Adolygiad statudol o’r Reoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol: cylch gorchwyl
Yn esbonio cylch gorchwyl yr adolygiad.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Daeth Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (y Rheoliadau) i rym ar 1 Ebrill 2021. Roedd darpariaethau trosiannol yn darparu ar gyfer cyflwyniad graddol gyda'r Rheoliadau yn cael eu gweithredu'n llawn o fis Ionawr 2025.
Mae'r Datganiad Ysgrifenedig a'r Memorandwm Esboniadol sy'n cyd-fynd â'r Rheoliadau yn rhoi rhagor o fanylion am eu diben, sef, yn gryno, mynd i'r afael ag effeithiau niweidiol llygredd amaethyddol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a bioamrywiaeth. Mae'r Rheoliadau'n adlewyrchu uchelgais Llywodraeth Cymru i gefnogi ffermwyr i gyfrannu at ddyfrffyrdd iach. Mae'r Rheoliadau'n gwneud hyn drwy fesurau a gynlluniwyd i atal neu leihau allyriadau llygryddion amaethyddol, gan gynnwys nitradau, ffosfforws, amonia ac ocsid nitrus, i'r amgylchedd. Cynlluniwyd y Rheoliadau hefyd i gyfrannu at gyflawni rhwymedigaethau statudol a rhyngwladol Cymru a chydnabod bod angen cydymffurfio a chyfwerthedd rheoleiddiol at ddibenion masnach.
Fel sy'n ofynnol gan Reoliad 44, o leiaf bob pedair blynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio. Wrth gynnal adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried:
- y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, ac
- amodau amgylcheddol rhanbarthol
Mae'r adolygiad i'w gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.
Amcanion
Bydd angen ystyried yr amcanion lefel uchel canlynol fel rhan o'r adolygiad:
- adolygu effeithiolrwydd y Rheoliadau o ran mynd i'r afael â llygredd dŵr. Mae hyn yn cynnwys ystyried hygyrchedd, cymhlethdod, camau gweithredu ymarferol, ac effaith (gan gynnwys effaith gymdeithasol ac economaidd) y Rheoliadau, yn ogystal ag effeithiolrwydd y mesurau a osodir i leihau neu atal llygredd amgylcheddol o ffynonellau amaethyddol
- ystyried Dyletswydd Rheoli Tir yn Gynaliadwy Llywodraeth Cymru o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 a rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Yn ogystal, effaith y Rheoliadau mewn perthynas â rhwymedigaethau amgylcheddol statudol a rhyngwladol ehangach, gan gynnwys mewn perthynas ag ymrwymiadau lleihau allyriadau a sefydlwyd gan Reoliadau Terfynau Uchaf Allyriadau Cenedlaethol 2018, bioamrywiaeth (COP 15 targed 7), a newid hinsawdd (Cymru Sero Net)
- ystyried effaith y Rheoliadau ar fasnach, gan gynnwys y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a'r DU, cytundebau rhyngwladol eraill a chyfleoedd masnach yn y dyfodol
- adolygu'r sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer mesurau amgen a gyflwynwyd o dan Reoliad 45 ac ystyried arloesedd ychwanegol a pha ddarpariaethau y gallai fod eu hangen o fewn y Rheoliadau i hwyluso'r broses o'u defnyddio
- ystyried cysylltiadau a pherthnasoedd o fewn yr amgylchedd rheoleiddio ehangach ac ategu'r adolygiad ychwanegol ynghylch Rheoli gwaredu deunydd organig i dir
Methodoleg sylfaenol ac allbynnau
Mae'r adolygiad i benderfynu a yw'r Rheoliadau yn addas i'r diben fel y maent neu a ddylid eu haddasu i fod yn fwy effeithiol o ran cyflawni'r canlyniadau, er mwyn atal neu leihau llygredd amaethyddol. Er mwyn asesu hyn bydd yr adolygiad yn ystyried:
- tystiolaeth a gafwyd gan CNC i gefnogi'r adolygiad
- data cydymffurfio o'r broses archwilio gychwynnol a wnaed hyd yma, er mwyn nodi ffermydd ‘risg uchel’ a dargedir ar hyn o bryd, gan gynnwys y rhai sy'n trin naill ai slyri neu dail dofednod
- adborth rhanddeiliaid ar effeithiolrwydd amgylcheddol y Rheoliadau
- adborth rhanddeiliaid drwy waith ymgysylltu â'r materion ‘ar lawr gwlad’ sy'n ymwneud â gweithredu a defnyddioldeb y Rheoliadau. Gan gynnwys cadw cofnodion a gofynion rheoleiddio eraill ac effeithiau ar fusnesau a phrosesau fferm
- adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth o ran yr effeithiau ar gynhyrchu
- yr asesiad economaidd o'r terfyn daliad cyfan 170kg/N/ha ar gyfer tail da byw
- tystiolaeth yn ymwneud â'r mesurau rheoleiddio presennol
Gellir cynnwys meysydd pellach i'w hystyried yn ôl disgresiwn cadeirydd yr adolygiad.
Disgwylir i brif allbwn yr adolygiad fod yn adroddiad, sy'n manylu ar ganfyddiadau'r adolygiad, gan wneud argymhellion ar gyfer unrhyw welliannau i'r Rheoliadau y gellid eu gwneud neu y dylid eu gwneud i gyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd yn fwy effeithiol.
Y tu allan i'r cwmpas
Mae cwmpas yr adolygiad yn benodol i Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o feysydd a fyddai'n cael eu hystyried y tu allan i gwmpas yr adolygiad:
- dull gorfodi a chamau gweithredu CNC a fyddai fel arall yn cael eu llywodraethu gan God y Rheoleiddwyr
- ymyriadau nad ydynt yn rheoleiddiol i'w cefnogi gan gyllid o gynlluniau cymorth taliadau fferm e.e. Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- argymhellion ariannu ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu neu dechnolegau newydd, oni bai bod strwythur y Rheoliadau yn atal neu'n gwahardd eu defnydd ar hyn o bryd
- cynlluniau cymorth grant ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith ar y fferm, gan gynnwys gwerth a chyfradd ymyrraeth