gadarn mewn rhai sectorau, yn enwedig addysg uwch a dysgu oedolion a’r gymuned lle mae ganddo gysylltiad agos â chanlyniadau cymwysterau a safonau sefydliadol.
  • Yn ôl rhanddeiliaid o’r holl sectorau, un o brif effeithiau FfCChC yw’r ffaith ei fod yn cynyddu cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol a dysgu anffurfiol drwy’r piler Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd.
  • Fodd bynnag, roedd llawer o’r rhanddeiliaid o’r farn nad oedd FfCChC yn cael ei ddefnyddio’n ymarferol i’r graddau a obeithiwyd yn y sectorau addysg a chyflogaeth, er gwaethaf ei amcanion a’i ddyheadau.
  • Mae’r mwyafrif llethol o randdeiliaid o bob sector am weld FfCChC yn parhau ac yn cael ei sefydlu wrth wraidd y broses barhaol o gynllunio, darparu a defnyddio cymwysterau yng Nghymru.
  • Roedd y mwyafrif llethol o randdeiliaid yn gymharol fodlon â chynllun a chynnwys FfCChC. Roeddent yn credu bod hyblygrwydd ac addasrwydd y Fframwaith yn gryfder cyfredol allweddol ac yn sylfaen i adeiladu arni.

Cefndir

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru FfCChC yn ffurfiol yn 2002, cyn ei lansio yn 2003. Mae’r cyfnod gweithredu wedi para rhwng 2003 a 2014. Mae’n fframwaith eang sy’n ceisio egluro’r system gymwysterau yn well, ac yn cynnwys addysg uwch, cymwysterau sy’n cael eu rheoleiddio a dysgu gydol oes gyda sicrwydd ansawdd.

Adroddiadau

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: adolygiad ansoddol o'i effaith , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru: adolygiad ansoddol o'i effaith (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 200 KB

PDF
200 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Sara James

Rhif ffôn: 0300 025 3812

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.