Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno adolygiad o broses, effaith a gwerth am arian Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (y cyfeirir ato fel ‘Cynllun y Dreth Gwarediadau’ neu ‘y Cynllun’ yn yr adroddiad) yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018. Roedd yr adolygiad hwn yn cwmpasu cylchoedd cyllido 1 i 5 y Cynllun (rhwng 2018 a 2021).

Rhaglen gyllido grantiau yw Cynllun y Dreth Gwarediadau sydd â’r nod o wrthbwyso rhai o agweddau negyddol byw gerllaw safle tirlenwi neu orsaf trosglwyddo gwastraff trwy brosiectau lleol. Mae cyfanswm o £1.4m ar gael i brosiectau bob blwyddyn, yn codi o’r refeniw a godir gan y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Nod yr ymchwil oedd deall gwaith ac effaith y Cynllun wrth gyflawni ei nodau arfaethedig, cefnogi polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a chyfrannu at syniadau am ddewisiadau ar gyfer y Cynllun, a’i gyfeiriad, yn y dyfodol.

Defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys adolygiad o ddogfennaeth y rhaglen a dogfennaeth polisi, datblygu theori newid ac ymchwil uniongyrchol gyda rhanddeiliaid allweddol trwy arolygon a chyfweliadau.

Prif ganfyddiadau

Adolygiad o’r broses

Dros 5 cylch cyntaf Cynllun y Dreth Gwarediadau, roedd cyfanswm o 351 o geisiadau am y prif grantiau a 22 o geisiadau am brosiectau mwy, o arwyddocâd cenedlaethol. Daeth y nifer uchaf o geisiadau am y prif grantiau o ranbarth Gogledd Cymru (sy’n cwmpasu awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn a Wrecsam) gyda’r nifer isaf oddi wrth geisiadau a oedd yn rhychwantu sawl rhanbarth. Gwelliannau amgylcheddol ehangach oedd y thema fwyaf poblogaidd y cyflwynwyd ceisiadau oddi tani a bioamrywiaeth y lleiaf poblogaidd. Ym mhob cylch cyllido, roedd cyfran o geisiadau’n pennu themâu lluosog, yn hytrach na thema unigol.

Roedd cryfderau allweddol o’r broses geisiadau yn cynnwys y gwelliannau a wnaed wrth ddisodli porth E-dendro Cymru fel y system y cyflwynid ceisiadau drwyddi, â’r porth ymgeisio amlbwrpas (MAP) a ddatblygwyd yn unswydd, a’r cyfathrebu a’r cymorth effeithiol a ddarparwyd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol i ymgeiswyr.

Roedd yr heriau a nodwyd yn ystod cyfnod yr adolygiad yn cynnwys:

  • roedd amryw o randdeiliaid yn cael y broses ymgeisio yn anodd ac yn draul ar amser (cyn ac ar ôl cyflwyno’r MAP)
  • roedd y broses ymgeisio yn canolbwyntio ar themâu unigol cynlluniau yn hytrach na buddion lluosog
  • diffyg tegwch yn y broses ymgeisio rhwng y rhai â digonedd o adnoddau o gymharu â sefydliadau llai (y teimlad oedd bod angen i’r broses ymgeisio sicrhau ei bod yn annog sefydliadau cymunedol llai i ymgeisio)

Y farn oedd bod defnyddio gwybodaeth leol ac arbenigol, yn arbennig gan y cyngor gwirfoddol sirol a’r panel arbenigol, yn allweddol er mwyn cyflawni proses asesu a dyfarnu o ansawdd uchel. Roedd y broses ddyfarnu yn cael eu hystyried yn un deg gan y mwyafrif o randdeiliaid, er bod pryderon fod y broses yn ffafrio ymgeiswyr mwy profiadol a chanddynt ddigonedd o adnoddau.

Er bod rhai rhanddeiliaid yn teimlo bod adborth asesu yn glir ac yn ddefnyddiol, awgrymai eraill nad oedd wedi bod yn ddefnyddiol ac y gellid ei wella i gefnogi a datblygu capasiti’r sector cyhoeddus yng Nghymru mewn modd eglurach.

