Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllunwyr cynnwys yn dilyn y canllawiau hyn ar wirio cynnwys drafft ei gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae adolygu gan gymheiriaid, elwir yn 2i weithiau, yn helpu cynllunwyr cynnwys i sicrhau bod cynnwys yn bodloni safonau LLYW.CYMRU.

Y broses 2i

Dylai'r broses adolygu gan gymheiriaid cyn gwirio ffeithiau. Os gofynnir i chi fod yn adolygydd cymheiriaid, does dim angen i chi ystyried cywirdeb ffeithiol. Dylech wirio:

  • sillafu a gramadeg
  • tôn
  • strwythur
  • bod y math o gynnwys yn gywir
  • ei fod yn bodloni angen defnyddiwr
  • nad yw eisoes ar LLYW.CYMRU
  • ei fod yn dilyn y canllaw arddull

Cyn i chi gychwyn, dylai'r drafftiwr a'r adolygydd cymheiriaid gytuno sut i gyfathrebu'r newidiadau. Gallai hyn fod yn tracio newidiadau, sylwadau, neu sgwrs.