Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cafodd York Consulting eu comisiynu gan Lywodraeth Cymru i gyflawni adolygiad o arferion a ddefnyddir mewn ysgolion a gynhelir ac unedau disgyblion i rwystro gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol o’r lleoliadau hyn ac i archwilio sut y gellir helpu awdurdodau lleol, ysgolion, plant a’u rhieni/gofalwyr[troednodyn 1] i rwystro gwaharddiadau o ysgolion. 

Amcanion yr ymchwil hwn oedd:

  • archwilio arferion a dulliau a ddefnyddir gan ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion ac y bernir eu bod yn effeithiol ar gyfer:
    • rhwystro gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol o’r lleoliadau hyn
    • cynnal cyswllt a chydweithrediad gyda phlentyn unwaith mae ar waharddiad cyfnod penodol
    • helpu ailintegreiddio plant i addysg brif ffrwd yn dilyn gwaharddiad cyfnod penodol neu barhaol
  • Deall y cymorth sydd ar awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion, rhieni a phlant ei angen i rwystro gwaharddiadau, cynnal cydweithrediad yn dilyn gwaharddiadau cyfnod penodol, a helpu pontio’n ôl i addysg brif ffrwd lle bo plant wedi cael eu gwahardd.
  • Datblygu casgliadau ac argymhellion ar gyfer sut y gall ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion rwystro gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol, yn ogystal â sut y gellir helpu awdurdodau lleol, ysgolion, plant a’u rhieni i rwystro gwaharddiadau, cynnal cyswllt yn dilyn gwaharddiadau cyfnod penodol, a helpu pontio’n ôl i addysg brif ffrwd lle bo plant wedi cael eu gwahardd.
  • Mae dau fath o waharddiad o ysgol: cyfnod penodol a pharhaol. Gwaharddiad cyfnod penodol yw pan gaiff plentyn ei wahardd am gyfnod penodol ac nad yw’n gallu mynychu’r ysgol yn ystod yr amser hwnnw. Yng Nghymru, ni chaiff gwaharddiadau cyfnod penodol fod yn fwy na 45 o dyddiau mewn un flwyddyn ysgol. Gwaharddiad parhaol yw pan na chaniateir i blentyn ddychwelyd i’r ysgol ac y caiff ei enw ei ddileu o gofrestr yr ysgol (yn dilyn cwblhau unrhyw broses apeliadau). Mae canllawiau Llywodraeth Cymru (2019)[troednodyn 2] yn ei gwneud yn glir mai’r cam olaf un yw gwaharddiad parhaol a’i fod yn cydnabod bod pob strategaeth sydd ar gael i helpu’r plentyn i aros yn yr ysgol wedi methu.
  • Mae gwaharddiadau o ysgolion yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ganlyniadau negyddol gan gynnwys iechyd meddwl, llesiant, a chanlyniadau addysgol salach, yn ogystal â chanlyniadau hirdymor niweidiol megis lleihau potensial enillion, cynyddu risg o anawsterau ariannol a diweithdra, a phroblemau iechyd meddwl a chorfforol.

Methodoleg

Cyflawnwyd adolygiad llenyddiaeth rhwng misoedd Ebrill a Medi 2023, gan edrych ar ffynonellau o Gymru, y Deyrnas Unedig a thramor.

Cyflawnwyd y gwaith maes ansoddol ar gyfer yr adolygiad rhwng misoedd Ebrill a Gorffennaf 2023. Roedd yn ymwneud â’r canlynol:

  • cyfweliadau cwmpasu gyda 14 o randdeiliaid ar lefel genedlaethol neu awdurdod lleol
  • arolwg ar-lein (ffurflen fer) o 37 o arweinwyr ysgolion mewn ysgolion cynradd, canol/pob oed ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion
  • cyfanswm o 20 o gyfweliadau gyda staff o awdurdodau lleol, swyddogion cynhwysiant yn bennaf, o 15 o’r 22 o awdurdodau lleol.
  • cyfweliadau gyda 40 o staff mewn 23 o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, gan gynnwys uwch arweinwyr ac ymarferwyr megis cydgysylltwyr anghenion dysgu ychwanegol
  • cyfweliadau gydag 16 o blant (a naw o rieni’r plant hyn) o’r sampl o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion; cafodd y plant hyn eu dewis gan yr ysgolion a’r unedau cyfeirio disgyblion fel rhai a fu mewn risg o waharddiad o’r blaen neu a oedd wedi cael eu gwahardd o’r blaen

Dadansoddwyd data cyfweliadau trwy ddefnyddio fframwaith dadansoddi thematig trwy feddalwedd dadansoddi data ansoddol. Cyflawnwyd dadansoddiad data disgrifiadol ar ddata’r arolwg i archwilio amlder ymatebion.

Canfyddiadau

Mae tri chategori a ddefnyddir ar gyfer cyfraddau gwaharddiadau o ysgolion: gwaharddiadau parhaol, gwaharddiadau cyfnod penodol o 5 diwrnod neu lai, a gwaharddiadau cyfnod penodol dros 5 diwrnod. Ers 2014/15 tan y pandemig coronafeirws (COVID-19), roedd cyfraddau gwaharddiadau parhaol a chyfnod penodol o 5 diwrnod neu lai wedi cynyddu bob blwyddyn. Cynyddodd pob un o’r tri chategori o waharddiadau yn 2021/22 o gymharu â’r hyn oedd cyn y pandemig COVID-19.

