Nod yr ymchwil hwn oedd deall arferion presennol, deall a fyddai yn fuddiol i athrawon a chyflogwyr, ac os felly, pa fodelau gweithredu y dylid eu cynnig a gwneud argymhellion ar gyfer cynllun peilot yn y dyfodol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y canfyddiadau allweddol o’r adolygiad. Cynhaliwyd yr adolygiad o drefniadau cydweithio athrawon a chyflogwyr rhwng misoedd Ebrill a Mehefin 2023.
Un canfyddiad allweddol o’r ymchwil yw bod diddordeb a brwdfrydedd dros drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr ymysg rhanddeiliaid, ysgolion, a chyflogwyr. Mae modelau gweithredu posibl yn cynnwys digwyddiadau ar-lein gyda chyflogwyr, sgyrsiau gan gyflogwyr mewn ysgolion, ymweliadau â gweithleoedd gan athrawon ac ‘externships’ (lleoliadau profiad gwaith allanol) i athrawon. Mae’r adolygiad hwn wedi amlygu amryw o faterion sy’n ymwneud â’r holl fodelau gweithredu a awgrymir ac y dylid eu hystyried wrth ddatblygu cynlluniau peilot trefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr yng Nghymru.
Adroddiadau
Adolygiad o drefniadau cydweithio rhwng athrawon a chyflogwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 965 KB
Cyswllt
Sean Homer
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.