Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad cyffredinol

Roeddwn i'n falch o gael fy mhenodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol gan y Prif Weinidog ym mis Mawrth 2024. Mae diwylliant a threftadaeth yn chwarae rolau hanfodol o safbwynt llunio ein hunaniaeth, cyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol. Gallant hefyd fod yn adnodd pwysig i sbarduno cyfiawnder cymdeithasol. Cydnabyddir bod cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth yn esgor ar ganlyniadau cadarnhaol i unigolion, i gymunedau ac i les cymdeithas yn ehangach. Mae dod â'r meysydd hyn ynghyd mewn un portffolio yn gyfle gwych i fanteisio ar y buddion hyn.

Mae'r argymhellion yn Thema F ynghylch 'Cefnogi Cadw i fod i bawb a chofleidio Cymru fodern drwy ei waith a’i arferion' yn cydnabod y dylai treftadaeth fod yn hygyrch ac yn berthnasol i bawb sy'n byw ac yn ymweld â Chymru beth bynnag fo'u cefndir economaidd-gymdeithasol, hil, crefydd, oedran, rhywioldeb, rhywedd, anabledd neu iechyd.

Hoffai fy rhagflaenydd a oedd â chyfrifoldeb dros Cadw, Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, a minnau ddiolch i holl Aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i gynnal yr adolygiad hwn. Diolch o galon i Roger Lewis am gadeirio'r Grŵp. Rydym yn ddiolchgar am y gwaith ymgysylltu ac ymgynghori gweithredol a gynhaliwyd gan y Grŵp gyda staff Cadw a’i randdeiliaid amrywiol. Mae hyn wedi helpu i lywio'r adroddiad a'r 29 argymhelliad eang.

Mae Cadw wedi cyflawni'n gyson o dda yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda llwyddiannau sylweddol yn y rolau niferus y mae'n eu cyflawni. Roeddem yn falch bod y tîm adolygu wedi cadarnhau hyn yng nghyflwyniad y Cadeirydd gyda'r datganiad, 'mae tîm Cadw i’w longyfarch am gyflawni ei genhadaeth a’i bwrpas yn drawiadol ar draws ei holl feysydd cyfrifoldeb niferus ac amrywiol dros y blynyddoedd diwethaf'. Mae'r rhain yn cynnwys ei rôl yn cefnogi amddiffyn amgylchedd hanesyddol ehangach Cymru, ei rôl fel busnes ymwelwyr o bwys ac wrth warchod a darparu mynediad diogel i'r cyhoedd i 131 o safleoedd hanesyddol sydd dan ei ofal uniongyrchol. Mae'r Adolygiad yn llygad ei le wrth gydnabod 'nid yw ehangder a chymhlethdod gwaith Cadw i’w tanbrisio'. Roedd yn arbennig o braf darllen sylwadau agoriadol y Cadeirydd, "Mae Cadw, heb os, yn sefydliad gwych, sy’n cyflawni’n uchel, sy’n dathlu ac yn atgyfnerthu hunaniaeth Gymreig, wedi’i staffio gan bobl ryfeddol, ac yn haeddiannol mae’n rhywbeth i ni i gyd ei drysori a bod yn falch ohono”.

Mae'r argymhellion yn amrywio o ran cwmpas ac yn cynnwys sawl un sydd â'r bwriad o helpu i egluro rôl Bwrdd Cadw a sut y gellid addasu gweithdrefnau'r Llywodraeth i ganiatáu i Cadw weithredu hyd yn oed yn fwy effeithiol. Mae sawl argymhelliad yn awgrymu sut y gellir ategu'r ffyrdd y mae Cadw yn gweithio gyda'i bartneriaid. Mae eraill yn ystyried sut y gellir gwella rhai o weithgareddau amrywiol Cadw i gynorthwyo ei ddiben craidd.

