Adolygiad o amrywiaeth yng ngweithlu ac ar fyrddau’r sector cyhoeddus yng Nghymru: crynodeb
Adroddiad sy’n cynnwys dau ddarn o waith ymchwil: arolwg o fyrddau cyrff y sector cyhoeddus ac adolygiad o lenyddiaeth berthnasol ar amrywiaeth yn y sector cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir a’r cyflwyniad
Cyflwynodd Deddf Cydraddoldeb 2010 Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED). Nod Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yw sicrhau bod y rhai sy'n ddarostyngedig iddi’n ystyried hyrwyddo cydraddoldeb wrth gyflawni eu busnes o ddydd i ddydd, gan gynnwys datblygu polisi, dylunio a darparu gwasanaethau ac mewn perthynas â chyflogeion. Yng Nghymru, mae dyletswyddau penodol yn nodi gofynion statudol ychwanegol i gyrff cyhoeddus er mwyn helpu i wella perfformiad yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Employment information, pay differences and staff training: A guide for listed public authorities in Wales (Equality and Human Rights Commission))
Mae nod hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a'r 'Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-2028' sy’n ategu hynny’n cynnwys nodau mewn perthynas â gwella cynrychiolaeth a gweithleoedd cynhwysol. Mae'r amcanion yn cysylltu â chynlluniau gweithredu cydraddoldeb penodol a thanategol a dargedir at grwpiau â nodweddion gwarchodedig fel y'u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, a chytundebau hawliau dynol ehangach a Chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig.
Er bod y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn cyhoeddi adroddiad blynyddol o benodiadau cyhoeddus sy'n cynnwys dadansoddi amrywiaeth mewn perthynas â phenodeion ac ailbenodeion a reoleiddir, nid yw hyn yn cynnwys penodiadau nas rheoleiddir nac yn rhoi darlun llawn o amrywiaeth.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau dau ddarn cyflenwol o ymchwil a wnaed gan yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd, Llywodraeth Cymru. Amcanion cyffredinol yr ymchwil oedd: rhoi syniad o amrywiaeth byrddau’r sector cyhoeddus yng Nghymru; canfod a yw data amrywiaeth ar gyfer aelodau o fyrddau’n cael ei gasglu'n effeithiol; cael dealltwriaeth well am werth amrywiaeth yng nghyrff y sector cyhoeddus; ac adnabod rhwystrau a strategaethau priodol i gynyddu amrywiaeth ar Fyrddau ac yng ngweithlu ehangach y sector cyhoeddus.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys arolygon o gyrff y sector cyhoeddus ac aelodau o fyrddau yng Nghymru ac adolygiad desg o lenyddiaeth berthnasol.
Defnyddiwyd yr arolygon i ateb cwestiynau ymchwil mwy penodol a oedd, at ei gilydd, yn wahanol i'r rhai yr oedd yr adolygiad o lenyddiaeth yn mynd i'r afael â hwy. Felly, dadansoddir canfyddiadau'r arolygon a'r adolygiadau o lenyddiaeth ac adroddir arnynt ar wahân yn yr adroddiad hwn. Mae Adran 1 yn adrodd ar ganfyddiadau'r arolygon. Mae adran 2 yn adrodd ar ganfyddiadau'r adolygiad o lenyddiaeth. Lle y bo'n berthnasol, mae'r adrannau casgliadau ac ystyriaethau i'r dyfodol yn tynnu ar dystiolaeth o'r arolygon a'r adolygiad o lenyddiaeth.
Roedd yr arolygon yn targedu cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru a restrir yn y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor fel rhai sy'n dilyn y Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus. Gwahoddwyd 39 o gyrff y sector cyhoeddus (gan gynnwys cyrff y GIG a phaneli cynghori) i gymryd rhan yn yr arolygon rhwng 10 Mai 2023 a 7 Gorffennaf 2023. Roedd yr arolwg cyntaf yn gofyn i gyrff y sector cyhoeddus am eu dull o gasglu gwybodaeth am amrywiaeth ac fe gafwyd 29 o ymatebion i'r arolwg. Roedd yr ail arolwg yn gofyn cwestiynau i Aelodau o Fyrddau am eu nodweddion i asesu lefelau amrywiaeth cyfredol. Cafwyd ymatebion i'r ail arolwg gan 222 o aelodau o Fyrddau ar draws 30 o fyrddau’r sector cyhoeddus a Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, efallai nad yw’r grŵp a ymatebodd yn cynrychioli'r holl fyrddau ac mae angen ystyried hyn wrth ddehongli'r canfyddiadau.
