Yr hyn yr ydym yn ei wneud i ddatblygu model cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru
Cynnwys
Trosolwg
Yn 2022 sefydlwyd Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro. Cyhoeddodd y Bwrdd ei adroddiad terfynol Mae'n bryd cyflawni dros bobl ifanc yng Nghymru: Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru
Bydd yr adolygiad hwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion yn yr adroddiad.
Y pedwerydd o 14 argymhelliad y Bwrdd oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad annibynnol o'r cyllido a'r gwariant ar wasanaethau gwaith ieuenctid ar draws:
- Llywodraeth Cymru
- awdurdodau lleol
- mudiadau gwirfoddol
Dylai'r adolygiad asesu pa mor effeithiol yw'r broses o sicrhau canlyniadau a'r effaith ar bobl ifanc. Dylai gynnwys:
- gwerthusiad (ansoddol a meintiol) o sut mae'r mecanweithiau cyllido presennol yn effeithio ar ddarpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru, a sut mae unrhyw amrywiadau yn effeithio ar hygyrchedd a hawliau
- dadansoddiad o'r costau a'r manteision er mwyn sefydlu effaith ac effeithiolrwydd economaidd cyllido gwaith ieuenctid
Bydd yr adolygiad o'r cyllido yn cael ei gynnal mewn 3 cham. Byddwn yn rhannu'r canlyniadau ar gyfer pob cam unwaith y byddant ar gael.
Cam 1: darparu fframwaith ar gyfer yr ymchwil i gyllid gwaith ieuenctid
Nod cam 1 oedd darparu fframwaith ar gyfer cynnal y gwaith ymchwil yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys:
- sefydlu grŵp llywio
- Asesiad Cyflym o'r Dystiolaeth ar sail llenyddiaeth/ymchwil empirig ynghylch arferion cyfredol perthnasol mewn perthynas â dadansoddi cyllido a modelau mesur gwerth am arian yn y DU a Gweriniaeth Iwerddon, ac ymchwil a wnaed ar ran Llywodraeth Cymru
- astudiaeth ddichonoldeb i weld pa ddata sydd ar gael ac i ba raddau y gall fynd i'r afael â chwmpas yr ymchwil arfaethedig ar gyfer camau 2 a 3.
Cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb o adolygiad o gyllido gwaith ieuenctid yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant. Pwrpas yr astudiaeth ddichonoldeb hon oedd asesu hyd a lled cychwynnol y data a oedd ar gael, ac i ba raddau y gallai lywio'r ymchwil arfaethedig ar gyfer camau 2 a 3 yr adolygiad o'r cyllido fel yr argymhellwyd gan y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro.
Cam 2: adolygu cyllid gwaith ieuenctid
Nod cam 2 oedd adolygu'r ffynonellau cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, yn y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir, ac archwilio sut mae'r ffynonellau cyllid yn cael eu dyrannu o fewn y 22 ardal awdurdod lleol, yn benodol i:
- ystyried o ble mae’r cyllid yn dod, sut mae’n cael ei gyrchu ac ar beth mae'n cael ei wario
- nodi’r rhwystrau a’r heriau o ran cael mynediad at y cyllid, yn enwedig i’r sector gwirfoddol, ond mewn sectorau eraill hefyd
- sefydlu sut mae'r cyllid ar gyfer gwaith ieuenctid yn cael ei ddefnyddio ar draws y sector a gynhelir a’r sector gwirfoddol, a sut mae amrywiadau yn y defnydd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yn effeithio ar waith ieuenctid
- nodi pwy sy'n gwneud y penderfyniadau ar ddyrannu cyllid
- nodi i ba raddau y mae gan bobl ifanc lais mewn penderfyniadau cyllid
- deall y mecanweithiau atebolrwydd, llywodraethiant ac arweinyddiaeth, a'r prosesau adrodd ar gyfer gwaith ieuenctid
- archwilio trefniadau comisiynu/partneriaeth rhwng y sector gwirfoddol a'r sector a gynhelir, a sut mae hyn yn cael ei gynllunio, ei drefnu a'i fonitro
- creu fframwaith ar gyfer casglu data ynghylch effaith a manteision gwaith ieuenctid i'w gwneud yn bosibl cynnal dadansoddiad o'r costau a'r manteision yng ngham 3.
Mae crynodeb gweithredol a fersiwn hawdd ei darllen hefyd ar gael.
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn, nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Cam 3: adolygu effaith cyllid gwaith ieuenctid
Bydd Cam 3 yn darparu tystiolaeth o effaith ac effeithiolrwydd economaidd cyllid yn y sectorau gwaith ieuenctid a gynhelir a gwirfoddol drwy ddadansoddiad o'r costau a'r manteision, gan amlygu tystiolaeth o arfer da.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm ymchwil:
Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: gwaithieuenctid@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.