Adolygu ein cynllun a'n gwelliannau ar gyfer profi gweithwyr allweddol (hanfodol).
Pwrpas a ffocws yr adolygiad
Ar 15 Ebrill, comisiynodd y Gweinidog Iechyd adolygiad o’r drefn brofi er mwyn gweld ble gellid ac y dylid gwneud gwelliannau. Mae’r cam hwn yng ngweithgarwch y cynllun profi wedi canolbwyntio ar ein gweithwyr hanfodol ac felly, mae ffocws yr adolygiad hwn o angenrheidrwydd ar brofi gweithwyr hanfodol ac elfennau allweddol ein cynllun:
- capasiti profi
- mynediad at brofi
- y broses cyfeirio am brofion a’r canlyniadau
Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio’r dystiolaeth sydd wedi’i darparu i ni gan CLlLC ac yn seiliedig ar adborth a ffynonellau eraill o wybodaeth, y nod yw:
- darparu crynodeb o ble rydym ni;
- adnabod problemau allweddol; ac
- adnabod meysydd y gellid eu gwella.
Y sefyllfa gyfredol
Mae COVID-19 yn her iechyd cyhoeddus ddigynsail a hyd yma rydym wedi delio’n dda â hi fel cenedl. Rydym wedi llesteirio’r gyfradd heintio gyflymach, nid yw’r GIG wedi wynebu chwalfa a thrwy wneud hynny rydym wedi helpu i achub bywydau.
Mae profi am COVID-19 o dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi helpu’r GIG i adnabod a gofalu am gleifion sy’n sâl gyda COVID-19. Hyd at 12 Mai 2020, mae ein labordai wedi cynnal mwy na 51,000 o brofion. Rhwng 18 Mawrth a 10 Mai, rydym wedi profi dros 17,000 o weithwyr y GIG (staff sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol) gan helpu’r rhai sy’n profi’n negatif i ddychwelyd i’r gwaith. Yng Nghymru, ni oedd y gyntaf o’r pedair gwlad i ddechrau profi ein gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol rheng flaen, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy.
Beth oedd elfennau allweddol ein Cynllun Profi a ble rydym ni?
Nodir y categorïau eang o Weithwyr Hanfodol a thair elfen allweddol y Cynllun Profi isod:
- Gweithwyr gofal iechyd a chymdeithasol
- Gweithwyr diogelwch y cyhoedd (gweithwyr argyfwng) a diogelwch cenedlaethol
- Gweithwyr llywodraeth leol a chenedlaethol
- Gweithwyr addysg a gofal plant
- Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill
- Trafnidiaeth
- Gweithwyr cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol
- Gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus allweddol
1. Capasiti profi
Gosododd ein cynllun darged o gyrraedd pum mil o brofion y dydd ym mis Ebrill. Roeddem yn disgwyl gallu gwneud hynny erbyn yr ail neu’r drydedd wythnos ym mis Ebrill. Mae gwledydd eraill y DU wedi pennu eu targedau eu hunain.
Y nifer hwn oedd ein dealltwriaeth orau ni ar y pryd yn seiliedig ar y cytundebau oedd yn eu lle i sicrhau profion o nifer o ffynonellau. Yn ystod y 4 wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld oedi amrywiol gyda sicrhau rhywfaint o offer ac adweithyddion ar gyfer prosesu a chynnal profion swab. Nid dim ond Cymru sydd wedi’i heffeithio gan hyn. Mae problemau cadwyn gyflenwi wrth i wledydd ar hyd a lled y byd gynyddu nifer eu profion.
Byddwn yn darparu diweddariadau wythnosol a fydd yn datgan y cynnydd disgwyliedig a gwirioneddol mewn capasiti ac yn darparu diweddariad ar unrhyw broblemau a gafwyd o ganlyniad i newidiadau yn y farchnad fyd-eang. Byddwn yn eu cyhoeddi yma.
Hefyd, mae rhai profion yn dibynnu ar drefniadau contract y DU. Fodd bynnag, rydym yn glir bod Cymru yn derbyn cyfran deg o drefniadau’r DU.
Mae profi wedi bod yn allweddol yng nghamau cynnar yr achosion er mwyn ein helpu ni i dracio, olrhain ac ynysu unigolion sydd wedi’u heintio. Yn y cam oedi, rydym wedi defnyddio mesurau i reoli trosglwyddo cymunedol drwy gadw pellter cymdeithasol. Ein blaenoriaethau profi wrth symud ymlaen yw:
- Profi mewn lleoliadau gofal iechyd a gofal cymdeithasol i leihau niwed;
- Profi yn y gymuned fel ein bod yn gallu deall graddfa lledaeniad y feirws yng Nghymru, fel sail i’n camau nesaf;
- Profi gweithwyr hanfodol i alluogi pobl sy’n profi’n negatif ac sy’n methu aros gartref ac nad ydynt yn heintus gyda salwch arall i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt.
Camau gweithredu a chynnydd
- Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dadansoddi’r gadwyn gyflenwi a datgan meysydd ar gyfer gweithredu i liniaru problemau cyflenwi. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda’r canlynol:
- Gweithio gyda chyflenwyr i sicrhau mwy o hyder mewn dyddiadau dosbarthu;
- Cydlynu gyda phartneriaid y DU i ddosbarthu offer ac adweithyddion gan yr un cyflenwr tramor i’r DU; a
- Cysylltu â’r fyddin i gefnogi’r cynlluniau cludo.
