Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Ebrill 2014.

Cyfnod ymgynghori:
27 Ionawr 2014 i 20 Ebrill 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 336 KB

PDF
336 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn lansio ymgynghoriad o’r enw Cynigion ar gyfer Pysgodfa Cramenogion y Glannau.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghoriad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 140 KB

PDF
140 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Crynodeb o’r Cynigion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 63 KB

PDF
63 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwybodaeth ychwanegol

Dechreuwyd adolygiad o’r holl ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â physgodfeydd yng Nghymru ym mis Ionawr 2012 gyda’r nod o sicrhau bod pob eitem yn ateb y diben.

Un maes rydym am roi blaenoriaeth iddo yw’r mesurau sy’n rheoleiddio’r pysgodfeydd cramenogion o gwmpas arfordir Cymru. Ar hyn o bryd, ceir setiau gwahanol o reoliadau sy’n effeithio ar rannau gwahanol o Gymru ac maent yn anghyson. Maent yn creu dryswch i’r diwydiant ac yn ei gwneud yn anodd i swyddogion orfodi rhai o’r rheoliadau.

Ein bwriad yw diddymu’r ddeddfwriaeth bresennol a rhoi cyfres o fesurau perthnasol ac ystyrlon yn ei lle fydd yn symleiddio trefniadau rheoli a gorfodi pysgodfeydd cramenogion Cymru.

Bydd Rhan I yr adolygiad o gramenogion yn ymwneud â meintiau lleiaf Cimychiaid, Cimychiaid Coch, Crancod Coch, Crancod Heglog a Chrancod Llygatgoch. Bydd yn ymwneud hefyd â mesurau i ddiogelu’r stoc cimychiaid magu yng Nghymru. Amcan y cynigion yw safoni’r cyfyngiadau fel mai un maint lleiaf fydd i bob rhywogaeth ar hyd arfordir Cymru ac allan hyd at ddeuddeg milltir forol.

Bydd Rhan II yr adolygiad yn delio â mesurau cadwraeth pellach gan gynnwys meintiau glanio mwyaf a thyllau dianc mewn cewyll ac ati. Rhoddir ystyriaeth hefyd i’r posibilrwydd o gyflwyno rhyw fath o drefn ar gyfer rheoli gweithgarwch pysgota.

Bydd angen mwy o dystiolaeth arnom cyn y gallwn ystyried eu cyflwyno; er hynny gofynnir i’r diwydiant am ei sylwadau ar y mesurau cadwraeth ychwanegol hyn i’n helpu i ddatblygu’n cynigion.