Dywedodd cyfranogwyr fod ysgolion yn profi cynnydd mewn ymddygiad heriol gan blant dros y blynyddoedd diwethaf, ar adeg pan fo ysgolion yn adrodd hefyd am gyfyngu ar adnoddau sy’n lleihau’r cymorth y gallant ei gynnig i blant sydd mewn risg o waharddiad. Roedd dulliau ysgolion o ymdrin â gwaharddiadau yn cael eu dylanwadu gan eu perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol a’r cymorth a oedd ar gael ganddynt.

Canfu’r adolygiadau llenyddiaeth nifer o ymyraethau cyffredinol (y rheini a gyflwynir i bob plentyn) ac ymyraethau penodol (y rheini a gyflwynir i blant penodol neu grwpiau penodol o blant) mewn ysgolion, sydd â’r potensial o rwystro gwaharddiadau a gwella canlyniadau perthnasol (ee llesiant, presenoldeb, cyrhaeddiad) i blant, er bod graddau’r dystiolaeth ar gyfer pob arfer yn amrywio ac effeithiolrwydd yn ddibynnol ar weithredu llwyddiannus.

Wrth ystyried cryfder y sail dystiolaeth, arferion adferol a ddilynir gan ddulliau ysgol-gyfan o ymdrin ag ymddygiad oedd y dulliau cyffredinol a oedd â’r sail dystiolaeth bresennol gryfaf i gefnogi eu defnyddio ar gyfer rhwystro gwaharddiadau mewn ysgolion, ac mewn ymyraethau penodol, mentora a oedd yn dangos yr effeithiau cadarnhaol mwyaf cyson.

Caiff y dystiolaeth ar gyfer yr arferion cyffredinol a phenodol hyn eu crynhoi isod (yn y drefn y cawsant eu crybwyll ar sail y gwaith maes ansoddol).

Arferion cyffredinol

Gall arferion sy’n ystyriol o drawma mewn ysgolion, a gefnogir gan uwch arweinwyr a dull cyson drwy’r ysgol gyfan, arwain at ganlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr (ee presenoldeb, cyrhaeddiad academaidd, rheoleiddio emosiynol a hyder), a gwell dealltwriaeth i ymarferwyr o achosion sylfaenol ymddygiad heriol. Dywedodd ymarferwyr y caiff arferion ystyriol o drawma eu defnyddio’n helaeth mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yng Nghymru, ac yn wir mae rhywfaint o ymchwil addawol fod arferion sy’n ystyriol o drawma yn gysylltiedig â lleihau gwaharddiadau, er bod angen ymchwil mwy trylwyr.

Gall ennyn cydweithrediad rhieni wella cynnydd academaidd plant yn enwedig gyda phlant iau, ac roedd tystiolaeth ansicr o ymchwil y gall cydweithrediad rhieni leihau gwaharddiadau, cyn belled â bod rhieni’n teimlo cysylltiad â’r ysgol. Roedd cyfranogwyr staff ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn sôn yn aml am gydweithrediad rhieni yn ystod y gwaith maes, gan bwysleisio rôl hyn wrth adnabod problemau gwaelodol sy’n effeithio ar ymddygiad heriol plentyn. Roedd y llenyddiaeth fodd bynnag yn amlygu ei bod yn bwysig sicrhau bod strategaethau cynnwys rhieni yn cyrraedd pob rhiant er mwyn osgoi’r perygl o gynyddu’r bwlch cyrhaeddiad i blant o gefndiroedd difreintiedig. Yn ogystal, mae rhwystrau cyffredin rhag strategaethau effeithiol i gynnwys rhieni yn cynnwys staff sy’n brin o’r amser neu’r hyder i ymwneud â rhieini, a diffyg hyfforddiant i staff ar sut i ymdrin â sgyrsiau anodd gyda rhieni.

Mae arferion adferol yn dangos addewid o ran gwella diwylliant yr ysgol, presenoldeb, a lleihau gwaharddiadau yn enwedig ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol, ac yn enwedig pan weithredir hyn ar sail ysgol gyfan. Mae ffactorau allweddol sy’n galluogi gweithredu llwyddiannus yn cynnwys mynd ati mewn dull ysgol gyfan, sicrhau ymrwymiad staff, ymroddiad, a hyder i gyflawni. Crybwyllwyd arferion adferol gan gyfranogwyr yn y gwaith maes a oedd yn disgrifio manteision yr arferion o ran meithrin perthynas gadarnhaol rhwng staff a phlant a rhwystro gwaharddiadau ar adegau.

