Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad a methodoleg

Yn dilyn cyflwyno’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol mae’n ofynnol i rai cyrff cyhoeddus ystyried sut mae eu penderfyniadau’n effeithio ar bobl yng Nghymru sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o’r dystiolaeth allweddol mewn perthynas â sut mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn effeithio ar bobl Cymru, gan ganolbwyntio’n benodol ar y ffordd mae’n effeithio ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, yn ogystal â chymunedau lle a mannau o ddiddordeb. Mae’n tynnu sylw at y croestoriadedd sy’n allweddol wrth archwilio amddifadedd ac yn crynhoi’r prif anghydraddoldebau o ran canlyniadau y mae rhai grwpiau yn eu hwynebu. Mae’r adroddiad wedi’i strwythuro o dan chwe thema allweddol yr adroddiad A Yw  Cymru yn Decach (EHRC 2018), sef addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a chyfranogiad. Bydd y gwaith hwn yn darparu ffynhonnell dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi a cyrff cyhoeddus wrth iddynt weithredu’r ddyletswydd.

Nod yr ymchwil oedd:

  • cyflwyno darlun o anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru a’r anghydraddoldebau cysylltiedig o ran canlyniadau
  • crynhoi’r ymchwil i anfantais economaidd-gymdeithasol a’r anghydraddoldebau cysylltiedig o ran canlyniadau ar gyfer cymunedau penodol, gan ganolbwyntio ar y rhai â nodweddion gwarchodedig a chymunedau lle a/neu fannau o ddiddordeb

Cynhaliwyd adolygiad cyflym o’r deunyddiau ysgrifenedig er mwyn archwilio’r amcanion ymchwil hyn o fewn y themâu addysg, gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a chyfranogiad, ynghyd ag adolygiad pen bwrdd o ddeunyddiau darllen a thystiolaeth o amrediad o ffynonellau allweddol, yn dilyn gwaith cwmpasu cychwynnol. O ganlyniad i gyfyngiadau amser, defnyddiwyd y dull hwn yn hytrach nag adolygiad systematig. Felly, dylid defnyddio’r adolygiad o ddeunyddiau darllen sy’n sail i’r ymchwil hon er mwyn cael syniad o faint a natur y sail dystiolaeth, yn hytrach na chrynodeb cynhwysfawr; er y rhoddwyd gofal drwyddi draw i werthuso pa mor ddefnyddiol a chadarn oedd yr holl ffynonellau.

Prif ganfyddiadau

Addysg

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â chanlyniadau addysg gwaeth ar gyfer plant, yn ogystal ag effeithiau ar eu hiechyd corfforol, emosiynol a meddyliol. Mae tlodi ymhlith plant a chyfleoedd addysg anghyfartal yn gysylltiedig, gyda phlant sy’n profi anfantais pan fyddant yn ifanc yn llai tebygol o ennill cymwysterau yn yr ysgol. Mae eu rhagolygon addysgol ac economaidd yn y tymor hir hefyd yn waeth. Gelwir hyn y bwlch cyrhaeddiad, ac mae tystiolaeth ohono mor gynnar â’r ysgol gynradd. Os nad yw’n derbyn sylw mae’n cynyddu gydag amser ac yn gwaethygu anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli. Mae anghydraddoldeb o ran tai ac iechyd ac anfanteision yn y farchnad lafar yn gwaethygu anfanteision sydd eisoes yn bodoli – er enghraifft, ffactorau fel amgylchedd annigonol ar gyfer gwneud gwaith cartref yn ei gwneud yn anos cymryd rhan yn y broses addysgu a rhwystrau diwylliannol yn effeithio ar effeithiolrwydd rhai ymyriadau sydd â’r nod o wella mynediad at addysg. Gall yr anghydraddoldebau hyn o ran canlyniadau gael effaith gylchol ar dlodi, gyda phlant sy’n byw o dan anfantais yn profi rhagor o anfanteision fel oedolion, a chanddynt lai o allu i roi dechrau da ar gyfer eu plant eu hunain. Er nad yw’r dystiolaeth gyfredol yn glir ynghylch yr effaith mae’r pandemig a’r cyfyngiadau a oedd ar waith yn ein cymdeithas wedi’i chael ar ddatblygiad plant, mae angen monitro’n rhai’n ofalus er mwyn bod yn ymwybodol o sut y gallai anghydraddoldebau gael eu gwaethygu.

