Adroddiad, Dogfennu
Adolygiad o effaith teithio am ddim ar fysiau ar goridorau cymudo lle ceir tagfeydd
Daw'r Athro Cole i'r casgliad fod tagfeydd yn broblem y mae gweithredwyr bysiau yn ei wynebu a'i fod yn golygu nad yw llawer o gymudwyr hyd yn oed yn ystyried defnyddio'r bws.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 83 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Mae'r ateb sy'n cael ei argymell ganddo yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Llawer iawn mwy o flaenoriaeth i fysiau.
- Trefniadau parcio a theithio mewn lleoliadau allweddol, gan gynnwys y safleoedd hynny a gaiff eu pennu yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol".
- Trefniadau parcio a theithio ar raddfa fechan mewn safleoedd bws sy'n cael eu defnyddio gan nifer uchel iawn o gymudwyr (ee Ffynnon Taf, yr Orsedd a Ffordd Fabian).
- Gwell cyfleusterau aros mewn safleoedd bws.
- Cyfnewidfeydd cyfleus.
- Gwell safonau ansawdd ar draws y fflyd bysiau a geir ar draws Cymru.
- Gwaith marchnata effeithiol sy'n cymell pobl i ystyried defnyddio'r bws yn hytrach na'r car.
- Gwell gwybodaeth mewn safleoedd bws.
- Mwy o wasanaethau cynnar a hwyr a/neu wasanaethau ar ddydd Sul er mwyn bodloni gofynion mwy o gymudwyr ac er mwyn gwneud bysiau'n fwy gweladwy.
- Mae'r gwaith cydgysylltu sy'n angenrheidiol yn creu cyfle i Trafnidiaeth Cymru ddwyn ynghyd fysiau a threnau o fewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig.