Oedd y nod cyffredinol o adolygu'r angen am ac yn amlinellu manyleb ar gyfer un neu fwy offeryn hunan-ddiagnostig i reolwyr yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd 3 amcan i'r prosiect:
- cynnal ymchwil gyda busnesau bach a chanolig (BBaCh) er mwyn deall eu hymwybyddiaeth o offer diagnostig, eu defnydd ohonynt a'u gofynion
- ymchwilio ac adolygu'r offer diagnostig cyfredol yn erbyn y gofynion a nodwyd yn ystod y rhaglen waith, gan ddadansoddi cryfderau a gwendidau'r offer cyfredol
- os derbynnir cymorth y rhaglen ymchwil, cynhyrchu argymhellion ar gyfer datblygu offeryn arwain a rheoli hunan-ddiagnostig.
Roedd rhaglen waith y prosiect yn cynnwys:
- cyfweliadau wyneb yn wyneb gyda 26 o 'hysbyswyr allweddol' o ELWa, Llywodraeth Cynulliad Cymru, WDA, sector addysg/hyfforddiant a nifer o gyrff eraill (gan gynnwys cyrff cynrychiadol ar gyfer busnesau, cynghorwyr ac ymgynghorwyr busnesau sector preifat, SSDA)
- ymchwil ddesg i adolygu amrywiaeth eang o adroddiadau ac offer cyfredol sy'n mynd i'r afael â materion rheoli/arweinyddiaeth
- grwp cychwynnol o gyfweliadau ffôn gyda 53 perchennog/rheolwr BBaCh yng Nghymru
- datblygu manyleb ddrafft ar gyfer offeryn hunan-ddiagnostig posib
- adolygu'r fanyleb ddrafft gyda pherchnogion/rheolwyr BBaCh unigol, ac mewn 3 grwp ffocws
- penderfynu ar fanyleb ar gyfer offeryn hunan-ddiagnostig rheoli/arweinyddiaeth, a gwneud argymhellion ar y ffyrdd gorau o'i ddatblygu a'i ddefnyddio.
Cadarnhaodd y casgliadau cychwynnol nad oes llawer o offer yn mynd i'r afael ag anghenion perchnogion/rheolwyr BBaCh sy'n ceisio nodi eu cryfderau a'u gwendidau rheoli/arwain, ond bod mwy na digon o offer sy'n edrych ar faterion sefydliad cyfan a phenodol i bersonoliaeth.
Adroddiadau
Review of self diagnostic tools for managers, June 2004 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 195 KB
PDF
195 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.