Daeth yr ymgynghoriad i ben 2 Ionawr 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 283 KB
Rhestr o'r ymgynghoreion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 21 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem gael eich barn ar y newidiadau arfaethedig i'n dogfennau cyfarwyddyd ar y Cynllun Datblygu Lleol a'r Rheoliadau.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn gwneud gwelliannau i’r broses o lunio Cynlluniau Datblygu Lleol ac yn ymgynghori ar y diwygiadau rydym wedi’u gwneud i ddogfennau cyfarwyddyd presennol y Cynllun Datblygu Lleol a’r is-ddeddfwriaeth sef:
- Polisi Cynllunio Cymru 2014 (Pennod 2: Cynlluniau Datblygu)
- Cynlluniau Datblygu Lleol Cymru 2005
- Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol 2006
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005
Drwy adeiladu ar arferion da profiadau a gwersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau proses fwy effeithiol ac effeithlon rydym yn cynnig rhoi ar waith holl ganlyniadau pwysig y ddogfen Mireinio’r broses o lunio Cynlluniau Datblygu Lleol: Adroddiad (2013).
Mae’r ymgynghoriad hwn ar wahân i’r Bil Cynllunio (Cymru) parhaus ac nid yw’n ymwneud â materion deddfwriaethol sylfaenol.