Mae'r Adroddiad yn nodi rhai argymhellion fel blaenoriaethau, sy’n ddefnyddiol, gan gynnwys rhai y gellid eu rhoi ar waith yn gymharol gyflym, gydag eraill yn cael eu hystyried yn uchelgeisiau mwy gweithredol a thymor hwy. Er fy mod i'n cydnabod mai bwriad yr holl argymhellion yw cynorthwyo a chefnogi rôl Cadw, rwy'n cydnabod bod gan rai oblygiadau ariannol a fyddai'n heriol i'w cyflawni yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni – pwynt a gydnabyddir gan dîm yr Adolygiad.

Mae argymhellion yr adroddiad wedi'u grwpio'n gyfres o 6 thema. Byddaf yn ymateb i'r argymhellion o dan bennawd pob thema. 

Thema A

Creu mwy o ystwythder, hyblygrwydd a deinameg i Cadw drwy ddychwelyd awdurdodau dirprwyedig cytunedig i Uwch Dîm Gweithredol Cadw, gan barhau fel Asiantaeth Fewnol Llywodraeth Cymru. 

Rwy’n cefnogi’r 3 argymhelliad o dan y Thema hon. Mae fy swyddogion yn Cadw wrthi’n dyfeisio amserlen fanwl i weithredu’r argymhellion hynny y mae modd eu datblygu yn y tymor byr. Bydd angen cefnogaeth gan swyddogion mewn Adrannau eraill, yn enwedig gan dimau adnoddau dynol a llywodraethu, wrth ystyried nifer o’r argymhellion megis ailedrych ar ddogfen fframwaith yr Asiantaeth Fewnol. Bydd angen costio’r cynllun hwn yn llawn ac yn fforddiadwy o ystyried y cyd-destun ariannol heriol yr ydym yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd. 

Thema B

Egluro rôl Bwrdd Cadw ac i’r Bwrdd ddatblygu perthynas agosach ac uniongyrchol â’r Dirprwy Weinidog ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, neu gyda’r Gweinidog a’r adran sy’n gyfrifol am Cadw yn y dyfodol.

Rwy’n cytuno â’r 4 argymhelliad mewn egwyddor. Fel yr Ysgrifennydd Cabinet newydd â chyfrifoldeb dros Cadw byddwn yn croesawu perthynas agosach gyda’r Bwrdd ac yn cytuno ei bod yn amserol cynnal adolygiad o’i effeithiolrwydd. Yn yr amser byr ers ei sefydlu, mae rôl y Bwrdd wedi esblygu ac mae Aelodau newydd sydd â safbwyntiau gwahanol wedi cael eu recriwtio. Rwy’n gwerthfawrogi cyngor ac arbenigedd y Bwrdd wrth gefnogi Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau. 

Thema C

Canolbwyntio ar bobl ac addasu prosesau a gweithdrefnau Llywodraeth Cymru lle maent yn ymwneud â Cadw, yn enwedig o ran Adnoddau Dynol, caffael a recriwtio, hyrwyddo a chadw staff. Sicrhau bod y prosesau a’r gweithdrefnau yn briodol i’r gwaith, sgil y staff a’r materion a’r heriau penodol sy’n wynebu Cadw. Yn bwysicaf oll, sicrhau bod camau gweithredu yn cael eu cyflawni mewn modd amserol.