Bu Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i leihau’r 55 o ddangosyddion perfformiad allweddol gwreiddiol i set fwy ymarferol a phenodol o 17. Newid diweddar yw’r lleihad hwn, felly nid yw’n glir i ba raddau mae hyn yn ymdrin â rhywfaint o’r feirniadaeth o’r system fonitro bresennol fel un sy’n anodd ei chwblhau ac nad yw’n gynrychioliadol o effaith prosiect.

Roedd yr adborth gan randdeiliaid o reolaeth gyffredinol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o’r Cynllun yn gadarnhaol, a nododd mwyafrif (12 o 19) o ddeiliaid grantiau fod cymorth i brosiectau yn dda neu’n dda iawn.

Roedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod strwythurau a phrosesau yn eu lle a oedd yn hwyluso rheolaeth effeithiol a pharhaus o’r Cynllun. Roedd y rhain yn cynnwys: rhannu gwybodaeth a chydweithredu rhwng Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Cynghorau Gwirfoddol Sirol a’r dull hyd braich a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i adborth cychwynnol o’r sector, gan ganiatáu rhyddid i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wneud ei waith.

Roedd ceisiadau am brif grantiau yn cael eu gweinyddu mewn proses un-cam gyda 2 gylch cyllido i bob blwyddyn ariannol; roedd galwadau am gynigion am grantiau yn cael eu gweinyddu tua 6 mis oddi wrth ei gilydd, a cheisiadau am grantiau mwy yn cael eu dyfarnu’n flynyddol trwy broses ac iddi raddau ychwanegol o graffu.

O gyfanswm o 351 o geisiadau prosiectau yng nghylchoedd 1 i 5, cyllidwyd 112 o brosiectau (cyfradd llwyddiant o 32%) o dan themâu bioamrywiaeth (27), lleihau gwastraff (18), gwelliannau amgylcheddol ehangach (42) a themâu lluosog (25).

Mewn 5 cylch o ariannu, dyfarnwyd £4.64 mewn cyllid i’r 112 o brosiectau, o dan themâu bioamrywiaeth (£1 miliwn), lleihau gwastraff (£795,791), gwelliannau amgylcheddol ehangach (£1.5 miliwn) a themâu lluosog (£1.3 miliwn). Rhanbarth Gogledd Cymru a gafodd y nifer mwyaf o brosiectau a ddyfarnwyd (37) a chyllid (£1.4 miliwn) a rhanbarth Gorllewin De Cymru a gafodd y nifer lleiaf a ddyfarnwyd (13 a £432,871).

Fel y dangosir yn Ffigur 1, roedd y ganran o geisiadau llwyddiannus yn amrywio yn ôl rhanbarth.

Image
Ffigur 4.3 - Siart colofn clwstwr yn dangos canran y prif geisiadau grant llwyddiannus yn ôl rhanbarth a thema.

Roedd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru o’r farn fod amlder cylchoedd grantiau yn addas, fodd bynnag, ymysg rhanddeiliaid eraill y ceisiwyd eu barn, nid oedd consensws cyffredinol ar addasrwydd 2 gylch grantiau i bob blwyddyn galendr. Dylid nodi nad yw graddfeydd amser prosiectau yn ddibynnol ar ffenestri ymgeisio penodol ac y gall prosiectau benderfynu ar eu graddfa amser eu hunain wrth ymgeisio.

Adolygiad o’r effaith

Mae Cynllun y Dreth Gwarediadau wedi gwneud cynnydd rhesymol tuag at y 55 o ddangosyddion perfformiad allweddol (a adolygwyd yn ddiweddarach i 17) y mae wedi eu defnyddio i fonitro prosiectau. Cafodd prosiectau’r Cynllun amrywiaeth helaeth o effeithiau a aeth y tu hwnt i ddangosyddion perfformiad allweddol penodol. Ni chafodd unrhyw effeithiau negyddol gan brosiectau eu nodi gan randdeiliaid.

