Adolygiad o Angen Blaenoriaethol yng Nghymru: crynodeb
Mae’r adroddiad yn adolygu’r dystiolaeth ynghylch y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru. Mae’n cynnwys ymchwil â rhanddeiliaid i archwilio opsiynau posibl ar gyfer y dyfdol a’r gwersi a ddysgwyd o’r Alban.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Nodau a methodoleg yr ymchwil
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, cafodd arwyddocâd y prawf Angen Blaenoriaethol mewn deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru ei leihau’n sylweddol. Fodd bynnag, ni chaiff digartrefedd lleiafrif sylweddol o aelwydydd ei liniaru’n llwyddiannus ac yn yr achosion hyn mae’r prawf Angen Blaenoriaethol yn parhau i chwarae rôl allweddol o ran penderfynu pa aelwydydd y mae’n rhaid eu cartrefu. Yn 2018/19 penderfynwyd bod bron 1,700 o aelwydydd yn ddigartref ond heb fod mewn Angen Blaenoriaethol (Llywodraeth Cymru, 2019) ac felly nad oedd dyletswydd i ddarparu llety ar eu cyfer.
O ystyried y cyd-destun, comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Caerdydd, Alma Economics, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Glyndwr, Prifysgol Heriot-Watt a’r ymgynghorwyr annibynnol Tamsin Stirling a Tim Gray, i gynnal astudiaeth o’r opsiynau posibl yn y dyfodol ar gyfer y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru. Ni ofynnwyd i’r tîm ymchwil gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru – gorchwyl yr astudiaeth yw rhoi sylfaen dystiolaeth a all fod yn sail i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau hyddysg ynghylch y prawf Angen Blaenoriaethol posibl yn y dyfodol yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng mis Ebrill a mis Hydref 2019 ac mae iddi bum prif amcan:
- Meithrin dealltwriaeth glir o’r ffordd y gweithredir y prawf Angen Blaenoriaethol mewn deddfwriaeth gyfoes yng Nghymru.
- Defnyddio’r hyn a ddysgwyd o ddiddymu Angen Blaenoriaethol yn yr Alban.
- Nodi opsiynau ar gyfer newid, mewn perthynas â diddymu Angen Blaenoriaethol neu ymestyn categorïau o Angen Blaenoriaethol.
- Ystyried materion allweddol yn y prosesau gweithredu sy'n gysylltiedig â newidiadau posibl i Angen Blaenoriaethol
- Ystyried yr amrywiaeth eang o effeithiau posibl unrhyw newidiadau i’r prawf Angen Blaenoriaethol.
Dylid nodi i’r ymchwil hon gael ei chyflawni cyn pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau symud cysylltiedig. Felly, nid yw’r dadansoddiad yn ystyried newidiadau canlyniadol i bolisïau digartrefedd nac ymyriadau, na’r effaith economaidd bosibl.
Gwnaed y gwaith ymchwil mewn pum cam, a defnyddiwyd nifer o ddulliau ansoddol a meintiol. Gellir gweld y fethodoleg fanwl yn yr adroddiad llawn.
Cam un
Nod Cam un oedd ystyried y ffordd y mae’r prawf Angen Blaenoriaethol yn cael ei roi ar waith yng Nghymru ar hyn o bryd a nodi opsiynau ar gyfer newid. Roedd y cam hwn yn cynnwys gweithdai gyda rhanddeiliaid yn y sector yn y gogledd (30 o gyfranogwyr) a’r de (50 o gyfranogwyr). Roedd y rhanddeiliaid yn cynrychioli amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys y rhai sy’n cynrychioli is-grwpiau gwahanol o’r boblogaeth ddigartref (e.e. oedran, math o aelwyd, rhyw, ethnigrwydd).
- Academyddion
- Sefydliad Siartredig Tai Cymru
- CAIS
- Tai Cymunedol Cymru
- Menter Gydweithredol Gofal Cymunedol
- Crisis.
- Cymorth Cymru
- Llamau
- Rheolwyr a staff rheng flaen Opsiynau Tai Awdurdodau Lleol
- Y Rhwydwaith Digartrefedd Awdurdodau Lleol a’r Rhwydwaith Cefnogi Pobl
- Prison Link Cymru
- Y Gwasanaeth Prawf
- Rough Sleepers Cymru
- Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
- Shelter Cymru
- Tai Pawb
- The Wallich
- Lleisiau Mewn Gofal.
- Cymorth i Ferched Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Roedd Cam un hefyd yn cynnwys dau weithdy gyda phobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd, un a hwyluswyd gan Shelter Cymru (5 cyfranogwr) a’r llall gan Llamau (2 gyfranogwr).
Cam dau
Roedd dwy elfen i Gam dau. Yn gyntaf, cafodd rhanddeiliaid dethol gyfle i fynegi eu barn drwy gyfweliadau manwl unigol. Nod y cyfweliadau oedd ceisio barn rhanddeiliaid ar bob un o’r amcanion/cwestiynau ymchwil. Cyfwelwyd cyfanswm o 55 o bobl: 19 o awdurdodau lleol, 16 o’r sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac 20 o bob rhan o’r trydydd sector a sefydliadau corff mantell.
Nod yr ail elfen oedd ceisio dysgu gwersi o ddiddymu Angen Blaenoriaethol yn yr Alban. Defnyddiodd yr adolygiad o’r Alban dair prif ffynhonnell.
- Tystiolaeth sy’n bodoli eisoes (a gasglwyd drwy adolygiad pen bwrdd byr o’r dystiolaeth).
- Dadansoddiad meintiol o ddata statudol perthnasol (HL1, HL2 a data ARC Rheoleiddiwr Tai’r Alban).
- Chyfres o gyfweliadau ac ‘Aduniad Polisi’ gyda rhanddeiliaid allweddol.
Mae aduniadau polisi yn dwyn ynghyd randdeiliaid allweddol a oedd yn ymwneud â datblygu polisi – yn yr achos hwn Deddf Digartrefedd Etc. (Yr Alban) 2003. Roedd y gwaith maes ansoddol hwn yn cynnwys 11 o randdeiliaid allweddol a oedd yn ymwneud â dileu’r prawf Angen Blaenoriaethol yn raddol mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Cafodd rhanddeiliaid eu dewis yn fwriadus i gynnwys y rhai dan sylw drwy eu huwch rolau yn y sector digartrefedd statudol cenedlaethol (3), timau digartrefedd awdurdodau lleol (3), sefydliadau digartrefedd yn y sector gwirfoddol (3) a Chymdeithasau Tai (2).
Cam tri
Roedd Cam tri yn cynnwys dychwelyd at randdeiliaid yn y sector digartrefedd yng Nghymru drwy ddau weithdy – unwaith eto un yn y gogledd (25 o gyfranogwyr) a’r llall yn y de (45 o gyfranogwyr). Gwnaed pob ymdrech i ailrecriwtio’r rhai a fu’n bresennol yn y gweithdai yn ystod Cam un, ond croesawyd hefyd gyfranogiad unigolion nad oeddent wedi cymryd rhan yn flaenorol. Yn y pen draw, cynrychiolwyd yr un sefydliadau yng ngweithdai Cam un a Cham tri. Roedd i’r gweithdai hyn ddau nod:
- dilysu’r opsiynau posibl yn y dyfodol
- ystyried yn fanwl yr heriau sy’n gysylltiedig â gwahanol opsiynau
Cam pedwar
Nod Cam pedwar oedd modelu effeithiau tebygol gwahanol opsiynau posibl ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol. Dechreuodd Cam pedwar drwy ddadansoddiad interim o ddata ansoddol ar effeithiau newidiadau a ddisgwylir, a gasglwyd yn ystod tri cham cyntaf yr astudiaeth. Rhoddodd y data ansoddol hyn arweiniad clir ar y meysydd yr effeithir arnynt a maint yr effaith a ragwelir. Wedyn, roedd Cam Pedwar yn cynnwys tri phrif ddull. Yn gyntaf, adolygiad desg o ddata meintiol cyhoeddedig a oedd yn ymwneud ag Angen Blaenoriaethol yng Nghymru (StatsCymru yn bennaf). Yn ail, cynhaliwyd arolwg o ddata rhanddeiliaid awdurdodau lleol ar-lein a’i nod oedd llenwi bylchau allweddol yn data StatsCymru. Dosbarthwyd yr arolwg i bob un o’r 22 o awdurdodau lleol ac ymatebodd 14 ohonynt. Yn drydydd, cynhaliwyd ymarfer modelu data effaith. Yn fras, ceisiodd yr ymarfer modelu effaith fodelu effeithiau pob un o’r prif opsiynau posibl yn y dyfodol ar gyfer y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru.