Mae 9 argymhelliad o dan y Thema hon, gan gynnwys 4 nad ydynt yn ymwneud â llywodraethu. Rwy’n ymwybodol nad yw peth o waith Cadw yn cyd-fynd â gwaith traddodiadol y Gwasanaeth Sifil - gan gynnwys rhedeg atyniadau hanesyddol poblogaidd sy’n gwneud cyfraniad pwysig i’r economi ymwelwyr, gyda’r holl swyddogaethau cadwraeth, digwyddiadau a manwerthu cysylltiedig sy’n gorfod digwydd drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ar benwythnosau. Rwy’n cydnabod bod prosesau a gweithdrefnau’r Gwasanaeth Sifil yn gallu edrych fel petaent yn rhwystro ymgymryd â’r gwaith hwn mewn modd effeithlon ac amserol, ac fel petaent yn cyfyngu ar y ffordd hyblyg ac ystwyth y mae angen i Cadw weithredu. Fodd bynnag, mae angen cydbwyso hyn yn erbyn yr egwyddor bod yn rhaid i Cadw ymddwyn yn gyfrifol a gallu dangos gwerth am arian cyhoeddus. Bydd angen i uwch swyddogion Llywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion hyn. Rwy’n ymwybodol bod gweithgarwch ehangach ar y gweill i symleiddio polisïau, prosesau a gweithdrefnau ac mae’n hanfodol ystyried argymhellion yr adroddiad ac anghenion Cadw a’i randdeiliaid yn y gwaith hwnnw. Rwy’n cydnabod yr heriau y mae’r Adroddiad wedi’u nodi a’r ymdrech i roi mwy o hyblygrwydd i Cadw fel y gall fabwysiadu dulliau mwy arloesol. Fodd bynnag, mae’n bwysig cadw egwyddorion y Gwasanaeth Sifil ynghylch cydraddoldeb a phrosesau teg ac agored, wedi’u hategu gan werthoedd Llywodraeth Cymru; creadigrwydd, tegwch, partneriaeth a phroffesiynoldeb.

Dylid cydnabod hefyd y bydd gweithredu nifer o’r argymhellion hyn yn esgor ar oblygiadau ariannol i Cadw, adolygiad o lefelau staffio a graddau er enghraifft. Byddai angen ystyried unrhyw rolau newydd yn ofalus fesul achos a byddai angen iddynt ddangos cysylltiad uniongyrchol â mentrau ‘buddsoddi i dyfu’ neu fentrau ‘buddsoddi i arbed’, er enghraifft, drwy gynhyrchu incwm masnachol ychwanegol neu gyflawni arbedion drwy newid dull gweithredu, neu fod modd dangos eu bod yn hanfodol er mwyn cyflawni cyfrifoldebau statudol. Gyda gostyngiad o 10.5% yng nghyllideb Cadw ar gyfer 2024 i 2025, bydd angen blaenoriaethu i lenwi swyddi hanfodol o fewn y strwythur.

Mewn egwyddor, rwy’n gallu gweld gwerth sefydlu ysgol dreftadaeth a sgiliau cadwraeth yng Nghymru. Fodd bynnag, o ystyried y cyfyngiadau ariannol presennol, nid yw’n debygol y caiff hynny ei gyflawni yn y tymor byr heb gyllid sylweddol gan bartneriaeth allanol. Byddai’n rhaid newid blaenoriaethau presennol parthed adnoddau a chyllid. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd sylweddol o ran gwella’r cymwysterau sydd ar gael ar gyfer sgiliau treftadaeth, gan gynnwys datblygu cyfleoedd hyfforddi. Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â chyrff Addysg Bellach a’r Sector Preifat i ddatblygu’r cymwysterau hyn lle bynnag y gallwn.

Mae Cadw wedi cymryd camau breision i ddatblygu ei gynnig i wirfoddolwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n cytuno, er mwyn denu mwy o wirfoddolwyr, ei bod yn ofynnol hwyluso a symleiddio’r broses recriwtio. Bydd Cadw hefyd yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac eraill i ddysgu mwy am eu profiad o gynnig cyfleoedd gwirfoddoli. Efallai y bydd cyfleoedd i weithio’n agosach gyda sefydliadau gwirfoddoli allanol, er enghraifft drwy gynlluniau ‘mabwysiadu heneb’. Fodd bynnag, mae angen gwneud hyn mewn ymgynghoriad â’r Undebau Llafur ac mewn ffordd systematig a thrylwyr, er mwyn sicrhau nad yw trefniadau iechyd a diogelwch a goblygiadau cyflogaeth yn cael eu cyfaddawdu. 

Thema D

Atgyfnerthu partneriaethau sy’n cefnogi rôl Cadw yn y sector a gwasanaethau treftadaeth ehangach trwy berthnasoedd agosach â sefydliadau diwylliannol, creadigol, hanesyddol ac ymwelwyr ledled Cymru a’r DU.