Mae prosiectau a gwblhawyd o dan y Cynllun wedi cyfrannu at nodau polisi a ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Mae cyfraniadau bioamrywiaeth wedi cynnwys cynyddu brigdwf, seilwaith gwyrdd, gwarchod cynefinoedd, cefnogi cynefinoedd pryfed peillio, adfer rhywogaethau, gwarchod cynefinoedd ac ennyn diddordeb unigolion. Mae’r Cynllun wedi cefnogi lleihau gwastraff ar draws yr hierarchaeth gwastraff ac wedi annog ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu. Mae’r camau gweithredu hyn yn gydnaws â pholisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n ceisio lleihau gwastraff bwyd, dargyfeirio gwastraff o dirlenwi a hyrwyddo’r economi gylchol.

Gellir gweld cefnogaeth i bolisïau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021 a Ffyniant i Bawb 2017 a bod hyn yn fwy diweddar wedi cyfrannu at Raglen Lywodraethu newydd 2021-2026. Roedd enghreifftiau yn cynnwys cefnogi busnesau lleol, cynyddu effeithlonrwydd ynni cyfleusterau cymunedol a hwyluso’r defnydd o lecynnau gwyrdd ar gyfer hamdden awyr agored.

Fe wnaeth y Cynllun ariannu prosiectau a fyddai’n annhebygol o fod wedi digwydd fel arall. Canfu’r adolygiad fod y Cynllun wedi darparu ffrwd gyllido allweddol i brosiectau cymunedol, sy’n aml yn cael eu hanwybyddu gan ffrydiau cyllido eraill. Canfyddiad rhai deiliaid grantiau, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru oedd bod cyllid y Cynllun yn haws ei gyrraedd na ffrydiau cyllido perthnasol eraill.

Adolygiad o werth am arian

Mewn 5 cylch o gyllido (mis Ebrill 2018 hyd fis Hydref 2020), roedd cyfanswm y gwariant a ddyrannwyd i brosiectau yn £4.64 miliwn, gyda chyfanswm cost weinyddu o £300,000 (£100k pa). Caerdydd a dderbyniodd y swm uchaf o gyllid gyda £590,671 o gyllid grant  (13% o’r cyfanswm), a ddilynwyd gan Sir y Fflint (£360,394; 8% o’r cyfanswm) a Gwynedd (£357,775; 8% o’r cyfanswm).

Sicrhawyd cyfanswm o £9.13 miliwn o gyllid cyfatebol gan y prosiectau hynny a gyllidwyd gan y Cynllun. O’r 112 o brosiectau, derbyniodd 107 gyfraniadau ychwanegol (yn rhai ariannol neu o fath arall) i ategu cyllid y Cynllun a dderbyniwyd o grantiau’r Cynllun. Derbyniodd prosiectau llai, mewn termau canrannol, fwy o gyllid cyfatebol na phrosiectau mwy.

Mae buddion y Cynllun yn gwrthbwyso’r costau. Roedd y buddion a gyflawnwyd gan y Cynllun rhwng mis Mai 2018 a mis Mehefin 2021 tua £37.3 miliwn, ar sail pennu gwerth ariannol i 8 dangosydd perfformiad allweddol (arbedion nwyon tŷ gwydr, incwm a gynhyrchwyd, swyddi a grewyd, arbedion costau a ragamcanwyd, ymwelwyr a ddenwyd, gwastraff a ddargyfeiriwyd o dirlenwi, gwastraff a ailgylchwyd, a choed cynhenid a blannwyd). Wrth bennu gwerth ariannol i 8 yn unig o ddangosyddion perfformiad allweddol, mae cymharebau cost a budd y Cynllun yn 6.8 (heb gynnwys swyddi a grewyd) a 7.5 (gan gynnwys swyddi a grewyd). Pe rhoddid gwerth ariannol i ddangosyddion perfformiad allweddol ychwanegol byddai’r gymhareb yn debygol o fod yn llawer mwy ffafriol, a byddai’r costau hefyd yn cynyddu.