Cam pump
Roedd Cam pump yn cynnwys dadansoddi a chofnodi data. Nodir technegau dadansoddi data meintiol sy’n ymwneud â modelu effaith yn yr adroddiad llawn. Cafodd data ansoddol (trawsgrifiadau o gyfweliadau a gweithdai gyda’r sector) eu mewnforio i NVivo a’u dadansoddi yn ôl thema. O ystyried y cyfuniad o ddata o gyfweliadau unigol a gweithdai i randdeiliaid, nid oes modd mesur yn union y brif farn ar bob mater. Yn hytrach, mae’r ymchwil yn mabwysiadu set gyffredin o dermau i nodi, lle y bo modd a lle y bo hynny’n berthnasol, beth yw’r brif farn:
- mae ‘mwyafrif’ yn cyfeirio’n fras at fwy na hanner y cyfranogwyr yn yr ymchwil
- mae ‘llawer’’ yn cyfeirio’n fras at hanner y cyfranogwyr yn yr ymchwil
- mae ‘rhai’ yn cyfeirio at lai na hanner ond mwy na phum cyfranogwr
- mae ‘nifer fach’ yn cyfeirio’n fras at lai na phum cyfranogwr
2. Prif ganfyddiadau
Safbwyntiau ar Angen Blaenoriaethol yng Nghymru heddiw
Daeth pum thema sy’n ymwneud â chryfderau a gwendidau’r prawf Angen Blaenoriaethol presennol i’r amlwg yn ystod yr astudiaeth:
- eithrio a blaenoriaethu
- anghysondeb
- trawma
- adnoddau a biwrocratiaeth
- chanlyniadau i aelwydydd mewn Angen Blaenoriaethol.
Hefyd, mynegwyd safbwyntiau penodol ar y prawf cysylltiad lleol a’r prawf bwriad a gynhelir ar y cyd â’r prawf Angen Blaenoriaethol.
Yn ôl y mwyafrif o’r cyfranogwyr, prif wendid y prawf Angen Blaenoriaethol yw ei fod yn troi rhai pobl ddigartref i ffwrdd, heb unrhyw ateb terfynol – sef sefyllfa a ddisgrifiwyd fel un anghyfiawn ac anfoesol. At hynny, nodwyd bod y prawf yn cael ei ddefnyddio’n anffurfiol weithiau i borthgadw drwy atal aelwydydd nad oeddent mewn Angen Blaenoriaethol rhag cael cymorth. Fodd bynnag, o fewn y cyfyngiadau presennol ar adnoddau, ystyriwyd bod angen rhyw fath o ddogni a blaenoriaethu ac roedd y mwyafrif o’r farn bod y prawf Angen Blaenoriaethol yn targedu llawer o grwpiau sy’n agored i niwed ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch iddynt (e.e. pobl ifanc 16-17 oed, teuluoedd â phlant dibynnol, pobl sy’n wynebu cam-drin domestig). Ac eto, oherwydd gwendidau canfyddedig y prawf Angen Blaenoriaethol presennol, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr am weld rhyw fath o newid, er enghraifft ehangu grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol.
Roedd cyfranogwyr yn dadlau mai un gwendid mawr oedd y defnydd o drothwy cymharol uchel ar gyfer bod yn agored i niwed, er gwaethaf y gofynion cyfyngedig o ran tystiolaeth a bennwyd gan y prawf rheswm dros gredu. Nodwyd bod hyn yn arwain at eithrio pobl sy’n agored i niwed megis pobl sy’n cysgu allan rhag cael llety interim a chymorth. Mewn gwrthgyferbyniad, roedd rhai awdurdodau lleol yn teimlo bod trothwy’r rheswm dros gredu wedi’i bennu’n rhy isel a bod hynny’n arwain at roi darpariaeth llety dros dro dan bwysau. Roedd cyfranogwyr hefyd yn beirniadu’r prawf agored i niwed am ei fod yn annog pobl i fynd yn fwy agored i niwed er mwyn cael statws Angen Blaenoriaethol. Yn bwysig ddigon, nododd yr ymchwil sylwadau ynghylch rhai awdurdodau lleol a oedd yn gweithredu’n ‘ddall i Angen Blaenoriaethol’ ar y cyfan.
Daeth bron pob un o’r cyfranogwyr i’r casgliad bod y prawf Angen Blaenoriaethol yn cael ei weithredu’n anghyson, yn enwedig wrth ddefnyddio’r prawf agored i niwed, lle yr ymddengys fod gweithwyr rheng flaen yn allweddol o ran pwy sy’n cael cymorth a sut. Mae’n werth nodi i rai cyfranogwyr dynnu sylw at bwysigrwydd eiriolwyr wrth lunio penderfyniadau a chanlyniadau i aelwydydd. Er gwaethaf y neges glir o ran anghysondeb wrth weithredu, nododd cyfranogwyr sut y byddai’r sefyllfa yn waeth yn y cyd-destun presennol lle mae cyfyngiadau ar adnoddau pe na bai prawf Angen Blaenoriaethol. Esboniodd rhai cyfranogwyr, ac eithrio’r prawf agored i niwed, fod llawer o grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol (e.e. aelwydydd â phlant) wedi’u diffinio’n dda a bod hyn yn helpu i osgoi system lle roedd penderfyniadau yn gwbl oddrychol. Yn olaf, cydnabuwyd bod enghreifftiau o awdurdodau lleol yn cydweithio er mwyn ceisio sicrhau mwy o gysondeb, er enghraifft drwy fforwm rhanbarthol Gogledd Cymru.
Cyfeiriodd llawer o gyfranogwyr at effeithiau trawmatig y prawf Angen Blaenoriaethol ar bobl ddigartref a staff rheng flaen fel un o’i brif wendidau. Nodwyd bod y prawf agored i niwed yn drawmatig i unigolion am fod yn rhaid iddynt brofi eu bod yn agored i niwed a honnwyd ei fod yn peri trawma mechnïol i staff pan oedd angen iddynt roi terfyn ar ddyletswydd i gartrefu heb ddod o hyd i ateb.
Un o wendidau canfyddedig eraill y prawf Angen Blaenoriaethol oedd y ffocws ar broses a phennu hawliau, yn hytrach nag anghenion yr unigolyn. Ystyriwyd bod y broses o bennu hawliau a herio penderfyniadau yn mynd â llawer o adnoddau mewn perthynas â phrofi bod aelwydydd yn agored i niwed. Nodwyd hefyd fod y broses hon yn rhoi gormod o bwyslais ar faterion meddygol a bod ganddi ddisgwyliadau afresymol o ran sgiliau a galluoedd staff gwasanaethau digartrefedd rheng flaen.
Er mai cymysg oedd y farn ar y canlyniadau i aelwydydd mewn Angen Blaenoriaethol, roedd cytundeb cyffredinol bod y canlyniadau yn well na chanlyniadau aelwydydd nad oeddent mewn Angen Blaenoriaethol, gydag aelwydydd yn aml yn cael eu cartrefu drwy denantiaeth sicr gan Landlord Cymdeithasol Cofrestredig, a oedd yn ganlyniad cadarnhaol. Fodd bynnag, roedd rhai cyfranogwyr o’r farn y gallai canlyniadau tai fod yn anghynaliadwy oherwydd lleoliad tai i ffwrdd oddi wrth rwydweithiau cymorth cadarnhaol a’r ffaith nad oedd cymorth tenantiaeth ar gael yn aml – yn enwedig os oedd yr aelwyd wedi’i chartrefu yn y sector rhentu preifat. Un diffyg a nodwyd yn aml iawn oedd y ddibyniaeth ar lety interim a llety dros dro anaddas, y nodwyd ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml am gyfnodau hir o amser. Nodwyd hefyd fod y sail dystiolaeth bresennol ar gyfer canlyniadau i aelwydydd digartref yn cyfyngu ar y gallu i ddod i gasgliadau pendant.
Er bod rhai cyfranogwyr o blaid cadw prawf cysylltiad lleol, roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr yn beirniadu’r arfer gyfredol ac roedd rhai o blaid dileu’r prawf yn y ddeddfwriaeth. Roedd pryderon ynghylch polisïau ar gysylltiad lleol yn ymwneud â phorthgadw lle roedd aelwydydd yn cael eu hanfon i ffwrdd cyn cael unrhyw gymorth ystyrlon, a thrwy ddulliau eraill, megis polisïau ar ddyrannu tai, cronfeydd atal a chynlluniau ernes. Mewn ymateb, dadleuodd rhai cyfranogwyr o blaid polisïau sy’n caniatáu ac yn cefnogi mwy o symud rhwng awdurdodau. Gwnaeth rhai cyfranogwyr sylwadau hefyd ar heriau penodol sy’n ymwneud â pholisïau ailgysylltu a lleoli pobl y tu allan i’r ardal dros dro.
Cymharol brin oedd y sylwadau a wnaed ynghylch y prawf bwriad sy’n adlewyrchu, o bosibl, y sylw a wnaed gan rai cyfranogwyr nad oedd y prawf yn cael ei ddefnyddio’n aml a bod y defnydd ohono yn debygol o gynyddu ar ôl i ddarpariaethau yn Neddf Tai (Cymru) 2014, sy’n ymwneud â bwriadoldeb ac aelwydydd â phlant, ddechrau’n ddiweddar. Fodd bynnag, disgrifiodd dau gyfranogwr y prawf fel adnodd defnyddiol a oedd yn cael ei ddefnyddio fel bygythiad er mwyn annog pobl i ymgysylltu â gwasanaethau. Cynigiodd un cyfranogwr y dylid dileu’r prawf bwriad am ei fod yn mynd yn groes i ddull gweithredu a lywir gan drawma.