Mae dull ysgol-gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol yn ceisio cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da i blant a phobl ifanc trwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, gyda’r dull yn cael ei amlygu gan gyfathrebu clir gan uwch arweinwyr, pwyslais ar lesiant staff, hyfforddiant i gefnogi llesiant plant, a chynnwys teuluoedd, plant a’r gymuned. Roedd llawer o gyfranogwyr yn disgrifio datblygiad eu dull ysgol-gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol fel dull a allai helpu i rwystro gwaharddiadau, trwy gefnogi anghenion llesiant meddyliol plant. Er y canfuwyd rhywfaint o ymchwil a oedd yn ymwneud yn benodol ag effeithiau dulliau ysgol-gyfan o ymdrin â llesiant emosiynol a llesiant ar ganlyniadau plant, doedd dim tystiolaeth o effaith ar waharddiadau. Fodd bynnag, caiff gwell llesiant emosiynol a meddyliol ei gysylltu â gwell canlyniadau addysgol, gan gynnwys llai o waharddiadau, i blant.

Dull ysgol-gyfan o ymdrin ag ymddygiad yw un lle mae safonau a disgwyliadau ymddygiad da yn treiddio drwy bob agwedd o fywyd ysgol. Gall gweithredu dull ysgol-gyfan, yn enwedig y rheini sy’n hyfforddi athrawon i weithredu’r ymyrraeth ac annog ymddygiad cadarnhaol (ee systemau gwobrwyo), yn hytrach na defnyddio mesurau cosbedigol, helpu i wella ymddygiad a lleihau gwaharddiadau cyfnod penodol. Gellir cyflwyno’r ymyraethau hyn i bawb o’r plant, er bod y dystiolaeth yn dangos mwy o effeithiau o ran gwella ymddygiad pan gânt eu targedu tuag at y rheini sydd mewn risg o ymddygiad heriol a’u haddasu ar eu cyfer. Cafodd disgwyliadau clir, arferion cyson, a hyfforddiant staff eu nodi fel elfennau allweddol o weithredu’n llwyddiannus ddulliau ysgol-gyfan o ymdrin ag ymddygiad. Roedd cyfranogwyr yn crybwyll defnyddio dulliau ysgol-gyfan o gefnogi ymddygiad plant mewn ysgolion yng Nghymru ac yn pwysleisio pwysigrwydd dull cadarnhaol sydd hefyd yn ymatebol i anghenion y plentyn unigol.

Yn ogystal â’r uchod, ystyriodd yr adolygiad llenyddiaeth a’r gwaith maes gymorth pontio hefyd i blant (o’r cyfnod cynradd i uwchradd), ac er bod yr arfer hon yn dangos buddion o ran lleihau gorbryder mewn plant, cyfyngedig oedd y dystiolaeth ei bod yn lleihau gwaharddiadau.

Arferion penodol

Gall grwpiau anogaeth gael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol plant, gyda rhai effeithiau cadarnhaol ar gynnydd academaidd, ac ymysg plant oed addysg gynradd, y potensial o leihau gwaharddiadau o ysgol, ond argymhellir gweithredu hirdymor er mwyn i’r grwpiau fod yn fwy effeithiol. O’r gwaith maes, roedd cyfranogwyr yn nodi amrywiaeth o arferion a darpariaeth sy’n ymwneud â grwpiau anogaeth a ddefnyddid mewn ysgolion i gefnogi’r rheini a oedd mewn risg o gael eu gwahardd, gan gynnwys lleoedd y gallai plant fynd iddynt os oeddent yn teimlo’u bod yn cael eu llethu, yn hytrach na’r grwpiau mwy strwythuredig a amlinellir yn y llenyddiaeth, er y rhoddwyd ychydig enghreifftiau o grwpiau o’r fath.

Defnyddir cwricwlwm wedi’i addasu gyda phlant sy’n ei chael yn anodd mewn gwersi prif ffrwd ac na ellir diwallu eu hanghenion heb wneud newidiadau i’r cwricwlwm prif ffrwd. Rhaid i addasiadau i’r cwricwlwm gael eu gwneud yn unol â’r dyletswyddau a chyfrifoldebau am gwricwlwm cytbwys fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru[troednodyn 3]. Roedd rhywfaint o dystiolaeth ryngwladol y gall cyflwyno cwricwlwm wedi’i addasu ar gyfer anghenion plant wella ymroddiad, ymddygiad, a phresenoldeb plant, ond cyfyngedig yw’r dystiolaeth am leihau gwaharddiadau. Roedd cyfranogwyr yn cyfeirio’n aml at ddefnyddio cwricwla wedi’u haddasu yng Nghymru, gan ei ganfod fel ffordd o ennyn gwell ymateb at addysg.

Mae ymyraethau gan gynorthwywyr llythrennedd emosiynol wedi dangos effeithiau cadarnhaol ar lythrennedd emosiynol, sgiliau cymdeithasol, a chanlyniadau academaidd i blant, yn enwedig mewn plant oed ysgol gynradd, gyda’r potensial o leihau gwaharddiadau o ysgol er bod angen ymchwil mwy trylwyr. Mae gweithredu effeithiol yn gofyn am gyfathrebu clir gyda rhieni a chymorth gan arweinwyr ysgol i ganiatáu amser digonol i’r cynorthwywyr emosiynol a lle penodol i gynllunio a chyflwyno sesiynau. Ni chafodd cynorthwywyr llythrennedd emosiynol eu crybwyll yn aml yn y gwaith maes, er bod rhai cyfranogwyr a awgrymodd botensial yr ymyrraeth i rwystro gwaharddiadau.

