Adolygiad yn cyhoeddi y dylid ymestyn rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Y llynedd, gorchmynnodd yr Ysgrifennydd Addysg adolygiad o'r corff hwn sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch, gan alluogi rhagor o fyfyrwyr i astudio amrywiaeth o bynciau yn y Gymraeg.
Dan gadeiryddiaeth Delyth Evans, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen wedi cyflwyno nifer o argymhellion, gan gynnwys:
- Dylid ymestyn rôl y Coleg i fod yn gorff strategol cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer datblygu’r Gymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith.
- Dylai’r Coleg ganolbwyntio ei negeseuon marchnata ar hyrwyddo’r Gymraeg fel sgil yn y gweithle, yn hytrach na marchnata’r Coleg fel corff ar wahân.
- Dylai ganolbwyntio ar gefnogi ysgolion trwy ddatblygu deunyddiau marchnata at ddefnydd athrawon, disgyblion a rhieni.
- Cefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a chyfrwng Saesneg.
- Ailgyfeirio ei waith hyrwyddo i gyrraedd disgyblion iau, hynny yw disgyblion blwyddyn 9 a 10, cyn iddynt ddechrau gwneud penderfyniadau ynglŷn â’u haddysg ôl-16.
- Cydlynu ei waith marchnata yn agos ag adrannau marchnata’r sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach unigol er mwyn sicrhau y trosglwyddir negeseuon clir a chyson i ddisgyblion ysgol ynglŷn â gwerth y Gymraeg.
- Dylai’r Coleg barhau i gael ei ariannu yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cadeirydd, Delyth Evans:
“Roedd yn bleser i mi ymgymryd â’r adolygiad fel cadeirydd ac rwyf yn ddiolchgar iawn i aelodau’r grŵp ac i’r sefydliadau ac unigolion a gyfrannodd i’r gwaith.
“Rwyf yn gobeithio y bydd yr adroddiad a’r argymhellion o gymorth i gryfhau’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau addysg uwch, addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith yn y blynyddoedd i ddod.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:
"Hoffwn ddiolch i Delyth a gweddill y grŵp am eu hadroddiad adeiladol, sydd ag ôl meddwl amlwg arno. Af ati'n awr i edrych ar y canfyddiadau'n ofalus cyn ymateb yn llawn maes o law.
"Mae'r argymhellion yn cynnwys amryw gynigion newydd i ddatblygu addysg ôl-16 cyfrwng Cymraeg i bawb, gan gynnwys sawl cyfle cyffrous."