Adolygiad o’r rhaglen prentisiaethau Iau yng Nghymru: ymateb y llywodraeth
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Comisiynwyd yr adolygiad hwn fel rhan o lythyr cylch gwaith Estyn ar gyfer 2023 i 2024, gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd. Mae adroddiad Estyn yn canolbwyntio ar gyflawni'r Rhaglen Prentisiaethau Iau yng Nghymru a'r effaith ar ddeilliannau dysgwyr. Mae hefyd yn tynnu sylw at arfer da ac yn nodi rhwystrau rhag cyflawni'r Rhaglen yn effeithiol gan sefydliadau addysg bellach.
Crynodeb o'r prif ganfyddiadau
Nododd Estyn yn ei adroddiad mai'r effaith gyffredinol fwyaf arwyddocaol a welwyd oedd y newid yn agweddau llawer o'r dysgwyr at ddysgu, sef o fod wedi ymddieithrio rhag dysgu i wneud dewisiadau brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymrwymo a pharhau i ddilyn cyrsiau dysgu ôl-orfodol.
Canfu Estyn fod trefniadau wedi hen ennill eu plwyf mewn pump o'r deuddeg coleg yng Nghymru, ond nad yw dysgwyr mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru yn cael cyfleoedd tebyg. Mae hyn yn bennaf oherwydd diffyg trefniadau cydweithio ar waith i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen, a diffyg gwybodaeth gyson mewn ysgolion am y Rhaglen. Gall fod problemau hefyd o ran recriwtio nifer digonol ar gyfer cyrsiau yn nalgylchoedd colegau sy'n fwy prin eu poblogaeth. Nodwyd hefyd bod rhai o'r colegau sy'n cymryd rhan (yn enwedig y rhai sydd â'r nifer uchaf o brentisiaid iau), yn cael eu gordanysgrifio'n gyson.
Yn gyffredinol, canfu Estyn fod y trefniadau pontio rhwng ysgolion a cholegau yn effeithiol, ond mewn rhai achosion mae rhannu gwybodaeth amserol a chyfathrebu yn gyffredinol yn brin, sy'n effeithio ar y cymorth i ddysgwyr unigol.
Gall gwahaniaethau mewn amserlenni dysgwyr rhwng colegau, gan gynnwys ar gyfer llwybrau galwedigaethol gwahanol, fod yn broblemus. Nodwyd bod anghysondebau mewn trefniadau ar gyfer adolygu cynlluniau cymorth bugeiliol i ddysgwyr unigol hefyd. Canfu Estyn hefyd fod ystyriaethau o ran trefniadau teithio yn ychwanegu at y problemau sy'n ymwneud ag amserlenni.
Canfu Estyn fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn cael eu haddysgu mewn dosbarthiadau Prentisiaeth Iau pwrpasol mewn cyfleusterau galwedigaethol. Yn yr ychydig iawn o achosion lle roedd dysgwyr yn ymwneud â rhaglenni ôl-16, nid oedd y trefniadau diogelu i unigolion bob amser yn ddigon clir nac yn gadarn.
Mae'r adroddiad yn dangos bod y rhan fwyaf o ddysgwyr wedi mwynhau'r ffocws ar bynciau galwedigaethol a gweithgareddau ymarferol, gan adlewyrchu cyfraddau llwyddiant uchel iawn ar gyfer canlyniadau cymwysterau galwedigaethol. Nodwyd hefyd, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn dal i gael trafferth ennill gradd D neu uwch mewn TGAU Mathemateg a TGAU Saesneg. Gwaethygwyd hyn gan bresenoldeb gwael os oedd y dosbarthiadau hyn yn dal i gael eu darparu yn ysgol 'gartref' y dysgwr, fel rhan o'r Rhaglen Prentisiaethau Iau.
Argymhellion
Argymhellion ar gyfer ysgolion
Argymhelliad 1
Darparu cyngor ac arweiniad diduedd cynhwysfawr ac amserol i’r holl ddisgyblion a’u rhieni neu’u gofalwyr am holl opsiynau’r cwricwlwm 14 i 16, gan gynnwys prentisiaethau iau lle mae’r rhain ar gael.
Argymhelliad 2
Cydweithio â cholegau ac awdurdodau lleol i werthuso cyfleoedd ar gyfer datblygu neu ymestyn rhaglenni prentisiaethau iau er mwyn ehangu eu harlwy cwricwlwm er budd pennaf y dysgwyr.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 1 a 2.
Er y bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn parhau i elwa ar gwricwlwm pwrpasol, eang a chytbwys o dan y Cwricwlwm i Gymru, mae Prentisiaethau Iau yn gynnig amgen ar gyfer carfan fach ond pwysig o ddysgwyr a allai, fel arall, fod mewn perygl o ymddieithrio o addysg yn llwyr. Rydym yn cydnabod manteision y Rhaglen a'r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar ddysgwyr sydd â dawn benodol ar gyfer astudio galwedigaethol, fel y dengys adroddiad Estyn. Mae'r Rhaglen hefyd yn cyfrannu at ein nodau ehangach i sicrhau bod pob person ifanc yn cyflawni eu potensial trwy eu helpu i gymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant fel y nodir yn y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid.
