Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i gynnal prosiect dwy flynedd i ddadansoddi systemau’r gwahanol haenau llywodraethu yng Nghymru er mwyn cefnogi ei hagenda ar gyfer rhanbartholi.

Bydd hyn yn helpu i roi ar waith ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi fel rhan o 'Ffyniant i Bawb', ac i ddatblygu dull gweithredu ar gyfer buddsoddi rhanbarthol a fydd yn cymryd lle'r hen ddull, er mwyn sicrhau y bydd cyllid newydd ar gael yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE ar ôl Brexit.

Pam y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r OECD?

Mae enw da'r OECD yn adnabyddus ledled y byd oherwydd ei allu i herio'r status quo yn drylwyr ac yn seiliedig ar dystiolaeth. Bydd ei waith yn sicrhau newid sy'n gatalydd, drwy agor llwybrau newydd o weithgarwch a datblygu partneriaethau creadigol.

Mae'r sefydliad hwn yn arwain y byd o ran ei wybodaeth ym maes datblygu economaidd rhanbarthol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddefnyddio arbenigedd y sefydliad i helpu i lunio polisïau datblygu economaidd yng Nghymru, ynghyd â fframwaith buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol, i'w ddefnyddio yn lle'r Cronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd.

Bydd y prosiect yn cynnwys amryw o arbenigwyr rhyngwladol ac adolygwyr sy'n gymheiriaid lefel uwch, yn ogystal â swyddogion cyhoeddus o wledydd eraill yr OECD, a fydd yn defnyddio eu harbenigedd a phrofiad ym maes polisi i gyfoethogi'r dadansoddiad. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y prosiect yn seiliedig ar enghreifftiau o arferion da ochr yn ochr â damcaniaethau.

Bydd cyfraniad yr OECD yn helpu i sicrhau bod gan Gymru systemau polisi, llywodraethu a chyflawni sy'n ymgorffori'r arferion gorau rhyngwladol, ac a fydd yn gallu sicrhau bod Cymru yn fwy cyfartal a ffyniannus yn unol â'i sefyllfa ddeddfwriaethol.

Diben y prosiect

Bydd y prosiect yn helpu Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion o ran rhanbartholi, drwy ddatblygu gallu sefydliadol i gyflawni amcanion rhanbarthol, a sicrhau bod buddsoddi cyhoeddus yn effeithiol ar bob haen lywodraethu. Bydd yn nodi systemau sy'n gallu cryfhau capasiti ariannol a chyllidol drwy ddatganoli cyllid, polisïau trethi, partneriaethau cyhoeddus-preifat, a'r gallu i elwa ar werth tir.

Mae'r prosiect yn cynnwys ffrydiau o weithgareddau sy'n canolbwyntio ar adnabod cryfderau a heriau yn y systemau ar wahanol haenau llywodraethu yng Nghymru. Bydd yn datblygu pecyn cymorth ar gyfer cymryd camau a hwyluso cydweithio gyda rhanddeiliaid domestig a chymheiriaid rhyngwladol, yn seiliedig ar feincnodau cymharol a chyfnewid profiadau, yn ogystal â monitro cynnydd.

Allbynnau

Mae tair prif thema i'r prosiect:

  • Caiff system lywodraethu Cymru ei dadansoddi o safbwynt ei gwahanol haenau, gan gynnwys sefydliadau a fframweithiau, er mwyn helpu i ddatblygu gallu sefydliadol mewn perthynas â llywodraethu rhanbarthol, a sicrhau bod buddsoddi cyhoeddus yn fwy effeithiol. Bydd y gwaith dadansoddi'n paratoi astudiaeth o oddeutu 100-150 o dudalennau ar wahanol haenau o strwythurau ac arferion llywodraethu yng Nghymru, gan gynnwys systemau cydgysylltu ac arferion buddsoddi cyhoeddus, gan gynnwys astudiaeth achos.
  • Caiff pecyn cymorth ei ddatblygu ar gyfer cymryd camau i ddatblygu'r capasiti ariannol a chyllidol ar gyfer datblygu rhanbarthol a buddsoddi mewn seilwaith, gan gynnwys systemau monitro a gwerthuso symlach a gwell i'w defnyddio mewn perthynas â pholisi datblygu rhanbarthol ac effeithiolrwydd buddsoddi. Byddai hyn yn gymwys ar gyfer pob haen lywodraethu yng Nghymru.
  • Cynhelir cyfres o ddwy seminar gyda'r rhanddeiliaid perthnasol i drafod y prif argymhellion sy'n deillio o'r astudiaeth achos a materion sy'n ymwneud â defnyddio'r pecyn cymorth.

Ymgysylltu

Bydd yr OECD yn cynnal cyfres o gyrchoedd astudio i gwrdd â'r prif randdeiliaid, gan gynnwys gwneuthurwyr polisi, academyddion ac ymchwilwyr, cynrychiolwyr o'r gymuned fusnes, sefydliadau ariannol, a chyrff anllywodraethol, ac yn y blaen.

Bydd y sefydliad hefyd yn cynnal dwy seminar, y gyntaf erbyn diwedd Chwarter 3 eleni er mwyn cyfrannu at yr astudiaethau achos a'r gwaith dadansoddol, a'r ail erbyn diwedd Chwarter 1 y flwyddyn nesaf i brofi'r argymhellion cychwynnol.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: RegionalInvestmentafterBrexit@gov.wales