Adolygiad statudol o'r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol: pecyn tystiolaeth: crynodeb o'r penawdau
Crynodeb o benawdau'r pecyn tystiolaeth ategol am effeithiolrwydd mesurau wrth leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r adran gyflwyno yn rhoi cefndir ychwanegol i ddiben yr adolygiad. Mae'n archwilio tarddiad Rheoliadau (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn ogystal â rhoi trosolwg o rwymedigaethau, amcanion ac ymrwymiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn darparu'r cyd-destun deddfwriaethol mewn mannau eraill yn y DU a'r UE ac effeithiau posibl ar fasnach.
Cefndir amaethyddiaeth yng Nghymru
Mae'r adran hon yn darparu dadansoddiad sylfaenol o'r sector amaethyddiaeth yng Nghymru, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio da byw a rheoli glaswelltir yng Nghymru.
Tystiolaeth monitro ansawdd dŵr
Mae'r adran hon yn darparu archwiliad o'r data monitro ansawdd dŵr sydd ar gael o amrywiaeth o ffynonellau. Mae'n tynnu sylw at heriau asesu effeithiau llygredd amaethyddol a deall effeithiolrwydd y mesurau yn y Rheoliadau.
Profiad rhanddeiliaid
Mae'r adran profiad rhanddeiliaid yn archwilio'r sgyrsiau a gafwyd gan y Cadeirydd yn ystod y cyfnod adolygu. Mae'n crynhoi'n fras drafodaethau ar agweddau pwysig ar y Rheoliadau ac yn ceisio adlewyrchu barn rhanddeiliaid.
Canlyniadau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
CNC sy'n gorfodi'r Rheoliadau (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 ac mae arolygiadau'n cael eu cynnal drwy gytundeb lefel gwasanaeth. Mae'r adran hon yn archwilio canlyniadau'r cam cychwynnol hwn o arolygiad, gan dynnu sylw at faterion cyffredin ac ardaloedd lle ceir diffyg cydymffurfio.
Tystiolaeth ychwanegol yn ymwneud â meysydd allweddol y Rheoliadau
Mae'r adran hon yn darparu tystiolaeth a thrafodaeth ychwanegol mewn perthynas â rhai o feysydd allweddol Rheoliadau (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021, gan gynnwys cynllunio ar gyfer rheoli maetholion, terfynau defnyddio nitrogen, rheoli ffosfforws, cyfnodau caeedig, gofynion storio, allyriadau amonia, gofynion diogelu pridd, dulliau daearyddol ac sy'n seiliedig ar risg yn ogystal â hygyrchedd, hyblygrwydd a gorfodi'r rheoliadau.
Mesurau amgen (Rheoliad 45)
Roedd Rheoliadau (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 yn cynnwys darpariaeth o dan reoliad 45 ar gyfer cynnig mesurau amgen lle gallent sicrhau'r canlyniadau'n fwy effeithiol na mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y Rheoliadau hyn'. Yn dilyn asesiad cychwynnol, ymrwymwyd i ystyried y mesurau amgen ymhellach fel rhan o'r adolygiad 4 blynedd. Mae'r adran hon yn cynnwys asesiad sy'n ystyried y cynigion yn fanylach