Ar ôl rhoi Adolygiadau Ymarfer Plant ar waith, mae’r adolygiad hwn yn asesu i ba raddau y gellir gweld y gwelliannau y bwriadwyd eu gwneud ar y system flaenorol o gwblhau.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Pan osodwyd y cynigion ar gyfer disodli’r Adolygiadau Achos Difrifol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, addawodd y Dirprwy Weinidog ar y pryd y byddai’n cynnal adolygiad o’r trefniadau newydd o fewn dwy flynedd i’w rhoi ar waith. Gwnaed Adolygiadau Ymarfer Plant yn statudol ym mis Ionawr 2013.
Mae’r adolygiad hwn o weithrediad y Fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant yn defnyddio sawl ffynhonnell o dystiolaeth:
- data monitro Llywodraeth Cymru
- hysbysiadau i Lywodraeth Cymru o’r bwriad i gynnal Adolygiad Ymarfer Plant neu Fforwm Proffesiynol Amlasiantaethol
- y 10 Adolygiad Ymarfer Plant sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma
- chyfweliadau gydag ystod o rhanddeiliaid.
Trefnir y canlyniadau o dan bum thema a ddaeth i’r golwg yn ystod yr adolygiad:
- ymwybyddiaeth o Adolygiadau Achos Difrifol
- penderfyniadau ynghylch bwrw ymlaen ag Adolygiad Achos Difrifol
- yr amser a’r adnoddau sydd eu hangen i gynnal Adolygiad Achos Difrifol
- i ba raddau y mae gwahanol rhanddeiliaid yn rhan o’r gwaith
- pha mor effeithiol y lledaenir y wybodaeth.
Mae’r adolygiad yn cloi gyda chyfres o argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Adroddiadau
Adolygiad o weithrediad y Fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 903 KB
Adolygiad o weithrediad y Fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 536 KB
Cyswllt
Chris Roberts
Rhif ffôn: 0300 025 6543
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.