Diddymu Angen Blaenoriaethol yn yr Alban
Y prif gymhellion dros raddol ddileu’r prawf Angen Blaenoriaethol yn yr Alban oedd ‘gwneud rhywbeth gwahanol’ i fynd i’r afael â digartrefedd yn sgil methiannau canfyddedig Llywodraeth y DU yn y maes hwn a phwerau newydd yr Alban fel gwlad ddatganoledig, ac unioni’r hyn yr ystyriwyd ei fod yn gamwedd hanesyddol a oedd yn eithrio pobl sengl, heb reswm da, rhag cael y cymorth roedd ei angen arnynt.
Roedd consensws cryf o blaid y diwygiadau yn genedlaethol ymhlith arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr y sector digartrefedd. Yn lleol, mwy cymysg fu’r farn, gyda’r pryderon a leisiwyd yn ymwneud yn bennaf â’r heriau ymarferol a oedd yn gysylltiedig â graddol ddileu’r prawf Angen Blaenoriaethol, ond a oedd hefyd yn adlewyrchu, i raddau llai, wrthwynebiad mwy sylfaenol i’r cynigion. Diffiniwyd y dull gweithredu a fabwysiadwyd er mwyn graddol ddileu’r prawf gan ddwy nodwedd allweddol, sef: y cyfnod hir ar gyfer graddol ddileu’r prawf a’r disgresiwn a roddwyd i ardaloedd lleol o ran sut y byddai’r prawf yn cael ei raddol ddileu. Mabwysiadwyd y dull hwn o weithredu yn bennaf er mwyn lleihau’r gwrthwynebiad a helpu i roi’r broses o raddol ddileu’r prawf ar waith yn lleol.
Nodwyd bod arweinyddiaeth, adnoddau a’r penderfyniad i gyflwyno dull ataliol Opsiynau Tai yn ffactorau galluogi allweddol ar gyfer cyflawni targed 2012. Er i’r methiant i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy gael ei nodi fel rhwystr, yn y pen draw nid amharodd hyn ar allu awdurdodau lleol i roi’r broses o raddol ddileu’r prawf ar waith.
Effaith gyntaf diddymu Angen Blaenoriaethol yn yr Alban yw’r effaith ar nifer yr aelwydydd y mae dyletswydd lawn (derbyn digartrefedd) yn ddyledus iddynt. Cyrhaeddodd hyn y lefel uchaf, sef ychydig dros 37,000 o aelwydydd, yn 2009/10 o lefel gychwynnol o 28,000 yn 2002-03, ond erbyn 2012-13, roedd y nifer wedi lleihau i tua 29,000 o aelwydydd, yn bennaf o ganlyniad i Opsiynau Tai. O ran canlyniadau tai, cynyddodd canran yr aelwydydd a oedd yn sicrhau llety sefydlog o ddim ond 48% yn 2002/03 i 70% yn 2018/19.
Er nad yw effeithiau graddol ddileu’r prawf wedi’u gwerthuso’n ffurfiol, mae’r dystiolaeth sydd ar gael a barn arbenigwyr yn glir ei fod wedi cael effaith gadarnhaol ar yr aelwydydd digartref sengl y rhoddodd y newid hawliau iddynt, yn enwedig drwy sicrhau eu bod yn gallu cael llety dros dro a sefydlog pan mai ychydig iawn o gymorth roedd ganddynt hawl i’w gael yn flaenorol. Ceir hefyd ryw awgrym o effeithiau cadarnhaol ar dimau staff a diwylliant gwasanaethu awdurdodau lleol hefyd.
Fodd bynnag, cafodd y broses o raddol ddileu’r prawf effeithiau anfwriadol a llai dymunol, sef cynnydd sylweddol iawn yn y defnydd o lety dros dro (a dreblodd rhwng 2002 a 2011), gan gynnwys mathau wedi’u crynhoi llai dymunol o lety dros dro, a chynnydd yng nghyfran y gosodiadau tai cymdeithasol a dyrannwyd i aelwydydd digartref (a oedd yn amrywio’n eang rhwng awdurdodau lleol, o lai nag 20% i 60%).
Nodwyd tri phrif wendid sy’n gysylltiedig â system bresennol yr Alban ar ôl i’r prawf gael ei ddiddymu yma, sef: dibyniaeth fawr ar lety dros dro, angen i wella gwasanaethau i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n ddigartref ac sydd ag anghenion cymhleth eraill yn sylweddol, a methiant i gyflwyno polisi ac arferion atal digartrefedd digonol a digon cadarn. Er y gellir priodoli’r defnydd helaeth o lety dros dro i raddau helaeth i’r penderfyniad i raddol ddileu’r prawf Angen Blaenoriaethol, mae cryn obaith y bydd gwell mesurau atal ac ymateb ailgartrefu’n gyflym yn gallu mynd i’r afael â hyn yn y dyfodol. Gallai rhoi pwyslais ar y rhain ar yr un pryd ag yr oedd y prawf Angen Blaenoriaethol yn cael ei raddol ddileu fod wedi lleihau effaith y diwygiadau ar y defnydd o lety dros dro. Nodir yn glir bod y bwlch o ran ymatebion effeithiol ar gyfer y rhai ag anghenion cymhleth yn broblem na fwriadwyd i’r diwygiadau a oedd yn gysylltiedig â’r prawf Angen Blaenoriaethol fynd i’r afael â hi, ac na allent fynd i’r afael â hi, ac mae cyfres o fesurau bellach yn cael eu cyflwyno i ateb yr her hon.
Er gwaethaf yr heriau a ddogfennir yma, mae’n werth pwysleisio, fwy na saith mlynedd ar ôl i’r prawf gael ei ddiddymu’n llwyr, fod cyfranogwyr o bob rhan o’r sector gwirfoddol ac o lywodraeth genedlaethol, awdurdodau lleol a’r sector tai cymdeithasol o’r farn mai’r penderfyniad i raddol ddileu’r prawf oedd yr un cywir mewn egwyddor a’i fod wedi cael effeithiau cadarnhaol ar gyfer aelwydydd digartref sengl.
Mae hefyd yn amlwg, er bod y broses o raddol ddileu’r prawf wedi cael effeithiau mwy heriol – sef cynyddu’r galw am lety dros dro a’r gyfran o lety tai cymdeithasol ar osod a dyrennir i aelwydydd digartref – nad yw’r rhain wedi tanseilio barn gadarnhaol y cyfranogwyr ynglŷn â diddymu Angen Blaenoriaethol. Cydnabyddir hefyd y gellid bod wedi lleihau’r effeithiau ar lety dros dro a welwyd yn ystod y broses o raddol ddileu’r prawf drwy fesurau atal mwy effeithiol ac ymdrech ar y cyd i ailgartrefu aelwydydd yn gyflym. Yn achos dyraniadau tai cymdeithasol, mae’n werth pwysleisio bod y cyfranogwyr, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio yn y sector hwn, yn gefnogol ac yn gadarnhaol o blaid symud oddi wrth y prawf Angen Blaenoriaethol. Ychydig iawn o bwyslais a roddodd y cyfranogwyr ar effaith dyraniadau uwch i aelwydydd digartref ar ‘weddilloli’ neu heriau rheoli tai.
Mae’n bwysig dod i’r casgliad bod y diwygiadau i fframwaith cyfreithiol digartrefedd yr Alban ymhell o roi’r ateb i fynd i’r afael â digartrefedd yn yr Alban yn effeithiol (ac ni honnwyd erioed y byddent yn gwneud hynny), ac mae angen ffocws penodol er mwyn sicrhau y caiff anghenion y rhai sy’n wynebu anfantais ddifrifol a lluosog ochr yn ochr â digartrefedd eu diwallu’n ddigonol.
Opsiynau ar gyfer newid: opsiynau posibl ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol
Nododd yr ymchwil bedwar prif opsiwn posibl ar gyfer y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol:
- cadw’r sefyllfa sydd ohoni (Opsiwn 1)
- dyletswydd i ddarparu llety dros dro ar gyfer pob aelwyd (Opsiwn 2)
- diwygio’r grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol (Opsiwn 3)
- diddymu Angen Blaenoriaethol (Opsiwn 4).
Yn ogystal â’r pedwar prif opsiwn, awgrymodd cyfranogwyr unigol ddau opsiwn amgen ond ni chafodd y rhain fawr ddim cefnogaeth ac ni chawsant eu trafod yn fanwl iawn.
Y neges gyffredinol gan y mwyafrif o’r cyfranogwyr oedd bod y sefyllfa sydd ohoni yn anghyfiawn am fod rhai pobl ddigartref yn cael eu troi i ffwrdd heb ateb ac ’mewn byd delfrydol’ na fyddai angen y prawf. Petai’r prawf yn cael ei ddiddymu, roedd y cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon o blaid dileu’r prawf yn raddol dros gyfnod o 5-10 mlynedd. Fodd bynnag, dadleuodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr mai dim ond os oedd yn cael ei ategu gan fuddsoddiad mewn tai ac adnoddau i dimau opsiynau tai y byddai hyn yn ddymunol ac yn bosibl.