Mae’r Cynllun wedi arwain at gynnydd cadarnhaol mewn oriau gwirfoddoli, effaith cadarnhaol ar ennyn diddordeb a chydlyniant cymunedol, gwelliannau mewn iechyd meddwl, ac uwchsgilio a chyfleoedd hyfforddi i fuddiolwyr.

Mae Cynllun Cymru yn llawer llai na chynlluniau eraill cyfatebol y Deyrnas Unedig o safbwynt nifer y prosiectau a gyllidwyd a chyfanswm cost y cynllun. Mae cost cyfartalog fesul prosiect a gyllidwyd gan y Cynllun yng Nghymru yn uwch na chynlluniau cyfatebol y Deyrnas Unedig ac mae wedi ariannu cyfran uwch o brosiectau bioamrywiaeth a lleihau gwastraff/ailgylchu na chynlluniau cyfatebol y Deyrnas Unedig. Yn 2020-2021, cafodd 4.2% o’r Dreth Tirlenwi a oedd yn ddyledus yng Nghymru ei ddyrannu i’r Cynllun, lle yn yr Alban roedd yn 5.0%. Mae’r gost o weinyddu fel canran o gyfanswm costau yn llai yng nghynllun Cymru nag yng nghynllun yr Alban, i raddau helaeth oherwydd y gwahaniaeth yn strwythurau’r 2 gynllun.

Adolygiad o gyfeiriad y cynllun yn y dyfodol

Yn y tymor byr i’r tymor canolig (2021-22 i 2026-27), disgwylir i refeniw trethi tirlenwi ostwng yng Nghymru (o £45 miliwn yn 2021-22 i £35 miliwn yn 2026-27). Yn yr hirdymor (y tu hwnt i 2026-7), disgwylir i’r swm o wastraff a anfonir i dirlenwi leihau, a fydd yn effeithio ar gyfanswm refeniw Llywodraeth Cymru (a ddefnyddir i ariannu’r Cynllun) a gall effeithio ar benderfyniadau ar gyllido’r Cynllun yn y dyfodol. Caiff Cynlluniau Lloegr a’r Alban eu cyllido fel canran o refeniw treth tirlenwi ac effeithir yn uniongyrchol arnynt gan leihad mewn refeniw treth. Pe bai cyllid yn lleihau, dylid ystyried dewisiadau eraill ar gyfer cyllido’r Cynllun.

Pe bai’r cyllid yn dal i fod yn gysylltiedig â refeniw treth, mae mecanweithiau cyllido eraill (a nodwyd gan randdeiliaid fel ffyrdd o liniaru unrhyw leihad posibl mewn refeniw treth) yn cynnwys:

  • sicrhau atodiad o’r gyllideb a neilltuir i’r Gweinidog Newid Hinsawdd neu gynyddu’r gyfran o’r dreth a ddyrennir i’r Cynllun wrth i refeniw tirlenwi leihau
  • neilltuo cyllid ar gyfer prosiectau sydd â llai o adnoddau
  • ffurfio partneriaethau gyda darparwyr eraill ar gyfer cyllid cyfatebol
  • newid modelau credydau treth i alluogi mwy o refeniw i gael ei ddyrannu i’r Cynllun

Bydd angen i’r Cynllun ddatblygu dros amser i sicrhau cydnawsedd â heriau cymunedol perthnasol, megis ansawdd aer neu’r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â’u hanghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol penodol. Dylai ffyrdd o fesur llwyddiant y Cynllun gynnwys y graddau mae cymunedau lleol wedi elwa o brosiectau, yn ogystal â chyfraniad at amcanion polisi. Gallai sicrhau cydnawsedd y Cynllun â pholisïau’r Llywodraeth gynnwys heriau allweddol megis yr argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth trwy ehangu cwmpas y Cynllun neu ddiwygio’r diffiniad o’r tri maes blaenoriaeth. Gallai helpu ceisiadau a deiliaid grantiau i greu prosiectau hunan-gynaliol (trwy ddulliau fel cynhyrchu incwm) lle bo’n briodol gynyddu effaith prosiectau.