Nid yw nifer yr aelodau o fyrddau ar y cyfan ar gael yn rhwydd felly nid yw'n bosibl canfod cyfradd ymateb gywir ac mae lefel o ansicrwydd ynghylch pa mor gynrychioliadol yw'r canfyddiadau. Dylai'r data roi rhyw arwydd o amrywiaeth aelodau o fyrddau’r sector cyhoeddus. Fodd bynnag, dylai’r canfyddiadau gael eu hystyried â phwyll gan bod yr wybodaeth wedi cael ei darparu gan sampl o wirfoddolwr, ac y gallai rhai grwpiau fod wedi eu tangynrychioli neu eu gorgynrychioli yn y data.
Fe wnaeth yr adolygiad o lenyddiaeth archwilio’r llenyddiaeth sydd ar gael ar fonitro amrywiaeth ar gyfer byrddau a'r gweithlu ehangach yng nghyrff y sector cyhoeddus yn y DU a gwledydd tebyg.
Canfyddiadau allweddol o'r arolygon
I ba raddau y mae data amrywiaeth yn cael ei gasglu ar fyrddau yng Nghymru?
O'r 29 o gyrff yn y sector cyhoeddus a ymatebodd i'r arolwg, dywedodd 8 (28%) nad ydynt yn casglu nac yn cadw unrhyw ddata cydraddoldeb ar aelodau eu bwrdd oherwydd bod y wybodaeth hon yn cael ei chasglu a'i dal gan y tîm penodiadau cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru ar gyfer penodiadau a reoleiddir.
Dywedodd y 21 o gyrff sy’n weddill yn y sector cyhoeddus eu bod yn casglu ac yn dal rhywfaint o wybodaeth cydraddoldeb am aelodau eu bwrdd, gyda phob un ohonynt yn nodi eu bod yn casglu ac yn dal gwybodaeth am o leiaf 3 o'r nodweddion cydraddoldeb y gofynnwyd amdanynt. O'r 21 corff hyn yn y sector cyhoeddus:
- maent i gyd yn casglu gwybodaeth am oedran
- mae'r rhan fwyaf yn casglu gwybodaeth am ethnigrwydd, sgiliau Cymraeg, namau, crefydd neu gred, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol; fodd bynnag, ceir diffyg dealltwriaeth a chysondeb wrth gasglu gwybodaeth am ryw a rhywedd
- mae ychydig dros hanner (11) yn casglu data ar hunaniaeth rhywedd
- ceir diffyg safoni o ran sut y mae data amrywiaeth yn cael ei gasglu a sut yr adroddir arno ar draws gwahanol gyrff y sector cyhoeddus. Mae hyn yn ei gwneud hi'n anodd adrodd ar wybodaeth am amrywiaeth ar draws holl gyrff y sector cyhoeddus
Beth oedd y canfyddiadau ynghylch lefel amrywiaeth gyfredol aelodau o fyrddau’r sector cyhoeddus?
O'i gymharu â chanlyniadau poblogaeth Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, mae'r arolwg yn awgrymu ychydig o dangynrychiolaeth gan bobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (5% o'i gymharu â'r boblogaeth o 6.2%).
Roedd mwy o dangynrychiolaeth gan bobl anabl (14% o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol o 21% yng Nghyfrifiad 2021).
Mae dosbarthiad oedran y Byrddau’n tueddu i fod wedi ei gamystumio tuag at grwpiau oedran hŷn gan bod 56% o'r ymatebwyr yn 55 oed neu drosodd sy'n cymharu â 35% yn y boblogaeth gyffredinol yng Nghyfrifiad 2021.
Mae ymatebion i’r arolwg yn awgrymu bod aelodaeth o fyrddau cyrff y sector cyhoeddus yn cynnwys nifer anghymesur uwch o fenywod. Dywedodd 57% o aelodau o Fyrddau a ymatebodd i'r Arolwg mai menywod ydynt a dywedodd 42% mai dynion ydynt. Yng Nghyfrifiad 2021, nododd 52% o'r boblogaeth oedolion yng Nghymru mai menywod ydynt.
Canfu'r arolwg fod 9% o'r aelodau hynny o Fyrddau a ymatebodd yn uniaethu fel pobl Hoyw neu Lesbiaidd, Ddeurywiol neu’n uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol arall (LHD+). Mae hyn yn uwch na chanran y rhai sy'n uniaethu fel pobl LHD+ yn ôl Cyfrifiad 2021 (3%).
O'r ymatebwyr a atebodd y cwestiwn am hunaniaeth rhywedd, ni nododd unrhyw ymatebwyr (0%) fod y rhyw y maent yn uniaethu ag ef yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni. Mae'r gyfran hon yn debyg fwy neu lai i ffigurau Cyfrifiad 2021 (0.4%).