Rwy’n cytuno bod angen adnewyddu Partneriaeth Cymru Hanesyddol er mwyn annog cydweithio agosach, a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd mewn meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin. Rwy’n ymwybodol bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud yn ddiweddar rhwng partneriaid unigol – er enghraifft rhwng Cadw ac Amgueddfa Cymru wrth ddatblygu cydweledigaeth ar gyfer Caerllion gan weithio ochr yn ochr â’r Awdurdod Lleol. Fodd bynnag, mae angen mwy o enghreifftiau fel hyn, a datblygu trefn o gydweithio ehangach a rhannu adnoddau.

Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf, megis drwy raglen gydweithredol CHERISH. Fodd bynnag, rwy’n cytuno gyda’r adolygiad ei bod yn amserol archwilio’r berthynas rhwng CBHC a Cadw. Sefydliad bach yw CBHC ac, yn debyg i gyrff eraill ar draws y sector, mae’n wynebu heriau ariannol sylweddol, felly mae angen ystyried yn ofalus unrhyw gyfleoedd i rannu adnoddau a llunio rhaglenni gwaith cyffredin. Mae angen i’r ddau sefydliad edrych yn ofalus ar eu swyddogaethau a’u cyfrifoldebau a nodi agweddau cyffredin a gwahanol ffyrdd o gyflawni. Mae angen ystyried pob opsiwn – o greu cysylltiad agosach rhwng rhaglenni gwaith neu eu cyfuno’n llawn – fel sydd wedi digwydd i sefydliadau tebyg yn Lloegr a’r Alban.

Mae’r Adroddiad yn cydnabod bod gan Cadw berthynas gref eisoes ag awdurdodau lleol ledled Cymru, yn enwedig drwy eu gwasanaethau cadwraeth a chynllunio adeiladau. Fodd bynnag, rwy’n cytuno hefyd y gall fod cyfleoedd i weithio’n agosach ar ymchwil, allgymorth ac addysgu’r cyhoedd. Nodaf fod mecanwaith cyfarwydd eisoes ar gyfer dirprwyo pwerau mewn perthynas â chydsyniadau adeiladau rhestredig yn seiliedig ar y sgiliau proffesiynol a geir mewn awdurdodau lleol. Byddai angen i unrhyw gynigion ar gyfer dirprwyo pellach gydnabod y goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer yr holl bartïon dan sylw, a rhoi sicrwydd na fyddai hyn yn peryglu gwarchod a chadw’r amgylchedd hanesyddol.

Nid yw’r argymhelliad terfynol o dan y Thema hon yn ymwneud yn uniongyrchol â llywodraethu ac mae’n nodi y dylai Partneriaeth Cymru Hanesyddol gyd-ddatblygu strategaeth dwristiaeth ddiwylliannol benodol i Gymru. Ar hyn o bryd, mae’r Llywodraeth yn ymgynghori ar Strategaeth Ddiwylliant i Gymru. Bydd hyn yn cwmpasu’r cyfraniad y gall sefydliadau diwylliannol ei wneud i dwristiaeth yng Nghymru. Nid wyf wedi fy argyhoeddi bod angen strategaeth dwristiaeth ddiwylliannol ar wahân ar hyn o bryd.

Thema E

Gwella rhai o weithgareddau eang Cadw i gynorthwyo ei ddiben craidd, gan gynnwys adeiladu ar waith masnachol Cadw fel atyniad a menter fasnachol sylweddol i ymwelwyr, a’i rôl fel ceidwad a hyrwyddwr treftadaeth hanesyddol Cymru.