Pe na cheid buddsoddiad o’r fath, roedd y cyfranogwyr yn credu bod angen rhyw fath o ddogni a blaenoriaethu ac mae’r mwyafrif o’r farn bod y prawf Angen Blaenoriaethol yn targedu llawer o grwpiau sy’n agored i niwed ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch iddynt. Ac eto, mae gwendidau canfyddedig y prawf Angen Blaenoriaethol presennol yn golygu yr hoffai’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr weld o leiaf ryw fath o ddiwygiad os bydd y prawf yn parhau i gael ei ddefnyddio, er enghraifft ymestyn y grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol i gynnwys tri grŵp yn benodol, sef: pobl sy’n cysgu allan, pobl ifanc o dan 35 oed a phobl sy’n gadael y carchar.
Dadleuodd rhai cyfranogwyr yn yr ymchwil y dylid, o leiaf, ddiwygio’r ddeddfwriaeth drwy gyflwyno dyletswydd i ddarparu llety dros dro i bob aelwyd, waeth beth fo’i statws o ran Angen Blaenoriaethol er mwyn osgoi effeithiau andwyol iawn cysgu allan neu gysgu ar soffas pobl eraill.
Nodir casgliadau mwy penodol mewn perthynas â phob un o’r opsiynau posibl ar gyfer y dyfodol isod, ac eithrio mewn perthynas ag Opsiwn 1 (Cadw’r sefyllfa sydd ohoni) – mae’r rhain eisoes wedi cael eu cyflwyno o dan ‘Safbwyntiau ar Angen Blaenoriaethol yng Nghymru heddiw’.
Opsiwn 2: y ddyletswydd i ddarparu llety dros dro ar gyfer pob aelwyd ddigartref
Nodwyd yr opsiwn posibl hwn ar gyfer y dyfodol yn ystod gweithdy gyda phobl a oedd wedi cael profiad o ddigartrefedd. Mae hwn hefyd yn gynnig a nodwyd yn flaenorol yn y llenyddiaeth ac, i ryw raddau, mae’n adlewyrchu’r man cychwyn ar gyfer newid yn yr Alban, lle yr ymestynnwyd y ddyletswydd i ddarparu llety dros dro i gynnwys pob aelwyd ddigartref ymhell cyn i’r prawf Angen Blaenoriaethol gael ei ddiddymu. Nid oedd cytundeb ymhlith y cyfranogwyr yng Nghymru ynghylch hyd y ddyletswydd – roedd y cynigion yn cynnwys 30 diwrnod, 56 diwrnod a chyfnod amhenodol.
Roedd safbwyntiau allweddol ar yr opsiwn hwn yn cynnwys: byddai’n osgoi effeithiau andwyol cysgu allan; byddai angen iddo gael ei ategu gan safonau addasrwydd mwy cynhwysfawr ar gyfer llety dros dro; roedd un cyfranogwr yn pryderu, pe na bai dyletswydd i ddarparu llety sefydlog, neu heb derfyn amser i’r ddyletswydd, gallai fod yn andwyol ac yn gostus petai llawer o aelwydydd yn byw mewn llety dros dro.
Opsiwn 3: diwygio’r Angen Blaenoriaethol
Cynigiwyd rhestr hir o 22 o grwpiau ychwanegol o leiaf, gan un cyfranogwr yn yr ymchwil yn bennaf. Roedd cefnogaeth ehangach o lawer i dri grŵp, sef:
- pobl sy’n cysgu allan
- pobl ifanc o dan 35 oed
- phobl sy’n gadael y carchar
Roedd cryn dipyn o gefnogaeth o blaid cynnwys pobl sy’n cysgu allan ar y sail bod cysgu allan yn gwneud niwed mawr i iechyd, llesiant ac urddas unigolyn. Fodd bynnag, lleisiwyd pryder y byddai ymestyn Angen Blaenoriaethol i gynnwys pobl sy’n cysgu allan yn creu perygl moesol – sef pryder a godwyd yn yr un modd cyn i Angen Blaenoriaethol gael ei ddiddymu yn yr Alban. Ac eto, nododd cyfranogwyr eraill yn yr ymchwil yng Nghymru fod y ddeddfwriaeth yng Nghymru ond yn rhoi hawl i aelwyd gael llety sy’n debygol o fod ar gael am chwe mis – felly cyfyngir ar y perygl moesol.
Yn ôl cyfranogwyr yn yr ymchwil, y prif bryder sy’n ymwneud â phobl ifanc o dan 35 oed yw eu hansefydlogrwydd yn y marchnadoedd llafur a thai, yn enwedig mewn perthynas â hawliau lles cymdeithasol. Esboniodd y cyfranogwyr y byddai codi oedran pobl ifanc mewn Angen Blaenoriaethol hefyd yn mynd i’r afael ag anghysondeb presennol rhwng y ddeddfwriaeth digartrefedd a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr o blaid ailgyflwyno pobl sy’n gadael y carchar fel grŵp mewn Angen Blaenoriaethol, gan geisio sicrhau ar yr un pryd bod y Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Digartrefedd i Blant, Pobl Ifanc ac Oedolion yn yr Ystad Ddiogel yn cael ei roi ar waith yn fwy effeithiol. Cynigiodd rhai cyfranogwyr hefyd y dylai statws Angen Blaenoriaethol ar gyfer y grŵp penodol hwn fod yn amodol ar ymgysylltu effeithiol yn y carchar, er nad yw’n glir pam y dylai pobl sy’n gadael y carchar fod yn ddarostyngedig i fwy o amodau nag aelwydydd eraill. Hefyd, hwn oedd yr unig grŵp yr argymhellodd cyfranogwyr na ddylid ei gynnwys.
Nodwyd sawl un o’r grwpiau hyn gan 3 i 4 cyfranogwr:
- unrhyw un sy’n wynebu camfanteisio
- rhieni a gaiff weld plentyn ond nid y prif ofalwr
- ffoaduriaid
- phobl sy’n wynebu trais a chamdriniaeth
Opsiwn 4: diddymu Angen Blaenoriaethol
Y pedwerydd opsiwn ar gyfer y dyfodol yw diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol. Roedd llawer o gyfranogwyr o wahanol sectorau o blaid diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol. Fodd bynnag, dadleuodd y rhan fwyaf ohonynt mai dim ond os oedd yn cael ei ategu gan fuddsoddiad mewn tai ac adnoddau i dimau opsiynau tai y byddai hyn yn ddymunol ac yn bosibl. Mae hyn yn debyg iawn i farn y mwyafrif yn yr Alban cyn i’r prawf Angen Blaenoriaethol gael ei ddiddymu, er yr ymddengys, yng Nghymru, fod mwy o gefnogaeth i’r egwyddor o ddiddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol ymhlith awdurdodau lleol nag a gafwyd yn yr Alban.
Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr o blaid dileu’r prawf yn raddol, yn hytrach na’i ddiddymu ar unwaith. Awgrymodd cyfranogwyr y gallai dull o ddileu’r prawf yn raddol gynnwys: cyfnod paratoi a fyddai’n galluogi awdurdodau lleol a’u partneriaid i ddatblygu a chomisiynu gwasanaethau a dechrau gweithio yn unol ag ysbryd y gyfraith; ac y gallai gynnwys cynllun peilot i dreialu’r newidiadau. Prin iawn oedd y safbwyntiau pendant ynghylch a ddylid cyflwyno gwahanol is-grwpiau o’r boblogaeth neu grwpiau dros amser neu ymestyn Angen Blaenoriaethol i gynnwys grwpiau oedran gwahanol.
Mewn perthynas â’r cyfnod o amser ar gyfer graddol ddileu’r prawf, prin oedd y cyfranogwyr a awgrymodd gyfnod diddymu a oedd yn llai na blwyddyn neu’n fwy na 10 mlynedd. Ymddengys fod y cyfranogwyr wedi’u rhannu’n eithaf cyfartal o blaid cyfnodau o 10 mlynedd, 5 mlynedd a llai na 5 mlynedd (ond mwy na blwyddyn).
Roedd cefnogaeth gyffredinol o blaid proses ddiddymu wedi’i llywio’n genedlaethol, yn hytrach na dull gweithredu lle mae awdurdodau lleol yn rhydd i benderfynu i ba grwpiau y dylid ymestyn Angen Blaenoriaethol. Dim ond nifer bach o gyfranogwyr a oedd yn cefnogi’r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn yr Alban, lle roedd awdurdodau lleol yn rhydd i benderfynu i ba grwpiau y dylid ymestyn Angen Blaenoriaethol wrth iddynt weithio tuag at ddiddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol. Awgrymodd un cyfranogwr ddull gweithredu a oedd yn gyfaddawd, lle y byddai Llywodraeth Cymru yn nodi disgwyliadau gofynnol ac y byddai gan awdurdodau lleol y pŵer i ymestyn y rhestr wrth iddynt weithio tuag at ddiddymu Angen Blaenoriaethol.
