Adolygiad o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru: crynodeb
Nod y gwerthusiad oedd asesu'r cyfraniad (os o gwbl) y mae cyflwyno isafbris am alcohol (MPA) yng Nghymru wedi'i wneud i unrhyw ganlyniadau ymddygiadol, yfed a manwerthu sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion a methodoleg yr ymchwil
Mae’r adroddiad hwn yn darparu gwerthusiad cyffredinol o gyflwyno isafswm pris am alcohol (MPA) gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cwmpasu’r cyfnod hyd at fis Mehefin 2024.
Mae’r gwerthusiad wedi defnyddio dull Dadansoddiad o Gyfraniad ar gyfer ei fethodoleg. Y nod cyffredinol yw asesu’r cyfraniad (os o gwbl) y mae cyflwyno MPA yng Nghymru wedi’i wneud i unrhyw ganlyniadau (mesuradwy a gweladwy) ymddygiadol, yfed ac adwerthu sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Wrth wneud hynny, mae’r adroddiad hwn wedi dod ag amrywiaeth o ddeunydd data eilaidd a sylfaenol at ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau terfynol o werthusiadau eraill o MPA yng Nghymru, rhywfaint o ddata ychwanegol am y prif gyfweliadau, setiau data eraill yng Nghymru, myfyrdodau ar weithredu polisïau prisio mewn awdurdodaethau eraill, a negeseuon allweddol o’r llenyddiaeth ymchwil.
Er mwyn cynnal swmp hylaw o ran deunydd a gwella darllenadwyedd, nid yw’r adroddiad hwn yn ailadrodd manylion digwyddiadau a gwerthusiadau blaenorol sydd ar gael mewn mannau eraill. Yn hytrach, mae’n cyfeirio at y llwybrau tystiolaeth presennol hyn, gan grynhoi’r sefyllfa yn 2024 a’r hyn y gellid ei ddweud am effaith MPA a’r camau nesaf, yn ogystal â darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru wrth benderfynu a ddylid adnewyddu’r polisi ai peidio.
Dylid nodi ei fod, fel adroddiad synthesis cyffredinol, yn coladu negeseuon ar draws y boblogaeth gyfan, ac felly’n archwilio ystyriaethau ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, yfwyr cymedrol, peryglus, niweidiol, yfwyr sy’n chwilio am driniaeth ac yfwyr dibynnol.
Cefndir a chyd-destun
Mae isafbris am alcohol wedi dod yn ymateb polisi sydd wedi’i sefydlu fwyfwy ledled y byd. Mae’n rhan o amrywiaeth o fframweithiau polisi sy’n ceisio rheoleiddio marchnad gyfreithiol a mynd i’r afael â’r niwed hysbys a achosir gan ddefnyddio gormod o alcohol. Mae rheoli fforddiadwyedd alcohol yn cael ei ystyried yn un o elfennau effeithiol allweddol polisi alcohol llwyddiannus. Mae deddfwriaeth MPA Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar faterion fforddiadwyedd o’r fath.
Mae’r cefndir ar gyfer cyflwyno polisi MPA gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei nodi’n fanwl mewn nifer o adroddiadau blaenorol. Roedd cyflwyno’r polisi yng Nghymru yn destun tri cham ymgynghori yn 2014, 2015, a 2018.
Cafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ei basio drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gynt) ym mis Mehefin 2018 a chafodd Gydsyniad Brenhinol, gan ddod yn Ddeddf, ar 9 Awst 2018. Gosododd isafswm pris am alcohol ar sail uned o alcohol sy’n costio 50c (h.y. 50ppu). Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 2 Mawrth 2020.
Wrth bennu pris o 50pcu, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n glir ei pholisi i ‘dargedu yfed alcohol ymysg yfwyr peryglus a niweidiol, gyda’r nod o sicrhau mwy o fanteision iechyd i’r rheini sydd fwyaf mewn perygl, gan ystyried yr effeithiau ar yfwyr cymedrol ac ymyriant yn y farchnad’[troednodyn 1]. Wrth benderfynu ar y lefel 50ppu, roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o’r dadleuon hirsefydlog a’r ystyriaethau terfynol brwydr gyfreithiol Llywodraeth yr Alban i sefydlu dilysrwydd ei pholisi MUP (50ppu).
