Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau adolygiad o’r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni mewn addysg, hyfforddiant, neu wrth ddychwelyd i’r gwaith. Nod yr adolygiad yw ceisio deall pa fath o gymorth sydd ar gael; pa fylchau mewn cymorth sydd, os o gwbl; p’un a yw’r cymorth sydd ar gael yn ddigonol er mwyn cael gwared â rhwystrau rhag addysg a gwaith ar gyfer y rhieni hyn, a pha newidiadau, os o gwbl, fyddai eu hangen er mwyn lleihau’r rhwystrau i rieni rhag mynd i addysg, hyfforddiant, neu geisio dychwelyd i’r gwaith.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan Ymchwil Arad gan ddefnyddio ymchwil ddesg, cyfweliadau gydag arweinwyr cymorth a rhaglenni cenedlaethol Llywodraeth Cymru, a chyfweliadau gyda chynrychiolwyr o sefydliadau addysg bellach, sefydliadau addysg uwch, a gweinyddwyr rhaglenni cyflogaeth.

Mae strategaethau a rhaglenni Llywodraeth Cymru sydd eisoes ar waith yn cefnogi darpariaeth gofal plant yng Nghymru. Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu cymysgedd o ofal plant ac addysg gynnar i rieni plant tair a phedair oed sy’n gweithio am hyd at 30 awr yr wythnos, sy’n cynnwys o leiaf 10 awr o addysg gynnar a hyd at 20 awr o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth. Er bod y Cynnig Gofal Plant yn helpu gyda chostau gofal plant y rhieni cymwys, ar hyn o bryd, nid yw rhieni sydd ar ymyl y farchnad swyddi ac sy’n chwilio am waith, na’r rhai sydd mewn addysg a hyfforddiant (heblaw am brentisiaethau), yn gymwys ar ei gyfer.

Mae’r adroddiad yn archwilio’r cymorth gofal plant sydd ar gael i fyfyrwyr addysg bellach, myfyrwyr addysg uwch, ac i’r unigolion hynny sy’n dymuno dechrau neu ddychwelyd i weithio.

Darpariaeth bresennol

Mae yna ddarpariaeth ar hyn o bryd i rieni sydd mewn addysg a hyfforddiant, yn bennaf drwy’r Gronfa Ariannol wrth Gefn a’r Grant Gofal Plant.

Cronfa ar sail disgresiwn yw’r Gronfa Ariannol wrth Gefn a reolir gan sefydliadau addysg bellach unigol, ond a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae wedi’i hanelu at ddysgwyr sy’n profi caledi ariannol, a gall gynnwys cymorth gyda chostau gofal plant. Mae’r Gronfa hon yn hyblyg, a gellir ei haddasu i anghenion a chyd-destun lleol. Mae’r Grant Gofal Plant ar gyfer rhieni sydd ar gwrs addysg uwch, a chaiff ei weinyddu gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Mae cynlluniau ar gael i gefnogi rhieni i ddechrau gweithio, a’r rhai mwyaf nodedig yw Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), Cymunedau am Waith, a’r Gronfa Cymorth Hyblyg.

Prosiect dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau yw Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’n gweithredu mewn awdurdodau lleol sydd y tu allan i’r hen glystyrau Cymunedau yn Gyntaf. Mae’r Prosiect yn darparu cymorth gofal plant i rieni sydd mewn hyfforddiant neu’n chwilio am waith, mewn sefyllfaoedd lle mai gofal plant yw eu prif rwystr. Mae PaCE yn ceisio cefnogi rhieni rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu waith, a rhieni economaidd anweithgar dros 25 oed.

Prosiect dan arweiniad Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau a Phrif Gyrff Darparu yw Cymunedau am Waith, a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae’n gweithredu yng nghyn-ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf. Mae Cymunedau am Waith yn ceisio cynyddu cyflogadwyedd pobl ifanc rhwng 16 a 24 oed nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant, ac oedolion sy’n economaidd anweithgar ac sy’n ddi-waith yn hirdymor sydd â rhwystrau cymhleth rhag cyflogaeth. Mae’r gefnogaeth yn gallu talu costau gofal plant, er enghraifft wrth fynd i gyfweliad neu hyfforddiant/profiad gwaith.

Mae’r Gronfa Cymorth Hyblyg yn cynnig cymorth ariannol i bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra i’w helpu i gymryd rhan mewn gweithgarwch i’w symud yn agosach at y farchnad swyddi, a all gynnwys cymorth ariannol ar gyfer costau gofal plant. Cronfa yn ôl disgresiwn yw hon, a weinyddir gan Ganolfannau Gwaith.

Mae mecanweithiau cymorth eraill yn cynnwys Dechrau’n Deg a chynlluniau cyflogadwyedd rhanbarthol llai.