Mae symud trwy drefniant yn golygu cynllunio gofalus i drosglwyddo disgybl o un ysgol i un arall a gall fod yn ddewis amgen yn lle gwahardd. Er bod symud drwy drefniant yn rhwystro gwaharddiad parhaol yn y tymor byr, nid yw’r dystiolaeth yn eglur ar gyfer effeithiau hirdymor, gyda thystiolaeth ansicr o fanteision symudiadau drwy drefniant i leihau gwaharddiadau a gwella cyrhaeddiad. Roedd gan gyfranogwyr farn gymysg ynghylch effeithiolrwydd symud drwy drefniant yng Nghymru, er eu bod o’r farn fod symud drwy drefniant yn fwy effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio fel ymyrraeth gynnar law yn llaw â chyfathrebu clir rhwng y rhai sy’n ymwneud â hynny. Mae’n bwysig fod symudiadau drwy drefniant yn cael eu gweithredu’n unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru (2011).

Mae cwnsela yn yr ysgol yn dangos tystiolaeth o effeithiau cadarnhaol ar well iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc ac ar eu cydweithrediad yn yr ysgol, er bod gwerthusiadau mwy trylwyr yn dangos llai o effeithiau ac mae diffyg tystiolaeth gref fod cwnsela yn lleihau cyfraddau gwahardd. Amlygodd y llenyddiaeth mai’r gwasanaethau cwnsela sy’n debygol o fod y rhai mwyaf effeithiol yw’r rheini sydd wedi eu integreiddio o fewn dull ehangach, ysgol-gyfan, o ymdrin â llesiant emosiynol a meddyliol, a gyflwynir gan gwnselwyr o ansawdd uchel yn darparu cymorth wedi’i deilwra o fewn lle penodedig yn yr ysgol, a chyda chefnogaeth rhieni. Ni wnaeth llawer o gyfranogwyr gyfeirio at gwnsela yn yr ysgol fel ymyrraeth i gefnogi’r rheini sydd mewn risg o waharddiad yng Nghymru, er i ganlyniadau cadarnhaol gael eu hadrodd pan drafodwyd hyn.

Mae dulliau therapiwtig[troednodyn 4] megis therapïau celf, ymwybyddiaeth ofalgar, a dysgu cymdeithasol ac emosiynol, wedi dangos effeithiau cadarnhaol ar lesiant meddyliol ac emosiynol plant, ond cyfyngedig yw’r ymchwil i’w heffaith gan nad oedd ymyraethau i leihau gwaharddiadau a dulliau o’r fath yn cael eu crybwyll yn aml gan gyfranogwyr.

Gall gwella sgiliau academaidd olygu ymyraethau sy’n targedu plant unigol sy’n profi heriau gyda’u dysgu academaidd neu lythrennedd. Cyfyngedig yw’r llenyddiaeth sy’n archwilio effeithiolrwydd rhaglenni sgiliau academaidd i leihau’r risg o wahardd. Er bod yr ymchwil yn rhoi tystiolaeth ansicr fod rhaglenni ac iddynt y nod o wella sgiliau academaidd wedi dangos effeithiau cadarnhaol o ran lleihau gwaharddiadau o ysgol a gwella presenoldeb o gefndiroedd difreintiedig a’r rheini sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, nid yw’r dystiolaeth sydd ar gael ond yn cynnwys nifer bach o astudiaethau – rhai mae’r awduron yn nodi na ellir llunio casgliadau cadarn ohonynt. Ni chafodd gwella sgiliau academaidd ei grybwyll yn aml gan gyfranogwyr yn ystod y gwaith maes.

Mae mentora yn cael effaith gadarnhaol ar leihau gwaharddiadau o ysgol, gwella ymrwymiad i waith ysgol, cyrhaeddiad, ymddygiad a lleihau trais. Er na chafodd mentora ei grybwyll yn aml gan gyfranogwyr yn ystod y gwaith maes, roedd rhai cyfranogwyr yn tynnu sylw at y defnydd o fentora mewn ysgolion yng Nghymru, yn enwedig i blant mewn risg o gael eu gwahardd. Mae ymchwil yn amlygu pwysigrwydd cymorth mentor cyson a hirdymor. Yn ogystal, mae angen ystyried yn ofalus pwy yw’r mentor a sut mae’r rhaglen fentora yn dod i ben pan fo perthynas dda wedi cael ei datblygu.

Roedd arferion eraill a adroddwyd gan gyfranogwyr yn y gwaith maes fel rhai a ddefnyddid ar adegau fel dewisiadau amgen yn hytrach na gwaharddiadau yn cynnwys gwaharddiad mewnol (symud o’r ystafell ddosbarth) ac amserlenni â llai o oriau (sy’n golygu myfyrwyr yn mynychu llai o ddosbarthiadau i ddibenion tymor byr, eithriadol).