Nodwyd tair prif effaith gadarnhaol y gallai diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol eu cael, sef:
- byddai dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu llety diogel i bob unigolyn
- byddai gwasanaethau yn canolbwyntio mwy ar nodi anghenion unigolion a dod o hyd i atebion
- a byddai lleihad sylweddol yn yr adnoddau a ddefnyddir i asesu a herio penderfyniadau ar sail Angen Blaenoriaethol.
At hynny, gallai ysgogi camau gweithredu cadarnhaol eraill: gallai awdurdodau lleol ddarparu mwy o dai; arloesi mewn perthynas â gwasanaethau a gwneud mwy o ymdrech i atal digartrefedd.
Nodwyd llawer iawn o effeithiau negyddol y gallai diddymu Angen Blaenoriaethol eu cael, sef:
- cynnydd yn nifer y bobl sy’n aros mewn llety dros dro, a allai fod yn anaddas ac yn ddrud, am gyfnodau hir
- achosi i rai aelwydydd ymddieithrio o’r system oherwydd arosiadau hir
- pwysau cynyddol ar farchnadoedd tai lleol ac adnoddau awdurdodau lleol, yn enwedig timau Opsiynau Tai
- gallai gymell pobl i ‘chwarae’r gêm’ o fewn y system
- gallai mathau a dulliau eraill o eithrio a blaenoriaeth ddod i’r amlwg
- gallai cymorth i aelwydydd sy’n agored i niwed sydd mewn Angen Blaenoriaethol ar hyn o bryd gael ei wanhau
- gallai aelwydydd gael eu hatal rhag ceisio cymorth ar gam cynharach neu rhag ymgysylltu’n ystyrlon â chymorth atal digartrefedd
- gallai amharu ar weithgarwch ymgysylltu gwasanaethau cysylltiedig megis iechyd, cyfiawnder troseddol a gofal cymdeithasol am fod y cyfrifoldeb wedi’i ddatganoli i’r sector tai.
Er mwyn llywio’r gwaith o fodelu effeithiau, gofynnwyd hefyd i’r cyfranogwyr wneud sylwadau ar yr effeithiau tebygol ar nifer yr aelwydydd y byddai dyletswydd derfynol i ddarparu llety ar eu cyfer o dan y ddeddfwriaeth digartrefedd. Y casgliad clir yw y bydd y cyfanswm yn fwy na nifer yr aelwydydd sydd wedi’u cofnodi ar hyn o bryd fel aelwydydd nad ydynt mewn Angen Blaenoriaethol mewn ystadegau swyddogol.
Opsiynau ychwanegol ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru
Mae’n bwysig nodi bod y cyfranogwyr wedi cael cyfle i nodi opsiynau ychwanegol ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru. Yr awgrym amgen mwyaf nodedig, er mai prin iawn oedd y gefnogaeth iddo, oedd ymestyn hyd dyletswydd Adran 73 y tu hwnt i 56 diwrnod, gan alluogi awdurdodau lleol i barhau i weithio am fwy o amser gydag aelwydydd nad ydynt mewn Angen Blaenoriaethol.
Gweithredu newid: rhwystrau a ffactorau galluogi
Roedd y bennod hon yn ystyried y rhwystrau a’r ffactorau galluogi canfyddedig sy’n gysylltiedig â rhoi unrhyw newidiadau i’r prawf Angen Blaenoriaethol ar waith yn effeithiol. Cafodd cyfranogwyr drafodaeth helaeth am y heriau ehangach hyn i’r system. Yn bwysig ddigon, mae llawer o’r materion a nodwyd hefyd yn gymwys i’r system gyfredol (e.e. prinder tai addas).
Daeth neges glir i’r amlwg ymhlith y cyfranogwyr yn yr ymchwil, er mwyn rhoi newidiadau deddfwriaethol posibl ar waith yn effeithiol, a’r ddeddfwriaeth gyfredol, fod angen gwell cefnogaeth ac arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol ac ar lefel llywodraeth leol. Ar lefel Llywodraeth Cymru, teimlwyd bod angen i’r Gweinidog Tai ddwyn cyd-Weinidogion mewn portffolios eraill (e.e. iechyd) i gyfrif, er mwyn llywio gwaith trawsadrannol a chysylltu gwahanol gamau o fewn y portffolio tai (e.e. tai fforddiadwy a digartrefedd). Roedd awydd am i’r holl arweinwyr lleol fod yn gefnogol i fwriadau a gwerthoedd y ddeddfwriaeth.
Adnoddau oedd prif bryder cyfranogwyr o ran rhoi’r ddeddfwriaeth gyfredol ac unrhyw newidiadau posibl i Angen Blaenoriaethol yn y dyfodol ar waith yn effeithiol. Y pryder ymhlith cyfranogwyr oedd y gall gwasanaethau awdurdodau lleol sydd eisoes o dan bwysau gael eu gorlethu’n llwyr gan unrhyw newidiadau. Yn ôl y cyfranogwyr, byddai angen sicrhau bod adnoddau newydd ar gael ar sail hirdymor ddibynadwy, a’u clustnodi o bosibl.
Materion tai fu’r prif bwnc trafod yn ystod trafodaethau’r cyfranogwyr am rwystrau a ffactorau galluogi canfyddedig unrhyw newidiadau posibl i’r prawf Angen Blaenoriaethol yn y dyfodol. Ymhlith y prif bryderon a nodwyd gan y cyfranogwyr roedd:
- prinder llety dros dro o ansawdd da
- angen am symud tuag at ailgartrefu’n gyflym er mwyn osgoi cyfnodau hir mewn llety dros dro anaddas o bosibl
- y posibilrwydd o gynnwys grwpiau ychwanegol mewn Angen Blaenoriaethol yn raddol ochr yn ochr â rhaglen gymesur o ddatblygiadau tai fforddiadwy, yn enwedig o ran pobl sengl a llety a rennir, wedi’u hadeiladu yn y lleoliadau cywir
- proses gynllunio sy’n ei gwneud yn bosibl i ddarparu tai fforddiadwy
- polisïau ac arferion dyrannu nad ydynt yn eithrio aelwydydd mwyach naill ai’n gyfan gwbl (e.e. ôl-ddyledion rhent blaenorol a dyled) neu de facto (drwy fandio anffafriol)
- a Sector Rhentu Preifat sy’n fwy diogel a fforddiadwy ac o ansawdd gwell
- chyflenwad helaethach o lety arbenigol a llety â chymorth sy’n cynnwys ond nad yw’n gyfyngedig i Tai yn Gyntaf
Roedd y cyfranogwyr yn yr ymchwil hefyd o’r farn bod Polisi lles cymdeithasol yn rhwystr i roi’r ddeddfwriaeth bresennol ar ddigartrefedd, ac unrhyw ddeddfwriaeth ddiwygiedig yn y dyfodol, ar waith yn effeithiol. Yn ôl y cyfranogwyr, credir bod y rhwystrau presennol yn cynnwys y canlynol:
- nid yw lefelau budd-dal tai wedi codi yn unol â’r cynnydd mewn rhenti preifat
- problemau o ran fforddiadwydedd ac argaeledd tai sy’n deillio o gyfyngiadau ar y swm o fudd-dal tai sydd ar gael i aelwydydd o bobl sengl o dan 35 oed
- rhwystrau sy’n gysylltiedig â sicrhau taliadau uniongyrchol i landlordiaid i’r rhai sy’n cael Credyd Cynhwysol
- ‘dreth ystafell wely’ sy’n gwneud tanfeddiannu eiddo yn anghynaliadwy yn ariannol.
Nododd y cyfranogwyr hefyd fod angen ystyried sut y gellir cynorthwyo’r rhai nad ydynt yn gallu hawlio arian cyhoeddus.
Roedd y pryderon ymhlith gwasanaethau digartrefedd a nodwyd gan y cyfranogwyr yn yr ymchwil yn canolbwyntio ar ddau faes gwasanaeth. Yn gyntaf, roedd angen canfyddedig am gymorth sy’n gysylltiedig â thai mwy effeithiol. Dywedwyd bod yn rhaid i wasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai lenwi’r bylchau a grëwyd ar ôl lleihau gwasanaethau gofal statudol; roedd canfyddiad bod y broses o gomisiynu cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn anghyson a dywedwyd y dylai fod wedi’i llywio’n fwy gan drawma; a chredid bod cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn arbennig o ddiffygiol yn y sector rhentu preifat. Cynigiodd rhai cyfranogwyr ddyletswydd i asesu a diwallu anghenion cymorth, sef gwneud gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn ofyniad statudol i bob diben. Yn ail, o ran Opsiynau Tai, awgrymodd y cyfranogwyr y canlynol:
- dylai gwasanaethau fod wedi’u llywio’n fwy gan drawma
- dylai’r tasgau sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau Opsiynau Tai o bosibl gael eu gwahanu oddi wrth y broses gwneud penderfyniadau am unrhyw hawl
- mae angen rheoli disgwyliadau defnyddwyr gwasanaethau’n fwy effeithiol
Teimlai’r cyfranogwyr yn gryf y bydd y gweithlu yn chwarae rôl allweddol mewn unrhyw newid i’r prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol. Dywedwyd bod trosiant uchel ymhlith staff yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn nhimau Opsiynau Tai awdurdodau lleol ac awgrymwyd fod hyn wedi arwain at wybodaeth a phrofiad cyfyngedig mewn rhai lleoedd. Haerwyd bod y ffactorau a oedd yn llywio’r duedd hon yn cynnwys:
- cyflog isel
- prinder cyfleoedd i gamu ymlaen
- adleoli o rolau diangen eraill mewn cynghorau
- natur gyfnewidiol y rôl/rolau ar ôl cychwyn Deddf Tai (Cymru) 2014.
