Daeth yr ymgynghoriad i ben 15 Chwefror 2017.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 959 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym eisiau eich barn ar ein cynnig i ddynodi Traeth Glan don yn ddŵr ymdrochi.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
O dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau enwi'u holl ddyfroedd ymdrochi bob blwyddyn lle disgwylir nifer mawr o ymdrochwyr yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai tan 30 Medi). Ar ôl gael ei henwi, bydd y dŵr ymdrochi yn cael profion rheolaidd gan Adnoddau Naturiol Cymru yn ystod y tymor ymdrochi a derbyn dosbarthiad ansawdd dŵr. Mae'r dosbarthiadau yn helpu ymdrochwyr wneud penderfyniadau gwybodus am ble maent yn ymdrochi.
Rydym yn ymgynghori ynglŷn â chynigion i ddynodi Traeth Glan Don yn ddŵr ymdrochi yng Nghymru o dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi (2006/7/EC) ar gyfer tymor ymdrochi 2017.