Prif ganfyddiadau a negeseuon
Gellir disgrifio gweithredu MPA yng Nghymru fel rhywbeth llyfn ac effeithiol. Byddem yn awgrymu bod y polisi wedi cael effaith (newid amlwg mewn prisiau ar rai cynhyrchion) a ddilynwyd gan lefelau cydymffurfio uchel.
Gellir gweld bod gan y polisi effeithiau amlwg y gellir eu gweld. Yn benodol: (i) cael gwared ar rai cynhyrchion rhad iawn (yn enwedig cyfeintiau mawr o seidr a lager rhad); (ii) cydymffurfiad clir o ran yr alcohol sy’n cael ei werthu gan adwerthwyr yng Nghymru ar yr isafswm pris neu’n uwch na hynny; (iii) gwahaniaethau amlwg rhwng ymddygiad adwerthu yng Nghymru a Lloegr; (iv) rhywfaint o newid ymaddasol gan gynhyrchwyr ac adwerthwyr o ran natur cynigion a chynhyrchion sydd ar gael yng Nghymru; a (v) rhywfaint o newid o ran prynu (a defnydd tybiedig) o seidr a lager cryf a rhad i gyrfau eraill a gwin a gwirodydd.
Mae rhywfaint o dystiolaeth ddangosol bod y defnydd yng Nghymru yn gyffredinol [gan ddefnyddio prynu fel procsi] wedi gostwng ar ôl MPA. Roedd yn ymddangos nad oedd MPA ar y lefel 50ppu yn cael effaith niweidiol ar y rhan fwyaf o yfwyr yng Nghymru. O ganlyniad, prin oedd y dystiolaeth o newidiadau sylweddol mewn ymddygiad prynu a defnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o’r boblogaeth.
Mae’n ymddangos bod mwy o effaith ar y rheini sy’n yfed ar lefelau sy’n gyson â dibyniaeth neu geisio triniaeth. Yn hytrach, mae tystiolaeth sy’n dangos bod MPA, ar gyfer yr yfwyr hynny sydd ar incwm isel, yn enwedig y rheini sy’n yfed ar lefel uwch, wedi cael effaith negyddol o ran straen ariannol cynyddol, fel bod cynnal fforddiadwyedd fel arfer yn cael ei gyflawni drwy ymestyn y mecanweithiau ymdopi presennol, ac elfen nodweddiadol o hynny yw mynd heb fwyd neu beidio talu biliau eraill.
Mae’n bwysig nodi bod MPA yn targedu fforddiadwyedd alcohol yn benodol, yn hytrach na chwmpasu pob agwedd ar bolisi alcohol neu fynd i’r afael â phob ystyriaeth o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae fforddiadwyedd unrhyw gynnyrch yn effeithio’n anghymesur ar y rheini sydd â’r incwm isaf ac nid yw MPA yn wahanol. Ni ddylai hyn fod yn rheswm dros wrthod gwerth MPA i ymyriadau polisi alcohol cyffredinol. Wedi’r cyfan, ni fyddai neb yn argymell bwydydd afiach rhad fel ateb i’r rheini sy’n profi tlodi bwyd.
Nid yw cyfnod y gwerthusiad wedi gweld unrhyw un o’r ofnau tybiedig cychwynnol ynghylch niwed andwyol yn cael eu gwireddu mewn unrhyw ffordd arwyddocaol. Mae hyn yn wir am yr ofn a fynegwyd y byddai yfwyr yn ‘newid’ i ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon. Er bod adroddiadau am ddefnyddio rhai mathau eraill o gyffuriau, troseddu, a chanlyniadau negyddol estynedig eraill, roedd y rhain ymysg y lleiafrif o yfwyr dibynnol yn bennaf yn hytrach na’r cyfan, ac yn aml roeddent yn cael eu dwysáu gan brofiadau eraill sy’n gysylltiedig ag agweddau iechyd a chymdeithasol.