Mae’r Thema hon yn cynnwys 4 argymhelliad. Mae’r Adroddiad yn cydnabod bod perfformiad masnachol Cadw wedi gwella’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’i berfformiad masnachol a gynhaliwyd 6 blynedd yn ôl. Yn wir, mae Cadw yn parhau i adolygu’r ffordd y mae’n gweithredu gan gynnwys gweithgareddau masnachol, sgiliau staff, lefelau adnoddau a’i berthynas â phartneriaid allanol. Fodd bynnag, mae angen ystyried y dull gweithredu o hyd, gan holi am gyngor allanol lle bo hynny’n briodol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cadw wedi ymdrechu i werthu cynhyrchion Cymreig yn ei siopau, cefnogi a hyrwyddo cwmnïau o Gymru wrth redeg y caffis ar ei safleoedd, a gweithio gyda chwmnïau creadigol o Gymru i ddatblygu a hyrwyddo digwyddiadau ar y safleoedd. Rwy’n ymwybodol bod yn rhaid i hyn ddigwydd yng nghyd-destun rheolau caffael a sicrhau’r gwerth gorau am arian cyhoeddus.

Rwyf wedi fy argyhoeddi lai gan yr argymhelliad i gael mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â chyfathrebu a marchnata. Ar hyn o bryd, mae perthynas waith gadarn a chynhyrchiol rhwng timau y wasg a chyfathrebu Llywodraeth Cymru a Cadw wrth weithio ar bolisi allweddol a chyhoeddiadau Busnes y Gweinidogion a’r Llywodraeth. Mae cynlluniau cyfathrebu a fabwysiadwyd gan Cadw yn cyd-fynd â chyfathrebu a negeseuon ehangach Llywodraeth Cymru megis drwy Croeso Cymru, sero net, lle mae holl faniau Cadw yn rhedeg ar drydan erbyn hyn, a Chynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol. Ochr yn ochr â hyn, mae gan Cadw ryddid a hyblygrwydd sylweddol mewn perthynas â’i weithgareddau masnachol, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata a’r wefan lle mae’n gallu hyrwyddo ei hun a’i henebion. Mae’r trefniadau hyn yn gweithio’n dda ac anaml y bydd unrhyw heriau neu drafferthion yn codi.

Mae’r argymhelliad i archwilio manteision posibl creu corff elusennol hyd braich annibynnol yn apelio. Fodd bynnag, mae hyn wedi cael ei ystyried yn flaenorol, ac fe’i hystyriwyd yn heriol yng nghyd-destun cyfreithiau elusennol. Fodd bynnag, rwy’n cytuno bod gwerth posibl edrych eto i weld a yw’r manteision arfaethedig yn realistig mewn difrif a hefyd i nodi’r manteision a’r anfanteision i gyd.

Nid yw’r argymhelliad terfynol yn yr adran hon yn gysylltiedig â llywodraethu ond mae’n argymell y dylai Cadw adolygu ei raglenni arolwg yn rheolaidd i ailbennu blaenoriaethau. Mae’r Adolygiad yn cydnabod y rôl arweiniol y mae Cadw wedi’i chwarae wrth wella ein dealltwriaeth o’r amgylchedd hanesyddol. Ynghyd â chwblhau llawer o arolygon archaeolegol thematig i hwyluso cofrestru, Cymru yw’r unig wlad yn y DU i gynnal arolwg cenedlaethol cynhwysfawr o adeiladau ym mhob cymuned – yr arolwg ail-restru a gwblhawyd yn 2005. Mae arolygon thematig penodol yn dal i gael eu cynnal, er enghraifft adeiladau a safleoedd archaeolegol yr 20fed Ganrif sy’n gysylltiedig ag arfordiroedd ac afonydd. Fodd bynnag, rwy’n cydnabod ei bod yn hanfodol bod y gwaith hwn yn cynnal momentwm i aros ar y blaen i’r llu o fygythiadau, yn naturiol ac o waith dyn, sy’n wynebu ein hamgylchedd hanesyddol, yn enwedig drwy effeithiau newid hinsawdd. Mae Cadw bob amser wedi gwneud y gwaith hwn mewn partneriaeth ag eraill, ac mae sicrhau rhaglen weithredol o ymchwil a gwarchod yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Thema F

Cefnogi Cadw i fod i bawb a chofleidio Cymru fodern drwy ei waith a’i arferion.