Bydd Llywodraeth Cymru a Medr hefyd yn edrych ar ehangu'r Rhaglen Prentisiaethau Iau, gan weithio drwy'r goblygiadau cyllid, cyflawni a pholisi gyda'r holl bartneriaid. Bydd y cynnydd o £200k (50%) yng nghyllideb Prentisiaethau Iau 2025 i 2026, sydd wedi'i gynnwys yn y Gyllideb Ddrafft, yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn cael ei hariannu'n llawn ac yn cefnogi twf pellach y flwyddyn academaidd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Medr i gytuno ar y ffordd orau o gyflawni hyn.
Argymhellion ar gyfer sefydliadau addysg bellach
Argymhelliad 3
Gweithio’n agos gydag ysgolion i wneud yn siŵr fod cyfrifoldebau am drefniadau diogelu yn glir a bod asesiadau risg unigol yn cael eu cynnal ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau.
Argymhelliad 4
Rhannu a chytuno ar drefniadau amserlen gydag ysgolion partner ac awdurdodau lleol ar gyfer pob un o’r dysgwyr prentisiaethau iau a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar ddysgwyr unigol, fel trefniadau cynllun bugeiliol.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 3 a 4, a bydd yn gweithio ar y cyd â Medr a Sefydliadau Addysg Bellach i'w rhoi ar waith.
Mae'r rhan fwyaf o ddysgwyr Prentisiaethau Iau wedi'u cofrestru'n ddeuol mewn ysgolion a cholegau, ac mae'r dysgwyr sy'n cymryd rhan yn debygol o fod yn fwy agored i niwed na dysgwyr mewn addysg brif ffrwd. Mae'n bwysig felly bod trefniadau diogelu ac asesiadau risg priodol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer pob dysgwr ar y Rhaglen Prentisiaethau Iau, a bod cyfathrebu clir rhwng canolfannau ynghylch amserlennu a chynlluniau bugeiliol unigol.
Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol
Argymhelliad 5
Egluro a chyfleu trefniadau cyllid yn y dyfodol ar gyfer prentisiaethau iau gydag ysgolion a cholegau.
Argymhelliad 6
Cydweithio â’u holl ysgolion a cholegau lleol i werthuso’r potensial ar gyfer cyflwyno neu ymestyn darpariaeth prentisiaethau iau i ymestyn cyfleoedd dysgu addas ar gyfer disgyblion Blwyddyn 10 ac 11 sy’n cael trafferth ymgysylltu â darpariaeth brif ffrwd bresennol mewn ysgolion.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 5 a 6, a bydd yn gweithio ar y cyd â Medr ac awdurdodau lleol yn y cyd-destun hwn.
Fel yn argymhelliad 2 uchod, rydym yn cydnabod manteision y Rhaglen Prentisiaethau Iau a'i chyfraniad at y nodau ehangach a nodir yn y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Byddwn yn gweithio'n agos â Medr, awdurdodau lleol, ysgolion a cholegau, wrth inni archwilio'r cyfle i ehangu argaeledd Prentisiaethau Iau ledled Cymru. Fel uchod, bydd y cynnydd o £200k yng nghyllideb Prentisiaethau Iau 2025 i 2026, sydd wedi'i gynnwys yn y Gyllideb Ddrafft, yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn cael ei hariannu'n llawn ac yn cefnogi twf pellach y flwyddyn academaidd nesaf.
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru
Argymhelliad 7
Yn sgil sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER), egluro a chyhoeddi manylion am gyfrifoldeb parhaus a threfniadau parhaus ar gyfer prentisiaethau iau a’u cyllid.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.
Mae colegau sy'n darparu'r Rhaglen Prentisiaethau Iau fel arfer yn ymrwymo i gytundeb lefel gwasanaeth gyda'r awdurdod lleol perthnasol. ac yn cael cyllid atodol gan Lywodraeth Cymru, drwy Medr, yn ogystal â chyllid gan yr awdurdod lleol.
Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r cyfrifoldeb cyffredinol am bolisi'r Rhaglen Prentisiaethau Iau, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am gyllid i Medr. Bydd hyn yn sicrhau y gellir parhau i brosesu taliadau i sefydliadau addysg bellach ar gyfer y flwyddyn academaidd hon ac o 2025 i 2026 ymlaen. Byddwn yn cadarnhau trefniadau cyllido tymor hwy maes o law, gan weithio'n agos gyda Medr i gytuno ar ddull effeithlon a chynaliadwy.
Argymhelliad 8
Adolygu gofynion penodol y cwricwlwm ar gyfer rhaglenni prentisiaethau iau fel yr amlinellir yng nghyfeiriadur rhaglenni Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cymwysterau Saesneg, mathemateg a rhifedd, i sicrhau bod nodau cymhwyster yn gweddu i anghenion a galluoedd dysgwyr unigol, ac yn adlewyrchu’r cymwysterau 14 i 16 cenedlaethol newydd sydd ar waith o fis Medi 2027.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn.
Medr bellach sy'n gyfrifol am gyhoeddi'r cyfeiriadur rhaglenni. Byddwn yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr Medr i sicrhau bod y cyfeiriadur ar gyfer 2025 i 2026 ymlaen yn glir mewn perthynas â gofynion cymwysterau Saesneg, mathemateg a rhifedd ar gyfer prentisiaid iau, gan adeiladu ar yr egwyddorion yr ydym wedi'u nodi ar gyfer cymwysterau llythrennedd a rhifedd sy'n rhan o'r hawl i ddysgu 14 i 16.
Manylion cyhoeddi
Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar 15 Mai 2024, a gellir ei weld ar wefan Estyn.