Gwaith

Mae economi ffyniannus gyda gweithlu cryf a bywiog sy’n gallu ymaddasu i fyd gwaith sy’n newid yn allweddol ar gyfer dyfodol Cymru. Fodd bynnag, mae niferoedd uchel o bobl o hyd yng Nghymru sy’n ei chael yn anodd cael y ddau benllinyn ynghyd o ganlyniad i waith â chyflog isel neu ddiffyg oriau, ac nid yw bod mewn gwaith o reidrwydd yn atal pobl rhag profi tlodi. Mae aelwydydd sy’n gweithio yng Nghymru yn cyfrif am 56 y cant o bobl sy’n byw mewn tlodi, o gymharu â 39 y cant 20 mlynedd yn ôl, ac mae’r rhan fwyaf o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn byw mewn aelwydydd sy’n gweithio. Mae gwaith â chyflog isel yn gwneud cyfraniad allweddol at dlodi ymhlith pobl sy’n gweithio. Mae’n anodd dianc o dlodi pan nad yw eich cyflog yn ddigon, neu nad oes llawer o swyddi sy’n talu cyflog da yn eich ardal, ac mae rhai sectorau yn enwedig o debygol o gyfrannu at dlodi ymhlith pobl sy’n gweithio. Mae gwaith sy’n talu cyflog isel yn fwy tebygol o fod yn beryglus ac arwain at straen, gan gael effaith ar lesiant corfforol a meddyliol. Mae gwaith ansicr neu waith â chyflog isel yn gallu cael effaith uniongyrchol ar faint mae pobl yn gallu fforddio ei fwyta, ac mae gweithwyr sy’n derbyn cyflog isel yn fwy tebygol o fod mewn amgylcheddau sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddyliol a chorfforol.

Mae’r premiwm tlodi hefyd yn golygu weithiau fod yr aelwydydd tlodaf yn talu’r prisiau uchaf am nwyddau a gwasanaethau sylfaenol fel cyfleustodau a thrafnidiaeth gyhoeddus, a gall hyn gyfrannu at y pwysau ariannu sy’n deillio o waith â chyflog isel. Yn ogystal, mae gwahaniaethau’n parhau i fodoli yng Nghymru mewn perthynas â hil, rhywedd ac anabledd, ac mae tystiolaeth amlwg o’r rhain ym myd gwaith, gyda phobl a chanddynt anabledd yn llai tebygol o weithio mewn galwedigaethau sy’n talu cyflog da, ac maent yn ddwywaith mor debygol y byddant yn ddi-waith o’u cymharu a phobl nad oes ganddynt anabledd. Mae’r dystiolaeth yn dangos hefyd fod y bwlch cyflog yn parhau i fodoli ar draul menywod, pobl ag anabledd a lleiafrifoedd ethnig.  

Safonau byw

Mae tai annigonol, diffyg gwres a dŵr poeth a diffyg sicrwydd o ran bwyd hefyd yn broblemau y  mae llawer o bobl yng Nghymru yn eu hwynebu. Mae bod â lle diogel, cynnes a digonol i fyw ynddo, a mynediad at ddigon o fwyd maethlon, yn elfennau allweddol ar gyfer llesiant. Er bod ymchwil yn dangos bod amodau tai wedi gwella yn ystod y ddeng mlynedd diwethaf, mae nifer o broblemau o hyd sy’n cael effaith anghymesur ar y rhai sy’n byw o dan anfantais gymdeithasol neu economaidd. Nid yw llawer o bobl yn gallu cael mynediad at y farchnad eiddo, ac mae rhenti uchel yn golygu bod llawer o bobl yng Nghymru yn gwario cyfran uchel o’u hincwm ar lety.  Mae costau tai uchel hefyd yn gallu cadw’r rhai sydd am brynu am y tro cyntaf allan o’r farchnad eiddo, a gall pobl gael eu dal mewn cylch o rentu sy’n lleihau eu gallu i gynilo, gyda chost prynu cartref yn codi yn gyflymach na chyflogau. Mae hanner y bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrif Ethnig yng Nghymru yn rhentu eu cartrefi, o gymharu ag o dan draean o bobl o gefndir gwyn. Mae ardaloedd difreintiedig yng Nghymru hefyd yn tueddu i weld rhagor o gorlenwi, gan gyfrannu ymhellach at anfantais economaidd-gymdeithasol a chanlyniadau gwaeth o ran llesiant.