Felly, roedd cryn gefnogaeth o blaid mwy o fuddsoddiad yn y gweithlu o ran cyflog staff, hyfforddiant parhaus a mynediad at oruchwyliaeth glinigol.
Daeth neges gref i’r amlwg gan y cyfranogwyr yn yr ymchwil – dylai unrhyw newidiadau i’r prawf Angen Blaenoriaethol gael eu cyflwyno ar y cyd â buddsoddiad o’r newydd mewn atal digartrefedd oherwydd y dywedwyd y byddai ymdrechion ychwanegol i atal digartrefedd yn lleihau’r gofynion i ddarparu tai mewn argyfwng a’r adnoddau staff. Ymhlith yr enghreifftiau o rai o’r gwelliannau penodol a awgrymwyd roedd y canlynol:
- mwy o gysondeb mewn gweithgareddau atal a chanlyniadau rhwng awdurdodau lleol
- rhoi terfyn ar droi allan i ddigartrefedd yn y sector rhentu cymdeithasol a lleihau nifer yr achosion yn y sector rhentu preifat
- defnydd posibl o ddeddfwriaeth i sicrhau ymgysylltu mwy effeithiol gan wasanaethau cyhoeddus (e.e. iechyd) â’r gwaith o atal digartrefedd (e.e. dyletswydd i atgyfeirio a dyletswydd i gymryd camau atal)
Cyfeiriwyd hefyd at gydweithio a gweithredu ar y cyd rhwng meysydd gwasanaeth ar raddfa genedlaethol a lleol fel prif ffactor a fyddai’n galluogi unrhyw ddiwygiadau i’r prawf Angen Blaenoriaethol. Roedd y cyfranogwyr yn glir iawn y byddai cynnwys grwpiau ychwanegol megis pobl sy’n cysgu allan neu bobl sy’n gadael y carchar mewn Angen Blaenoriaethol, neu ddiddymu Angen Blaenoriaethol, yn arwain at gynorthwyo mwy aelwydydd ag anghenion cymorth uchel. Felly, roedd y cyfranogwyr yn credu mai dim ond os oedd cydweithio mwy effeithiol â gwasanaethau megis iechyd (yn enwedig iechyd meddwl), carchardai, y gwasanaeth prawf a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau y byddai newidiadau deddfwriaethol yn effeithiol. Er iddynt gydnabod enghreifftiau o gydweithio yma a thraw a oedd yn ymddangos yn effeithiol, dywedodd y cyfranogwyr fod yn rhaid sicrhau mwy o gysondeb a gweithredu ar y cyd rhwng meysydd gwasanaeth ar lefel Llywodraeth Cymru ar lefel awdurdod lleol.
Ym marn y cyfranogwyr, mae canfyddiad y cyhoedd yn debygol o fod yn rhywfaint o rwystr i newid. Esboniodd y cyfranogwyr y gall y cyfryngau helpu’r cyhoedd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o ddigartrefedd, hawliau pobl a ble i droi am gymorth, ond fod ganddynt rôl hefyd i’w chwarae ar lefel genedlaethol a lleol i fynd i’r afael â gwrthwynebiad y cyhoedd i newid.
Mae deddfwriaeth, monitro a chraffu yn faterion tra chysylltiedig a fydd yn hanfodol i alluogi newid posibl yn y dyfodol. Ymhlith y ffactorau a allai alluogi newid a nodwyd gan y cyfranogwyr roedd y canlynol:
- llai o fiwrocratiaeth
- mwy o graffu ar arferion awdurdodau lleol (e.e. rheoleiddiwr neu ombwdsmon, cydleoli Shelter Cymru mewn gwasanaethau digartrefedd, cyflwyno Take Notice yn genedlaethol, a gwell data ar ddigartrefedd)
- deddfu i gyflwyno Hawl i Dai (Digonol).
Yn fwy penodol, esboniodd un cyfranogwr y byddai diddymu Angen Blaenoriaethol o bosibl yn effeithio ar strwythur Deddf Tai (Cymru) 2014. Fodd bynnag, bu pryder na ddylai unrhyw ddeddfwriaeth ddiwygiedig roi aelwydydd mewn sefyllfa wannach ac na ddylai ychwaith erydu’r opsiynau sydd ar gael i awdurdodau lleol. Yn olaf, p’un a fydd unrhyw ddiwygiad i Angen Blaenoriaethol ai peidio, cynigir y dylid ehangu’r diffiniad o fod o dan fygythiad o ddigartrefedd y tu hwnt i 56 diwrnod. Er bod rhai cyfranogwyr o blaid peidio â defnyddio cyfnod o amser yn y diffiniad, roedd eraill yn argymell y dylai’r diffiniad diwygiedig fod yn gyson â therfyn amser arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer hysbysiad troi allan heb fai (h.y. 6 mis).
Modelu effeithiau posibl newid
Nod y dasg ymchwil olaf oedd amcangyfrif effeithiau meintiol y pedwar prif opsiwn posibl ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r gwaith modelu effeithiau wedi’i gyfyngu mewn tair prif ffordd. Yn gyntaf, er bod y model yn ystyried set eang o feysydd lle ceir effaith, roedd mesur yr holl gostau, buddiannau ariannol a buddiannau lles y tu hwnt i gwmpas y prosiect ymchwil hwn (e.e. ni fodelwyd gwariant ychwanegol posibl ar adeiladau tai cymdeithasol). Yn ail, ni allai’r gwaith modelu roi amcangyfrifon o effeithiau ar gostau cymorth sy’n gysylltiedig â thai. Yn drydydd, roedd y gwaith modelu yn tybio bod costau presennol (e.e. costau’r gweithlu) yn ddigon i ateb y galw presennol, ond awgrymodd y cyfranogwyr yn yr ymchwil nad felly y mae mewn rhai awdurdodau lleol ac felly mae’n bosibl bod y costau hyn yn tanamcangyfrif y costau llawn.
Felly, mae’r astudiaeth hon yn cyflwyno set o amcangyfrifon o’r effeithiau ychwanegol disgwyliedig ar feysydd allweddol yn hytrach na chyfanswm buddiannau net yr opsiynau posibl yn y dyfodol, ac mae’n rhaid ystyried rhybuddion ynghylch costau nas modelwyd wrth ddehongli’r canfyddiadau.
Modelwyd effeithiau pedwar prif opsiwn posibl ar gyfer Angen Blaenoriaeth yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys senarios amgen ar gyfer opsiynau 3 a 4. Ceir y fethodoleg fanwl yn yr adroddiad llawn.
Opsiwn 1
Y sefyllfa sydd ohoni oedd y llinell sylfaen ar gyfer amcangyfrifon o effaith, ac wedyn câi costau ychwanegol ac arbedion eu hamcangyfrif ar gyfer y tri phrif opsiwn posibl yn y dyfodol.
Opsiwn 2
Ymestyn yr hawl i lety dros dro i bob aelwyd yr asesir ar hyn o bryd nad yw mewn Angen Blaenoriaethol.
Opsiwn 3
Diwygio’r categorïau o Angen Blaenoriaethol er mwyn cynnwys y tri grŵp sy’n cael y gefnogaeth ehangaf ymhlith y cyfranogwyr o blaid eu cynnwys:
- pobl sy’n cysgu allan
- ymgeiswyr o dan 35 oed
- a phobl sy’n gadael y carchar.
