Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cylch gorchwyl wedi cael ei ddiffinio i sicrhau bod canlyniad yr adolygiad yn canolbwyntio ar y materion priodol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Diweddariad llywodraeth cymru ar ei hymateb i argymhellion yr adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 207 KB

PDF
207 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Cylch gorchwyl

Mae cyllido ysgolion wedi bod yn fater polisi cyfoes iawn yng Nghymru a gweddill y DU dros y blynyddoedd diwethaf. Mae pryderon wedi cael eu codi am lefel gwariant ysgolion fesul disgybl, gwahaniaethau rhwng awdurdodau lleol ac a yw lefelau cyllido yn ddigonol i ddiwallu anghenion disgyblion mewn ardaloedd gwahanol o'r wlad.

O ganlyniad i bryderon o'r fath, lansiodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ymchwiliad i gyllido ysgolion yng Nghymru. Arweiniodd yr ymchwiliad hwn at amrywiaeth o argymhellion (dolen allanol), gan gynnwys:

“Y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad ar fyrder o faint o gyllid y mae ei angen i gyllido ysgolion yn ddigonol yng Nghymru, yn enwedig o gofio lefel y diwygiadau sydd ar y gweill. Dylai'r adolygiad hwn: ystyried, fel ei sail, beth yw cost sylfaenol rhedeg ysgol ac addysgu plentyn yng Nghymru, cyn i’r adnoddau ychwanegol y mae eu hangen ar gyfer ffactorau eraill fel amddifadedd a theneurwydd poblogaeth ac amgylchiadau lleol, gael eu dyrannu; a darparu amcangyfrif o’r bwlch cyllid presennol rhwng y swm sy’n cael ei wario ar ysgolion ar hyn o bryd a’r swm y mae ei angen i gyflawni’r hyn sy’n ofynnol, gan gynnwys yr agenda ddiwygio sylweddol.”

Cytunodd Llywodraeth Cymru fod “angen adolygiad o'r fath". (dolen allanol)

Mae Luke Sibieta, ymgynghorydd annibynnol ac arbenigwr ar gyllido ysgolion, wedi cael ei gomisiynu i helpu Llywodraeth Cymru i ymateb i'r argymhelliad hwn yn y ffordd orau.

Cyhoeddodd Kirsty Williams, AC, y Gweinidog Addysg, ar 24 Hydref:

“Bydd Luke Sibieta, yr economegydd addysg blaenllaw, yn mynd ati i ddadansoddi sut y mae cyfanswm y gwariant, a’r gwariant ar gategorïau mewnbwn gwahanol, yn amrywio rhwng ysgolion o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru.

Bydd hyn yn cynnwys, ymysg pethau eraill, sut y mae gwariant yn amrywio yn ôl gwahanol lefelau o amddifadedd, natur wledig a thwf addysg cyfrwng Cymraeg. Byddai’r dadansoddiad empirig hwn yn ystyried y gwahaniaethau yn lefelau a dulliau gwariant canolog ymysg awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn helpu i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch lefelau cyllido ar gyfer ysgolion a disgyblion mewn amgylchiadau amrywiol ledled y wlad."

Nid yw pennu lefel sylfaenol o gyllid sydd ei hangen ar ysgolion yng Nghymru yn dasg syml. Nid oes ysgol gyffredin am fod ysgolion yn amrywio yn sylweddol o ran ffactorau sy'n debygol o ddylanwadu ar eu costau: mae ysgolion ag athrawon mwy profiadol yn wynebu costau cyflog uwch; bydd gan ysgolion gwledig â maint dosbarthiadau llai gostau uwch; bydd ffactorau ffisegol ac amgylcheddol yn dylanwadu ar gostau cynnal a chadw ac ynni; mae rhai cynghorau yn darparu mwy o wasanaethau i ysgolion yn uniongyrchol.