Mae disgwyl i’r camau gweithredu hyn arwain at fwy o gynnydd gyda dosbarthu offer ac adweithyddion yn ystod yr wythnosau sydd i ddod.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo rhagor o arian – ar hyn o bryd mae £50m ar gael ganddi, i ddod â rhagor o offer ac adweithyddion i mewn ac i gwblhau gweithgarwch arall i gynyddu ein capasiti profi.
- Bydd y Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu diweddariad wythnosol cyhoeddus ar gapasiti profi.
2. Mynediad at brofion
Bydd sefydlu canolfannau profi a mynediad at brofion yn gynyddol bwysig wrth i ni symud yn raddol oddi wrth y cam oedi. Rydym yn adeiladu capasiti i wneud hyn yng Nghymru drwy ein 20 o Unedau Profi Cymunedol ledled Cymru, 6 chanolfan profi drwy ffenest y car yng Nghasnewydd, Caerdydd, Abertawe, Abercynon, Caerfyrddin a Llandudno, ac 8 o unedau profi symudol ledled Cymru.
Rydym yn ymrwymedig i safoni a symleiddio mynediad at brofion, a bydd ein cynlluniau i ymuno â llwyfannau archebu a systemau prosesu dros y we ar lefel y DU yn ein galluogi i wneud hyn. Drwy ein strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn newydd, byddwn yn cyflymu ein polisi profi presennol ar gyfer gweithwyr hanfodol, ehangu’r profion i gynnwys aelodau o’r cyhoedd, gweithredu system adrodd am symptomau effeithiol, cynnal gwaith tracio agosrwydd, olrhain cysylltiadau a gwyliadwriaeth iechyd.
Rydym yn bwriadu profi llawer mwy o bobl a byddwn yn cynyddu ein rhaglen brofi’n sylweddol yn unol â’n modelu ar y profi sydd ei angen yn ystod yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.
Byddwn yn cynyddu’r profi mewn ysbytai a chartrefi gofal, ar gyfer cleifion, preswylwyr a staff. Rydym yn adolygu ein polisi ar brofi mewn cartrefi gofal yn barhaus mewn ymateb i’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Darllenwch y diweddaraf ar ein polisi ar brofi mewn cartrefi gofal.
Gwelliannau a argymhellir:
Ni fydd pawb yn gallu gyrru i uned brofi dorfol. Mae’r gwaith yn parhau i ddarparu mwy o wasanaethau lleol ar gyfer y rhai cymwys sy’n methu teithio.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i oruchwylio dull cenedlaethol o weithredu gyda Chynllunwyr Milwrol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, GIG Cymru, Fforymau Cadernid Lleol, Grwpiau Cydlynu Strategol ac Awdurdodau Lleol i sicrhau bod cam nesaf y profion COVID-19 yn y cam adfer yn cael ei gydlynu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol; a’i roi ar waith yn gyflym. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd yn y maes hwn gyda chyflwyno 8 o unedau profi symudol ledled Cymru a phecynnau profi gartref sydd ar gael i weithwyr hanfodol a’r cyhoedd.
3. Y broses cyfeirio at brofion a’r canlyniadau
Mae’r adborth hyd yma’n dweud wrthym ni bod rhaid gwella’r prosesau hyn, yn benodol:
- mae gormod o lenwi ffurflenni er mwyn prosesu gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n rhwystr i gael mynediad at brofion mor gyflym ag y byddem yn hoffi;
- efallai bod y terfyn uchaf o 15 atgyfeiriad ym mhob awdurdod lleol wedi lleihau’r galw;
- mae achosion lle gall y canlyniad gymryd mwy na 24 awr i gael ei gyflwyno; a
- diffyg eglurder y broses gyfeirio ei hun a’r wybodaeth am nifer y profion.
Gwelliannau a argymhellir:
- Fe wnaethom ymrwymo i ddarparu platfform archebu ar y we i gael gwared ar y fiwrocratiaeth.
- Rydym wedi ymateb drwy roi mynediad at byrth archebu ar lefel y DU i weithwyr hanfodol ac aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru.
- Cael gwared ar y terfyn uchaf ar gyfer atgyfeiriadau ym mhob awdurdod lleol ac mae hyn bellach ar waith.
- Mae’r Polisi Gweithwyr Hanfodol wedi cael ei gyhoeddi ac mae’n amlinellu sut a phryd y gellir cyfeirio gweithwyr hanfodol y tu hwnt i’r rhai mewn gofal iechyd a chymdeithasol ar gyfer profion.
- Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol a’r Fforymau Cadernid Lleol i sicrhau bod y broses yn cael ei hadolygu a’i diwygio yng ngoleuni ein profiad ac i sicrhau bod blaenoriaethu effeithiol ar geisiadau am brofion fel bod y gwasanaethau hanfodol yn gallu parhau’n hyfyw – h.y. cartrefi gofal/tân. Rydym wedi cwblhau’r ymarfer hwn gyda phrosesau atgyfeirio lleol ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn blaenoriaethu gweithwyr hanfodol ar gyfer profion yn y canolfannau profi drwy ffenest y car a’r unedau profi symudol.
- Mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Fyddin i gynnal adolygiad cyflym o sut i wneud trefniadau’r rhaglen yn weithredol ar gyfer profi, i gefnogi a gwella’r broses o’r dechrau i’r diwedd. Penderfynwyd y byddai hyn yn helpu i gyflymu a dileu unrhyw ddarnio ar y system. Rydym wedi cwblhau’r ymarfer hwn hefyd.