Mae tlodi tanwydd yn broblem gymhleth sy’n gysylltiedig â llesiant corfforol a meddyliol, ac mae’n fwy tebygol o effeithio ar bobl sy’n agored i niwed gan gynnwys unig rieni, pobl hŷn, pobl sydd ag anabledd a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae mynediad at fannau gwyrdd hefyd yn gysylltiedig ag iechyd a llesiant, ac mae’r dystiolaeth yn dangos at ei gilydd fod llai o fannau gwyrdd ar gael ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ardaloedd economaidd ddifreintiedig. Mae hefyd yn fwy tebygol y bydd y bobl hyn yn byw mewn ardaloedd mwy llygredig, a all ychwanegu at risgiau i iechyd.

Mae ansicrwydd o ran bwyd yn cynyddu, hyd yn oed ymhlith pobl sy’n gweithio, gyda rhagor o bobl yn defnyddio banciau bwyd. Mae ansicrwydd o ran bwyd yn cael ei sbarduno gan yr anallu i dalu am fwyd o ganlyniad i waith gwael a gwaith â chyflog isel, diffyg gwybodaeth am faeth a choginio a diffyg mynediad at gyfleusterau coginio. Mae’n bosibl hefyd y bydd gan bobl ar incwm isel ddeiet gwaeth o ganlyniad i’r anghydraddoldebau hyn, ac mae hyn yn cael effaith negyddol ar iechyd, gyda chanlyniadau enwedig o wael ar ddatblygiad corfforol a meddyliol plant.

Iechyd

Mae anghydraddoldeb o ran iechyd yn cael effaith anghymesur ar rai cymunedau, ac mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â chanlyniadau gwaeth o ran iechyd. Mae canlyniadau o ran iechyd yn gysylltiedig â ffactorau fel yr amgylchiadau i gynnal sicrwydd o ran incwm a gwarchodaeth gymdeithasol, amodau byw da, cyfalaf cymdeithasol a dynol, mynediad at wasanaethau iechyd digonol a swyddi ac amodau gweithio da. Mae anghydraddoldebau o ran iechyd yn amlwg yng Nghymru, gyda oedolion yn rhannau mwyaf difreintiedig y wlad â disgwyliad oes is, a chanlyniadau gwaeth o ran iechyd ar gyfer plant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Mae iechyd meddwl hefyd yn waeth yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae amddifadedd yn gysylltiedig â lefelau uwch o straen, problemau iechyd meddwl a hunanladdiad. Mae’r cysylltiadau rhwng iechyd ac amddifadedd yn gymhleth ac yn deillio o ffactorau rhyngberthynol. Mae’n bosibl y bydd gan y rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig lai o fynediad at chwaraeon a llai o allu i sicrhau bod ganddynt ddeiet iach. Gall hyn arwain at ganlyniadau corfforol gwaeth. Gall byw mewn ardal fwy difreintiedig hefyd gael effaith ar lesiant meddyliol. Mae llesiant meddyliol gwaeth yn gysylltiedig ag amrediad o ffactorau, gan gynnwys ffactorau sy’n gysylltiedig ag arian a’r gwaith, problemau strwythurol ynghylch cyfranogi yn y gymuned a theimlo’n rhan ohoni. Gall hyn arwain at unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae llawer o enghreifftiau o’r croestoriadedd rhwng iechyd a ffactorau fel hil, statws economaidd-gymdeithasol, rhyw ac oedran. Mae pobl sydd ag anabledd a’r rhai sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad â gofal iechyd, a hefyd mae gan bobl sydd ag anabledd ragor o anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu oherwydd rhestrau aros neu gostau. Mae pobl LHDTC+ hefyd yn fwy tebygol o ddioddef straen seicolegol a lefelau is o foddhad ar wasanaethau iechyd.