Cymysg oedd barnau cyfranogwyr ynghylch gwaharddiadau mewnol, gyda rhai yn eu gweld fel cam ataliol, tra bod eraill yn nodi’r defnydd parhaus ohonynt ar gyfer yr un plant a phobl ifanc yn awgrymu mai cyfyngedig oedd eu heffeithiolrwydd o ran gwella canlyniadau. Efallai nad yw dulliau cosbedigol o wahardd mewnol yn mynd i’r afael ag achosion gwraidd ymddygiad sy’n tarfu ar eraill. Roedd cyfranogwyr yn pwysleisio pryderon y gallai’r defnydd o wahardd mewnol fod wedi cynyddu wrth i ysgolion geisio lleihau gwaharddiadau cyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol, ac mae’n bwysig sicrhau bod y defnydd o hyn yn cael ei weithredu mewn ffordd sy’n gefnogol o anghenion y plentyn. Yn yr un modd, dangoswyd defnydd helaeth o amserlenni â llai o oriau, ond canfu ymchwil diweddar yng Nghymru ansicrwydd ynghylch eu diben, gan ysgogi galwadau gan awdurdodau lleol am ganllawiau cliriach ynghylch eu defnyddio.

Arferion i gynnal cyswllt â phlentyn yn ystod gwaharddiad cyfnod penodol

Roedd cyfranogwyr yn nodi amryw o arferion sy’n bwysig i gefnogi dysg plant sydd ar waharddiad cyfnod penodol ac er mwyn eu helpu i gynnal perthynas â’u hysgol. Y farn oedd ei bod yn bwysig i ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion sefydlu perthynas gadarnhaol cyn unrhyw waharddiadau posibl a pharhau deialog drwy gydol gwaharddiad cyfnod penodol. Yn ystod gwaharddiad cyfnod penodol, canfuwyd y gellir hwyluso deialog rhwng plant, eu rhieni, a’r ysgol trwy amrywiol fecanweithiau a chysylltiadau dynodedig, gan gynnwys aelodau o dimau ymddygiad neu fugeiliol ysgolion, anogwyr dysgu, a phenaethiaid blwyddyn ar gyfer cefnogaeth fugeiliol. Roedd arferion eraill gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn cynnwys sicrhau darparu gwaith ysgol, naill ai’n electroneg neu ar bapur, ac y gall plant gael at y gwaith hwn a’i ddeall. Nodwyd hefyd ei bod yn bwysig monitro bod plant yn cwblhau’r gwaith ysgol a ddarparwyd yn llwyddiannus er mwyn cefnogi eu dysgu, er yr adroddwyd bod y monitro hwn yn anghyson.

Arferion i gefnogi ailintegreiddio yn dilyn gwaharddiad cyfnod penodol

Roedd cyfranogwyr yn amlygu amrywiol ffyrdd o helpu ailintegreiddio plant yn dilyn gwaharddiad ac iddo’r nod o helpu’r plentyn i ddeall a derbyn disgwyliadau ymddygiadol, meddwl am eu gweithredoedd, a rhoi’r cymorth angenrheidiol ar gyfer dychweliad llwyddiannus i gymuned yr ysgol. Roedd cyfranogwyr yn amlygu pwysigrwydd cynnal cyfarfodydd ailintegreiddio rhwng y plentyn, ei rieni, a chynrychiolwyr yr ysgol i gytuno ar gynlluniau ymddygiad, gweithredu arferion adferol, trafod y cymorth ychwanegol sydd ei angen, a sefydlu strategaethau hunan-reoli. Fodd bynnag, roedd y graddau mae rheini’n ymwneud â’r broses hon yn amrywio. Roedd rhai rhieni ag agwedd negyddol at gyfarfodydd ailintegreiddio ac yn teimlo nad oedd y cyfarfodydd yn canolbwyntio’n ddigonol ar sut i gefnogi eu plentyn i rwystro gwaharddiadau pellach. Yn ystod ailintegreiddio, roedd cyfranogwyr yn disgrifio pwysigrwydd cynnal deialog rheolaidd gyda’r plentyn a’i deulu a darparu cymorth parhaus i anghenion y plentyn.

Cymorth sydd ei angen i rwystro gwaharddiadau, cynnal cydweithrediad a chefnogi ailintegreiddio’n ôl i addysg brif ffrwd

Roedd cyfranogwyr o awdurdodau lleol, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion, yn ogystal â rhieni a phlant, yn tynnu sylw at amryw fathau o gymorth a allai gyda’i gilydd helpu rhwystro gwaharddiadau, cynnal cydweithrediad yn ystod gwaharddiad cyfnod penodol, a helpu’r plentyn i ailintegreiddio â’r ysgol.

Y ffurf fwyaf cyffredin o gymorth y dywedodd awdurdodau lleol, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion fod arnynt ei angen i rwystro gwaharddiadau oedd cyllid ac adnoddau ychwanegol. Dywedodd awdurdodau lleol y byddai’r cyllid ychwanegol hwn yn eu galluogi i ddiwallu’r galw a chefnogi dull strategol mwy rhagweithiol i gefnogi anghenion plant, tra bod ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn dweud y byddai mwy o gyllid yn eu helpu i weithredu ymyraethau, cyflogi staff, a chyflwyno’r hyfforddiant staff sydd ei angen i ddiwallu anghenion eu plant. Roedd awydd hefyd am ddiweddariadau penodol i ganllawiau Llywodraeth Cymru ar waharddiadau er mwyn rhoi mwy o eglurder ac ymarferoldeb, gan gynnwys enghreifftiau o arferion da, gyda’r diweddariadau hyn yn ystyried heriau o ran capasiti’r ddarpariaeth a’r graddau mae ar gael.