Heb os nac oni bai, mae denu cynulleidfa fwy amrywiol i safleoedd Cadw yn uchelgais, ac yn arbennig i gydnabod y dylai treftadaeth Cymru fod yn hygyrch i bawb, ac adlewyrchu’r gwahanol bobl a diwylliannau sy’n galw eu gwlad yn gartref iddyn nhw. Mae denu gweithlu amrywiol i Cadw yn parhau i fod yn her, er bod datblygiadau o ran gweithgarwch allgymorth a dileu’r rhwystrau i bobl, gan weithio gyda chydweithwyr a phartneriaid sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Mae Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol wedi creu llwyfan i waith arloesol ddigwydd yn y maes hwn, yn enwedig o ran dileu rhwystrau i gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i gyrchu safleoedd treftadaeth a chasgliadau diwylliannol.

Mae cynnydd yn digwydd o ran recriwtio ceidwaid Cymraeg eu hiaith i safleoedd Cadw, ond mae’n parhau i fod yn her i ddenu niferoedd digonol, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar draws holl swyddogaethau Cadw.

Mae Cadw hefyd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn ystod y degawd diwethaf, gwelwyd cynnydd yn y dystiolaeth fod ymgysylltu â threftadaeth, diwylliant, natur a gweithgarwch corfforol yn cefnogi gwell lles meddyliol. Bydd Cadw yn parhau i ymgysylltu â holl Gomisiynwyr Cymru i roi cyhoeddusrwydd i’r cyfraniad cadarnhaol y gall treftadaeth ei wneud i bobl ifanc, pobl hŷn, yr iaith Gymraeg a chenedlaethau’r dyfodol.

Fel y mae’r Adroddiad yn ei gydnabod, mae Cadw wedi cymryd camau breision yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella hygyrchedd i’r safleoedd sydd dan ei ofal, er enghraifft y pontydd mynediad i gestyll Harlech a Chaernarfon ac yn fwy diweddar y lifft sy’n caniatáu mynediad i loriau uchaf Porth y Brenin yng Nghaernarfon. Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud. Bydd archwiliad ac adolygiad o fynediad i safleoedd Cadw ar gyfer pobl anabl yn cael eu cynnal. Ochr yn ochr â chynllun datblygu cynulleidfa a oedd eisoes yn yr arfaeth, bydd hyn yn caniatáu i Cadw wella ei ddulliau o ymgysylltu ag ymwelwyr amrywiol, o bell ac ar y safleoedd. Mae peth o’r deunydd addysgol a ddatblygwyd gan Cadw eisoes yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ond yn amodol ar yr adnoddau sydd ar gael, dylai hynny ddigwydd fel mater o drefn.

Mae aelodaeth Cadw yn hynod bwysig i gynaliadwyedd Cadw, ac erbyn hyn mae ganddo dros 53,000 o aelodau. Mae Cadw yn cydnabod gwerth y cymorth hwn a bydd yn parhau i sicrhau bod aelodaeth yn cynnig gwerth da am arian ac yn parhau i archwilio sut i ddatblygu’r berthynas hon a’i gwella ymhellach.

Casgliad

I gloi, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ddechrau gweithio ar weithredu’r argymhellion y mae modd bwrw ymlaen â nhw  yn y tymor byr, gan ystyried yr amgylchiadau cyllidebol anodd sy’n annhebygol o wella yn y dyfodol agos. Rwy’n ymrwymo i roi diweddariadau i chi ar y cynnydd sy’n cael ei wneud mewn perthynas â hyn.

Hoffwn ddiolch unwaith eto i’r Cadeirydd, Roger Lewis, ac aelodau o’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sy’n cael eu rhestru yn yr adroddiad, am eu gwaith diwyd. Mae’n amlwg o gynnwys yr adroddiad i’r gwaith gael ei gyflawni gan unigolion sy’n  meddu ar arbenigedd gwirioneddol yn y sector treftadaeth yn ei grynswth, a thu hwnt. Bydd yn gynhaliaeth i Cadw wrth i’r corff geisio gwelliannau parhaus i’r dyfodol.