Neidio i'r prif gynnwy

Galw ar ysgolion cynradd Cymru i fod yn rhan o brosiect sydd wedi ei anelu at ysgogi’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Athro Graeme Reid, sy'n athro uchel iawn ei barch o Goleg Prifysgol Llundain, arwain yr adolygiad a fydd yn edrych ar y cryfderau, y bylchau a'r potensial yn y dyfodol i gynnal a datblygu gweithgarwch ymchwil ac arloesi cryf yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad yn:
  • Ceisio gweld patrymau a themâu yn natblygiad busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy'n defnyddio ein cryfderau ymchwil ac arloesi yng Nghymru a'r tu hwnt, a bydd yn adrodd yn ôl gaeaf nesaf.
  • Casglu canlyniadau y gwaith dadansoddi diweddaraf a oedd yn edrych ar weithgarwch ymchwil ac arloesi yng Nghymru.
  • Ystyried sut y mae cwmnïau, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau ymchwil mewn prifysgolion yn cysylltu ar lefel leol a byd-eang i ddiwallu anghenion cymunedau, busnesau a'r economi yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried sut y gellid gwella'r cysylltiadau a'r rhyngweithiadau rhwng y grwpiau hyn er mwyn galluogi Cymru i fod yn wlad mwy entrepreneuraidd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: 
“Rwy'n hynod o falch fod yr Athro Reid yn arwain yr adolygiad cyffrous hwn i'r buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ym maes ymchwil ac arloesi. Ein nod yw gwneud yn siŵr bod pob ceiniog rydym yn buddsoddi yn y maes hwn yn sicrhau'r manteision mwyaf i bobl ac economi Cymru. Rwy'n edrych ymlaen at weld y sector addysg, busnesau, dysgwyr a phobl eraill yn cymryd rhan.”

Dywedodd Y Gweinidog dros Sgilliau a Gwyddoniaeth, Julie James:
“Nod yr adolygiad hwn yw edrych ar yr holl fuddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ym maes ymchwil ac arloesi, sut y maent yn gwneud gwahaniaeth, a beth y gallwn ni ei wneud i newid pethau ar gyfer y dyfodol, gan fod hwn yn faes sy'n allweddol i ffyniant Cymru.”

Dywedodd yr Athro Reid:

“Mae cael diwydiant ymchwil ac arloesi sy'n ffynnu yn allweddol i economi a chymdeithas Cymru yn y dyfodol.
“Bydd Brexit, y Strategaeth Ddiwydiannol a Deddfwriaeth y DU ar Addysg Uwch ac Ymchwil yn golygu newidiadau mawr i waith ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad yn edrych ar sut y gall y Llywodraeth, prifysgolion a busnesau yng Nghymru ymateb i’r heriau hyn, gan greu cyfleoedd am swyddi a lleihau lefel y bygythiad.
“Bydd yr adolygiad yn anelu at gyhoeddi ei adroddiad yn gynnar yn 2018, cyn i UKRI gael ei greu'n ffurfiol a thra bod trafodaethau Brexit yn mynd rhagddynt.”

Bydd yr Athro Reid yn cael cefnogaeth panel o ymgynghorwyr nodedig a fydd yn cwrdd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd heddiw.