Hoffaistaff awdurdodau lleol gael mwy o gyfleoedd i weithio gydag awdurdodau lleol eraill, ysgolion, ac asiantaethau eraill i rannu’r arferion gorau, a chreu syniadau newydd i rwystro gwaharddiadau a chefnogi ailintegreiddio. Hoffent hefyd weld y canlynol:

  • canllawiau ychwanegol ar roi adborth i ysgolion i’w helpu i weithredu eu harferion
  • ymwneud mewn deialog yn gynharach gydag ysgolion ynghylch plant sydd mewn risg o waharddiadau
  • llywodraethwyr ysgol i gyflawni’r hyfforddiant a ddarperir gan awdurdodau lleol ar waharddiadau
  • amserau aros byrrach am wasanaethau cymorth (ee iechyd a gwasanaethau cymdeithasol)

Roedd cyfranogwyr ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn pwysleisio angen am hyfforddiant staff ar arferion i rwystro gwaharddiadau (ee dulliau adferol), cyfeirio amlycach at gymorth allanol ac eglurder ynghylch sut i gael y cymorth hwn, cynyddu’r gwasanaethau cymorth i deuluoedd sydd ar gael i weithio gyda rhieni a phlant, ac awydd am dempled polisi ymddygiad er mwyn cael mwy o gysondeb rhwng ysgolion a’i gilydd. Dywedodd cyfranogwyr hefyd nad oedd digon o leoedd ar gael mewn ysgolion arbennig i blant sydd angen y ddarpariaeth hon. Golyga hyn fod unedau cyfeirio disgyblion fwyfwy yn cefnogi’r plant hyn, sy’n lleihau eu gallu i gynnig darpariaeth dros dro i blant sydd â’r potensial o ddychwelyd at addysg brif ffrwd mewn ysgol.

Rhieni

Roedd llawer o rieni yn pwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu da a pherthynas gadarnhaol rhwng ysgolion a theuluoedd.

Dywedodd rhieni y byddent hefyd yn hoffi’r canlynol:

  • cyngor wrth ddatblygu eu sgiliau rhianta a deall sut i helpu cefnogi anghenion eu plentyn
  • mwy o eglurder ynghylch diben a statws gwaharddiadau mewnol
  • cael pwynt cyswllt clir â’r ysgol i drafod materion sy’n ymwneud ag anghenion eu plentyn, a allai fod yn ffurf rhif ffôn uniongyrchol â chynorthwyydd llythrennedd emosiynol yr ysgol
  • ysgolion i wirio galluoedd a chysylltedd digidol teuluoedd wrth ddarparu gwaith ysgol i blant

Plant

Dywedodd plant yr hoffent weld:

  • mwy o ddealltwriaeth ymysg staff ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion am y rhesymau dros eu hymddygiad, a chytundeb ar strategaethau isgyfeirio
  • adnabod eu hanghenion yn gynharach, gan ddilyn hyn â chymorth wedi’i deilwra
  • yn ystod gwaharddiadau cyfnod penodol, cyswllt rheolaidd gan yr ysgol i gynnal perthynas a chymorth i sicrhau eu bod yn deall y gwaith a ddarparwyd

Argymhellion

Mae tystiolaeth o’r adolygiad llenyddiaeth a’r gwaith maes ansoddol yn dangos amrywiaeth o ymyraethau mewn ysgolion ac iddynt botensial calonogol i leihau gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol.

Argymhelliad 1

Dylai’r arferion y canfuwyd bod iddynt dystiolaeth o rwystro gwaharddiadau cyfnod penodol neu barhaol gael eu rhannu gydag ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol. Arferion adferol a ddilynir gan ddulliau ysgol-gyfan o ymdrin ag ymddygiad oedd y dulliau cyffredinol ac iddynt y sail dystiolaethau gryfaf ar hyn o bryd i gefnogi eu defnydddio er mwyn rhwystro gwaharddiadau mewn ysgolion; ac o ran ymyraethau penodol, mentora oedd yn dangos yr effeithiau cadarnhaol mwyaf cyson. Bydd hyn yn helpu gosod sail ar gyfer penderfyniadau ynghylch arferion mae ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn penderfynu eu defnyddio. Dylai hyn gynnwys cydnabyddiaeth fod ymarfer effeithiol yn ddibynnol ar weithredu effeithiol a ddylai ystyried cyd-destun unigol yr ysgol.