Mae ysgolion hefyd yn gwario cyfran fawr o arian ar staff eraill megis Cynorthwywyr Addysgu, staff cymorth ac eraill. Mae'n anodd gwahanu faint o'r gwariant hwn sy'n cynrychioli cynnig craidd a faint sy'n cynrychioli gwariant ‘ychwanegol’ ar amddifadedd neu anghenion ychwanegol. Mae pennu lefelau cyllido sylfaenol hefyd yn anodd heb ddealltwriaeth glir o sut a pham y mae ysgolion mewn amgylchiadau gwahanol yn gwario eu cyllid.

Bydd yr adolygiad hwn yn dadansoddi sut y mae cyfanswm y gwariant, a’r gwariant ar gategorïau mewnbwn gwahanol, yn amrywio rhwng ysgolion o dan amgylchiadau penodol yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnwys sut mae gwariant ac angen yn amrywio o ran lefelau o amddifadedd, gwledigrwydd a chyfrwng iaith yr ysgol. Byddai hyn yn cyfrif am y gwahaniaethau yn lefelau a dulliau gwariant canolog rhwng cynghorau yng Nghymru.

Byddai hefyd yn asesu twf tebygol yn y dyfodol mewn costau ar gyfer ysgolion mewn amgylchiadau gwahanol o dan ragdybiaethau tebygol gwahanol. Yna gallai llunwyr polisi ddefnyddio'r canfyddiadau er mwyn helpu i bennu a oes gan ysgolion a disgyblion mewn amgylchiadau gwahanol lefelau digonol o gyllid, nawr ac yn y dyfodol.

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Byddwn yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid yn ystod y prosiect i sicrhau bod y gwaith yn cael budd o'u hadborth arbenigol a bod ffocws yr adroddiad terfynol yn adlewyrchu eu disgwyliadau cychwynnol.

Bydd ein prif randdeiliaid yn cynnwys llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru, megis y rhai sy'n gweithio ar gyllid, cyllido llywodraeth leol ac ysgolion. Bydd hyn yn sicrhau bod y gwaith yn cael budd o'u harbenigedd a'i fod yn canolbwyntio ar eu hanghenion cyfredol. Byddwn hefyd yn ceisio ymgysylltu â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) awdurdodau lleol (drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ac undebau addysg. Bydd ymgysylltu ag awdurdodau lleol ac undebau yn sicrhau bod y gwaith yn adlewyrchu cymhlethdodau'r system gyllido gyfredol, yn cyfrif am y pwysau cyfredol ac yn berthnasol iawn i'w hanghenion cyfredol, yn enwedig o ran dyrannu cyllid llywodraeth leol a pha ddata a gaiff eu casglu drwy ffurflen Adran 52. Byddwn hefyd yn cyfarfod â chynrychiolwyr ac arweinwyr o ysgolion, consortia rhanbarthol a ‘haen ganol’.

Byddwn yn ymgysylltu â'r rhanddeiliaid hyn drwy amrywiaeth o weithgareddau. Yn gyntaf, byddwn yn cynnal cyfarfod prosiect cychwynnol yng nghanol mis Rhagfyr, lle y bydd Sibieta yn cyflwyno trosolwg o'r prosiect a'r nodau. Os yw'n ymarferol, gallai hyn gynnwys rhai canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg. Byddwn yn gwahodd llunwyr polisi o Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allanol (awdurdodau lleol ac undebau). Nod y cyfarfod hwn yw pennu disgwyliadau clir o'r hyn a gwmpesir yn y gwaith ac addasu cwmpas y gwaith os bydd hyn yn debygol o fod yn ddefnyddiol/ymarferol.

Byddwn yn cynnal ail gyfarfod ar y canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ar gyfer rhanddeiliaid yn Llywodraeth Cymru yng nghanol mis Chwefror. Nod y cyfarfod hwn fydd cael adborth ar ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg ar bob cam o'r gwaith. Unwaith y bydd adroddiad drafft wedi'i gwblhau, byddwn yn cynnal cyfarfod pellach â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ym mis Ebrill 2020 i sicrhau bod y canfyddiadau yn berthnasol iawn i bwysau a blaenoriaethau allweddol rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cwmpasu prif agweddau'r adroddiad drafft, ond efallai na chaiff hyn ei rannu yn llawn ar y cam hwn.