Er mwyn i Lywodraeth Cymru allu deall effeithiau posibl cynnwys unrhyw un o’r grwpiau ychwanegol hyn, neu gyfuniad o bob un o’r tri ohonynt, mae opsiwn 3 yn cynnwys yr opsiynau amgen canlynol:
- 3a: dechreuir asesu pobl sy’n cysgu allan fel grŵp mewn Angen Blaenoriaethol ym mlwyddyn 1, ymgeiswyr o dan 35 oed ym mlwyddyn 3, a phobl sy’n gadael y carchar ym mlwyddyn 5
- 3b: dechreuir asesu pobl sy’n cysgu allan fel grŵp mewn Angen Blaenoriaethol ym mlwyddyn 1
- 3c: dechreuir asesu pobl sy’n gadael y carchar fel grŵp mewn Angen Blaenoriaethol ym mlwyddyn 1
- 3d: dechreuir asesu ymgeiswyr o dan 35 oed fel grŵp mewn Angen Blaenoriaethol ym mlwyddyn 1
Opsiwn 4
Diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol. Gan gydnabod bod y gwahaniaeth barn o ran diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol yn raddol dros 5 mlynedd neu 10 mlynedd, mae Opsiwn 4 yn cynnwys yr opsiynau amgen canlynol:
- 4a: diddymu dros bum mlynedd
Caiff y prawf Angen Blaenoriaethol ei ddiddymu i bobl sy’n cysgu allan yn ystod y flwyddyn gyntaf, i ymgeiswyr o dan 35 oed yn ystod yr ail flwyddyn, i bobl sy’n gadael y carchar yn ystod y drydedd flwyddyn, ac i’r holl grwpiau eraill yn ystod y bumed flwyddyn, - 4b: diddymu dros ddeng mlynedd
Caiff y prawf Angen Blaenoriaethol ei ddiddymu i bobl sy’n cysgu allan yn ystod y flwyddyn gyntaf, i ymgeiswyr o dan 35 oed yn ystod y bedwaredd flwyddyn, i bobl sy’n gadael y carchar yn ystod y seithfed flwyddyn, ac i’r holl grwpiau eraill yn ystod y ddegfed flwyddyn,
Mae Tablau 1 a 2 yn dwyn ynghyd ganfyddiadau o bob maes lle cer effaith a ystyrir yn y bennod hon ar gyfer pob un o’r opsiynau posibl yn y dyfodol. Mae Tabl 1 yn crynhoi effeithiau ar niferoedd ychwanegol o aelwydydd a fyddai mewn Angen Blaenoriaethol o dan y gwahanol opsiynau a’r gofynion staffio ychwanegol. Mae Tabl 2 yn crynhoi’r holl effeithiau ariannol amcangyfrifedig. Rhoddir amcangyfrifon cyfartalog blynyddol o’r effeithiau a ddisgwylir dros 20 mlynedd. Dylid nodi bod yr amcangyfrifon ar lefel genedlaethol ond y bydd yr effeithiau hyn yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Mae pob amcangyfrif yn ychwanegol at aelwydydd a chostau o dan Opsiwn 1 – y sefyllfa sydd ohoni.
Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd gan 14 o’r 22 o awdurdodau lleol yn ogystal ag Ystadegau Swyddogol sydd ar gael ar StatsCymru. Er mwyn gwneud iawn am ddata coll, defnyddiwyd cyfartaleddau wedi’u pwysoli sy’n ystyried y gwahanol lefelau o alw am wasanaethau digartrefedd ymhlith awdurdodau lleol.
Opsiwn 3: diwygio (a) | Opsiwn 4: diddymu (b) | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Maes lle ceir effaith | Opsiwn 2: dyletswydd llety dros dro | 3a (Pob un) | 3b (RS) | 3c (PL) | 3d (o dan 35) | 4a (5 mlynedd) | 4b (10 mlynedd) |
Aelwydydd ychwanegol mewn Angen Blaenoriaethol y flwyddyn | 1,989 | 1,485 | 178 | 537 | 1,168 | 1,989 | 1,669 |
Aelwydydd ychwanegol y flwyddyn sy’n cael cynnig llety diogel: | |||||||
Awdurdod lleol | 0 | 195 | 26 | 72 | 157 | 268 | 225 |
Landlord cymdeithasol cofrestredig | 0 | 727 | 87 | 246 | 581 | 980 | 822 |
Sector rhentu preifat | 0 | 185 | 19 | 75 | 139 | 244 | 204 |
Cyfanswm | 0 | 1,107 | 132 | 393 | 877 | 1,492 | 1,251 |
Cyfanswm staff Opsiynau Tai ychwanegol (CALl) | 0 | 135 | 15 | 54 | 103 | 177 | 149 |
Ffynhonnell: Modelu Alma Economics
(a) Pob un = diwygio Angen Blaenoriaethol i gynnwys pobl sy’n cysgu allan, pobl sy’n gadael y carchar, ac ymgeiswyr o dan 35 oed; RS = Pobl sy’n cysgu allan yn unig; PL = Pobl sy’n gadael y carchar yn unig; O dan 35 = ymgeiswyr o dan 35 oed yn unig.
(b) 5 mlynedd = diddymu dros bum mlynedd; 10mlynedd = diddymu dros 10 mlynedd.
Opsiwn 3: diwygio (a) | Opsiwn 4: diddymu (b) | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Maes lle ceir effaith (Cyfartaledd blynyddol) |
Opsiwn 2: dyletswydd llety dros dro | 3a (Pob un) | 3b (RS) | 3c (PL) | 3d (o dan 35) | 4a (5 mlynedd) | 4b (10 mlynedd) |
Cost y galw ychwanegol am lety dros dro | 896,391 | 1,254,559 | 157,794 | 541,523 | 949,565 | 1,691,304 | 1,368,416 |
Cost ychwanegol sicrhau llety | 0 | 28,638 | 3,434 | 10,531 | 23,289 | 38,904 | 31,617 |
Treuliau budd-dal tai ychwanegol | 0 | 3,403,543 | 417,096 | 1,233,024 | 2,776,358 | 4,635,924 | 3,767,961 |
Arbedion o ddefnydd llai o wasanaethau allgymorth a gwasanaethau eraill (e.e. iechyd) | 157,794 | 3,789,459 | 827,396 | 1,230,180 | 2,720,459 | 4,970,636 | 4,119,384 |
Ffynhonnell: Modelu Alma Economics
(a) Pob un = diwygio Angen Blaenoriaethol i gynnwys pobl sy’n cysgu allan, pobl sy’n gadael y carchar, ac ymgeiswyr o dan 35 oed; RS = Pobl sy’n cysgu allan yn unig; PL = Pobl sy’n gadael y carchar yn unig; O dan 35 = ymgeiswyr o dan 35 oed yn unig.
(b) 5 mlynedd = diddymu dros bum mlynedd; 10mlynedd = diddymu dros 10 mlynedd.
Dylid nodi bod y buddiannau ariannol hyn yn gostau ychwanegol ar ben costau rhedeg y system bresennol. Mae’r ymchwil hon yn tynnu sylw at y posibilrwydd nad yw’r cyllid presennol yn ddigon i gyflawni ei nodau ac oherwydd nifer y ffactorau anhysbys, nid yw’r costau a fodelwyd yn ystyried hyn
At ddibenion cymharu, ac er eglurder, mae’r effeithiau posibl a nodwyd yn Nhablau 1 a 2 yn tybio bod yr holl gostau/effeithiau yn wastad dros y cyfnod gweithredu, ond nid felly y bydd mewn gwirionedd. Er enghraifft, byddai grwpiau gwahanol yn dod o dan y prawf Angen Blaenoriaethol mewn blynyddoedd gwahanol yn arwain at lefelau amrywiol o alw dros amser. Cyfeirir at yr effaith anwastad hon dros amser fel effaith ddynamig.
Er mwyn dangos effeithiau dynamig newidiadau posibl i’r prawf Angen Blaenoriaethol, ystyriodd yr ymchwil effeithiau dynamig tebygol diddymu Angen Blaenoriaethol dros gyfnod o 5 mlynedd (Opsiwn 4a). Dewiswyd yr opsiwn hwn, yn syml, am y disgwylir iddo olygu’r costau uchaf yn ogystal â’r buddiannau mwyaf. Mae’r prif ganfyddiadau'n cynnwys:
Bydd nifer yr aelwydydd ychwanegol yr asesir eu bod mewn Angen Blaenoriaethol yn cynyddu dros y cyfnod gweithredu o bum mlynedd, o 135 o aelwydydd ychwanegol yn 2024/25, gan ymsefydlogi ar tua 2,200 o aelwydydd y flwyddyn o 2028/29.
Disgwylir i’r gost ychwanegol sy’n gysylltiedig â’r galw ychwanegol am lety dros dro fod yn hafal i £180,000 yn 2024/25 pan fydd y prawf yn cael ei ddiddymu i bobl sy’n cysgu allan yn unig. Byddai’r gost hon yn cynyddu i tua £1.6 miliwn ar ôl i ymgeiswyr digartref o dan 35 oed gael eu hychwanegu at y grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol y flwyddyn ganlynol. Amcangyfrifir y bydd diddymu’r prawf i bobl sy’n gadael y carchar yn arwain at gostau ychwanegol a fydd yn cynyddu i £2.2 miliwn yn 2026/27 a bydd diddymu’r prawf i bob grŵp arall yn achosi’r costau ychwanegol i gynyddu tua £3 miliwn erbyn 2028/29.
Bydd tua 100 o aelwydydd ychwanegol yn cael cynnig tai hirdymor yn 2024/25 a disgwylir i nifer yr ymgeiswyr ychwanegol sy’n symud i dai diogel gynyddu i tua 900 ar ôl i’r prawf i ymgeiswyr digartref o dan 35 oed gael ei ddiddymu yn 2025/26. Pan fydd y prawf wedi’i ddiddymu’n llawn, disgwylir i’r galw am lety hirdymor, addas gynyddu i 1,600 o aelwydydd newydd y flwyddyn o 2028/29.