Yn y model gweithredu presennol, mae potensial i ddefnyddio mwy ar y cynghorau gwirfoddol sirol i gefnogi a chyflawni prosiectau yn ogystal â chynyddu’r cydweithio rhwng safleoedd tirlenwi a’r gymuned leol. Gallai unrhyw gaffael yn y dyfodol ddymuno cynnwys yr agwedd hon fel rhan o’i weithgarwch cyffredinol er mwyn annog prosiectau gan fwy o gymunedau lleol.

Cafodd COVID-19 a’r cyfyngiadau iechyd cyhoeddus a gyflwynwyd eu nodi fel ffactor allanol allweddol a effeithiodd ar y Cynllun:

  • effeithio’n negyddol ar weithredu prosiectau ac ar eu canlyniadau
  • meithrin diwylliant o wirfoddoli
  • symud elfennau o weithredu prosiectau ar-lein, a oedd yn golygu her yn sgil mynediad digidol anghyfartal rhwng buddiolwyr a’i gilydd

Argymhellion

Argymhellion ar gyfer y cynllun yn gyffredinol

Argymhelliad 1

Dylai Cynllun y Dreth Gwarediadau barhau yn y tymor byr i’r tymor canolig (2021-22 i 2026-27). Mae hyn o ystyried ei rôl gref a chadarnhaol wrth rymuso cymunedau trwy wneud sefydliadau cymunedol yn gymwys am gyllid, y cyfraniad at flaenoriaethau Llywodareth Cymru mae wedi’i ddangos hyd yma, a’r gwerth am arian mae wedi’i ddangos. Nid yw’n addas gwneud argymhellion mwy hirdymor, gan nad yw rhagamcanion y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol ar gyfer refeniw Trethi Gwarediadau Tirlenwi yn mynd y tu hwnt i 2026-27.

Argymhelliad 2

Gellid ehangu cwmpas y Cynllun i symud i fyny’r hierarchaeth gwastraff (gyda mwy o bwyslais ar yr economi gylchol) a chanolbwyntio ar lesiant, a’r argyfwng hinsawdd. Dylid canolbwyntio ar dynnu sylw at weithgareddau a chanlyniadau’r prosiectau er mwyn ysbrydoli gweithredu a dysgu ehangach. Gellid roi mwy o bwyslais ar y thema bioamrywiaeth i gydnabod yr argyfwng bioamrywiaeth presennol.

Argymhelliad 3

Argymhellir parhau â’r dull o osod cyllideb i’r cynllun ar gyfer cyllido, gan ei fod yn sicrhau ffrwd gyson o gyllid. Gall Llywodraeth Cymru hefyd ddymuno ystyried a ddylid clustnodi cyfran o gyllid ar gyfer prosiectau a gyflwynir gan sefydliadau llai sydd â llai o adnoddau.  

Argymhelliad 4

Mae’n bwysig fod y gwaith o weinyddu’r Cynllun yn dal i wella a datblygu gan gadw costau gweinyddol yn isel. Canfu’r arolwg fod Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru wedi dangos diwylliant o wella parhaus a hyblygrwydd o ran anghenion ymgeiswyr a deiliaid grantiau. Yn gyffredinol, maent wedi derbyn adborth cadarnhaol gan amrywiaeth helaeth o randdeiliaid.

Argymhelliad 5

Yn wyneb anamlder y grantiau o arwyddocâd cenedlaethol a’r nifer cyfyngedig o geisiadau amdanynt, gallai fod potensial i gyllido mwy nag un grant o arwyddocâd cenedlaethol bob blwyddyn. Bydd hyn yn dibynnu ar y paramedrau ar gyfer sut y bydd y cyllid ar gyfer y grantiau hyn yn cael ei reoli. Byddai hyn yn cynnwys penderfynu a ddylid dyfarnu uchafswm nifer o grantiau o arwyddocâd cenedlaethol yn flynyddol, a ddylai fod uchafswm cyllideb cyffredinol bob blwyddyn ar gyfer grantiau o’r fath, etc.