Yn ystod y prosiect, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhellach drwy gyfarfodydd llai a gohebiaeth e-bost. Ar ddechrau'r prosiect, byddwn yn ymgysylltu â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr holl ddata/ystadegau sy'n ofynnol yn cael eu cydgasglu'n briodol, gofyn am unrhyw ddata ychwanegol a gwneud awgrymiadau ar gyfer eitemau ychwanegol y gallai fod yn werthfawr eu casglu yn y dyfodol. Rydym wedi neilltuo amser i drafod y canfyddiadau â'r gweinidog a'i chynghorwyr.

Byddwn hefyd yn ceisio cynnal cyfarfodydd â llunwyr polisi o amrywiaeth o feysydd polisi er mwyn cael budd o'u harbenigedd penodol. Yn olaf, byddwn yn cyfarfod â chydweithwyr o awdurdodau lleol (drwy CLlLC) ac undebau yn ystod y prosiect i sicrhau ein bod yn deall eu blaenoriaethau allweddol yn llawn.

Crynodeb o waith ychwanegol

Mae cryn drafodaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch lefel a dosbarthiad cyllid ar draws ysgolion yng Nghymru. Mae’r cwestiwn a yw ysgolion yn cael eu hariannu’n ddigonol yn ganolog i’r drafodaeth hon ac i argymhellion ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i gyllid ysgolion yn 2019.

Fel sylfaen i’r drafodaeth hon, bydd yr adolygiad hwn yn darparu darlun manwl o’r cynnig presennol i blant yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys o ble y daw’r arian, pwy sy’n ei wario, sut y mae wedi newid dros amser a beth yn hollol y mae plant yn ei gael o ran adnoddau ar gyfer eu haddysg. Bydd yn cynnwys cymarebau athrawon a staff, cost gyfartalog athrawon a staff eraill, a faint sy’n cael ei wario ar feysydd allweddol eraill, fel adnoddau dysgu a biliau cyfleustodau.  

Yn ogystal â darparu darlun manwl o’r cynnig presennol ar gyfartaledd, bydd yr adolygiad hefyd yn dangos y modd y mae hwn yn amrywio ar draws Cymru. Bydd hyn yn dangos nad oes unrhyw ysgol yng Nghymru yn cyfateb yn union â’r ystadegau cyfartalog, a dyna pham y byddai’n amhosibl nodi un isafswm cyffredin penodol wrth gyfrifo cost addysgu disgybl. Yn lle hynny, bydd yr adolygiad hwn yn ei gwneud yn bosibl i’r rhai sy’n llunio polisïau a phawb sydd â diddordeb ddod i gasgliadau clir ynghylch p’un a yw’r cynnig presennol ar gyfer disgyblion yng Nghymru yn bodloni eu disgwyliadau. Bydd hefyd yn darparu ffordd i’r rhai sy’n llunio polisïau ac i randdeiliaid gyfrifo cost newidiadau o ran adnoddau a chyflwyno dadl o blaid y newidiadau hynny. Yn ogystal, bydd yr adolygiad yn darparu amcangyfrifon penodol o dwf costau ysgolion yn y dyfodol mewn gwahanol senarios ar gyfer cyflogau athrawon a staff eraill, yn ogystal â dadansoddiad mwy cyffredinol o heriau o ran adnoddau, a fydd yn wynebu’r sector ysgolion yng Nghymru yn y dyfodol.

Manylion cyswllt

e-bost: Education-BusinessPlanningGovernance@gov.wales

Bost:

Yr Is-adran Cynllunio Busnes a Llywodraethiant Addysg
Y Gyfarwyddiaeth Addysg
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