Daeth yr ymgynghoriad i ben 26 Chwefror 2016.
Crynodeb o’r canlyniad
Yn sgil ystyried yn ofalus yr ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ynghyd â’r wybodaeth a’r dystiolaeth a ddarparwyd bydd Traeth Wledig Aberdyfi bellach yn cael ei dynodi’n ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2016.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 298 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Ymgynghoriad ar ddynodi Traeth Gwledig Aberdyfi, Gwynedd yn ddŵr ymdrochi.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ynglŷn â chynigion i ddynodi Traeth Gwledig Aberdyfi (a elwir yn lleol yn ‘Draeth y Fynwent’) yn ddŵr ymdrochi yng Nghymru o dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi (2006/7/EC) ar gyfer tymor ymdrochi 2016.
O dan y Gyfarwyddeb Dyfroedd Ymdrochi mae'n ofynnol i aelod-wladwriaethau enwi'u holl ddyfroedd ymdrochi bob blwyddyn. Y rheswm dros hynny yw sicrhau bod yr holl ddyfroedd arfordirol a mewndirol a ddefnyddir gan nifer mawr o ymdrochwyr yn ystod y tymor ymdrochi (15 Mai tan 30 Medi) yn rhai sydd wedi'u dynodi.