Nid yw ystadegau ar gyfer mesurau niwed alcohol allweddol, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a derbyniadau i’r ysbyty, [hyd yma] wedi dangos unrhyw ostyngiad yn y tueddiadau diweddar o ran cynnydd mewn niwed. Mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at bwysau acíwt ar niwed iechyd chymdeithasol, sy’n aml yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn costau byw ac effeithiau cyni ar ddarparu gwasanaethau.
Mae mwy a mwy o lenyddiaeth sy’n cyfeirio at ‘annibendod’ gwerthusiadau sy’n seiliedig ar bolisi, ac mae hyn yn cynnwys isafswm prisiau ar gyfer alcohol. Mae cyfnod gweithredu’r MPA a’r gwerthusiad dilynol wedi gweld ffactorau sydd wedi cyfrannu at yr annibendod hwn, gan gynnwys ‘cyni’, newidiadau mewn tollau cartref, ‘argyfwng costau byw’, COVID-19, cyfleoedd siopa trawsffiniol, actorion yn y diwydiant, chwyddiant, a chyfyngiadau datganoli (e.e. ar farchnata a thrwyddedu alcohol).
Mae yfed alcohol a’i niwed cysylltiedig yn dal yn rhan sylweddol o dirwedd economaidd, iechyd a chymdeithasol Cymru. Mae tystiolaeth ddangosol gynnar y gall MPA yng Nghymru gyfrannu at leihau’r niwed hwn.
Mae’r modelu ehangach, y llenyddiaeth academaidd, a’r gwerthusiadau mewn awdurdodaethau eraill yn dangos bod angen i lywodraethau ystyried pris (fforddiadwyedd) alcohol fel un o’r mecanweithiau allweddol ar gyfer gweithredu polisi alcohol yn llwyddiannus. Cyfeirir at bolisïau alcohol effeithiol o’r fath yn aml fel ‘syniadau gorau'[troednodyn 2] neu ‘mannau melys’. Mae MPA yn parhau i fod yn un o ‘syniadau gorau’ Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer polisi alcohol effeithiol sy’n arwain at leihau niwed.
Mae’r pecyn gwerthuso yng Nghymru wedi bod yn gymharol fach. Teimlwyd bod hyn yn briodol yng nghyd-destun: (i) Cymru yn dilyn yr Alban a gallu cymharu â’u gwerthusiad mwy cynhwysfawr; (ii) maint yr adnoddau gwerthuso sydd ar gael i Lywodraeth Cymru; a’r (iii) llenyddiaeth academaidd ryngwladol ehangach sydd eisoes yn dangos gwerth prisio fel elfen annatod o ddulliau polisi alcohol cyffredinol effeithiol.
Roedd y gwerthusiad cynharach, mwy helaeth o MPA yn yr Alban ar 50ppu yn gadarnhaol ar y cyfan ac arweiniodd at Lywodraeth yr Alban yn mabwysiadu’r polisi y tu hwnt i’w chymal machlud, gydag isafswm pris diwygiedig o 65ppu.
Y camau nesaf ac argymhellion
Er gwaethaf nifer fach o amheuon pwysig, mae’r gwerthusiad cyffredinol yn cyfeirio at adroddiadau cadarnhaol am MPA fel mesur polisi ac yn fwy penodol at weithredu yng Nghymru. Mae hyn yn ei dro yn awgrymu ei fod yn arf pwysig, ymysg eraill, mewn datblygu polisi alcohol.
Y cam amlwg fyddai dilyn arweiniad yr Alban ac adnewyddu’r ddeddfwriaeth, a thrwy hynny gadw’r opsiwn polisi. Mae goblygiadau penodol ynghlwm wrth ddewis peidio ag adnewyddu’r ddeddfwriaeth MPA a gadael i’r ‘cymal machlud’ ddod i rym. Y mwyaf amlwg o’r rhain yw y bydd Cymru’n gweld argaeledd cynnyrch alcohol rhatach a’r cynnydd cysylltiedig mewn niwed yn dychwelyd.