Argymhelliad 6

Dylai cyfathrebu rheolaidd ddigwydd gyda gweinyddwyr cynlluniau’r Alban a Lloegr er mwyn annog rhannu gwybodaeth (ac felly wella cynlluniau), yn ogystal â chyfathrebu cyson rhwng gweinyddwyr y Cynllun a Llywodraeth Cymru er mwyn cadw ar y blaen i bolisïau allweddol a sut y gall hyn effeithio ar y Cynllun.

Argymhellion ar gyfer y broses

Argymhelliad 7

Yn y dyfodol, gallai’r Cynllun gefnogi sefydliadau sy’n ymgeisio a datblygu eu gallu i ymgeisio am brosiectau cymunedol a’u gweithredu. Gallai hyn helpu sicrhau mwy o amrywiaeth o brosiectau ac yn y sefydliadau sy’n eu cyflawni.

Gellid darparu templed o ofynion a phrif gwestiynau i ymgeiswyr er mwyn galluogi cydweithio ar gais y gellir ei gyflwyno wedyn trwy borth ar-lein, os yw’n grant llai.

Os caiff grant llai ei greu (gweler argymhelliad 3), gellid symleiddio’r broses ymgeisio lle bo’n bosibl. Yn yr achos hwn, gall hyn gynnwys caniatáu hyblygrwydd rhwng cyflwyno ceisiadau drwy’r porth neu drwy brofforma.

Argymhelliad 8

Mae cyfleoedd posibl i wneud gwell defnydd o randdeiliaid presennol y Cynllun. Byddai rhoi rhan fwy ffurfiol i’r cynghorau gwirfoddol sirol ei chwarae ym mhroses y Cynllun yn galluogi defnydd gwell o’u dealltwriaeth a gwybodaeth leol. Gallai cyd-drafod â gweithredwyr tirlenwi gynyddu cydweithio a chyd-ddealltwriaeth rhwng cymunedau lleol a gweithredwyr tirlenwi.

Argymhelliad 9

Gallai gweinyddwr y Cynllun gynnwys proses i gofnodi’n ffurfiol unrhyw anawsterau, cwynion ac adborth (cadarnhaol a negyddol) a godir gan ymgeiswyr aflwyddiannus a deiliaid grantiau ynghylch y modd y caiff y Cynllun ei reoli’n gyffredinol. Bydd hyn yn rhoi tystiolaeth o unrhyw bwyntiau allweddol a godwyd trwy oes y Cynllun a fydd yn gofyn am newid a thystiolaeth ynghylch pam y gwnaed gwelliannau.

Argymhelliad 10

Dylid rhoi gwybodaeth glir am gymhwysedd a pha grantiau sydd ar gael i ddarpar ymgeiswyr cyn gynted ag sy’n bosibl yn y broses ymgeisio. Gellid gwneud hyn yn ffurf holiadur cymhwysedd, fel gyda chynllun yr Alban.

Argymhelliad 11

Gellid gwella’r ffordd y caiff effeithiau uniongyrchol y Cynllun eu monitro trwy gasglu gwybodaeth fwy penodol yn ogystal â’r set bresennol o ddangosyddion perfformiad allweddol. Gellid darparu templedi neu offerynnau casglu data, megis arolygon, i ddeiliaid grantiau eu lledaenu ymysg rhanddeiliaid prosiectau i fesur effeithiau cadarnhaol prosiectau.

Manylion cyswllt

Awduron: Sam Taylor, Yvonne Rees, Joe Hudson, Alexandra Cancio, Emiliano Lewis, Rhiannon Lee, Adam Noonan, Katharine Rowland

Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: grantiauramglychedd@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 38/2022
ISBN digidol 978-1-80364-167-6

Image
GSR logo