Mae'r adroddiad hwn yn darparu adolygiad o'r tystiolaeth ehangach i ystyried effaith y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach ddarparwyr gofal plant.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Adolygiad o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo cofrestredig sy'n darparu gofal plant
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae'r adroddiad hwn yn darparu adolygiad o'r dystiolaeth, gan gynnwys:
- data bilio ardrethi annomestig (NDR) awdurdodau lleol
- data Asiantaeth y Swyddfa Brisio
- data a gesglir drwy Arolygiaeth Gofal Cymru
- data a gesglir drwy arolwg Llywodraeth Cymru o ddarparwyr gofal plant ar eu hincwm a'u gwariant
- canfyddiadau Galwad Llywodraeth Cymru am Dystiolaeth drwy randdeiliaid yn y sector
Gallwn ddod i'r casgliad nad yw'r sector mewn sefyllfa economaidd gref. Gallai unrhyw gynnydd posibl mewn costau, gan gynnwys o gynnydd mewn atebolrwydd am NDR, gael yr effeithiau canlynol:
- darparwyr yn codi eu ffioedd, gweld mwy o faich ar rieni a dirywiad, o bosibl, yn yr oriau a ddefnyddir, yn enwedig ar gyfer rhieni ar incwm isel
- gostyngiadau cymharol mewn cyflogau yn y sector, gan arwain at ddirywio recriwtio a chadw staff, o bosibl
- cyflymu'r dirywiad yn nifer y gwasanaethau cofrestredig cymeradwy
Adroddiadau
Adolygiad o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo gofal plant cofrestredig: 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Dr Jack Watkins
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.