Cyfiawnder

Mae anfantaisd economaidd-gymdeithasol yn gysylltiedig â pherygl uwch o ymwneud â’r system gyfiawnder, dioddef trosedd a pheidio â theimlo’n ddiogel mewn cymuned. Mae’r system gyfiawnder yng Nghymru yn wynebu heriau mewn perthynas â thoriadau i gymorth cyfreithiol, alinio rhwng polisïau a gwario a phroblemau cymhleth mewn carchardai, yn y llysoedd ac wrth reoli troseddwyr. Mae hefyd mwy o bobl o grwpiau lleiafrifol mewn carchardai yng Nghymru o’u cymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol. Yn ôl adolygiad o’r system gyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, mae niferoedd uchel o Bobl Dduon, Moslemiaid a bechgyn gwyn o gefndir dosbarth gweithio o fewn y system gyfiawnder, yn ogystal â llawer sy’n dioddef o iechyd meddwl neu broblemau iechyd eraill fel anawsterau dysgu. Mae’r ffactorau sydd y tu ôl i’r broblem hon yn gymhleth, ond gellir ei chysylltu â phroblemau systemig ehangach fel anfantais economaidd-gymdeithasol, addysg a chyflogaeth.

Mae rhai cymunedau yn fwy tebygol o ddioddef trosedd, aflonyddu a gwahaniaethu, fel pobl LHDTC+, pobl sydd ag anabledd neu bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl. Mae nifer y troseddau sy’n gysylltiedig â hil, rhywioldeb ac anabledd yr adroddir amdanynt i’r Heddlu yn cynyddu, ond mae problemau o hyd mewn perthynas â thanadrodd, ac mae’n bosibl bod dulliau adrodd a ffactorau eraill wedi effeithio ar y canlyniadau. Hefyd nid yw troseddau casineb yr adroddir amdanynt yn ystyried digwyddiadau llai eithafol, ond sy’n bwysig er hynny, fel aflonyddu rheolaidd, ofn ac allgáu cymdeithasol mae pobl anabl ac unigolion LHDTC+ yn dweud eu bod yn profi. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef trais domestig yn fenywod, ac mae’r rhai sydd mewn perthynas LHDTC+ a phobl sydd ag anabledd yn fwy tebygol o ddioddef trais a cham-drin domestig.

Mae teimlad o ddiogelwch personol hefyd yn bwysig ar gyfer cynnal cymunedau diogel a chydlynus. Mae tystiolaeth yn dangos bod menywod, yr henoed, pobl sy’n profi amddifadedd materol a’r rhai nad oes ganddynt deimlad o gydlyniant yn eu cymuned i gyd yn fwy tebygol o deimlo’n anniogel yn eu hardal leol.

Cyfranogiad

Mae cyfranogi yn ymwneud â phobl yn cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn  nhw, cael dewisiadau a chael dweud eu dweud mewn bywyd cyhoeddus, yn ogystal a chymryd rhan mewn cymunedau a meddu ar y rhyddid i gael mynediad at wasanaethau a rhyngweithio â phobl yn annibynnol. Yn gyffredinol, mae’r lefelau o foddhad mae pobl yn eu teimlo ar eu hardal leol yn uchel yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol at ei gilydd yn cyfranogi’n llai at fywyd cyhoeddus ac yn cymryd rhan lai mewn chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol. Er bod y dirwedd wleidyddol yng Nghymru yn deg at ei gilydd, mae menywod, pobl o gefndir lleiafrif ethnig a phobl sydd ag anabledd yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn nifer o feysydd.