Soniodd llawer o gyfranogwyr ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol am gydweithio ag asiantaethau eraill i rwystro gwaharddiadau o ysgolion, er bod hefyd lawer o gyfeiriadau at yr angen am well gweithio amlasiantaethol. Roedd cyfranogwyr yn pwysleisio pwysigrwydd dull cydweithredol o ddatblygu cynlluniau cymorth bugeiliol i gefnogi anghenion y plentyn, er bod rhai staff awdurdodau lleol yn disgrifio bod heb fynediad prydlon at gynlluniau cymorth bugeiliol plant.

Argymhelliad 2

Sicrhau bod pob cynllun cymorth bugeiliol yn cael ei lunio gan ddefnyddio dull ymarfer amlasiantaethol sy’n canolbwyntio ar y person, ac yn cael eu rhannu gyda’r awdurdod lleol, i helpu rhwystro gwaharddiadau. Bydd hyn yn sicrhau bod amrywiaeth o leisiau yn arwain datblygiad cynllun cymorth bugeiliol i ymdrin ag anghenion y plentyn a bod yr awdurdod lleol yn derbyn copïau prydlon o’r cynlluniau ar gyfer plant sydd mewn risg o waharddiad.

Adroddwyd gan gyfranogwyr fod gwahardd mewnol (symud o’r ystafell ddosbarth) yn cael ei ddefnyddio weithiau fel dewis arall yn lle gwahardd, a gall y defnydd ohono fod wedi cynyddu. Fodd bynnag, ychydig a wyddir am y graddau mae gwaharddiadau mewnol yn digwydd a sut y cânt eu defnyddio.

Argymhelliad 3

Dylai ysgolion gofnodi achosion lle mae plentyn wedi cael ei wahardd yn fewnol o fewn eu systemau rheoli gwybodaeth. Dylai hyn gynnwys nodi pa weithgaredd mae’r plentyn yn ei gyflawni tra bydd wedi ei wahardd yn fewnol. Bydd y data hwn yn helpu ysgolion i archwilio eu defnydd eu hunain o waharddiadau mewnol ac yn cynnig y potensial i gyfuno data ar draws pob ysgol, os sefydlir ffyrdd cyson o fesur data, a fydd yn cefnogi gwell dealltwriaeth o raddau gwaharddiadau mewnol yng Nghymru, a’r defnydd a wneir ohonynt.

Mae’r dystiolaeth o ddefnydd helaeth o amserlenni â llai o oriau, ynghyd ag amwysedd ynghylch eu diben a’r canlyniadau a fwriedir, yn dangos angen am ddealltwriaeth gliriach ynghylch sut y caiff amserlenni â llai o oriau eu defnyddio gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion.

Argymhelliad 4

Dylai ysgolion gofnodi achosion o lle mae amserlen â llai o oriau wedi cael ei threfnu ar gyfer plentyn o fewn eu systemau rheoli gwybodaeth. Dylai hyn gynnwys nodi pa weithgaredd mae’r plentyn yn ei gyflawni tra bydd ar amserlen â llai o oriau. Bydd y data hwn yn helpu ysgolion i archwilio eu defnydd eu hunain o amserlenni â llai o oriau ac yn cynnig y potensial i gyfuno data ar draws pob ysgol, os sefydlir ffyrdd cyson o fesur data, a fydd yn cefnogi gwell dealltwriaeth o raddau’r defnydd a wneir o amserlenni â llai o oriau yng Nghymru.

Mae tystiolaeth fod staff mewn rhai ysgolion yn ansicr ynghylch y gefnogaeth benodol neu’r grantiau sydd ar gael gan eu hawdurdod lleol neu drwy sefydliadau trydydd sector ar gyfer plant sydd mewn risg o waharddiad a’r rheini sy’n profi gwaharddiad cyfnod penodol neu barhaol.

Argymhelliad 5

Dylai awdurdodau lleol rannu cyfeiriadur gydag ysgolion sy’n rhoi gwybodaeth o’r cymorth (a ddarperir neu a gyllidir gan yr awdurdodau lleol) sydd ar gael i blant sydd mewn risg o waharddiad a’r plant hynny sy’n profi, neu wedi profi, gwaharddiadau cyfnod penodol neu barhaol. Dylai hyn gynnwys manylion cyswllt swyddog perthnasol yr awdurdod lleol, fel y gall ysgolion wneud cyswllt uniongyrchol. Barn staff ysgolion hefyd oedd y byddai’n ddefnyddiol i ysgolion gael gwybodaeth ynghylch cymorth sydd ar gael megis y nifer o leoedd sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau, cymhwysedd, amserau aros ac a yw’r cymorth yn cael ei ariannu.

Datgelodd yr adolygiad llenyddiaeth fod cryfder y dystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd yn amrywio rhwng yr ymyraethau a nodwyd. Roedd rhai astudiaethau trylwyr yn aml yn edrych ar wahardd fel un o lawer o ganlyniadau addysgol, tra bod eraill yn archwilio’r arferion hyn heb ystyried eu heffaith ar waharddiadau.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru annog a/neu gefnogi ymchwil trylwyr a hirdymor sy’n archwilio effaith ymyraethau ar leihau gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol.