O'i gymharu â data Cyfrifiad 2021, roedd cyfran uwch o aelodau o Fyrddau a oedd yn uniaethu fel Cristnogion (49% o'i gymharu â 44%) a chyfran is o aelodau o Fyrddau’n dweud nad oedd ganddynt unrhyw grefydd (39% o'i gymharu â 47%). Roedd cyfran yr aelodau o Fyrddau a oedd yn uniaethu â chrefydd arall (5%) yn debyg fwy neu lai i ffigyrau Cyfrifiad 2021 (4%).
Beth yw'r heriau o ran y data?
Er mwyn i ymyriadau sy'n gwella amrywiaeth byrddau a'r gweithlu a deilliannau pobl o grwpiau lleiafrifol gael eu rhoi ar waith yn llwyddiannus mae angen data o ansawdd da i fonitro a gwerthuso.
Gall byrddau cyrff yn y sector cyhoeddus fod yn gymharol fach. Gall hyn ei gwneud hi'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon ynglŷn â pha mor gynrychioliadol yw byrddau, yn enwedig ar gyfer rhai nodweddion. Mae niferoedd bychain hefyd yn golygu na ellir adrodd yn gyhoeddus ar ddata gan ei fod yn creu risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol.
Nid yw data amrywiaeth yn cael ei gasglu'n gyson ar draws byrddau ac nid yw'n defnyddio'r un diffiniadau o nodweddion.
Canfyddiadau allweddol o'r adolygiad o lenyddiaeth
Beth yw'r dulliau mwyaf effeithiol o gasglu a monitro data amrywiaeth?
Arolygon staff hunanadrodd ar amrywiaeth yw’r ffyrdd hawsaf o gasglu symiau mawr o ddata ynghylch amrywiaeth.
Mae'n bwysig mesur agweddau tuag at gynhwysiant yn ogystal â data amrywiaeth.
Mae'n hanfodol meithrin ymddiriedaeth i gasglu data gan bob grŵp, a bod yn dryloyw o ran sut y gallai’r data hwn gael ei ddefnyddio. Argymhellir defnyddio rhwydweithiau staff a chaniatáu i bobl fod yn ddienw.
Mae adnoddau gweinyddol presennol, yn enwedig pyrth Adnoddau Dynol hunanwasanaeth, yn ogystal rhaglenni sefydlu i gyflogeion yn gyfleoedd effeithiol ar gyfer casglu data.
Dylai canlyniadau'r ymarfer casglu data fod ar gael yn gyhoeddus am resymau atebolrwydd er bod yn rhaid ystyried datgelu.
Pa mor bwysig yw amrywiaeth ymhlith aelodau o fyrddau a’r gweithlu yn y sector cyhoeddus?
Po fwyaf amrywiol fo gwasanaeth cyhoeddus, po fwyaf y mae’n rhoi sylw ac yn ymateb i anghenion amrywiol poblogaethau amrywiol.
Yn y sector preifat, mae cwmnïau sydd â byrddau mwy amrywiol yn tueddu i berfformio'n well na chwmnïau sydd â byrddau mwy homogenaidd.
Mae modelau rôl amrywiol yn cael effaith gadarnhaol ar gamu ymlaen drwy’r sefydliad cyfan ar gyfer grwpiau sy'n rhannu nodweddion gydag uwch arweinwyr.
Mae gan fyrddau amrywiol fwy o botensial i ddatrys problemau trwy ystod ehangach o brofiadau bywyd.
Mae cyrff amrywiol yn y sector cyhoeddus yn tueddu i gael cronfa fwy amrywiol o ymgeiswyr ar gyfer swyddi/penodiadau, gyda mwy o botensial ar gyfer caffael talent.
Pan fo arweinyddiaeth corff yn y sector cyhoeddus yn amrywiol mae ganddo’n aml allu i lunio polisi sy’n rhoi cyfrif yn fwy cywir am anghenion amrywiol y cyhoedd a wasanaethir ganddo.
Mae cyrff sy’n amrywiol yn y sector cyhoeddus yn gwella'r profiad y mae cwsmeriaid o gefndiroedd lleiafrifol yn ei gael wrth ryngweithio â’r corff yn y sector cyhoeddus.
Beth yw'r rhwystrau i amrywiaeth a’r strategaethau y gellid eu defnyddio i gynyddu amrywiaeth?
Mae'r llenyddiaeth yn awgrymu mai un o’r prif sbardunau ar gyfer anghyfartalwch parhaus yng nghyrff y sector cyhoeddus yw bwlch o ran camu ymlaen, sy’n fwy amlwg po uchaf fo’r rheng, sy'n gysylltiedig â'r arddull recriwtio sy'n ffafrio grwpiau penodol.
Mae'r llenyddiaeth hefyd yn awgrymu y gallai cefndir economaidd-gymdeithasol fod yn rhwystr allweddol i gamu ymlaen yn y sector cyhoeddus, a bod rhaid ystyried annhegwch cymdeithasol hanesyddol wrth recriwtio a dyrchafu er mwyn creu amgylchedd o gyfle cyfartal.
