Heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r argymhellion a wnaethpwyd gan Dr Simon Thurley mewn adolygiad a gomisiynwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, Ken Skates.
Gwnaeth Dr Thurley nifer o arsylwadau ac argymhellion defnyddiol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru, ac Amgueddfa Cymru bellach yn eu hystyried yn fanwl.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates:
“Hoffwn ddiolch i Dr Thurley am ei adroddiad cytbwys, ystyrlon a di-duedd. Mae'r adolygiad yn gam allweddol i helpu Llywodraeth Cymru i nodi'r ffyrdd mwyaf priodol o helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn parhau i ffynnu yn y dyfodol, mewn cyfnod sy'n parhau i fod yn gyfnod heriol iawn yn ariannol.
"Fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ar Cymru Hanesyddol, rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo'n gyfan-gwbl i alluogi ein sefydliadau treftadaeth i sicrhau'r manteision economaidd a ddaw i bobl Cymru yn eu sgîl.
"Byddwn bellach yn cydweithio'n agos â Bwrdd Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru a'r Uwch-dîm Rheoli i benderfynu ar y ffordd orau o ddatblygu'r adolygiad a'r argymhellion."
Yn ei adolygiad, mae Dr Thurley yn cydnabod safon casgliadau cenedlaethol Amgueddfa Cymru, arbenigedd a gwybodaeth y staff, ei chefnogaeth i ddatblygiadau cymdeithasol a chymunedol a'i chyfraniad o ddarparu gwybodaeth am hanes a diwylliant Cymru, gan ddisgrifio ei llwyddiannau yn y meysydd hyn fel rhai neilltuol. Edrychodd ei argymhellion hefyd ar y berthynas rhwng Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru; cyfleoedd am ddatblygiad masnachol yn ogystal â pholisïau a llywodraethiant, a gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
Meddai Dr Thurley:
”Rwy'n gobeithio y bydd fy adolygiad a'i argymhellion yn sylfaen gref i'r amgueddfa, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i fodloni'r heriau a symud ymlaen yn llwyddiannus i gam nesaf ei hanes."
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:
"Rydym yn falch bod y cyfraniad positif sydd wedi'i wneud gan Amgueddfa Cymru - trwy ei staff, ei hamgueddfeydd a'i chasgliadau - yn cael ei gydnabod gan Dr Thurley yn ei adolygiad.
“Mae'n disgrifio Amgueddfa Cymru fel 'un o amgueddfeydd gwych y DU' ac yn 'sefydliad llwyddiannus sy'n ffynnu', yr ydym yn hynod falch ohoni.
“Rydym yn cydnabod yr angen i wneud gwelliannau mewn meysydd penodol o'n gwaith gan gynnwys creu incwm a chysylltiadau diwydiannol, ac mae sylwadau ac argymhellion Dr Thurley yn cynnig fframwaith defnyddiol i helpu inni fynd i'r afael â hyn.
Meddai Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru – National Museum Wales:
“Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gomisiynu'r Adolygiad hwn, sydd wedi manylu ar lwyddiannau'r sefydliad cenedlaethol eiconig hwn yn ogystal â rhai o'r heriau y mae'n eu hwynebu.
“Fel Bwrdd Ymddiriedolwyr byddwn yn ystyried yr argymhellion yn fanwl ac yn cefnogi'r Uwch-dîm Rheoli wrth gydweithio â staff, yr Undebau llafur cydnabyddedig a Swyddogion y Llywodraeth wrth eu rhoi ar waith."