Gallai Llywodraeth Cymru hefyd ystyried, yn enwedig yng ngoleuni Deddf Cymru (un o’r sbardunau gwreiddiol i weithredu’r ddeddfwriaeth yn 2018)[troednodyn 3], pe bai’r ddeddfwriaeth bresennol ar MPA yn dod i ben, efallai na fyddai o reidrwydd ar gael fel mesur polisi i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol (heb gefnogaeth ganiataol Llywodraeth y DU).
Mae cwestiynau’n dal i fodoli am effaith y pris 50ppu gwreiddiol (a chyfredol o hyd) yn lleihau dros amser . Dylai Llywodraeth Cymru benderfynu beth yw pris priodol wrth symud ymlaen. Mae’r penderfyniad i godi’r isafswm pris hefyd yn un gwleidyddol, ac nid heb ei ystyriaethau cyfathrebu a gweithredu yn y cyd-destun economaidd presennol.
Daw’r adroddiad i ben gyda’r argymhellion canlynol ar gyfer Llywodraeth Cymru
- Dylai Llywodraeth Cymru adnewyddu yn hytrach na cholli’r opsiwn MPA fel mesur polisi alcohol yng Nghymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i ystyried adolygiad o’r lefel pris 50ppu bresennol.
- Mae angen cynnydd mewn prisiau i o leiaf 65ppu er mwyn cynnal y gwerth polisi presennol ac unrhyw rai o’r effeithiau cadarnhaol a welwyd hyd yma.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y bydd unrhyw ddefnydd parhaus o’r ddeddfwriaeth ac unrhyw gynnydd posibl mewn prisiau yn cael ei gefnogi gan gyfathrebu gweithredol sydd wedi’i lunio’n dda.
- Dylai Llywodraeth Cymru nodi effaith andwyol y polisi ar rai poblogaethau o bobl ar incwm isel ac yfwyr trwm a dylai, yn ei dro, sicrhau bod ei driniaeth, ei bolisi a’i ddarpariaeth ar gyfer alcohol yn diwallu anghenion y grŵp hwn.
- Dylai unrhyw barhad o’r polisi gael ei ategu gan werthusiad parhaus a gwerthusiad pellach. Dylai hyn gynnwys ystyried effaith MPA ar blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Dylai Llywodraeth Cymru roi sylw i’r ffaith bod anghydraddoldeb ac amddifadedd dilynol yn ffactor mor allweddol mewn canlyniadau iechyd. Lle bo’n bosibl, dylai barhau i liniaru tlodi ac anghyfiawnder cymdeithasol gan ei bod yn fwyfwy clir bod niwed alcohol yn effeithio fwyaf ar y rheini sydd â nifer o brofiadau niweidiol difrifol, lefelau is o incwm, ac sy’n profi tlodi.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys yr argymhellion canlynol ar gyfer darparwyr gwasanaeth/triniaeth (os yw’r polisi’n parhau a/neu os yw’r isafswm pris yn newid)
- Dylent gyfathrebu’n well â staff a’r rheini sy’n defnyddio eu gwasanaethau ynghylch polisi MPA.
- Dylent ymgysylltu’n weithredol â phrofiadau unigolion a gwasanaethau cefnogi ar gyfer cymorth ariannol, tai, cyngor ar berthynas, cwnsela, ac atgyfeirio i ddadwenwyno.
- Dylent fod yn glir wrth gynnig cyngor penodol ar leihau niwed mewn perthynas â niwed posibl newid o un cynnyrch alcohol i un arall a/neu i sylweddau eraill.
Troednodiadau
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Livingston, Perkins, Holloway, Murray, Buhociu a Madoc Jones (2025)
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 80/2024
ISBN Digidol 978-1-83625-882-7