Bylchau a rhwystrau

Er bod ystod o raglenni a ffynonellau ariannu, mae grwpiau’n dal i fodoli sydd o bosib yn colli allan ar gymorth neu nad ydynt yn cael cefnogaeth ddigonol gan gynlluniau, i’r graddau bod hyn yn eu rhwystro rhag mynd i addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys:

  • myfyrwyr ôl-raddedig
  • myfyrwyr gofal iechyd
  • cartrefi dau riant lle mae un yn gweithio (er bod enillion y rhiant arall yn isel)
  • rhieni â mwy nag un plentyn
  • grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli fel cymunedau Duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • dysgwyr anabl
  • ffoaduriaid a cheiswyr lloches

Yn ogystal â chostau gofal plant, mae heriau eraill sy’n creu rhwystrau i rieni hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • cymhlethdod a hyd rhai o’r prosesau ymgeisio
  • trothwyon a meini prawf cymhwysedd cymhleth ar gyfer rhai o’r cynlluniau
  • diffyg hyder rhieni
  • diffyg ymgysylltiad ymhlith rhai rhieni â chynlluniau sydd ar gael
  • diffyg gofal plant addas neu hyblyg
  • diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a’i hamlder, yn enwedig mewn rhai ardaloedd gwledig

Casgliadau ac argymhellion

Dylai gofal plant hyblyg a chynhwysfawr fod yn rhan hanfodol o fecanweithiau cymorth, er mwyn caniatáu i rieni gael mynediad at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.

Er gwaethaf effaith gadarnhaol cymorth gofal plant a geir drwy elfen gofal plant y Gronfa Ariannol wrth Gefn, y Grant Gofal Plant, ac ystod o raglenni cyflogadwyedd a sgiliau, mae’r ymchwil wedi dangos bod yna grwpiau sy’n colli allan ar y cyfle i ddychwelyd at addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, ynghyd â’r heriau ychwanegol sy’n creu rhwystrau i rieni.

Er bod angen ymchwilio ymhellach i sut gellid cefnogi’r rhai sy’n colli allan ar gymorth ariannol yn well, nid argymhellir y dylid ailgynllunio’r Cynnig Gofal Plant i gynnwys myfyrwyr a’r rhai sydd ar fin mynd i gyflogaeth. Yn hytrach na hynny, dylid mynd i’r afael â’r bylchau mewn cymorth drwy adolygu cwmpas y rhaglenni presennol a chreu cysylltiadau gwell gyda nhw.

Mae angen camau i leihau cymhlethdod cynlluniau cy mhorth gofal plant a gofynion cymhwysedd. Dylid adolygu’r dulliau cyfathrebu gyda dysgwyr i fynd i’r afael â hyrwyddo’r pecyn cymorth i’r grwpiau targed hyn, ac egluro’r cymorth sydd ar gael.

Argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gydweithio â rhanddeiliaid ym maes Addysg Bellach ac Uwch a rhaglenni cyflogadwyedd i sicrhau bod gwybodaeth fanwl a chlir am fynediad a chymhwysedd i bob ffynhonnell o gymorth ariannol ar gyfer gofal plant, gan gynnwys ar lefel ehangach ledled y Deyrnas Unedig
  • gweithio gyda rhanddeiliaid ym maes Addysg Bellach ac Uwch a rhaglenni cyflogadwyedd i archwilio opsiynau ar gyfer prif ffrydio meini prawf cymhwysedd, trothwyon ar sail profion modd, cyfyngiadau ariannu a dulliau cymorth
  • gweithio gyda phartneriaid i symleiddio systemau ymgeisio i bob rhaglen yn ymwneud â gofal plant, gan gyfeirio’n benodol at y Grant Gofal Plant
  • cydweithio gyda sefydliadau addysg a Chyllid Myfyrwyr Cymru i adolygu a fyddai modd cael gwared ar y cyfyngiadau uchafswm cymorth ar gyfer y rhai sydd â’r angen mwyaf am ofal plant
  • archwilio opsiynau i ddarparu cymorth gofal plant ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig drwy’r strwythurau Grant Gofal Plant Addysg Uwch presennol
  • anelu rhagor o gymorth gofal plant at geiswyr lloches, yn enwedig y rhai sy’n cymryd rhan mewn cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Gellid gwneud hyn drwy raglenni presennol fel y Gronfa Ariannol wrth Gefn, a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE)
  • gweithio gyda rhanddeiliaid priodol i ailasesu trothwyon ar gyfer cymorth gofal plant, a sicrhau bod gan y rhai sydd ychydig dros y trothwy gyfle i gael mynediad at gymorth gofal plant
  • gweithio gyda GIG Cymru i sicrhau bod myfyrwyr sy’n astudio gradd mewn gofal iechyd yn cael tegwch o ran cymorth gofal plant
  • gweithio gyda phartneriaid yn y maes Addysg Bellach ac Uwch a rhaglenni cyflogadwyedd i ddatblygu cymorth gofal plant hyblyg ar gyfer grwpiau eraill fel myfyrwyr a gwirfoddolwyr rhan amser neu sy’n dysgu o bell
  • sicrhau bod systemau monitro a gwerthuso yn gadarn ac yn caniatáu ar gyfer dadansoddi enillion ar fuddsoddiad
  • archwilio modelau ar gyfer y dyfodol i ddisodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd, sy’n caniatáu ar gyfer buddsoddiad parhaus mewn cymorth sy’n adlewyrchu costau gofal plant yn ddigonol

Manylion cyswllt

Adroddiad Ymchwil Llawn: Arad Research (2021) Adolygiad o’r cymorth gofal plant sydd ar gael i rieni mewn addysg, hyfforddiant neu wrth ddychwelyd i’r gwaith. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad GSR 32/2021. 

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Roisin O’Brien
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: trafodgofalplant@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN Digidol 978-1-80195-152-4