Mae diffyg argaeledd data’n rhwystr i weithredu ymyriadau effeithiol. Mae datgelu data’n iawn yn creu atebolrwydd a gall wella amrywiaeth mewn sefydliadau.
Mae rhai o bolisïau'r sector preifat yn enghreifftiau da o bolisïau amrywiaeth uchelgeisiol sydd wedi cael effaith gadarnhaol.
Gall rhannu amcanion amrywiaeth ac atebolrwydd clir ar gyfer uwch arweinwyr wella amrywiaeth a chynrychiolaeth.
Mae canfyddiad o degwch yr un mor allweddol ar gyfer gwella amrywiaeth a chynhwysiant ag yw polisïau sy’n strwythuredig ac yn cael eu rhoi ar waith. Gall rhwydweithiau staff a gydnabyddir yn ffurfiol a modelau rôl amrywiol gweladwy gefnogi teimlad o degwch.
Mae hyfforddiant yn allweddol fel bod materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu deall ac nad yw polisïau'n cael eu hystyried yn ymarfer ticio blychau. Mae hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod ac arferion cynhwysol i'r rhai sy'n ymwneud â'r broses benodi’n bwysig.
Casgliadau ac ystyriaethau ar gyfer y dyfodol
Ystyriaethau sy'n deillio o'r dystiolaeth i wella ac adrodd yn fwy effeithiol ar amrywiaeth byrddau a gweithluoedd y sector cyhoeddus yng Nghymru
Mae angen safoni ymarferion casglu data amrywiaeth cyrff y sector cyhoeddus a'u cynnal yn rheolaidd fel rhan o gasgliadau data gweinyddol rheolaidd.
Nid oes darlun cyffredinol o gynrychiolaeth y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gael yn rheolaidd yng Nghymru ar hyn o bryd. Gallai'r data ar benodiadau cyhoeddus a reoleiddir a gedwir gan y Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru gael ei archwilio ymhellach fel ffynhonnell wybodaeth.
Gellid ystyried casglu data ar Gefndir Economaidd-Gymdeithasol hefyd fel rhan o ddata amrywiaeth gan yr awgrymir y gallai hyn fod yn rhwystr mor sylweddol â nodweddion gwarchodedig.
Ceir canllawiau presennol ar gyfer amrywiaeth ar fyrddau cwmnïau a ddelir yn gyhoeddus yn y sector preifat y gallai cyrff y sector cyhoeddus eu mabwysiadu neu ddysgu ohonynt ar gyfer polisi amrywiaeth mwy uchelgeisiol.
Mae atebolrwydd yn rheswm allweddol pam fod datgelu mor effeithiol fel dull o wella deilliannau ar gyfer amrywiaeth sefydliad. Mae polisïau'n fwy tebygol o fod yn effeithiol os yw’r cyhoedd yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am eu gweithredu.
Mae datgelu'r data amrywiaeth a gasglwyd, ynghyd ag unrhyw dargedau amrywiaeth, yn gyhoeddus yn agwedd allweddol ar annog sefydliad i fod â diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant.
Gall sefydliad wella ei ddiwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant trwy fod â pholisïau sy'n canolbwyntio ar les a llesiant cyflogeion, ac er nad oes angen targedu'r polisïau hyn, mae angen sicrhau eu bod yn briodol ar gyfer pob grŵp.
Mae canfyddiad o degwch o fewn sefydliad yn allweddol i wella deilliannau amrywiaeth. Mae polisïau a weithredir gan sefydliadau sydd â chanfyddiad o annhegwch yn annhebygol o fod mor llwyddiannus ag y byddent fel arall.
Gall y rhai sy'n gyfrifol am benodi ymgeiswyr i fyrddau cyrff yn y sector cyhoeddus gael budd o hyfforddiant sy'n eu hysbysu ynghylch manteision 'achos busnes' amrywiaeth bwrdd. Gellid cynnal yr hyfforddiant hwn hefyd ar gyfer holl aelodau paneli recriwtio ar draws cyrff y sector cyhoeddus.
Mae'r offer ar gyfer casglu data ar lefel uchel yn y sector cyhoeddus eisoes yn bodoli i raddau helaeth, a gallai pyrth Adnoddau Dynol neu ar-lein fod yn offeryn effeithiol ar gyfer casglu a mesur data.
Ym mhob dull, dylid ystyried croestoriadedd wrth ddylunio ymyriadau. Gallai polisi a fyddai'n datrys problemau i un grŵp fod yn aneffeithiol, neu hyd yn oed yn niweidiol, i grwpiau eraill.
Contact details
Awduron: Yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Llywodraeth Cymru
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: UnedTystiolaethCydraddoldeb@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 26/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-447-0