Gall nifer o ffactorau gyfyngu ar fynediad at wasanaethau. Mae’r rhain yn amrywio o broblemau mewn perthynas â darparu gwasanaethau digonol, i anawsterau wrth gymryd rhan lawn mewn bywyd diwylliannol, gyda chyfranogiad llawn yng Nghymru yn gysylltiedig â hil, hunaniaeth o ran rhywioldeb neu anabledd. Mae pobl trawsrywiol yn dweud eu bod yn fwy tebygol o osgoi sefyllfaoedd cymdeithasol oherwydd ofn yr aflonyddir arnynt, ac mae data o Race Council Cymru yn dangos bod 75 y cant o bawb o gefndir lleiafrif ethnig yng Nghymru wedi profi hiliaeth o fewn y pum mlynedd diwethaf. Mae pobl sydd ag anabledd hefyd yn cael trafferth cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, a gall hyn effeithio ar lesiant pobl gan ei fod yn cyfyngu ar fynediad at wasanaethau, bywyd cymdeithasol, gwaith a gweithgareddau hamdden.

Mae mynediad at y rhyngrwyd ledled Cymru at ei gilydd yn uchel, ond mae’n waeth mewn ardaloedd gwledig. Mae’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, pobl sydd ag anabledd, pob sy’n economaidd anweithgar a phobl hŷn yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at y rhyngrwyd, gan fod ganddynt llai o gymorth i wella’r ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio gwasanaethau digidol. Gall allgáu digidol wneud pobl yn ynysig os nad ydynt yn gallu cael mynediad at wasanaethau sydd ar gael yn ddigidol yn unig.

Casgliadau

Mae cynnydd wedi cael ei wneud mewn nifer o feysydd mewn perthynas â chydraddoldeb ac anfantais economaidd-gymdeithasol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae gweithredu’r Ddyletswydd Gymdeithasol yn golygu y dylai’r meysydd hyn dderbyn sylw agosach yn y dyfodol.  Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu’r anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth ym meysydd gwaith, safonau byw, iechyd, cyfiawnder a chyfranogiad mewn bywyd cyhoeddus. Mae’r meysydd hyn yn gymhleth yn rhyng-gysylltiedig, ac yn aml maent yn cael effaith ganlyniadol ar feysydd eraill.  

Mae llawer o groestoriadedd yn gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae amddifadedd yn rhyngweithio â nodweddion gwarchodedig, ac mae’n bosibl y bydd rhai cymunedau ac ardaloedd yn profi canlyniadau gwaeth nag ardaloedd eraill. Gellir gweld y  croestoriadedd rhwng amddifadedd a nodweddion eraill fel gwe, lle mae gwahanol feysydd yn cysylltu â’i gilydd, gan ddwysáu a gwaethygu ei gilydd. Gall anfantais economaidd droi’n gylchol yn gyflymu, ac wedyn mae’n anodd dianc ohoni. Er mwyn mynd i’r afael â’r cymhlethdod hwn mae angen dealltwriaeth o’r cysylltiadau hyn a chyfranogiad gan amrediad eang o randdeiliaid.  

Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar bob agwedd ar fywyd ledled y DU. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau sydd eisoes yn bodoli a’r meysydd lle mae’n bosibl y bydd anghydraddoldebau’n cael eu gwaethygu. Mae monitro effaith y pandemig ar grwpiau sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol yn allweddol yn y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, er mwyn deall rhagor ynghylch yr effeithiau hyn a datblygu strategaethau i’w gwella a’u lliniaru lle bo modd.

Manylion cyswllt

Awdur yr Adroddiad: Chloe Mills

Cynhyrchwyd yr adroddiad hwn fel rhan o interniaeth PHD tri mis gyda Llywodraeth Cymru, wedi’i threfnu drwy Raglen Hyfforddiant Doethurol ESRC a Llywodraeth Cymru. Barn yr ymchwilydd a geir yn yr adroddiad, ac nid ywo reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru. Mae’r adolygiad hwn o dystiolaeth yn adlewyrchu’r derminoleg sy’n cael ei chynnwys yn y dystiolaeth. Felly, efallai na fydd yn adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn llawn. Mae Llywodraeth Cymru’n gwbl ymrwymedig i’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Steven Macey
E-bost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Rhif ymchwil cymdeithasol: 68/2021
ISBN digidol: 978-1-80391-056-7

Image
GSR logo