Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Chwefror 2025.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ynghylch ein cynnig i ddynodi’r Cronfeydd Dŵr Llysfaen a Llanisien, Caerdydd; a Phont Grog Afon Tywi, Llandeilo , yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2025.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru:
- nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru,
- monitro ansawdd eu dŵr a
- rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr ar y safleoedd sydd wedi’u dynodi.
Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.
Un o’r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn adolygu ac yn cyhoeddi’r rhestr o ddyfroedd ymdrochi sydd wedi’u dynodi yng Nghymru.