Mae’n amlwg o’r ymchwil y gall fod yn anodd iawn i deuluoedd pan fo plentyn mewn risg o waharddiad neu wedi cael ei wahardd. Amlygwyd enghreifftiau o gymorth effeithiol i deuluoedd (ee swyddogion cynnwys teuluoedd, gwasanaethau gwybodaeth i deuluoedd) yn ystod yr ymchwil ac roedd y rhain yn cael eu croesawu’n gyffredinol gan deuluoedd. Roedd pwysigrwydd cynnwys teuluoedd cyn, yn ystod ac ar ôl gwaharddiad cyfnod penodol yn amlwg drwy’r ymchwil hwn.

Argymhelliad 7

Sicrhau bod awdurdodau lleol, ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn ymwybodol o wasanaethau cymorth i rieni neu deuluoedd (a ddarperir gan ysgol, uned cyfeirio disgyblion, awdurdod lleol neu wasanaethau allanol), a’u bod yn eu darparu neu’n cyfeirio rhieni a phlant atynt.

Dangosodd yr adolygiad llenyddiaeth fod effeithiolrwydd gweithredu ymyrraeth i rwystro gwaharddiadau mewn ysgol yn ddibynnol yn aml ar allu a chapasiti ymarferwyr ysgol i weithredu neu helpu i weithredu’r ymyrraeth. Mae’n hanfodol felly ystyried rôl staff ysgol wrth weithredu ymyraethau cyffredinol a phenodol mewn ysgolion, gan gynnwys eu hanghenion hyfforddiant er mwyn sicrhau gweithredu cyson ac effeithiol drwy’r ysgol gyfan. Ar hyn o bryd, cymysg yw graddau a chynnwys hyfforddiant mewn ymyraethau i rwystro gwaharddiadau, gydag amser a chyllid y prif rwystrau.

Argymhelliad 8

Dylai ysgolion ystyried rôl staff ysgolion wrth weithredu ymyraethau i rwystro gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol a sicrhau eu bod yn cael yr hyfforddiant gofynnol i fod yn abl a hyderus wrth gyflwyno ymyraethau’n effeithiol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i blant. Gallai un agwedd o hyn olygu mwy o ddefnydd o arbenigedd staff unedau cyfeirio disgyblion i ddatblygu cymunedau ymarfer lleol. Bydd angen asesiad o’r cymorth a fyddai ei angen gan unedau cyfeirio disgyblion i weithredu hyn.

Gallai lleihau’r anawsterau a’r oedi a wynebir gan ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion wrth gaffael arbenigedd helpu i rwystro gwaharddiad i’r plant hynny y canfyddir eu bod mewn risg a lleihau’r tebygolrwydd o waharddiad parhaol i’r rheini sydd wedi eu gwahardd am gyfnod penodol.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau, gan gynnwys iechyd, i hyrwyddo mynediad at gymorth prydlon, cydgysylltiedig i blant sydd mewn risg o waharddiad a’r rheini sydd wedi profi gwaharddiad.

Gallai gwella dysgu proffesiynol, rhannu arferion da a datblygu deialog rhwng ysgolion, helpu i rwystro gwaharddiadau. Mae nifer o ffyrdd y gellid cyflawni hyn. Er enghraifft, trwy grwpiau clwstwr a drefnir ar lefel awdurdod lleol neu trwy rôl consortia addysg ar draws gwahanol ranbarthau Cymru. Roedd rhai cyfranogwyr ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion yn disgrifio’r angen am gynhadledd genedlaethol ar reoli ymddygiad i roi sylw i’r mater ledled Cymru, gan eu bod yn teimlo nad oedd yn cael yr amlygrwydd angenrheidiol.

Argymhelliad 10

Cefnogi ffyrdd o nodi a rhannu arferion effeithiol sy’n ymwneud â rhwystro gwaharddiadau. Gallai hyn gynnwys rhannu gwybodaeth trwy Hwb, consortia addysg, cynadleddau a chymunedau ymarfer.

Hoffai staff awdurdodau lleol gael mwy o gyfleoedd i rannu arferion a dysgu oddi wrth ei gilydd i drafod y ffordd orau o helpu ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i rwystro gwaharddiadau, cynnal ymrwymiad a chefnogi ailintegreiddio’n ôl i addysg brif ffrwd.

Argymhelliad 11

Dylai awdurdodau lleol sicrhau bod eu staff yn cael cyfle i ddatblygu’n broffesiynol i roi cefnogaeth ddigonol i ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion i rwystro gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol. Gallai hyn gynnwys rhannu arferion trwy gymunedau ymarfer.

Troednodiadau

[1] Llywodraeth Cymru. (2019) Gwahardd o ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

[2] Drwy gydol gweddill y crynodeb hwn, bydd y term ‘rhieni’ yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at rieni a gofalwyr.

[3]Llywodraeth Cymru. (2021). Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

[4] Mae’r rhain ar wahân i’r rheini a grybwyllwyd mewn lleoedd eraill yn yr adroddiad fel arferion ystyriol o drawma a grwpiau anogaeth.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Philip Wilson, Tim Allan, Beth Whistance, Mark Beynon, Martha Julings, Hannah Russell

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Ebost: ymchwilysgolion@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 13/2024
ISBN digidol 978-1-83577-545-5

Image
GSR logo