Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adolygiad hwn yn ystyried gwaith ymchwil i drychinebau rhyngwladol yn y gorffennol yn ogystal â COVID-19, er mwyn deall eu heffaith ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc.

Cynhaliwyd yr adolygiad hwn o lenyddiaeth fel asesiad cyflym o’r dystiolaeth, ac ar ôl ystyried y llenyddiaeth a oedd ar gael, dyma oedd y canfyddiadau.

Prif ganfyddiadau

Datgelodd y gwaith ymchwil rhyngwladol ar COVID-19 fod y pandemig a’r angen i hunanynysu gartref wedi newid ymddygiad plant, ac wedi arwain at gynnydd yn symptomau iselder a gorbryder, yn ogystal â mwy o anawsterau o ran ymddygiad a phoeni. Fodd bynnag, canfu rhai astudiaethau ganlyniadau cadarnhaol hefyd, megis helpu ac ystyried eraill.

Mae ymchwil y DU o ran COVID-19 yn awgrymu bod y pandemig yn effeithio’n andwyol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a bod adroddiadau gan blant a rhieni yn dynodi pryderon plant mewn perthynas â COVID-19. Mae rhywfaint o waith ymchwil yn awgrymu’r canlynol fel rhai o’r ffactorau sy’n creu risg fwy ymhlith plant: tlodi, anawsterau iechyd meddwl blaenorol ac anghenion addysgol ychwanegol. Awgrymwyd bod y risg yn uwch hefyd i blant hŷn.

Mae gwaith ymchwil yn sgil trychinebau rhyngwladol yn dangos bod plant oedran ysgol sydd wedi’u heffeithio gan drychinebau (ee daeargrynfeydd, corwyntoedd neu dornados) yn aml yn dioddef anawsterau iechyd meddwl, yn benodol anhwylder neu symptomau straen ôl-drawmatig, ac iselder. Awgrymir y canlynol fel rhai o’r ffactorau sy’n creu risg fwy ymhlith plant: effaith fawr yn sgil y drychineb, cael eu gadael ar eu pen eu hunain, lles ac iechyd meddwl rhieni, ac iechyd meddwl blaenorol y plant. Awgrymwyd bod y risg yn uwch hefyd i blant hŷn.

Canfuwyd bod y ffactorau canlynol yn gallu lleihau problemau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn dilyn trychineb: sgiliau gwybyddol da a strategaethau ymdopi, cydgefnogaeth gymunedol a chymorth cymdeithasol gan rieni a chyfoedion. Yn aml, byddai ymyriadau i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl yn digwydd ar lefel ysgol gyfan, a phrofwyd eu bod yn llwyddiannus. Canfuwyd bod ymyriadau eraill megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol yn lleihau anhwylder straen ôl-drawmatig ac iselder ymhlith plant a phobl ifanc.

Adroddiadau

Adolygiad o effaith tarfu mawr ar lesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a'r ymyriadau therapiwtig posibl , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 783 KB

PDF
Saesneg yn unig
783 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Adolygiad o effaith tarfu mawr ar lesiant ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a'r ymyriadau therapiwtig posibl: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 185 KB

PDF
185 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Y Gangen Ymchwil Ysgolion

Rhif ffôn: 0300 025 6812

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.