Neidio i'r prif gynnwy

Y Cefndir

Mae’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi'u Cofrestru yng Nghymru wedi bod yn weithredol ers mis Ionawr 2017 ac mae’n gymwys i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Cyn comisiynu’r adolygiad diweddaraf hwn, trafododd swyddogion y fframwaith gyda’r sector (gan gynnwys tenantiaid) i benderfynu ar y cwmpas.

Cytunwyd y byddai’r adolygiad yn canolbwyntio ar:

  • Y newidiadau arfaethedig i ddimensiynau’r dyfarniad rheoleiddio o ran Llywodraethu (gan gynnwys gwasanaethau) a Hyfywedd Ariannol
  • Cwmpas ac eglurder y safonau perfformiad 
  • Rôl y rheoleiddiwr wrth osod disgwyliadau am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

Yr ymgynghoriad

Wrth gynnig newidiadau o’r natur hyn, mae’n ofynnol cael ymgynghorid ffurfiol o dan Ddeddf Tai 1996. Mae gofyniad statudol yn dweud bod rhaid ymgynghori ag un neu ragor o gyrff sy’n cynrychioli buddiannau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, tenantiaid ac awdurdodau tai lleol. Yn ymarferol, rydym yn ymgynghori â grŵp ehangach o gyrff cynrychiadol drwy aelodaeth y Grŵp Cynghori Rheoleiddiol, sy’n cynnwys ystod eang o gyrff sy’n cynrychioli rhanddeiliaid. 

Cychwynnwyd yr ymgynghoriad ym mis Gorffennaf 2021. Daeth 14 o ymatebion i law gan gymysgedd o sefydliadau unigol a chyrff cynrychiadol. 

Gofynnwyd 5 cwestiwn penodol mewn perthynas â’r newidiadau. Yn gyffredinol, atebodd y mwyafrif yn gadarnhaol i’r cwestiynau (gweler isod) a roddodd gynsail cryf i fwrw ymlaen â’r addasiadau fel y’u nodwyd. 

Roedd modd i ymatebwyr ymhelaethu ar eu hatebion cychwynnol. Yn gyffredinol, roedd y sylwadau yn gadarnhaol, er bod nifer fechan o themâu wedi dod i’r amlwg, bychan iawn oedd y cysondeb yn y sylwadau. O ganlyniad, ar ôl dadansoddiad gofalus, rydym wedi gwneud rhai newidiadau lle roedd diben clir mewn rhoi eglurder neu gyd-destun ychwanegol i’r canlyniad perthnasol. Er enghraifft , yn SR1, ychwanegwyd “pennu” i’w gwneud yn glir nad yw dim ond gosod ymrwymiadau mesuradwy mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ddigon. 

Lle ddaeth themâu i’r amlwg, roeddent yn ymwneud yn bennaf a chryfhau’r safonau er gwell. Gellid gweld enghreifftiau o hyn yn y newidiadau i’r safonau sy’n ymwneud a thenantiaid, Mae “Mae’n galluogi tenantiaid i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol” wedi cael ei newid i “grymuso a'u cefnogi....”. Mae newid arall yn adlewyrchu bod rhaid i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn “ galluogi tenantiaid i ddeall dull y sefydliad o gynnwys tenantiaid...” ac yn y blaen, bod angen creu’r diwylliant sefydliadol cywir. Mae’r safon cynllunio ariannol a rheoli wedi’i gryfhau drwy ychwanegu “…gan gynnwys cynnal profion straen priodol, cynllunio senarios a defnyddio trothwyon mewnol.”

Mae’r newidiadau a wneir wedi ei hymgorffori i’r safonau rheoleiddiol fel y’u cyhoeddwyd yn y Fframwaith Rheoleiddiol 2022. 

Lle nad oedd yr adborth yn ymwneud yn uniongyrchol â chwestiynau’r ymgynghoriad, fe’i ystyriwyd a’i adlewyrchu mewn dogfennau eraill, gan gynnwys y fframwaith rheoleiddiol diwygiedig sy’n esbonio sut yr ydym yn rheoleiddio, ac yn y fformat diwygiedig ar gyfer adroddiadau dyfarniadau. 

Crynodeb o’r ymatebion i’r cwestiynau penodol

C1. A ydy'r Statws Rheoleiddio (Dyfarniad) diwygiedig yn hawdd ei ddeall mewn perthynas â pherfformiad rheoleiddiol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig?

Ydy: 13

Nac ydy: 0

Roedd y sylwadau yn gadarnhaol tu hwnt, gan ddangos bod y gwahanol statysau yn hawdd eu deall ac yn welliant ar yr hyn a ddefnyddir ar hyn o bryd. Yn gyffredinol, bernid bod y system ‘goleuadau traffig’ yn rhoi gwell lefel o eglurder.

C2. A ydy'r Safonau Rheoleiddio diwygiedig yn hawdd eu deall mewn perthynas â pherfformiad rheoleiddiol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig?

Ydyn: 12

Nac ydyn: 1 

Roedd barn glir bod y safonau a gynigir yn haws eu deall na’r hyn a ddefnyddir ar hyn o bryd a bod yr achosion o ddyblygu wedi’u dileu. Croesawyd y ffocws ar ganlyniadau hefyd.

C3. A ydych chi'n cytuno bod y Safonau Rheoleiddio diwygiedig yn cynnig lefel briodol o ddylanwad a chyfranogiad i denantiaid?

Ydw: 10

Nac ydw: 3

Roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod y Safonau Rheoleiddiol yn darparu bod gan denantiaid lefel briodol o ddylanwad a chyfranogiad, ond nid oedd rhai ymatebwyr yn cytuno ac fe wnaethant gynnig newidiadau. Roedd hyn yn cynnwys dymuniad i’r canlyniadau ddangos bod diwylliant o ymgysylltu â thenantiaid yn rhan annatod o weithredu yn y sefydliad. 

C4. A ydy'r ystod o ganlyniadau sy’n rhan o’r Safonau Rheoleiddio diwygiedig yn adlewyrchu ystod briodol o weithgareddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig?

Ydyn: 10

Nac ydyn: 2

Mae mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno bod y Safonau Rheoleiddiol yn adlewyrchu ystod briodol o weithgareddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Cafwyd rhai ymatebion manwl ynghylch awgrymiadau ar gyfer newidiadau posibl, ond nid oedd themâu na chysondeb amlwg.

C5. A ydych chi'n cytuno â'r disgwyliadau a bennwyd mewn perthynas â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant (sydd wedi'u cynnwys yn SR1)?

Ydw: 12

Nac ydw: 1

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn gefnogol i’r disgwyliad yn SR1. Roedd nifer o sylwadau ynghylch gwelliannau/newidiadau posibl i’r geiriad.

DS – nid oedd ymatebwyr bob amser yn llenwi'r ffurflen ymateb ac o ganlyniad nid oeddent weithiau’n ateb y cwestiynau a osodwyd. Dadansoddwyd y sylwadau ond nid yw'r ymateb wedi ei gynnwys yn y nifer yr atebion cadarnhaol a negyddol isod.