Ym mlwyddyn gyntaf gweithredu opsiwn 4a (diddymu Angen Blaenoriaethol dros 5 mlynedd) disgwylir y bydd tua £1 filiwn o arbedion yn deillio o lai o ddefnydd o wasanaethau allgymorth gan bobl sy’n cysgu allan a llai o ddefnydd o wasanaethau ehangach (iechyd corfforol ac iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, a chyfiawnder troseddol) gan bobl sy’n cysgu allan ac aelwydydd digartref eraill (Yn seiliedig ar y tybiaethau a nodir mewn adroddiad gan Price Waterhouse Cooper (2018 Assessing the costs and benefits of Crisis’ plan to end homelessness). Bydd arbedion ar ôl pum mlynedd yn 2028/29 yn cynyddu i tua £9 miliwn.
Disgwylir i effeithiau dynamig unrhyw newid mewn polisi dros y blynyddoedd cyntaf ar ôl gweithredu fod yn wahanol, yn dibynnu ar y drefn yr ychwanegir gwahanol grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol. Er enghraifft, o dan y senario a drafodir yn gynharach yn y bennod hon lle y daw pobl sy’n cysgu allan yn gymwys ar gyfer y ddyletswydd tai lawn yn gyntaf, ymgeiswyr o dan 35 oed yn ail, a phobl sy’n gadael y carchar yn drydydd, amcangyfrifir y bydd cost net ychwanegol y galw newydd am lety dros dro tua £0.18 miliwn yn 2024/25. Yn hytrach, os tybir y bydd y prawf yn cael ei ddiddymu i ymgeiswyr o dan 35 oed yn gyntaf, i bobl sy’n cysgu allan yn ail a phobl sy’n gadael y carchar yn drydydd, bydd cost y llety dros dro ychwanegol yn cynyddu i £1.4 miliwn yn y flwyddyn gyntaf (2024/25). Er y bydd yr effeithiau dynamig yn amrywio yn ystod camau cynnar y broses gyflwyno, ni ddisgwylir i gyfanswm yr effeithiau dros y cyfnod arfarnu o 20 mlynedd newid yn sylweddol.
Mae’r astudiaeth hon wedi rhoi dirnadaethau newydd i effeithiau amcangyfrifedig opsiynau posibl ar gyfer Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol. Ac, er bod y model yn ystyried amrywiaeth eang o effeithiau, mae mesur yr holl gostau, buddiannau ariannol a buddiannau lles y tu hwnt i gwmpas y prosiect ymchwil hwn. Felly, mae’n rhaid i’r canfyddiadau hyn gael eu dehongli a’u defnyddio’n ofalus, gan gydnabod y cyfyngiadau methodolegol (a nodir yn fanwl yn yr adroddiad llawn) a’r costau na fu modd i’r astudiaethau eu modelu.
3. Casgliad
O dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, cafodd arwyddocâd y prawf Angen Blaenoriaethol mewn deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru ei leihau’n sylweddol. Fodd bynnag, ni chaiff digartrefedd lleiafrif sylweddol o aelwydydd ei liniaru’n llwyddiannus ac yn yr achosion hyn mae’r prawf Angen Blaenoriaethol yn parhau i chwarae rôl allweddol o ran penderfynu pa aelwydydd y mae’n rhaid eu cartrefu. Felly, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr astudiaeth hon i ystyried opsiynau posibl ar gyfer y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’r casgliad byr hwn yn crisialu’r negeseuon allweddol sy’n deillio o’r astudiaeth.
Mae pryderon ynghylch y prawf Angen Blaenoriaethol ar ei ffurf bresennol yn gyffredin ymhlith y cyfranogwyr yn yr ymchwil ac mae’r rhain yn ategu’n gryf y pryderon a ysgogodd newidiadau deddfwriaethol yn yr Alban. Roedd y mwyafrif o’r cyfranogwyr o’r farn bod y sefyllfa sydd ohoni yn anghyfiawn am fod rhai pobl ddigartref yn cael eu troi i ffwrdd heb ateb ac ‘mewn byd delfrydol’ ni fyddai angen y prawf. Fodd bynnag, os na fydd adnoddau newydd ar gael ar gyfer gwasanaethau ac os na ddarperir digon o dai cymdeithasol newydd, ystyrir bod angen rhyw fath o ddogni a blaenoriaethu ac roedd y mwyafrif o’r farn bod y prawf Angen Blaenoriaethol yn targedu llawer o grwpiau sy’n agored i niwed ac yn rhoi rhwyd ddiogelwch iddynt (e.e. pobl ifanc 16-17 oed, teuluoedd â phlant dibynnol, pobl sy’n wynebu cam-drin domestig). Ac eto, oherwydd gwendidau canfyddedig y prawf Angen Blaenoriaethol presennol, hoffai’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr weld rhyw fath o newid o leiaf, er enghraifft ehangu’r grwpiau mewn Angen Blaenoriaethol.
Mae llawer o gyfranogwyr o sectorau gwahanol o blaid diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol ac mae cefnogaeth benodol i ymestyn Angen Blaenoriaethol i ddechrau i gynnwys pobl sy’n cysgu allan, pobl ifanc o dan 35 oed ac, i raddau llai, i bobl sy’n gadael y carchar. Mae’r effeithiau cadarnhaol ar aelwydydd o bobl sengl yn yr Alban yn amlwg ac, ar y cyfan, mae’r cyfranogwyr yng Nghymru yn dymuno gweld hyn yn cael ei gyflawni yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r opsiynau posibl hyn yn y dyfodol yn codi pryderon am adnoddau awdurdodau lleol sydd o dan bwysau, effeithiau ar y defnydd o lety dros dro a phrinder tai cymdeithasol. Yn union fel yn yr Alban, mae lleiafrif yn ofni y bydd y llifddorau yn agor. Yn ddefnyddiol ddigon, mae’r gwaith modelu effeithiau yn yr adroddiad hwn yn rhoi amcangyfrifon o raddfa debygol effeithiau mewn meysydd allweddol sy’n gysylltiedig â galw newydd, adnoddau staff, a chyflenwad tai, gan gynnwys yr angen am lety dros dro. Yn bwysig ddigon, mae’n debygol y bydd arbedion cost hefyd o ganlyniad i lai o ddefnydd o wasanaethau eraill (e.e iechyd). Mae’n rhaid ystyried cyfyngiadau’r gwaith modelu effeithiau hefyd, o gofio nad oedd modd cynnwys llawer o gostau (e.e. y rhai sy’n gysylltiedig ag adeiladu tai cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd ychwanegol, gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai ac ati) yn yr ymarfer modelu effeithiau.
Serch hynny, mae’r neges gan y cyfranogwyr yng Nghymru a’r gwersi a ddysgwyd o brofiad yr Alban yn ddiamwys na fyddai diwygio na diddymu’r prawf Angen Blaenoriaethol yn ddigon ar ei ben ei hun. Er mwyn gweithredu unrhyw newid yn effeithiol bydd angen mynd y tu hwnt i gyflenwad ychwanegol o dai cymdeithasol a chyllido staff newydd mewn awdurdodau lleol. Dywedwyd bod angen buddsoddi o’r newydd mewn mesurau atal a symud tuag at ailgartrefu cyflym er mwyn lleihau’r defnydd o lety dros dro. Hefyd, galwodd y cyfranogwyr am fuddsoddi yn y gweithlu a symud tuag at ymarfer a phrosesau comisiynu a lywir fwy gan drawma. At hynny, teimlir bod anghenraid i sicrhau bod digartrefedd yn cael ei ystyried yn fusnes i bawb ac y bydd cydweithio â meysydd gwasanaeth eraill megis iechyd yn hollbwysig. Yn olaf, gan ddysgu’r gwersi o roi Deddf Tai (Cymru) 2014 ar waith, bydd hefyd angen monitro a chraffu ar waith y rhai sy’n gyfrifol am gyflawni’r newid yn fwy effeithiol.
4. Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Dr. Peter Mackie, Tim Gray, Dr. Caroline Hughes, Dr. Iolo Madoc-Jones, Victoria Mousteri, Professor Hal Pawson, Nick Spyropoulos, Tamsin Stirling, Dr. Helen Taylor, Dr. Beth Watts.
Adroddiad Ymchwil Llawn: Mackie, P.; Gray, T.; Hughes, C.; Madoc-Jones, I.; Mousteri, V.; Pawson, H.; Spyropoulos, N.; Stirling, T.; Taylor, H.; Watts, B. (2019). Adolygiad o Angen Blaenoriaethol yng Nghymru Caerdydd: Llywodraeth Cymru, rhif adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth 70/2020.
Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd barn Llywodraeth Cymru
Am ragor o fanylion, cysylltwch â:
Rhian Davies
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: rhian.davies45@llyw.cymru
ISBN Digidol 978-1-80082-334-1